– Senedd Cymru am 5:47 pm ar 4 Ebrill 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddyfodol cyflenwi gwaith ieuenctid ac rydw i’n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gan waith ieuenctid o ansawdd uchel swyddogaeth hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi llawer o bobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial. Mae gweithwyr ieuenctid yn addysgwyr, pa un a yw hyn yn digwydd mewn clwb ieuenctid cymunedol, ar y strydoedd, neu i gefnogi addysg ffurfiol mewn ysgolion. Mae arferion gwaith ieuenctid yn golygu bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar ystod eang o gyfleoedd dysgu a all ehangu eu gorwelion, herio eu syniadau, datblygu eu sgiliau, a gwella eu cyfleoedd mewn bywyd.
Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd i ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid wedi amlygu'r angen i sicrhau mwy o eglurder yn y berthynas rhwng blaenoriaethau cenedlaethol, defnyddio cyllid cysylltiedig, a gweithredu lleol i gwrdd â disgwyliadau cenedlaethol. Er mwyn rhoi mwy o eglurder, rwyf wedi ymrwymo i adolygu 'Ymestyn Hawliau', ein cyfarwyddyd a chanllaw statudol ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid. Ni ellir diystyru pwysigrwydd 'Ymestyn Hawliau' fel cyfrwng ar gyfer newid. Pan gafodd ei gyhoeddi gyntaf 17 mlynedd yn ôl, roedd yn cael ei ystyried yn bolisi blaenllaw ar gyfer gwella'r cyfleoedd a'r dewisiadau i bobl ifanc ac mae hynny’n parhau. Roedd 'Ymestyn Hawliau' yn gynhwysfawr yn yr ystyr ei fod yn croesawu pob sefydliad cenedlaethol a lleol yr oedd eu gwaith yn effeithio ar gyfleoedd a dewisiadau pobl ifanc yng Nghymru.
Mae angen i'r adolygiad o'r cyfarwyddyd a chanllaw statudol adlewyrchu tirwedd ddeddfwriaethol, polisi, a thirwedd ariannol heddiw a gosod disgwyliadau realistig ai’r hyn y gellir ei gyflawni. Llywydd, rwy’n falch o hysbysu'r Aelodau bod Margaret Jervis MBE wedi cytuno i arwain ar yr adolygiad hwn. Mae gan Margaret gyfoeth o brofiad a gwybodaeth o’i gwaith yn cefnogi pobl ifanc. Roedd hi hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu 'Ymestyn Hawliau'. Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cyfrannu at yr 'Ymestyn Hawliau' diwygiedig ac yn gadael i ni wybod eu barn am siarter gwaith ieuenctid Cymru. Rwyf wedi gofyn i Plant yng Nghymru, felly, gasglu barn pobl ifanc o bob rhan o Gymru, gan gynnwys sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd fwyaf anodd eu cyrraedd yn cael eu clywed. Byddant yn rhannu eu canfyddiadau gyda mi ym mis Gorffennaf. Bydd 'Ymestyn Hawliau' newydd, sy’n addas ar gyfer heddiw, yn cael ei roi allan i ymgynghoriad ffurfiol yn yr hydref. Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn hysbysu'r canllaw terfynol, a gaiff ei lansio'n ffurfiol yr haf nesaf.
Gan gydnabod yr angen am arweinyddiaeth strategol glir, rwy’n sefydlu bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol dan gadeiryddiaeth annibynnol. Rydym yn gwybod bod cymorth i bobl ifanc yn debygol o fod fwyaf effeithiol pan fydd yn rhan o rwydwaith ehangach. Dyna pam rwy’n dymuno i’r bwrdd hwn ganolbwyntio ar y sbectrwm o wasanaethau cymorth ieuenctid, ac nid ar waith ieuenctid yn unig. Swyddogaeth y bwrdd fydd darparu her adeiladol a chraffu ar bolisïau a chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid. Drwy ymgynghori a chydweithio â'r sector statudol a gwirfoddol, rwy’n dymuno gweld y bwrdd yn cynghori ar yr adolygiad o 'Ymestyn Hawliau' a gweithredu'r argymhellion o ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid.
Wrth symud ymlaen, byddwn yn disgwyl i'r bwrdd gynghori ar weithredu a monitro 'Ymestyn Hawliau' yn briodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i'w cael. Rhan o swyddogaeth y bwrdd fydd rhoi sicrwydd bod y prosesau a'r arferion ar gyfer comisiynu gwasanaethau cymorth ieuenctid yn deg, yn dryloyw ac yn gyfiawn. Bydd hyn yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o roi trefniadau newydd ar waith ar gyfer dosbarthu grantiau gwaith ieuenctid. Bydd y cadeirydd ac aelodau'r bwrdd yn ddarostyngedig i’r broses penodiadau cyhoeddus. Rwy’n disgwyl y bydd y cadeirydd wedi ei benodi erbyn yr hydref. Yna bydd y cadeirydd yn fy nghefnogi i benodi holl aelodau eraill y bwrdd, a fydd yn eu lle erbyn gwanwyn 2018.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn amser cyffrous i Gymru. Mae gennym gyfle i sicrhau bod gwasanaethau cymorth i’n pobl ifanc yn cael eu cynllunio i wella eu cyfleoedd mewn bywyd, yn cael eu strwythuro o amgylch eu hanghenion, ac ar gael yn eu dewis iaith. Gyda'n gilydd, gallwn arwain y ffordd ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid eto.
Diolch yn fawr iawn. Mae gen i nifer o siaradwyr, felly a gaf i ofyn i’r Aelodau fod yn gryno ac yna byddwn yn debygol o gael pob un i mewn? Llŷr Gruffydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddatgan diddordeb fel un o lywyddion anrhydeddus CWVYS, wrth gwrs, os caf i? A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Roedd rhan ohonof i wedi disgwyl bach mwy o gig ar yr asgwrn heddiw, mae’n rhaid i mi fod yn onest. Roeddwn i wedi disgwyl efallai ymateb bach yn fwy clir o safbwynt y cyfeiriad a’r strategaeth genedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Yr unig benderfyniad efallai rŷm ni wedi ei gael yw y bydd eraill yna nawr yn awgrymu wrthych chi beth fydd y penderfyniad. Ac rwy’n siŵr y byddwch chi yn dweud, ‘Wel, mae hwn yn gyfle i’r sector gyfrannu i’r broses’, ac, wrth gwrs, mi fyddwn i’n croesawu hynny, ond mi fydd llawer o hynny yn ddibynnol, am wn i, ar bwy fydd aelodau y bwrdd rydych chi wedi ei greu, ond mi ddof i at hynny mewn munud.
Rydw i’n croesawu’r pwyslais eto ar edrych o’r newydd ar ‘Ymestyn Hawliau’, ‘Extending Entitlement’. Mi wnaeth y pwyllgor, wrth gwrs, argymell fel ei argymhelliad cyntaf, rydw i’n meddwl, edrych eto ar strategaeth genedlaethol gwaith ieuenctid, ac, yn eich ymateb chi i’r argymhelliad hwnnw, mi ddwedoch chi, ‘Wel, mi ddaw hynny efallai yn sgil edrych ar ddiwygio “Ymestyn Hawliau”.’ Ond mae’r strategaeth, wrth gwrs, yn dod i ben yn 2018, y flwyddyn nesaf, ac felly, o edrych ar yr amserlen sydd gyda chi mewn golwg, a ydych chi’n hyderus y bydd strategaeth newydd wedi ei llunio mewn pryd erbyn hynny? Oherwydd, os nad yw’r penderfyniad terfynol yn digwydd tan yr haf nesaf ar ‘Ymestyn Hawliau’, yna mae’n anodd gweld sut y bydd strategaeth newydd yn ei lle cyn diwedd flwyddyn nesaf.
Rydw i hefyd yn ymwybodol bod yna is-grŵp wedi bod yn edrych ar ddiwygio neu adolygu ‘Ymestyn Hawliau’—is-grŵp i’r grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid gweinidogol, yr ‘youth work reference group’. A ydw i felly yn iawn i ddeall mai Margaret Jervis fydd yn arwain yr is-grŵp hwnnw, neu a ydy beth rydych chi wedi ei gyhoeddi heddiw yn broses newydd i bob pwrpas, ac y bydd y broses honno yn un a fydd yn gweithredu ar wahân? Un o’r cwestiynau roedd y pwyllgor, wrth gwrs, yn ei ofyn yn ei ymchwiliad diweddar i waith ieuenctid yng Nghymru oedd: pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid? Mae’ch cyhoeddiad chi ynglŷn â chreu bwrdd gwasanaeth cymorth ieuenctid cenedlaethol o bosib yn gyfrwng posib i greu ‘approach’ cenedlaethol—efallai rhyw fath o gorff cenedlaethol embryonig; fe gewch chi ddweud wrthyf i os ydy hynny yn bosibilrwydd—ond, wrth gwrs, edrych ar wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach na dim ond gwaith ieuenctid yw rôl y bwrdd, yn ôl eich datganiad chi. A oes yna felly risg y bydd hynny’n golygu y byddwn ni efallai yn colli ychydig o ffocws ar waith ieuenctid yng ngwaith y bwrdd? Oherwydd ymchwiliad i waith ieuenctid oedd gwaith y pwyllgor, ‘Dyfodol Gwaith Ieuenctid’ yw teitl y datganiad yma, ond mae’n swnio tipyn bach fel dyfodol gwasanaethau cymorth ieuenctid yn yr hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi o safbwynt y bwrdd. Felly, yr hyn rydw i’n chwilio amdano mewn gwirionedd yw sicrwydd na fydd yna golli golwg ar waith ieuenctid yng ngwaith y bwrdd, ac na fydd llais y sector gwaith ieuenctid yn cael ei lastwreiddio yn y drafodaeth honno oherwydd ystyriaethau ynglŷn â gwasanaethau cymorth ehangach.
A lle, wedyn, mae hyn yn gadael y strwythurau presennol? Er enghraifft, a fydd y strwythurau presennol yn aros yn eu lle tra bod y bwrdd yma yn gwneud ei waith? Hynny yw, rydw i’n tybio y bydd y grŵp cyfeirio gwaith ieuenctid gweinidogol yn parhau â’i waith yn ystod y cyfnod yma. Rŷch chi’n dweud y bydd y bwrdd—un o rolau’r bwrdd fydd i graffu ac i roi her adeiladol i’r Llywodraeth. Efallai y gallech chi ymhelaethu ynglŷn â sut rydych chi’n rhagweld y byddan nhw’n gwneud hynny—yn uniongyrchol i chi, wrth gwrs, yn un ffordd. A fydd yna adroddiadau blynyddol neu a fydd yna ddatganiadau neu ryw ‘interventions’ cyhoeddus y byddwch chi’n eu disgwyl gan y cadeirydd ac aelodau’r bwrdd?
Ac, wrth gwrs, arian—rŷch chi’n dweud mai un o rolau’r bwrdd fydd edrych ar ddosbarthiad grantiau gwaith ieuenctid. Os ydyn nhw am oruchwylio’r trefniadau newydd am grantiau gwaith ieuenctid, yna a ydych chi’n rhoi rhyw fath o weledigaeth o gwbl, yn yr ystyr a ydych chi’n rhagweld, er enghraifft, y bydd cynllun grant yr NVYO am barhau y tu hwnt i’r flwyddyn olaf yma? Neu, a ydych chi yn dweud, ‘Lluniwch gyfundrefn newydd sbon’? Ac, os ydych chi, pryd ŷch chi’n rhagweld y bydd y manylion yna ar gael? Oherwydd mi fydd nifer o bobl, rydw i’n siŵr, eisiau sicrwydd—neu sicrwydd, o leiaf, i wybod pryd y byddan nhw’n gwybod beth sydd yn dod nesaf.
Mi orffennaf i drwy fynd reit yn ôl i gychwyn eich datganiad chi. Roeddech chi’n rhoi pwyslais, yn gwbl iawn, ar ansawdd, ac mi oedd hynny’n thema gryf, o beth rwy’n ei glywed, yn y cyfraniad y gwnaethoch chi yn y gynhadledd genedlaethol ar waith ieuenctid yr wythnos diwethaf. O gael pwyslais ar ansawdd, a ydy rhywun yn iawn i dybio eich bod chi’n gweld rôl y marc ansawdd—y ‘quality mark’—y tu hwnt i’r ymrwymiad presennol o Fawrth 2018? Oherwydd mae yna gytundeb yn ei le ar hyn o bryd tan hynny. Os nad ydych, yna beth ŷch chi’n ei weld a fydd yn gyrru yr agenda ansawdd o fewn y sector gwaith ieuenctid, achos y neges rŷm ni’n ei chael—
A ydych chi’n dod i gasgliad, os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.]—yw, os ydych chi eisiau codi’r bar o safbwynt ansawdd, yna mae’n rhaid i’r adnoddau a’r arian fod ar gael i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae’n rhaid dosbarthu’r adnoddau’n deg yn ddaearyddol a rhwng y sectorau gwahanol. Mae’r ystadegau y mae’r pwyllgor wedi’u gweld ynglŷn â’r dirywiad yn lefel y buddsoddiad, ynglŷn â dirywiad yn lefel y staffio, ac yn y blaen, yn awgrymu mai’r perig yw mai rheoli dirywiad y byddwn ni, ac nid yn tyfu y sector ‘universal, open access’ dwyieithog yma—
A ydych chi’n dod i gasgliad?
[Yn parhau.]—rŷch chi wedi ei ddweud yw’ch gweledigaeth. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Gweinidog.
Dirprwy Lywydd, rwy’n credu bod Llyr wedi dod i galon y drafodaeth yma yng nghalon ei gwestiynau a’i gyfraniad hynod o bwysig. ‘Pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid?’ oedd y cwestiwn y gofynnoch chi, wrth gwrs, a dyna’r cwestiwn rydw i’n trio ei ateb yng nghraidd y datganiad yma: pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid? Mae’n bwysig nad yw gwaith ieuenctid yn cael ei yrru yn uniongyrchol o fan hyn, ei fod yn cael ei yrru gan bobl, gan ieuenctid, ar draws Cymru, a gan bobl sy’n gallu adlewyrchu ac ymateb i’r sefyllfa maen nhw’n ei gweld yn y gymuned lle y maen nhw’n byw. Achos mae arweinyddiaeth glir o fan hyn yn bwysig, wrth gwrs, o Lywodraeth Cymru—mae hynny yn bwysig, ond all hynny ddim bodoli yn ynysig ar ei phen ei hun. Mae’n rhaid i hyn fod yn gydweithio—cydweithio go iawn, nid jest cydweithio mewn areithiau—ac wedyn cydweithio gyda phobl sydd ‘actually’ yn gweld pwysigrwydd y gwaith sy’n digwydd yn eu cymunedau eu hunain. Mae hynny, i ryw raddau, yn ateb eich cwestiwn cyntaf chi hefyd—a oes yna ddigon o gig ar asgwrn y datganiad yma? Mi allai, wrth gwrs, fod wedi bod lot mwy o gig, ond mi fuasai wedi bod yn gig sy’n dod o Gaerdydd, nad oedd wedi dod drwy’r broses o siarad a thrafod a rhannu profiad a gwybodaeth, a rhannu gweledigaeth. Felly, os ydych chi wir eisiau ein gweld ni’n cydweithio â phobl, mae’n rhaid i ni wedyn gydnabod bod hynny’n mynd i gymryd mwy o amser. Mi fuasai’r peth rhwyddaf yn y byd, i mi, yn y swyddfa, wneud y penderfyniadau yma, yn ynysig, cymryd cyngor, ond gwneud y penderfyniadau fy hunan—neu rydym ni ‘actually’ yn buddsoddi ein hamser yn siarad ac yn trafod gyda phobl. A dyna pam rydw i wedi gwneud y datganiad heddiw, sefydlu’r bwrdd a chadarnhau ein bod ni’n mynd trwy’r broses o drafod yr arweinyddiaeth statudol sydd gennym ac, wedyn, sicrhau bod gyda ni ddigon o amser i’n galluogi i siarad gyda phobl a thrafod y materion hyn cyn inni ddod i benderfyniadau. Rwy’n credu dyna beth oedd y tu ôl, efallai, i adroddiad y pwyllgor hefyd—bod angen rhywfaint o arweinyddiaeth, ond nid arweinyddiaeth yn unig; mae’n rhaid profi a siarad gyda phobl wrth i ni symud ymlaen.
Rydw i’n siŵr y bydd yna strategaeth yn ei lle cyn bod y strategaeth bresennol yn dod i ben. Mi fydd yna strategaeth newydd yn ei lle cyn bod y strategaeth bresennol yn dod i ben—fe wnaf i fod yn hollol glir am hynny. Mae’r broses o greu’r strategaeth yn mynd i fod yn broses o drafod a rhannu profiadau hefyd, a rhannu gweledigaeth.
Sut mae’r bwrdd yn mynd i weithio? Nid wyf i’n mynd i ateb y cwestiwn yna’r prynhawn yma—sut mae’r bwrdd yn mynd i weithio—achos, rydw i eisiau trafod hynny gyda’r bwrdd. Nid wyf i eisiau bwrdd sydd i fod i herio’r Llywodraeth—nid wyf i’n credu y buasai unrhyw fwrdd yn disgwyl i'r Gweinidog dweud wrthyn nhw sut i weithredu a sut ddylen nhw herio’r Llywodraeth. Mae hynny’n fater iddyn nhw benderfynu. Felly, pan rydym mewn sefyllfa i benodi cadeirydd ac wedyn i benodi aelodau, rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni gael trafodaeth amboutu sut mae’r bwrdd yn gweithio, ond mi liciwn i weld y bwrdd yn bachu’r cyfle i benderfynu ei hun sut y mae eisiau gweithio. Dyna beth mae annibyniaeth yn meddwl. Nid oes annibyniaeth os yw’r Gweinidog yn dweud eich bod yn annibynnol, ond yn annibynnol pan nad yw’r Gweinidog eisiau’r peth yma i ddigwydd. Felly, mae annibyniaeth yn y fan hyn yn beth pwysig.
Rydw i’n gobeithio y bydd yna ffocws parhaol ar waith ieuenctid. Rydw i yn gweld y pwynt rydych chi’n ei wneud, ac mae’n bwynt ddigon dilys, ac nid wyf i’n gwadu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Mae’n bosibl, ambell waith, i greu cyd-destun ehangach a cholli ffocws. Rydw i’n mawr obeithio na fydd hynny’n digwydd, ond rwy’n cydnabod bod yna berygl o hynny.
Rydw i wastad yn mynd i bwysleisio pwysigrwydd ansawdd, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd hynny’n dod o’r sector hefyd, a ddim yn rhywbeth sy’n dod o Lywodraeth. Rydych chi wedi fy nhemtio unwaith eto i roi ‘commitments’ cyllideb ac adnoddau. Rydym ni i gyd yn gwybod y sefyllfa rydym ni’n byw ynddi ar hyn o bryd, ac mae hynny’n broses anodd iawn. Mi fydd awdurdodau lleol yn cael eu hethol y mis nesaf ac rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni, fel Llywodraeth, gydweithio ag awdurdodau lleol ac eraill ar draws y wlad i sicrhau bod yna ddigon o adnoddau ar gael.
Diolch. Darren Millar.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog, hefyd, am ei ddatganiad? A gaf i roi ar gofnod y ffaith bod fy mhlaid yn croesawu penodiad Margaret Jervis i gynnal yr adolygiad hwn o 'Ymestyn Hawliau'? Credaf fod hynny'n benodiad rhagorol, o ystyried ei phrofiad gyda Plant y Cymoedd a sefydliadau eraill. Rwy'n credu ei bod hi'n unigolyn cryf iawn i ymgymryd â’r swyddogaeth honno a’r her honno, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn ymgysylltu â phob plaid wleidyddol yn y Siambr hon hefyd, ynglŷn â’r ffordd ymlaen.
A gaf i hefyd fynegi rhywfaint o syndod am y swyddogaeth y gofynnir i’r bwrdd hwn ymgymryd â hi? Rwy'n credu y byddwn wedi dymuno gweld bwrdd llawer cryfach, a dweud y gwir, nid yn unig yn annibynnol o ran rhoi rhywfaint o gyngor annibynnol i chi, ond bwrdd â gafael iddo. Bwrdd a oedd o bosibl yn meddu ar rai pwerau comisiynu, yn meddu ar y gallu i gomisiynu’r ymarfer mapio y mae angen ei gynnal ar lefel fanylach er mwyn penderfynu lle gallai’r bylchau hynny yn y ddarpariaeth fod, ac i edrych ar arfer gorau ac yna, gobeithio, sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno’n raddol a helpu i’w rannu â rhannau eraill o'r wlad. Mae’r Gweinidog a minnau’n rhannu’r farn, rwy’n gwybod, nad yw’n ymwneud ag arian yn unig; mae’n ymwneud â’r ffordd orau o wario'r adnodd er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf gan wasanaethau ieuenctid ar lawr gwlad.
Ac rwyf wedi dyfynnu ar sawl achlysur yn y Siambr hon ac, yn wir, o amgylch bwrdd y pwyllgor, y ffaith bod gwasanaethau ieuenctid yng Nghonwy, fel awdurdod lleol, yn ffynnu er gwaethaf y ffaith eu bod yn gwario llai yno nag mewn awdurdodau lleol eraill. Y rheswm yn syml dros hyn yw oherwydd eu bod wedi mabwysiadu dull partneriaeth o weithredu ac wedi tyfu’r sector gwirfoddol ar lawr gwlad i ddarparu gwasanaethau yr oedd yr awdurdod lleol, yn draddodiadol, wedi bod yn eu darparu. Felly, rwy'n synnu braidd nad oes gan y bwrdd hwn fwy o afael, mwy o rym, a'r gallu i gomisiynu gwasanaethau a'r gallu i sefydlu’r fframwaith hwnnw a gwneud yr ymchwil sy’n angenrheidiol er mwyn hongian gwasanaethau arnynt. Felly, efallai, Gweinidog, y gallech chi ddweud wrthym a allai hynny fod yn rhywbeth y gallai’r bwrdd hwn ei ysgwyddo yn y dyfodol.
Rydw i’n croesawu'r ffaith bod y penodiadau’n cael eu gwneud drwy'r broses penodiadau cyhoeddus. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd synhwyrol iawn ymlaen, hefyd, er mwyn rhoi rhywfaint o hyder i'r sector y bydd y bwrdd hwnnw’n gwbl annibynnol ei farn. Ond, yn amlwg, os yw'r cylch gwaith sydd gan y bwrdd hwnnw am fod yn eang iawn—nid yn unig o ran gwaith ieuenctid ond o ran llawer o agweddau eraill ar wasanaethau cymorth ieuenctid—yna mae perygl y bydd yn datblygu i fod yn fwrdd mawr ac anhylaw oherwydd bydd gwahanol ddiddordebau y bydd angen eu cynrychioli o amgylch y bwrdd. Felly, efallai y gallech chi ddweud wrthym yn union faint o aelodau yr ydych chi’n rhagweld y bydd gan y bwrdd mewn gwirionedd pan fydd ganddo’r nifer llawn o aelodau fel y gall symud ymlaen â’i waith.
O ran ansawdd, Gweinidog, yn amlwg mae Cyngor y Gweithlu Addysg bellach yn gyfrifol am gofrestru gweithwyr ieuenctid ledled Cymru. Rydym eto i weld unrhyw safonau proffesiynol yn cael eu datblygu ar gyfer gweithwyr ieuenctid yn y wlad. Mae hynny'n rhywbeth y dylid ei adael, yn fy marn i, i Gyngor y Gweithlu Addysg. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu’r safonau hynny. Efallai y gallech chi ddweud wrthym pryd a sut yr ydych yn rhagweld y bydd y safonau proffesiynol hynny’n cael eu datblygu ac erbyn pryd yr ydych yn disgwyl iddynt fod yn eu lle. Oherwydd nid ydym byth yn mynd i weld unrhyw fath o drefniadau o ansawdd yn cael eu rhoi ar waith heb allu dwyn gweithwyr ieuenctid i gyfrif am y safonau y disgwylir iddynt eu cyflawni.
Ac yn olaf, o ran trefniadau dros dro, yn amlwg mae'n mynd i gymryd peth amser i gwblhau’r adolygiad y gofynnir i Margaret Jervis ei gynnal ac mae'n mynd i gymryd peth amser i’r bwrdd hwn gael ei roi ar waith. Yn y cyfamser, mae gennych sefydliadau fel CWVYS ac eraill sydd wedi bod yn llenwi'r bwlch, fel petai, mewn gwirionedd, o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid a bod yn llais ac yn llais sy’n cynrychioli’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol. Tybed a allech chi ddweud wrthym a fydd y trefniadau ariannu presennol i’r sefydliadau hynny sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru o ran gwaith ieuenctid yn parhau yn y cyfamser, ac, os felly, am ba hyd yr ydych chi'n meddwl y bydd hynny? Oherwydd, yn amlwg, mae'n bwysig bod y bobl hyn yn gallu cynllunio ymlaen llaw i’r dyfodol, a byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech roi ar gofnod beth yw eich barn chi am yr ymrwymiadau ariannol hynny y gallent eu cael.
Rwy'n ddiolchgar iawn am groeso cyffredinol llefarydd y Ceidwadwyr i benodiad Margaret Jervis a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddefnyddio. Gallaf yn sicr gadarnhau y bydd hi nid yn unig yn troi at bleidiau gwleidyddol, ond rhanddeiliaid ar draws wyneb y wlad ac ar draws gwahanol rannau o'r gymuned. Felly, byddwn yn sicr yn disgwyl ac yn rhagweld y bydd hi’n croesawu cyfraniadau gan bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yma ac mewn mannau eraill, ond bydd hefyd yn mynd ymhellach na hynny drwy edrych ar randdeiliaid mewn ystyr llawer ehangach a chyfannol.
O ran y bwrdd, mae llefarydd y Ceidwadwyr yn gofyn am fwy o afael. Nid oes gennyf feddwl caeedig ar hynny. Yn wir, byddwn yn hapus iawn pe bai’r Aelodau, wrth wrando ar y datganiad hwn y prynhawn yma, yn credu bod angen cryfhau swydd a swyddogaeth y bwrdd mewn rhyw ffordd, yn cynnig y ffyrdd hynny o gryfhau'r bwrdd a'r ffordd y mae'n gallu gweithio. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad egwyddorol iddo gael pwerau i gomisiynu gwaith. Byddwn yn disgwyl ac yn rhagweld bod unrhyw fwrdd sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn gallu gwneud hynny o safbwynt gwybodus, a byddai hynny'n awgrymu gallu comisiynu gwaith a fyddai'n cynorthwyo ei ddealltwriaeth ei hun o'r sector y mae'n ceisio’i gynrychioli. Felly, byddai materion fel cynnal ymarferion mapio, deall arfer gorau a gallu ymestyn arfer gorau, oll yn feysydd y byddwn yn ystyried yn feysydd rhesymol i'r bwrdd fynd i'r afael â hwy. A phe bai’r Aelodau'n dymuno ysgrifennu ataf gyda chyfres o gynigion ar sut y gellid cryfhau’r bwrdd, byddwn yn hapus iawn i ystyried yr holl gynigion hynny yn ddidwyll. Yn sicr, mae'n fwriad gennyf y byddai hwn yn sefydliad eithaf grymus a fyddai'n gallu siarad gyda lefel o awdurdod a gwybodaeth, a byddai hynny'n awgrymu’r holl agweddau gwahanol ar ei waith sydd wedi cael eu hamlinellu gan Darren Millar y prynhawn yma.
O ran maint neu natur gynrychioliadol y bwrdd, byddwn yn tueddu i osgoi cael seddi i bawb o amgylch y bwrdd oherwydd mae hynny wedyn yn dechrau arwain at fath o sefydliad na ellir ei reoli. Byddwn yn tueddu tuag at lai na mwy, a byddwn yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hyn y gall pobl ddod i’r bwrdd, yn hytrach na chael cynrychiolwyr swyddogaethol a fyddai'n perfformio swyddogaeth lawer culach. Felly, byddwn yn ceisio osgoi bod yn rhy bendant y prynhawn yma, o bosib, ond byddwn yn dweud bod yn well gen i fwrdd llai ac un sy'n gallu gweithredu ac adeiladu ar gryfderau ei aelodau, yn hytrach na dim ond mynd yn syth i lawr llwybr cynrychiolaeth.
O ran ansawdd, rwyf wedi cwrdd â Chyngor y Gweithlu Addysg i drafod y materion a godwch. Rwy’n credu eich bod yn hollol gywir i godi'r materion am safonau proffesiynol. Mae'n bwynt a wnaeth Llŷr yn ei sylwadau hefyd—nid wyf yn siŵr a wnes i eich ateb mewn gwirionedd yn fy ymateb i. Ond, yn sicr, o ran ble yr ydym yn mynd, dyna’n union lle mae angen i ni fod, ac rwy’n gobeithio y bydd Cyngor y Gweithlu Addysg mewn sefyllfa i wneud datganiad ar hynny cyn bo hir.
Rydych chi wedi gofyn i mi eto, fel y gwnaeth Llŷr yn ei sylwadau agoriadol, am y trefniadau ariannu. Ni fyddaf yn ceisio camarwain drwy roi ymrwymiadau y prynhawn yma. Mae fy meddwl yn agored ynghylch sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r materion hyn. Nid wyf yn dymuno gwneud unrhyw ddatganiad y prynhawn yma ar drefniadau cyllido yn y dyfodol, oherwydd bydd pa bynnag ddatganiad a wnaf yn agored i wahanol ddehongliadau. Felly, pe byddai'r Aelodau yn maddau i mi ar yr achlysur hwn, byddai’n gyfle, efallai, i mi frathu fy nhafod.
Diolch yn fawr iawn. Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, a hefyd groesawu'r adolygiad o 'Ymestyn Hawliau', sy'n rhywbeth rwy’n credu y byddai'r pwyllgor wedi dymuno ei weld? Fel Llŷr, rwyf innau’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at strategaeth newydd, sydd hefyd yn rhywbeth yr oedd y pwyllgor eisiau ei weld. Rwy'n arbennig o falch y bydd pobl ifanc yn rhan o’r adolygiad ar 'Ymestyn Hawliau', ac mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu.
O ran y bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol, yr ydych wedi dweud y bydd yn gyfrifol am eich cynghori ar weithredu argymhellion y pwyllgor, mae gennyf rai cwestiynau am hynny. Roedd y pwyllgor yn glir iawn ac, yn wir, roeddech chi’n glir iawn pan roesoch dystiolaeth eich bod yn cefnogi ein barn ni y dylai fod cynnig ieuenctid agored i bawb sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n neges y byddwch yn ei rhoi’n glir i'r bwrdd newydd fel rhan o'i gylch gwaith i fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen?
Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael mwy o fanylion am yr amserlenni. Byddwch yn ymwybodol o’r ffaith bod gan adroddiad y pwyllgor lawer o amserlenni yn ein hargymhellion. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gofyn am ddiweddariadau cyn pen chwe mis. Roedd hynny ym mis Rhagfyr, felly mae wedi bod yn bedwar mis erbyn hyn, ac yn awr mae gennym y bwrdd newydd hwn sy'n debygol o ohirio pethau. Felly, o ystyried y ffaith ein bod yn gweld yr angen i fynd i'r afael â'r argyfwng sydd, mewn gwirionedd, yn effeithio ar waith ieuenctid fel mater o frys, byddai gennyf ddiddordeb mewn cael rhywfaint o fanylion am amserlenni.
Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed drwy'r bwrdd. A ydych yn bwriadu cael cynrychiolydd pobl ifanc, neu pa fecanwaith arall yr ydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio?
Rydych wedi nodi y bydd y bwrdd yno i helpu i ddarparu arweinyddiaeth strategol. Ond un o'r prif fethiannau y daeth y pwyllgor o hyd iddo oedd y diffyg arweinyddiaeth a phartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol, a’r cyrff gwirfoddol yn aml oedd y berthynas dlawd ac, yn benodol, yn cael y briwsion o'r bwrdd o ran cyllid. A allwch chi gadarnhau y byddwch chi’n rhoi arweiniad cryf iawn i'r bwrdd y dylai ymdrin â hynny ac mai’r canlyniadau i bobl ifanc ddylai gyfrif, nid yn gymaint pwy sy'n darparu'r gwasanaeth?
Rwy'n clywed yr hyn yr ydych yn ei ddweud mewn cysylltiad â'r atebion ar ariannu ac yn nodi eich sylw yn y datganiad mai swyddogaeth y bwrdd fydd sicrhau bod cyllid yn deg, yn dryloyw ac yn gyfiawn. Ond byddwn yn pwyso arnoch i sicrhau mewn gwirionedd bod digon o gyllid ar gael, oherwydd gallwch gael cymaint o dryloywder ag y dymunwch, ond os nad oes digon o arian, yna nid yw'n ddigon da. Diolch.
Rwy'n credu y byddai’r Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn awyddus i longyfarch a diolch i Lynne am y ffordd y mae nid yn unig wedi arwain yr ymchwiliad i waith ieuenctid, ond hefyd nad yw wedi rhoi'r gorau i’w arwain ar ôl i’r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad. Yn sicr, fel Gweinidog, byddwn yn dweud ei bod yn heriol eistedd yn ymyl Cadeirydd pwyllgor sydd ag ymrwymiad mor gryf i'r materion hyn yn y Siambr hon. Rwy'n credu y dylai pob un ohonom longyfarch Lynne ar y gwaith y mae hi’n ei wneud nid yn unig yn y pwyllgor, ond y tu allan i'r pwyllgor hefyd.
Rydych yn hollol gywir yn y pwyntiau a wnewch o ran cynnwys pobl ifanc yn 'Ymestyn Hawliau', ac y dylai 'Ymestyn Hawliau' arwain at strategaeth newydd. Y rheswm pam rwyf wedi gofyn i Plant yng Nghymru gymryd rhan yn y broses hon yw er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynrychioli—bod barn pobl ifanc ar draws Cymru gyfan yn cael ei gynnwys—a byddaf yn gofyn i Margaret sicrhau bod y broses honno’n digwydd a’i bod yn broses wybodus a hyddysg o ddiwygio ac adolygu, ac nid yn rhywbeth sy’n digwydd mewn ystafelloedd cyfarfod. Felly, byddwn yn ceisio mynd ati i wneud hynny.
Nid wyf, ni allaf gofio, o unrhyw un o'r ymrwymiadau a wnes i o flaen y pwyllgor dros y chwe mis diwethaf—. O ran ein dull gweithredu mynediad agored i wasanaethau a chymorth gwaith ieuenctid cynhwysfawr fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar draws holl wyneb y wlad, mae’r ymrwymiadau a wnes i yn y pwyllgor yn sefyll heddiw, a byddaf yn eu hailadrodd heddiw.
O ran adroddiad y pwyllgor, roedd yn gofyn am nifer o wahanol ddiweddariadau dros nifer o wahanol amserlenni—yn fwyaf nodedig, fel y nodwyd, diweddariad chwe mis. Bydd hynny'n cael ei ddarparu i'r pwyllgor a byddwn yn hapus i fynd yn ôl at y pwyllgor, petai’r pwyllgor yn teimlo y byddai hynny yn helpu eu trafodaethau, i ateb cwestiynau ac i fod yn atebol i'r pwyllgor o ran yr hyn yr ydym wedi ei wneud i gyflawni ar yr argymhellion a wnaeth y pwyllgor. Byddwn yn dweud wrth Lynne Neagle na fydd penodi a sefydlu’r bwrdd yn arwain at oedi. Yr hyn y bydd yn ei wneud yw helpu i weithredu’r argymhellion hynny a gweithredu ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion hynny. Nid yw hyn yn ffordd o atal, rhwystro neu arafu gwaith. Mewn gwirionedd mae’n fodd i’n galluogi i wneud y pethau hyn a’n galluogi i allu cyflawni ar yr ymrwymiadau hyn mewn ffordd fwy dwys. Rydw i wedi ateb cwestiynau ar sut y bydd y bwrdd yn gweithredu a gwneuthuriad y bwrdd; yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw y byddwn yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai unrhyw fwrdd sy’n weithgar yn y maes hwn yn sicrhau bod llais, barn, profiad, gwybodaeth a gweledigaeth pobl ifanc yn rhan ganolog o'i ddull gweithredu a’r ffordd y mae'n dod i gasgliadau ar unrhyw fater. Byddwn yn disgwyl i bwy bynnag sy’n cael ei benodi i'r bwrdd gadw hynny mewn cof.
O ran sut yr ydym yn cyflwyno arian ac adnoddau ar gyfer y polisïau hyn, rydym yn deall—rwy’n credu nad oes un Aelod yn y Siambr hon nad yw'n gwerthfawrogi ac yn deall yr heriau sylweddol sy'n wynebu awdurdodau cyhoeddus ar hyn o bryd o ran cyllidebau. Rydym yn deall yr anawsterau sy'n wynebu'r awdurdodau newydd a fydd yn cael eu hethol fis nesaf, ac rydym yn deall yr heriau sy'n wynebu’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau pan ddaw’n fater o ddyrannu cyllid. Rwy’n deall yr hyn sy'n cael ei ddweud. Yn sicr, fy mwriad i yw sicrhau bod gennym adnoddau digonol i gyflawni’r addewidion a’r ymrwymiadau a wnawn, ond rydym yn gwybod, ar yr un pryd, bod y rhain yn ymrwymiadau a wneir dan yr amgylchiadau ariannu mwyaf anodd.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cytuno â chi bod gan waith ieuenctid swyddogaeth hanfodol i'w chwarae i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial a chael ystod o brofiadau. Mae'n meithrin cymeriad ac mae hefyd yn hwyl. Adroddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Rhagfyr 2016 fod awdurdodau lleol wedi gweld colled o bron 20 y cant yn lefelau staffio gwaith ieuenctid mewn blwyddyn yn unig. Adroddodd CWVYS nad oedd 30 y cant o'i aelodau yn gweld eu hunain mewn bodolaeth y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf. Sut y bydd y cyhoeddiadau a wnaed yn natganiad y Gweinidog yn lleddfu’r materion adnoddau hyn?
Nododd y pwyllgor hefyd â phryder bod diffyg atebolrwydd o ran y defnydd o arian a gyflenwir drwy'r grant cynnal refeniw. Sut fydd y bwrdd gwasanaeth cymorth ieuenctid cenedlaethol newydd yn sicrhau atebolrwydd ar gyfer gwariant gan awdurdodau lleol ar waith ieuenctid?
Nododd y pwyllgor hefyd fod rhanddeiliaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol ar y naill law, a'r Gweinidog ar y llaw arall, fel petaent yn meddu ar farn wahanol iawn am arweinyddiaeth strategol Llywodraeth Cymru, neu ddiffyg hynny. Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â’r rhanddeiliaid hyn ers cyhoeddi'r adroddiad, ac a yw barn y Gweinidog a’r rhanddeiliaid wedi dod yn agosach at ei gilydd o gwbl yn y misoedd ers hynny? Roedd y rhanddeiliaid yn pryderu hefyd am yr hyn y maent yn ei weld fel methiant Llywodraeth Cymru i'w cynnwys yn y gwaith o ddatblygu polisïau, ac anogodd y pwyllgor y Gweinidog i fanteisio ar arbenigedd a dealltwriaeth y prif grŵp swyddogion ieuenctid a CWVYS, dau o'r rhanddeiliaid allweddol o ran mynd â gwaith ieuenctid yn ei flaen yng Nghymru. Sut mae'r Gweinidog yn meithrin perthynas agosach â’r rhanddeiliaid hyn, a sut mae am ddefnyddio eu harbenigedd a'u profiad, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor?
Y peth syfrdanol am y dystiolaeth a roddwyd gan lawer o'r rhanddeiliaid yw ei bod yn ymddangos nad oes ffordd ffurfiol o ddeall y galw ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ieuenctid yn erbyn y gwasanaethau gwaith ieuenctid sy'n cael eu darparu eu hunain. Sut y gellir cynllunio neu ddarparu unrhyw fath o wasanaeth, boed yn breifat, cyhoeddus neu fasnachol, heb ddeall ble mae'r galw am y gwasanaeth? Sut ydych chi’n bwriadu mapio galw ar y cyflenwad fel eich bod chi’n deall ble mae'r bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth?
Rydych wedi cyhoeddi bod bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol yn cael ei greu i ddarparu, fel y dywedwch, her adeiladol a chraffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw'n gwbl glir o'ch datganiad yn union beth fydd amcanion ac union swyddogaeth y bwrdd, ac efallai y gwnewch chi roi mwy o fanylion i ni am hynny. Diolch.
Mae’r Aelod yn disgrifio rhai o'r problemau sy'n wynebu gwaith ieuenctid a gwasanaethau gwaith ieuenctid o ran sefyllfa gyffredinol cyllid llywodraeth leol ac adnoddau llywodraeth leol. Mae hynny'n cael ei ddeall yn dda ac nid yw'r Llywodraeth yn arswydo nac yn anghytuno â chasgliadau'r pwyllgor ar hyn. Rydym yn deall bod awdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd iawn, yn wynebu rhai penderfyniadau anodd iawn. Y peth hawsaf yn y byd yw i Weinidog sefyll yma a gwneud unrhyw sylwadau y mae ef neu hi’n cael eu temtio i’w gwneud, ond rwy’n credu bod yn rhaid i ni gydnabod mai mater i lywodraeth leol yw gwneud y penderfyniadau hyn.
Rydych yn gofyn am atebolrwydd llywodraeth leol ar y diwrnod y mae enwebiadau’n cau ar gyfer yr etholiadau lleol sy’n cael eu cynnal fis nesaf. Dyna atebolrwydd yn y ffurf fwyaf amrwd posibl. Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr hynny a’r cynghorwyr hynny a fydd yn brwydro am eu seddi dros y pedair neu bum wythnos nesaf roi cyfrif am y penderfyniadau y maent wedi eu gwneud. Mater i'r bobl yw penderfynu ar eu blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod nesaf.
Ond o ran yr arweinyddiaeth strategol, yr wyf yn credu sy’n bwynt mwy sylfaenol—ac aeth Llŷr i'r afael â rhai o'r materion hyn yn ei gwestiynau—nid yw arweinyddiaeth yn golygu sefyll yma yn gwneud ac yn cyhoeddi penderfyniadau. Mae arweinyddiaeth hefyd yn ymwneud â chael sgyrsiau a gwrando—ac nid dim ond gwrando ar yr hyn sydd wedi'i ddweud, ond clywed yr hyn a ddywedwyd hefyd. Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â chael strwythur sy'n ein galluogi ni i ddarparu'r weledigaeth, ond hefyd i sicrhau bod y weledigaeth honno yn cael ei llywio gan brofiad pobl ar lawr gwlad neu bobl sy'n darparu gwasanaethau a phobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.
Felly, rwy’n gwrthod y syniad bod arweinyddiaeth yn weithgaredd unigol a wneir gan un Gweinidog mewn ffordd benodol. Rwy'n credu bod arweinyddiaeth yn ymwneud ag ymdeimlad ehangach o lawer o sut yr ydym yn ymdrin â'r materion hyn ac ymdeimlad ehangach o lawer o wrando ar, a chlywed, yr hyn sy'n cael ei ddweud.
O ran y berthynas â rhanddeiliaid a materion eraill a godwyd gan yr Aelod, gadewch i mi ddweud hyn: rydym yn buddsoddi llawer iawn o amser yn gwrando ar bobl ac yn siarad â phobl. Un o argymhellion adroddiad y pwyllgor oedd cyfarfod â'r grŵp cyfeirio cyn gynted ag y bo modd. Roeddwn i wedi cwrdd â'r grŵp cyfeirio ychydig ddyddiau cyn i adroddiad y pwyllgor gael ei gyhoeddi. Fe wyddoch, rydym yn treulio llawer o amser, fy swyddogion a minnau, yn cael y sgyrsiau hyn ac yn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud.
Ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y byddwn yn disgwyl neu'n rhagweld y byddai rhanddeiliaid yn cytuno â phopeth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud. Nid dyna natur trafodaethau a sgyrsiau gwleidyddol. Nid wyf yn disgwyl, gan ein bod yn cael sgwrs gyda grŵp o randdeiliaid yn y maes hwn neu unrhyw faes arall, y bydd y rhanddeiliaid hynny wedyn yn cytuno â'r penderfyniadau a wnaf ac y byddaf yn eu gwneud yn y dyfodol. Nid dyna'r ffordd y mae’n rhaid neu y dylai’r pethau hyn weithredu. Fy marn i yw y dylem bob amser allu cyfnewid barn yn onest iawn, deall ein gilydd, ond wedyn hefyd gael y rhyddid i anghytuno lle teimlwn ei fod yn angenrheidiol.
O ran y ffordd o weithio a'r dulliau a ddefnyddiwyd, rwy’n credu y dywedais mewn ateb i bwyntiau Darren Millar am waith y bwrdd fy mod yn hapus iawn i’r bwrdd gymryd y farn y mae’n ei gymryd am y ffordd y mae'n gweithredu. Nid wyf yn credu y byddai'n gweithio’n effeithiol petai’r bwrdd yn cael ei benodi i wneud yr hyn y mae'r Gweinidog yn dymuno i'r bwrdd ei wneud. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i’r bwrdd gael modd o annibyniaeth. Rydym yn mynd drwy'r broses penodiadau cyhoeddus i sicrhau bod aelodau'r bwrdd yn annibynnol. Yna, byddwn yn disgwyl cael cytundeb â'r bwrdd a fydd yn gwarantu eu hannibyniaeth wrth weithredu ond hefyd lefelau’r awdurdod sydd ganddynt er mwyn comisiynu’r math o waith a ddisgrifiodd Darren Millar, yr wyf i’n credu fydd yn gwbl hanfodol ar gyfer her wybodus i'r Llywodraeth.
Diolch yn fawr iawn. Rydym wedi cael un siaradwr o bob un o'r pleidiau, felly y pedwar siaradwr nesaf—bydd yn rhaid i chi ddibynnu ar eich cydweithwyr i ofyn cwestiwn ac i'r Gweinidog ateb yn gryno. Fel arall, ni fydd cyfle i gael pob un ohonoch i mewn. Felly cewch chi ddewis sut y byddwch yn gwneud hyn. Mike Hedges.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n aml yn gryno. A gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog, ac a gaf i groesawu'r cyfeiriad? A gaf i roi gwasanaethau ieuenctid yn eu cyd-destun, fodd bynnag? Yn y pedair blynedd o Ebrill 2012, torrwyd £6.1 miliwn ar y gwariant gan awdurdodau lleol Cymru ar wasanaethau ieuenctid. Arweiniodd y toriadau hyn at golli mwy na 100 o ganolfannau ieuenctid, a thorrwyd hefyd ar o leiaf 360 o swyddi yn y gwasanaeth ieuenctid gan awdurdodau lleol. Nid wyf yn beio’r awdurdodau lleol am hyn; maent o dan bwysau ariannol aruthrol.
Dau faes sydd wedi cefnogi darpariaeth ieuenctid yw 'mentrau iaith' a Chymunedau yn Gyntaf. Mae 'Mentrau Iaith' wedi cefnogi darpariaeth ieuenctid megis Twrw Tawe yn fy etholaeth i, y mae fy merch i yn mynd iddo, ac wedi darparu cyfleuster ieuenctid sy’n cynnwys cerddoriaeth i bobl ifanc. Yn hollbwysig, mae'n gyfle i blant a phobl ifanc siarad a defnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol, sy’n hynod o bwysig yn fy marn i. Mae'n gyd-destun y tu allan i'r ysgol ar gyfer y Gymraeg. Hefyd, mae gwaith ieuenctid Cymunedau yn Gyntaf wedi cynnwys darparu gwasanaethau allgymorth a darpariaeth ieuenctid dan do. A all y Gweinidog nodi beth yw dyfodol y ddarpariaeth ieuenctid 'mentrau iaith', a’r ddarpariaeth ieuenctid a ddarperir gan Gymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd? Ac a fydd y Gweinidog yn cytuno â mi efallai na fyddwch yn dymuno ateb cwestiynau am gyllid—a gallaf ddeall hynny—ond a fyddai'n cytuno mai cyllid yw’r allwedd?
Rydych yn gwybod mai 'diwedd y gân yw'r geiniog'. Mae cyllid yn amlwg yn bwysig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi gwneud datganiadau ar ddyfodol Cymunedau yn Gyntaf, ac nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny. O ran 'mentrau iaith', byddant yn rhan allweddol o strategaeth yr iaith Gymraeg yn gyffredinol, sy'n ceisio cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn enwedig mewn lleoedd fel Abertawe neu Flaenau Gwent, lle nad yw’r Gymraeg o bosib yn iaith gyfathrebu i’r gymuned gyfan. Felly, yn sicr, byddwn yn gweld swyddogaeth bwysig i 'fentrau iaith' wrth gyflawni hynny fel rhan o'n strategaeth iaith Gymraeg yn gyffredinol.
Treuliais bum mlynedd fel gweithiwr ieuenctid cyn mynd yn athro. Felly, rwy’n cytuno’n llwyr, Gweinidog, â’ch sylwadau ynglŷn â pha mor bwysig y gall gwaith ieuenctid fod i wella cyfleoedd bywyd y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Ac rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaith ieuenctid. Fodd bynnag, i rai o'n cymunedau mwyaf heriol, mae dirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben yn cynrychioli heriau penodol. Felly, gan adeiladu ar gwestiwn fy nghydweithiwr Mike Hedges, hoffwn ofyn i chi pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am sut y bydd y newidiadau i'r rhaglen honno yn effeithio ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid.
Yn ail, yn fy etholaeth i, effeithiwyd ar fwy na 50 o bobl ifanc pan gaewyd clybiau ieuenctid yn ddiweddar, ac mae cymuned Ynysybwl yn arbennig o bryderus am hyfywedd ei glwb ieuenctid pan fydd Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben. Pa gyngor allech chi ei roi, Gweinidog, i’m hetholwyr sy'n pryderu am y newidiadau hyn?
Fel y bydd yr Aelod yn sylweddoli, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at fy ateb cynharach i Mike Hedges am y sgyrsiau a gynhaliwyd a'r datganiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, felly nid wyf am ychwanegu at hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rydw i ac Ysgrifennydd y Cabinet yn sgwrsio’n rheolaidd am hyn a materion eraill. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn cael sgyrsiau am sut yr ydym yn disgwyl ac yn rhagweld i’r materion hyn gael eu datrys. Yn amlwg, bydd amgylchiadau penodol—yr ydych chi wedi cyfeirio at Ynysybwl—a bydd enghreifftiau eraill o'r fath mewn rhannau eraill o'n cymunedau lle bydd effeithiau arwyddocaol. A byddwn yn awgrymu eich bod yn siarad â mi ac Ysgrifennydd y Cabinet, a byddwn yn sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu a’ch cefnogi chi wrth ymateb i hynny.
Rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog, yn enwedig o ran adolygu 'Ymestyn Hawliau' a'r bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol. Ac rwy’n croesawu'r ymrwymiad a roesoch i Gadeirydd y pwyllgor eich bod yn cefnogi’r syniad bod pob unigolyn ifanc yn cael gafael ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid. Hoffwn godi'r pwynt bod ein hymchwiliad yn ymwneud â gwaith ieuenctid ac, yn amlwg, rydych chi wedi bod yn siarad am wasanaethau cymorth ieuenctid. Ac roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddiffinio beth yw'r gwasanaethau cymorth ieuenctid a sut mae gwaith ieuenctid yn ffitio i mewn i hynny, gan ein bod yn amlwg yn sôn am waith ieuenctid yn ein hymchwiliad ni.
Y pwynt arall yr oeddwn yn awyddus i ofyn i chi amdano, yn gyflym, oedd bod gennym lawer o dystiolaeth gan grwpiau penodol o bobl ifanc a chynrychiolwyr grwpiau o bobl ifanc gydag anghenion penodol. Rwy'n credu bod plant byddar, plant mewn gofal, plant Sipsiwn a Theithwyr—llawer o grwpiau o blant mewn angen. Sut ydym ni’n mynd i sicrhau eu bod yn cael gafael ar y ddarpariaeth gwaith ieuenctid y credwn y dylent ei chael?
Ydw, rwy’n ailadrodd yr ymrwymiadau a wnes o flaen y pwyllgor, a byddaf yn fwy na pharod i ddod i’r pwyllgor eto, ar ei gais, er mwyn parhau â’r sgwrs hon ac amlinellu ymhellach sut y byddem yn disgwyl ac yn rhagweld i’r maes polisi hwn ddatblygu dros y cyfnod nesaf.
Rwy'n hynod bryderus—. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed gan Julie Morgan am waith ieuenctid yn hytrach na gwasanaethau cymorth ieuenctid. Ond rwy'n awyddus iawn bod gwaith ieuenctid yn cael ei weld fel gwasanaeth strategol hefyd, ac nid yn unig fel cyfleuster hamdden neu wasanaeth pan fetho popeth arall. Rwy’n dymuno iddo eistedd ochr yn ochr â holl amrywiaeth y gwasanaethau cymorth ieuenctid, a fydd yn sicrhau ein bod yn gallu cael darpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd i bobl ifanc ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol, ac rwy'n credu y bydd bwrdd cenedlaethol yn ein helpu i gyflawni hynny.
Ond rwy’n awyddus ein bod yn sicrhau—ac mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt a godwyd yn gynharach gan Darren Millar—bod aelodaeth y bwrdd yn cynnwys y sbectrwm o wasanaethau cymorth ieuenctid, nid y sectorau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol yn unig. Ac rwyf am sicrhau bod gennym ffocws gwirioneddol sydd heb ei gyfyngu i un rhan o'r sbectrwm cyfan o wasanaethau ar gael i bobl ifanc, am y rhesymau yr ydych newydd eu rhoi o ran grwpiau penodol o’r boblogaeth gyffredinol, lle mae’n ofynnol i wasanaethau gydweithio er mwyn darparu dull mwy cyfannol yn hytrach na dim ond un rhan o'r hyn yw eu gofynion ac anghenion mewn gwirionedd. Felly, er mwyn sicrhau bod gennych chi’r dull cynhwysfawr hwnnw rwy’n cymryd golwg ehangach o lawer. Ond o fewn hynny, fel y dywedais mewn ateb i Lynne Neagle yn gynharach, byddwn yn disgwyl gweld ffocws clir; fodd bynnag, rwy’n dymuno i’r ffocws hwnnw gael ei ystyried yng nghyd-destun y cyflenwad cyffredinol o wasanaethau i bobl ifanc.
Ac yn olaf, Hefin David.
O ystyried atebion y Gweinidog hyd yn hyn, nid wyf yn siŵr a ddylwn i ehangu fy nghwestiwn neu ei gulhau i ffocws laser, felly rwyf am roi cynnig ar ychydig o'r ddau.
Wel, mae gennych 50 eiliad, felly—
Byddaf yn gyflym. O ystyried y ffaith bod y Gweinidog yn cydnabod natur gyfnewidiol y cyllid a’r adnoddau sydd ar gael i gymorth ieuenctid, sut fydd y dirwedd newydd yn cael ei hystyried yn yr adolygiad? Mae Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, sef SYDIC, er enghraifft, ar hyn o bryd yn byw o’r llaw i’r genau, ac yn dibynnu ar wahanol ffynonellau o gyllid, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dyrannu arian sylweddol ar gyfer y ganolfan eleni. A yw disgwyliadau realistig yn golygu dyfodol mwy sicr i sefydliadau allgymorth fel SYDIC?
Rwy'n credu mai ehangu’r cwestiwn oedd y peth gorau i'w wneud, mewn gwirionedd, Hefin. [Chwerthin.] O ran canolfannau ieuenctid unigol, ni fyddai'r Aelod yn disgwyl i mi roi unrhyw ymrwymiadau na allaf eu rhoi ar gyfer ariannu sefydliadau. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae gennym dirwedd sy'n newid, fel y dywedodd yr Aelod, ac fe wnes i fwynhau’r ymweliad pan ymunais ag ef yn SYDIC yr haf diwethaf a gweld y cyfleusterau sydd ar gael yno a'r gwasanaethau a ddarperir yno. Mae'r gwasanaethau hynny yn wasanaethau hanfodol, yn enwedig pan maent yn cael eu darparu yn rhywle fel Senghennydd, sy'n gymuned debyg iawn i'r cymunedau yr wyf i’n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, lle mae angen i ni allu estyn allan a chyrraedd o bosib y tu hwnt i’r ffordd draddodiadol o ddarparu gwasanaethau. Mae sefydliadau fel SYDIC yn gwneud gwaith ardderchog i’n galluogi ni i wneud hynny, ac mae angen cydnabod hynny o fewn y dirwedd a ddisgrifiodd ef. Pan fydd yn dod yn fater o wneud penderfyniadau ar ymestyn hawliau cyffredinol, y strategaeth yr ydym wedi ei disgrifio eisoes y prynhawn yma, mae’n rhaid i’r mathau hynny o wasanaethau fod wrth wraidd a chalon y strategaeth honno. Rwy’n gobeithio, ac rwy'n siŵr, gydag Aelodau fel Hefin yn sefyll i fyny dros y bobl hynny, y byddant yn ganolog i’r ffordd y byddwn yn datblygu’r pethau hyn ymhellach.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.