2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru ar 5 Ebrill 2017.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu cartrefi newydd i’w rhentu gan gynghorau Cymru? OAQ(5)0128(CC)
Diolch am y cwestiwn. Mae awdurdodau lleol wedi ymrwymo i ddarparu 1,000 o gartrefi cyngor newydd o dan ein cytundeb tai newydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y cyfnod rhwng 1945 a 1979—cyfnod democrataidd-gymdeithasol hanes Prydain—cafodd nifer fawr o dai cyngor eu hadeiladu. Pan oedd yn cael ei llywodraethu gan y gwleidyddion adain chwith adnabyddus hynny, Winston Churchill, Harold MacMillan a Stanley Baldwin, adeiladodd Prydain filiynau o dai cyngor a fflatiau. Yn y cyfnod ers hynny nid oes fawr o dai wedi cael eu hadeiladu ac mae’r nifer wirioneddol wedi gostwng oherwydd yr hawl i brynu. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar fynd ati i adeiladu tai cyngor yn Ffordd Milford a Gellifedw yn Abertawe?
Ddwywaith mewn diwrnod, Mike Hedges. Llongyfarchiadau i Abertawe. Mae’n wych gweld yr awdurdod lleol yn adeiladu tai cyngor newydd. Yn wir, yn fy awdurdod fy hun yn Sir y Fflint hefyd, gyda Hannah Blythyn, mae gennym dai cyngor llwyddiannus a phobl yn byw ynddynt eisoes. Rydym bellach yn dechrau gweld y budd o ddod allan o system gymhorthdal y cyfrif refeniw tai gyda chartrefi cyngor newydd yn cael eu hadeiladu. Rwy’n falch fod Abertawe ac awdurdodau eraill yn defnyddio eu gweledigaeth i sicrhau ein bod yn gallu gwneud buddsoddiad hirdymor yn y stoc tai cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi pob ymdrech i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol hefyd ac, wrth gwrs, mae sir Gâr yn gyngor sydd wedi bod ar flaen y gad yn y maes yma. Un cyfyngiad a allai effeithio ar y gallu i adeiladu mwy o dai cymdeithasol ydy penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu cymdeithasau tai fel cyrff cyhoeddus, a thrwy hynny gyfyngu ar argaeledd cyllid yn y dyfodol. A fedrwch chi ein diweddaru ni ar beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn datrys y broblem yma?
Rydym mewn trafodaethau gyda’r cymdeithasau tai ynglŷn â sut y byddwn yn rheoli’r broses hon. Rwy’n hyderus y gallwn ddatrys y mater naill ai drwy ddeddfwriaeth neu fel arall.
Ddwywaith i Suzy Davies hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cynllun datblygu lleol Cyngor Abertawe eisoes wedi cael ei ohirio, ac mae dyddiad newydd mis Mawrth wedi mynd heibio ac nid ydym fymryn yn agosach at fod yn hollol siŵr sut y mae’r weledigaeth hon a grybwyllwyd gennych yn edrych, a’r arloesedd y gall y cyngor ei gynnig i’w gynllun i ddod ag eiddo rhent newydd i’r stoc dai. Nawr, rwyf wedi crybwyll y pwynt sawl gwaith—wrthych chi, fel y mae’n digwydd—felly rwy’n teimlo bod gennyf hawl i ofyn yn awr: pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn siarad â’r sector tai amlfeddiannaeth ynglŷn â throi capasiti dros ben yn gartrefi newydd hirdymor? Ac a gaf fi ofyn, felly, pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i gynghorau ynglŷn â chaffael eiddo sydd wedi’i leoli’n ganolog eu hunain er mwyn dod ag ef i mewn i stoc tai cymdeithasol y cynghorau yn ychwanegol at adeiladau newydd?
Wel, rwy’n credu bod hyn, o gwestiwn cynharach, yn ymwneud â pha atebion tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol a beth yw eu hanghenion. Nid oes gennyf broblem gyda defnyddio tai amlfeddiannaeth os ydynt yn addas ar gyfer atebion tai newydd. Ymwelais ag Abertawe, gyda Julie James a Mike Hedges mewn gwirionedd, i edrych ar y ddarpariaeth tai amlfeddiannaeth. Suzy, byddai croeso wedi bod i chi, ond nid oeddwn yn gwybod a oedd lle gennych yn eich dyddiadur. Y ffaith amdani yw, yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw bod yn arloesol ac edrych ar yr holl opsiynau i Gymru. Rwy’n credu bod y sector tai amlfeddiannaeth—. Oherwydd bod mwy o adeiladau llety myfyrwyr wedi cael eu datblygu ar ffurf bloc, mae tai amlfeddiannaeth bellach yn symud allan o’r system honno; felly, mae cyfle i ni eu defnyddio.