2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 10 Mai 2017.
1. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r effaith a gaiff ffioedd tribiwnlysoedd cyflogaeth ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru? OAQ(5)0037(CG)
Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus fod cost dwyn hawliadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth bellach yn rhy ddrud i lawer o bobl ac yn eu hatal rhag cael mynediad at gyfiawnder.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol, ac rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y ffigurau diweddar yn dangos bod gostyngiad o 81 y cant wedi bod yn nifer yr hawliadau tribiwnlys cyflogaeth a ddygwyd gerbron ers i Lywodraeth y DU gyflwyno ffioedd yn 2013. Mae Unsain yn herio’r ffioedd hyn yn y Goruchaf Lys ar hyn o bryd. A ydych yn cytuno â mi, Cwnsler Cyffredinol, fod ffioedd o’r fath, sy’n amrywio rhwng £160 a £950, gyda hawliadau gwahaniaethu yn denu’r lefel uchaf o ffioedd, yn golygu bod pobl gyffredin yn cael eu hamddifadu o gyfiawnder i bob pwrpas oherwydd y gost a bod hyn yn cosbi menywod, gweithwyr ar gyflogau isel, lleiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol a gweithwyr anabl yn anghymesur, ac yn enghraifft arall o ymosodiadau Torïaidd ar bobl sy’n gweithio?
Wel, rydych yn gwneud rhai pwyntiau da iawn. Cyhoeddwyd adolygiad Llywodraeth y DU o gyflwyno ffioedd mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth ym mis Ionawr, ac yn wir, mae’n tynnu sylw at nifer o feysydd sy’n peri cryn bryder. Yn gyntaf, yn amlwg, y gostyngiad amlwg a sylweddol iawn a fu yn nifer yr hawliadau: gostyngiad o 80 y cant yn nifer yr hawliadau i dribiwnlysoedd ers cyflwyno’r ffioedd. Dengys tystiolaeth y Llywodraeth ei hun hefyd fod rhai pobl na allodd ddatrys eu hanghydfod drwy gymodi er hynny heb ddod â hawliad gerbron y tribiwnlysoedd cyflogaeth am eu bod yn dweud na allent fforddio’r ffi, er gwaethaf unrhyw gymorth ariannol a oedd ar gael. Yn yr un modd, yr asesiad a wnaed o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus gan Lywodraeth y DU o effaith ffioedd yw eu bod wedi effeithio’n sylweddol ar achosion gwahaniaethu a’r maes gwahaniaethu. Mae cyfeiriad y Goruchaf Lys ei hun—ac rydym yn dal i aros am ddyfarniad yn yr achos penodol hwnnw—yn tynnu sylw at y ffioedd sylweddol, sy’n amrywio rhwng £390 a £1,600, i fynd i’r tribiwnlys apelau cyflogaeth, ac yn dilyn hynny, mae’r ystadegau swyddogol yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr hawliadau a ddygwyd gerbron—oddeutu 80 y cant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei sylwadau ei hun yn yr ymgynghoriadau, gan ei gwneud yn glir, yn y bôn, nad ydym yn credu y dylai fod unrhyw ffioedd o gwbl, ac yn sicr ni ddylai fod unrhyw ffioedd sy’n atal mynediad at gyfiawnder, ac yn sicr, mae’n amlwg yn y maes hwn fod pobl sy’n gweithio yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o gyfiawnder.
Os caf fi wneud pwynt ynglŷn â’r hyn a ddywedodd Dawn, mae’r ffioedd yn uwch, mewn rhai achosion, nag yr awgrymodd Dawn Bowden. Mae bellach yn costio oddeutu £1,250 i wneud hawliad diswyddo annheg. Gall hawlwyr wneud cais i beidio â thalu ffioedd, ond bydd llawer o bobl angen cymorth i wneud hynny. Bydd llawer o bobl angen cymorth gyda chyflwyno’r hawliad a’i drin. Mae’r ganolfan cyngor ar bopeth wedi bod yn ffynhonnell o gyngor ac arweiniad am ddim ers peth amser, nid yn unig ar faterion cyflogaeth, ond ar faterion eraill—ond rwy’n gwybod cymaint o bwysau sydd ar y gwasanaeth hwnnw. Sut y byddech yn argymell cefnogi’r ganolfan cyngor ar bopeth yng Nghymru?
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ganolfan cyngor ar bopeth mewn gwirionedd drwy ariannu cyngor a chymorth drwy asiantaethau cynghori amrywiol. Wrth gwrs, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau cymorth mewn materion galwedigaethol yw drwy fod yn aelod o undeb llafur mewn gwirionedd, ac wrth gwrs, ymddengys bod Llywodraeth y DU yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn edrych ar ddeddfwriaeth sy’n rhwystro ac yn cyfyngu ar rôl a gweithrediad undebau llafur. Mae’n rhaid i mi ddweud nad yw’r maes gwaith hwn erioed wedi cael ei gydnabod yn briodol gan Lywodraeth y DU na’r Blaid Geidwadol.