<p>Ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd</p>

3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:32, 3 Mai 2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr archwiliad sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i adroddiadau y gallai ansawdd y gofal a gafodd cleifion dementia ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd fod wedi cyfrannu at o leiaf saith o farwolaethau? TAQ(5)0156(HWS)

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr yr Aelod, ac Aelodau eraill y Cynulliad, sefydlais banel annibynnol i oruchwylio ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adolygiad Donna Ockenden o ofal cleifion ar ward Tawel Fan. Yr hyn y bwriadwn ei sefydlu yn rhan o ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wrth gwrs, yw a allai ansawdd y gofal a ddarparwyd fod wedi bod yn ffactor a gyfrannodd at farwolaeth rhai cleifion.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:33, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r sylwadau hyn, a wnaed mewn llythyrau i deuluoedd cleifion yng ngogledd Cymru, yn peri cryn bryder. Ac o ystyried bod bron i ddwy flynedd bellach ers cyflwyno mesurau arbennig, a bod oddeutu dwy flynedd a hanner ers cyhoeddi adroddiad Donna Ockenden ar gam-drin sefydliadol ar ward Tawel Fan, bydd yn peri cryn bryder fod rhai unigolion yn dal i gael eu cyflogi gan y GIG, gyda’u cyflogau’n cael eu talu gan y trethdalwyr, sydd eto i golli eu gwaith ac sydd eto i wynebu cael eu diswyddo, ac sydd efallai’n dal i weithio yn y gwasanaeth iechyd er gwaethaf y niwed posibl y gallent fod wedi’i achosi i unigolion ar y ward hon.

Rwy’n bryderus fod rhai o’r materion diwylliannol a nodwyd yn adroddiad Donna Ockenden yn dal i fod yn gyffredin yn y gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, a bod pwysau sylweddol o hyd ar gapasiti gwelyau cleifion mewnol. Yr wythnos hon, cefais e-bost gan deulu y bu’n rhaid anfon rhywun sy’n annwyl iddynt i ward iechyd meddwl oherwydd eu hiechyd meddwl gwael, a bu’n rhaid eu hanfon i Fryste, gan nad oedd digon o welyau yng ngogledd Cymru. Mae hynny’n annerbyniol. Ac mae hefyd yn annerbyniol fod rhai cleifion yn gorfod cysgu ar soffas mewn lolfeydd ar wardiau iechyd meddwl gan nad oes digon o welyau, a bod rhai cleifion benywaidd hefyd yn gorfod cysgu ar wardiau iechyd meddwl gwrywaidd yng ngogledd Cymru.

Yn amlwg, ceir heriau enfawr o hyd. Mae pobl yng ngogledd Cymru yn dal i wynebu problemau, ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o’r hyn a aeth o’i le. Rwy’n derbyn bod yr ymchwiliadau yn dal i fynd rhagddynt, a’u bod yn ymchwiliadau manwl, a bod yn rhaid i ni ddod o hyd i’r gwirionedd o ran yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yng ngogledd Cymru, ond byddwn yn gwerthfawrogi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech roi rhyw sicrwydd, os yw’r ymchwiliadau hynny’n canfod bod niwed wedi’i achosi, y byddwch yn trafod y posibilrwydd o erlyn y rhai a fu’n gyfrifol am achosi’r niwed gyda’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, yn enwedig lle y gallai’r niwed hwnnw fod wedi arwain at farwolaethau, gan fod y rhain yn faterion difrifol iawn, ac mae pobl yn bryderus iawn yn eu cylch yng ngogledd Cymru, ac nid ydym yn hyderus fod digon o gynnydd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:35, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres honno o gwestiynau ychydig yn wahanol, a byddaf yn ceisio eu hateb yn ôl y gwahanol rannau y cawsant eu cyflwyno. Rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod, wrth gwrs, yn deall y diddordeb mawr a’r pryder cyhoeddus parhaus ynglŷn â’r digwyddiadau sy’n ymwneud â ward Tawel Fan, ac mae wedi bod yn anodd iawn ateb y galw dealladwy am gwblhau’r broses honno cyn gynted ag y bo modd, sy’n gwbl ddealladwy, gan y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt a’r gymuned ehangach yng ngogledd Cymru a thu hwnt, a chael proses sy’n ddigon cadarn, gan mai’r hyn y bûm yn rhannol bryderus yn ei gylch o’r cychwyn, er gwaethaf fy awydd personol i weld hyn yn dod i ben yn gyflym, os nad oes gennych broses ddigon cadarn, eich bod o bosibl yn gwneud nid yn unig y gwasanaeth iechyd, ond y teuluoedd unigol, yn agored i sefyllfa hollol anfoddhaol lle y mae’r broses ei hun yn methu a lle nad ydych yn darparu’r math o gyfiawnder rwy’n ymwybodol fod pobl yn awyddus i’w weld. Ac rwy’n derbyn y ffaith a grybwyllwyd gennych mai’r peth pwysicaf yw canfod y gwir, ac yn wir, mae miloedd o ddogfennau gwahanol wedi cael eu hadolygu, ac oherwydd trylwyredd y gwaith a wnaed, cynhaliwyd ymchwiliadau pellach i feysydd a llwybrau y tu hwnt i nifer y bobl a nodwyd yn adroddiad Ockenden. A chredaf ei bod yn bwysig eich bod yn deall—cafwyd cryn drylwyredd yn yr hyn sydd bellach yn adolygiad gydag arolygiaeth annibynnol wirioneddol ddilys. Felly, nid yw’r bwrdd iechyd yn rheoli neu’n goruchwylio adolygiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, felly ni ddylid camddeall bod y bwrdd iechyd, rywsut, yn mynd i ailddehongli neu newid canfyddiadau’r adolygiad gwirioneddol annibynnol hwn.

Nid wyf wedi gweld y llythyrau a gofnodwyd yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond o ran yr her mewn perthynas â’r niwed a achoswyd a deall yr hyn a ddaw ar ôl hynny, bydd angen cwblhau sawl proses wahanol, ac ni fydd gan y Llywodraeth ran i’w chwarae ynddynt. Er enghraifft, y materion proffesiynol—cyfrifoldeb y cyrff proffesiynol fydd ymgymryd â hynny. Rydym yn disgwyl iddynt wneud eu gwaith. Rwy’n bryderus, fodd bynnag, ynglŷn â faint o amser y mae’n ei gymryd i gynnal achosion addasrwydd i ymarfer—nid mater gwleidyddol mo hwn; ond mater o bwys gwirioneddol ar draws y Siambr—ni waeth pa gorff proffesiynol y mae pobl yn atebol iddo ac yn gyfrifol amdano.

O ran erlyniadau, credaf ei bod yn bwysig iawn nad yw gwleidyddion Llywodraeth yn dechrau dweud ein bod yn disgwyl neu’n mynnu bod yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erlyn. Oherwydd lefel y diddordeb cyhoeddus yn hyn, rwy’n disgwyl i’r heddlu fod yn hollol ymwybodol y bydd angen iddynt adolygu’r ymchwiliad pan fydd yn adrodd yn ôl, ac y bydd angen iddynt ymateb a chyfeirio. A phan fydd yr adroddiad ar gael, ni welaf unrhyw reswm i mi beidio â gofyn i’r heddlu gadarnhau eu safbwynt, ond ni chredaf y byddai’n briodol i mi fynd ymhellach na hynny. Mae’r rheini’n benderfyniadau annibynnol ar gyfer yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn â materion y credant y gallent, y dylent, ac y mae ganddynt ddyletswydd i’w hymchwilio a dod i gasgliadau yn eu cylch. Ond ar ddiwedd y broses hon, byddaf yn fwy na pharod i ofyn i’r heddlu a ydynt yn disgwyl y byddant yn rhoi unrhyw gamau pellach ar waith.

O ran y materion diwylliannol ehangach a nodwyd gennych, credaf fod hwn yn faes lle y dylai pobl edrych eto ar broses mesurau arbennig gyda rheoleiddwyr yn darparu’r arolygiaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidydd Llywodraeth yn penderfynu, ‘Dyma rwy’n dymuno i’r casgliad fod’. Ac rwyf innau bob amser, fel Mark Drakeford o’m blaen, wedi ceisio bod yn glir iawn na fydd hyn yn digwydd er hwylustod gwleidydd Llywodraeth yn y rôl benodol hon. Dylai ymwneud â chyngor annibynnol gan reoleiddwyr ynglŷn â chynnydd a wnaed ac na wnaed drwy fesurau arbennig, ac ynglŷn ag a yw’r sefydliad yn cyrraedd y safon, ac a wnaed digon o gynnydd ym mhob un o’r meysydd. A chredaf mai gwasanaethau iechyd meddwl yw’r maes pryder mwyaf arwyddocaol a arweiniodd at wneud y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig. Credaf fod y cyfarwyddwr newydd wedi gwneud cryn wahaniaeth, ond ceir dealltwriaeth fod her wirioneddol a sylweddol i’w hwynebu o ran ailgyflunio a gwella’r gwasanaeth hwnnw. Yr hyn a ddylai roi hyder i mi a’r Aelodau eraill yw nid yn unig y broses a ddilynwyd gyda rheoleiddwyr annibynnol, ond y ffaith eu bod yn cydnabod bod cynnydd gwirioneddol wedi’i wneud hyd yn hyn. Ond mae hyn yn ymwneud â’r cynnydd pellach sydd ei angen o hyd. Ac ni fyddwn yn esgus wrthych chi neu unrhyw ddinesydd arall sy’n pryderu ynglŷn â hyn fod y cynnydd yn esmwyth a rhwydd. Ond fe gawn adolygiad tryloyw priodol gan y rheoleiddwyr pan fyddant yn cynnal eu hadolygiad rheolaidd o’r mesurau arbennig, ac unwaith eto, byddaf yn ei gael a bydd ar gael i’r cyhoedd, fel yr adroddiadau blaenorol.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:39, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae’n rhaid i ni aros am yr ymchwiliad llawn cyn y gallwn wneud unrhyw benderfyniadau, neu cyn y gall unrhyw un o’r cyrff proffesiynol wneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â pha ganlyniadau a allai ddeillio o hynny, felly rwy’n cytuno â’r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud a nodaf ei eiriau cryf yn hynny o beth. Fodd bynnag, cafwyd canlyniadau gweinyddol yn sgil Tawel Fan: cafodd y prif weithredwr ei atal dros dro, ac yna, yn ei dro, fel y mae’r Gweinidog newydd amlinellu, gwnaed y bwrdd iechyd ei hun yn destun mesurau arbennig. Felly, rwy’n awyddus i ddeall yr hyn y mae wedi’i wneud, fel Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â gweinyddiaeth Betsi Cadwaladr, a dau beth yn benodol: a all gadarnhau nad oes ceiniog wedi’i thalu i aelodau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl ei wneud yn destun mesurau arbennig, gan y byddai’n anghywir gwobrwyo methiant yn y ffordd honno, oni fyddai? Yn ail, a all gadarnhau hefyd nad oes unrhyw arian wedi’i dalu i’r Athro Trevor Purt ar ôl iddo ddechrau gweithio yn Lloegr?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:40, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

O ran yr Athro Purt, roeddem yn gwbl glir ynglŷn â’r trefniant secondiad iddo adael y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Nid yw’n rhan o’r gwasanaeth bellach. Rydym yn gwbl dryloyw ynghylch y trefniant iddo adael, gan gynnwys y mesurau ariannol ynghlwm wrth hynny.

O ran eich sylwadau nad yw aelodau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi derbyn ceiniog, rwy’n cymryd nad ydych yn golygu aelodau staff sy’n gweithio i Betsi Cadwaladr, ond eich bod yn sôn am yr aelodau annibynnol sy’n cael eu penodi. Wel, maent yn dal i gyflawni rôl—maent yn dal i weithredu—a phe bawn yn penderfynu na ddylent gael eu talu, byddwn yn cael gwared arnynt yn hytrach na dweud, ‘Rwy’n mynd i’ch cosbi drwy gymryd camau disgyblu i bob pwrpas er mwyn diddymu’r arian y mae gennych hawl i’w dderbyn wrth gyflawni’r penodiad cyhoeddus hwn’. Credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth ddwyn pobl i gyfrif yn briodol, nad ydym yn edrych am fesurau hawdd neu rai sy’n bachu’r penawdau a cheisio dweud, ‘Dyma beth y dylem ei wneud neu dyma beth sy’n rhaid i ni ei wneud’.

I mi, y peth pwysicaf yw bod y bwrdd iechyd yn gwella. Mae angen aelodau yno sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r craffu nad oedd yn cael ei wneud yn y gorffennol i’r graddau y byddem yn dymuno’i weld. Rydym wedi gweld pobl yn cael eu hadolygu; rydym wedi gweld pobl newydd yn cael eu penodi fel aelodau annibynnol ar y bwrdd iechyd hwnnw. Rydym wedi gweld aelodau gweithredol newydd yn dod i mewn, felly mae trefniadau arwain newydd ar waith o fewn y bwrdd iechyd: cyfarwyddwr gweithredol nyrsio newydd, cyfarwyddwr meddygol newydd, yn ogystal â phrif swyddog gweithredol newydd. Felly, mae’n bwysig deall bod yr arweinyddiaeth wedi symud ymlaen o’r adeg pan wnaed y sefydliad yn destun mesurau arbennig. I mi, rhaid i hyn bob amser ymwneud â’r cwestiwn: a ydym yn gweld cynnydd yn cael ei wneud? A ydym yn cael sicrwydd annibynnol gan reoleiddwyr fod cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud, a beth yw’r heriau parhaus y mae angen i ni eu gweld yn cael eu datrys ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Oherwydd hynny, i mi, yw’r peth pwysicaf, gan fy mod am i bobl sy’n byw yng ngogledd Cymru dderbyn gwasanaeth iechyd o’r un ansawdd uchel ag y credaf fod pob dinesydd yn unrhyw ran o Gymru yn ei haeddu.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:42, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Dywed gwefan y bwrdd iechyd:

Cafodd y Bwrdd wybod gan deuluoedd am bryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ym mis Rhagfyr 2013.

Cymerwyd camau ar unwaith i gau’r ward a chafodd cleifion eu trosglwyddo i ofal amgen.

Fodd bynnag, ysgrifennais at brif weithredwr ymddiriedolaeth GIG gogledd Cymru ym mis Ebrill 2009 ar ran etholwr, gan ddweud bod y driniaeth a gafodd ei gŵr yn yr uned bron â’i ladd, fod tri chlaf arall a dderbyniwyd i’r uned oddeutu’r un adeg â’i gŵr wedi cael profiadau tebyg, a’i bod yn poeni bellach ynglŷn â’r driniaeth y gallai eraill ei chael yn yr uned. Roedd ei gŵr yn dioddef o glefyd Alzheimer a chanser terfynol. Drwy hynny, cefais gopi o gŵyn claf arall â dementia fasgwlaidd, a oedd yn cynnwys lluniau ‘cyn’ ac ‘ar ôl’ torcalonnus. Ymatebodd y prif weithredwr drwy ddweud eu bod yn ei hystyried yn gŵyn ffurfiol, a’i bod wedi anfon fy e-bost at y pennaeth staff ar gyfer iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Sut, felly, y byddwch yn sicrhau bod yr ymchwiliad hwn nid yn unig yn ystyried yr effaith ar y cleifion a’r teuluoedd, ond yn ystyried pam fod materion wedi’u dwyn i’w sylw sawl blwyddyn—bedair blynedd a hanner—cyn iddynt gydnabod eu bod wedi cael gwybod am hyn, ar ôl iddynt gael eu dwyn i’w sylw ar y lefel uchaf?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:44, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu ei bod yn anodd deall sut y mae’r materion a godwyd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r ymchwiliad sy’n cael ei gynnal. Rydych yn codi materion hanesyddol, sy’n mynd yn ôl i 2009, fel rydych yn ei nodi, ac eraill. Nid wyf yn ymwybodol o sut y mae ymchwiliad annibynnol y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi datrys yr holl faterion hynny mewn gwirionedd, oherwydd dyna’r holl bwynt am fod yn annibynnol. Nid fy lle i yw gosod paramedrau ar yr amserlenni er mwyn iddynt edrych arnynt neu eu deall; fy lle i, fodd bynnag, yw deall bod ymchwiliad trwyadl, cadarn ac annibynnol yn cael ei gynnal i’r hyn a ddigwyddodd mewn perthynas â’r gofal a ddarparwyd ar ward Tawel Fan, y gwersi sydd i’w dysgu o’r rhan benodol honno o’r gwasanaeth, ond hefyd a oes gwersi ehangach i’w dysgu am ddyfodol y gwasanaeth, nid yn unig yng ngogledd Cymru ond y tu hwnt. Felly, os yw’r Aelod o’r farn fod yna faterion y mae’n dymuno eu dwyn i sylw’r grŵp annibynnol sy’n goruchwylio ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yna rwy’n credu ei bod yn gwbl briodol iddo wneud hynny. Rhaid iddynt hwy gynnal yr ymchwiliad fel y gwelant yn dda, yn hytrach na fy mod i’n penderfynu drostynt beth sy’n rhaid iddynt ei wneud, oherwydd bydd hynny’n golygu wedyn nad yw’n ymchwiliad ac yn ymholiad annibynnol. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig amddiffyn yr annibyniaeth, y cadernid, yr ansawdd uchel a’r lefel drylwyr o fanylder sydd i’r ymchwiliad. Edrychaf ymlaen at gael canlyniad yr adroddiad ar yr ymchwiliad hwnnw. Yna, bydd angen i ni ddeall yr hyn y gallwn ei wneud ar y cyd i ddatblygu gofal iechyd yng ngogledd Cymru wedyn.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 2:45, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Mae angen i unrhyw ymchwiliad gael ei gynnal yn drylwyr ac yn deg, wrth gwrs, ond sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn modd amserol? Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau nad yw unrhyw ganfyddiadau yn cael eu diystyru’n syml gan yr ystrydeb sydd i’w gweld yn cael ei defnyddio pan welir bod corff cyhoeddus yn gwneud cam â’n pobl, sef ‘y bydd gwersi’n cael eu dysgu’? Yn olaf, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau bod canlyniadau’r ymchwiliad hwn yn cael eu dwyn yn ôl i’r Cynulliad llawn, nid y pwyllgor craffu’n unig, ar gyfer dadl ar y camau nesaf?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:46, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n hapus i ymateb i’r pwynt canol yn gyntaf o ran yr hyn a fydd yn digwydd. O ran yr hyn a fydd yn digwydd, mae angen i ni weld beth y mae’r adroddiad yn ei ddweud yn gyntaf, er mwyn deall pa ymateb sy’n briodol wedyn, pa ymateb y dylai’r bwrdd iechyd ei roi a gweld a oes pwyntiau i’r Llywodraeth ymateb iddynt hefyd.

Rwy’n gadarn hyderus y bydd cwestiynau o ganlyniad i’r adroddiad pan fydd yn cael ei ddarparu, ac wrth gwrs, bydd angen i ni ystyried gydag arweinydd y tŷ sut y mae busnes y Llywodraeth yn cael ei ddefnyddio o ran ymateb i’r adroddiad hwnnw pan fydd yn cael ei ddarparu a chael ymateb priodol sydd, mewn gwirionedd, yn hysbysu yn hytrach na dim ond ychwanegu mwy o wres i’r ddadl gyhoeddus ar y mater hwn. Mae’n bwysig iawn ein bod yn cymryd cam ymlaen yn hytrach na chael ymarfer i bentyrru beirniadaeth ar unigolion nad ydynt yma, a’n bod yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ar gyfer y bobl sydd angen gwasanaeth o’r ansawdd uchaf yng ngogledd Cymru.

Yn olaf, ar y pwynt ynglŷn â’r modd amserol o ddarparu’r adroddiad hwn, i mi, y pwynt pwysicaf yw ei fod yn adroddiad cadarn ac annibynnol. Yn bersonol, byddai wedi bod yn well o lawer gennyf pe bai’r adroddiad hwn ar gael sawl mis yn ôl. Byddai’n llawer mwy cyfleus i mi pe bai hynny’n wir. Ni allaf—wel, fe allwn, ond ni fyddaf yn ymyrryd â’r amserlen ar gyfer yr adroddiad hwn. Fel arall, fel y dywedais yn gynharach, nid yw’n adroddiad annibynnol mwyach. Mae’n rhaid iddo beidio â bod yn adroddiad sy’n cael ei wneud er hwylustod gwleidydd Llywodraeth. Mae’n rhaid iddo fod yn adroddiad gydag annibyniaeth go iawn, trylwyredd go iawn a chadernid go iawn. Mae hynny’n golygu, yn anffodus, ei fod wedi cymryd mwy o amser nag y byddai unrhyw un ohonom yn yr ystafell hon neu’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt wedi bod eisiau iddo ei gymryd. Ond ni ddylid peryglu cadernid ac annibyniaeth yr adroddiad, ac ni fyddaf yn gwneud hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 2:47, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.