– Senedd Cymru ar 24 Mai 2017.
Felly, eitem 10 yw dadl Plaid Cymru ar y cwmni ynni cenedlaethol. Rydw i’n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6318 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru a’r ymrwymiad i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru.
2. Yn nodi papur ymchwil gan Simon Thomas ar gynigion i greu Ynni Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ynni Cymru, a fydd yn cael ei redeg fel cwmni di-ddifidend hyd braich o Lywodraeth Cymru, gan fuddsoddi elw mewn gwella gwasanaethau a phrisiau i gleientiaid.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i greu rhwydwaith o gridiau ynni lleol.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae’n dda gennyf gyflwyno dadl yn enw Plaid Cymru sydd yn cyflwyno ac yn rhoi tystiolaeth y tu ôl i’r syniad o sefydlu cwmni ynni annibynnol yng Nghymru. Wrth ddechrau’r ddadl, hoffwn i dynnu sylw at y ffaith ein bod ni, fel Plaid Cymru, wedi cyhoeddi papur ymchwil ar y mater yma, ac wedi defnyddio arian o gronfa polisi ymchwil a chyfathrebu’r Cynulliad er mwyn cyhoeddi’r papur yma, ac mae’r papur wedi’i ddolennu gyda’r ddadl. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Aelodau o bob plaid yn darllen y papur, i feirniadu neu i gytuno, neu beth bynnag. Mae’n bwysig, rwy’n credu, ein bod ni’n defnyddio adnoddau’r Cynulliad i adeiladu’r dystiolaeth sydd gyda ni y tu ôl i’n dadleuon ni, ac i ledaenu gwybodaeth hefyd. Os oes rhywun eisiau copi caled, fe fyddwn i’n fwy na pharod i baratoi copi caled iddyn nhw.
Mae’n wir i ddweud bod Plaid Cymru yn wastad wedi bod o blaid cwmni ynni annibynnol yng Nghymru, ond mae’r dystiolaeth a’r gefnogaeth i hynny wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Efallai mai’r prif symud yn y maes yma oedd adroddiad y pwyllgor amgylchedd yn y Cynulliad blaenorol a welodd y cyfle ar gyfer cwmni ynni yng Nghymru i wneud llawer i gau’r bwlch ynglŷn â thlodi tanwydd, i fuddsoddi mewn ynni o fathau newydd, yn enwedig ynni adnewyddol a hydrogen yn ogystal, a hefyd y cyfle, efallai, i herio’r system fasnachu bresennol sydd gyda ni yn y maes ynni.
Y tu ôl i’r sefyllfa bresennol y mae’r cwestiwn sylfaenol: a yw’r farchnad ynni presennol yn gweithio o blaid preswylwyr pob dydd, fel petai? A ydy e’n gweithio o blaid busnes? Ac a ydy e’n gweithio o blaid buddsoddi dros gyfnod hir yn y math o ddiwydiant ynni rŷm ni eisiau ei weld yng Nghymru? Mae Plaid Cymru o’r farn mai’r ateb i’r tri chwestiwn yna yw, ‘Na, nid yw’r system bresennol yn gweithio’, a bod angen o leiaf un gweithredydd arall yn y system bresennol i wneud pethau’n fwy bywiog. Mae’r farn yn cael ei rhannu gan y Blaid Lafur—wel, o leiaf Plaid Lafur Corbyn, achos mae’r Blaid Lafur honno wedi gofyn yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin am gwmni ynni annibynnol ym mhob rhanbarth—maen nhw’n defnyddio’r gair ‘rhanbarth’. Nawr, rwy’n meddwl bod Cymru’n rhanbarth i’r Blaid Lafur yna—mae’n genedl i ni, wrth gwrs—ond dyna pam roeddwn i’n synnu, a dweud y gwir, gweld bod y Blaid Lafur yma wedi rhoi gwelliant i’n cynnig ni, yn glastwreiddio’r hyn rŷm ni’n gofyn amdano, ac megis yn tanseilio’r hyn maen nhw’n ei ddweud a’r hyn mae eu plaid nhw’n sefyll arno yn yr etholiad yma. Ond mater iddyn nhw esbonio yw hynny, ac mae’n siŵr y byddan nhw’n gwneud hynny maes o law.
Nid oes dwywaith bod system y farchnad bresennol yn gwneud drwg yng Nghymru. Mae tai gydag incwm isel, wrth gwrs, yn arbennig yn cael eu heffeithio gan brisoedd uchel. Mae hwn yn rhywbeth cyffredin i bob plaid erbyn hyn. Y Blaid Lafur a wnaeth gynnig y cap ar brisoedd ynni dwy flynedd yn ôl, a dilornwyd hynny ar y pryd gan y Blaid Geidwadol. Ond erbyn hyn, y Blaid Geidwadol sy’n cynnig cap ar brisoedd ynni. Ond mae hynny’n rhywbeth sy’n ‘fix’ dros dro; nid yw’n mynd i fynd i’r afael â’r broblem sylfaenol yn y farchnad. Dyna beth rŷm ni’n ei gynnig fan hyn, sef rhywbeth mwy tymor hir a mwy gweithredol yn y farchnad yna.
Yma yng Nghymru, mae 23 y cant o gartrefi’n cael eu hystyried i fod mewn tlodi tanwydd. Mae 3 y cant, sydd yn ganran eithaf isel, ond yn nifer fawr, mewn tlodi ynni difrifol, hynny yw yn talu mwy nag 20 y cant o’u hincwm nhw ar gostau ynni. Mae hynny’n eich rhoi mewn sefyllfa anodd iawn. Beth sy’n ddiddorol yw pan rŷch chi’n cymharu hynny gyda gweddill Prydain, achos dim ond 11 y cant o gartrefi yn Lloegr sy’n cael eu hystyried i fod mewn tlodi tanwydd.
Nawr, yn y gorffennol, ac mae’n bosib heddiw hefyd, bydd rhai yn dadlau bod symud tuag at ynni adnewyddol wedi codi prisoedd ynni, ac felly rŷm ni’n gyfrifol, mewn ffordd, am ddadlau dros system ynni llai dibynnol ar garbon, achos mae hynny yn ei thro yn codi prisoedd i fyny i’r cwsmeriaid mwyaf tlawd yn ein cymdeithas. Ond beth sy’n ddiddorol yw bod prisoedd ynni yng Nghymru yn uwch o lawer na gweddill y Deyrnas Gyfunol, ond rŷm ni’n cynhyrchu llai o ynni adnewyddol na gweddill y Deyrnas Gyfunol. Felly, y canran o drydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddol yng Nghymru ar hyn o bryd yw tua 20 y cant; yn yr Alban mae’n ddwbl hynny, dros 42 y cant; yng Ngogledd Iwerddon mae e’n 26 y cant; a hyd yn oed yn Lloegr mae’n uwch na Chymru, rhyw 2 y cant yn uwch. Felly, nid oes cyswllt amlwg rhwng cynhyrchu ynni adnewyddol a phris yr ynni mae’r cwsmer yn ei dalu amdano. Mae’r farchnad yn llawer mwy cymhleth na hynny. Y ffaith amdani hefyd yw ein bod ni yn cadw problemau at y dyfodol wrth inni gario ymlaen gyda system o ddosbarthu ynni sydd yn hynod ganoledig, sydd ddim wedi ei dosbarthu yn lleol, sydd ddim wedi’i datganoli yn yr ystyr yna, ac sydd ddim felly yn addas ar gyfer y fath o gynhyrchu ynni y byddwn ni’n cael yn fuan iawn, iawn. Un o’r pethau yna yw rhywbeth rŷm ni wedi trafod eisoes gydag Ysgrifennydd y Cabinet, sef y symudiad tuag at gerbydau o bob math yn rhedeg ar drydan, neu yn sicr hydrogen, yn enwedig ar gyfer cludiant.
Y morlyn llanw—rŷm ni’n ei gefnogi yn gryf iawn ac yn siomedig nad yw’n cael ei adlewyrchu ym maniffesto Deyrnas Gyfunol y Blaid Geidwadol, er ei fod ym maniffesto pob plaid arall. Ond mae morlyn llanw hefyd yn gofyn, yn enwedig wrth ddatblygu morlynnoedd llanw yn y gogledd ac ym môr Hafren, am system ddosbarthu fwy lleol lle mae pobl leol yn gweld mwy o fudd o’r buddsoddiad sy’n cael ei wneud mewn ynni adnewyddol. Nawr, er bod mwy yn cael ei ddatganoli i Gymru o ran cydsynio cynlluniau ynni, hyd at 350 MW, mae’n wir i ddweud bod y system gyllidol y tu ôl i ddatblygu ynni o bob math yn mynd i aros yn Llundain. Yn y cyd-destun hwnnw hefyd, mae sefydlu cwmni ynni i Gymru yn mynd i fod, yn ein barn ni, o fudd.
Felly, beth all cwmni o’r fath ei wneud? Wel, yn fras iawn, yn yr adroddiad rŷm ni wedi’i gomisiynu, mae’n edrych ar sut y gall gwmni brynu mewn ‘bulk’, felly prynu ynni ar ran cwsmeriaid yng Nghymru a phasio’r arbedion ymlaen yn y cyd-destun hynny. Rŷm ni’n edrych ar sut fyddai cwmni ynni yn gallu bod yn gerbyd i fod yn rhan o ddarparu rhai o amcanion eraill Llywodraeth Cymru, er enghraifft insiwleiddio, gwella ansawdd tai, effeithlonrwydd ynni ac ati. Rŷm ni’n defnyddio’r cwmni yma fel cerbyd i wneud hynny. Gall y cwmni fod yn rhyw fath o amlen ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddol. Nid wyf yn meddwl ei bod yn cael ei gydnabod yn eang iawn, yn sicr, fod Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi, i fod yn deg, yn helaeth mewn ynni adnewyddadwy. Rydw i’n credu bod gyda nhw fuddsoddiad mewn fferm haul yn Nhrefynwy, yn sir Fynwy yn rhywle—rhai miliynau wedi mynd mewn i hynny. Rŷm ni hefyd yn gweld llawer iawn o gymunedau lleol yn casglu yn lleol i fuddsoddi. Mae menter Awel Aman Tawe yn enghraifft dda iawn o hynny, ac rwy’n eu llongyfarch nhw ar gyrraedd y nod wythnos yma, rydw i’n meddwl, o dros £5 miliwn. Ond pa faint yn well y byddai hi petai cwmni cenedlaethol yn gallu cydlynu’r ymdrechion hyn, ennill gwell bargeinion yn y farchnad, yn y ddinas, fel petai, ar gyfer buddsoddiad, ac yn ei dro, basio ymlaen y ymlaen yn fwy agos at y cwsmer.
Byddai cwmni ynni cenedlaethol hefyd yn gallu arwain ymchwil—[Torri ar draws.]
Indeed. I’ll give way, yes.
I’ch helpu gyda daearyddiaeth Sir Fynwy yn y fan hon, mae yna rai datblygiadau ffermydd solar mawr—un ychydig y tu allan i Lanfable ac un heb fod ymhell o Lancaeo. A fyddech yn cytuno â mi, er cystal yw’r datblygiadau hynny, mae’n bwysig fod y cymunedau lleol yn cael y manteision angenrheidiol o’r datblygiadau hynny? Oherwydd mewn rhai achosion, nid yw’r cymunedau hynny wedi cael eu cynnwys yn llawn ar hyd y daith ac maent wedi teimlo braidd yn ynysig oddi wrth y manteision y dylent eu cael yn gyfreithlon.
Cytunaf â’r pwynt cyffredinol y mae’n ei wneud. Nid wyf yn gwybod a yw’r rheini’n brosiectau y mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi eu cefnogi. Ond rwy’n meddwl mai’r pwynt rwy’n ei wneud yw y byddai seilwaith mwy cenedlaethol yn ffordd o ddarparu’r manteision hynny’n fwy uniongyrchol i’r defnyddwyr lleol. Felly, credaf mai’r pwynt yw ei fod yn rhywbeth sydd wedi peri rhwystredigaeth dros lawer o flynyddoedd i lawer ohonom sydd am weld y datblygiadau hyn yn digwydd, ond maent hefyd yn teimlo’n rhwystredig gyda’r seilwaith cenedlaethol sy’n dal y manteision ar lefel ganolog iawn ac nid yw’n eu darparu, er bod y bobl leol mewn gwirionedd yn gweld y datblygiad hwnnw’n lleol. Rwy’n credu bod dod â’r ddau at ei gilydd yn rhywbeth y gallai cwmni ynni cenedlaethol ei wneud, o bosibl, yn y cyd-destun Cymreig.
If I could just conclude my remarks in opening this debate by saying that I, personally, and from the point of view of Plaid Cymru, would want to see this company being developed either on a co-operative basis or certainly on a basis that could include local councils or regional energy developments. It’s a cause of sadness to me that we have seen more development in England under devolved systems from central Government in England, which have used the Localism Act, for example, to allow the establishment of an energy company in Manchester and an energy company in Nottingham—Robin Hood Energy, which is well known to us. I think we, too, need to take advantage of those opportunities, and I very much hope that the spirit of the motion will be accepted by the Assembly.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl;
b) lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil; ac
c) rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.
2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad cynnar i economi carbon isel.
3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a’r byd academaidd.
4. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru.
Yn ffurfiol.
A gaf fi ddechrau drwy fod yn gwrtais a chanmol menter Plaid Cymru yn defnyddio’r hyblygrwydd newydd yn adnoddau’r Cynulliad i gomisiynu prosiectau ymchwil? Yn gyffredinol, rwy’n meddwl ei fod yn syniad da ac er tegwch, rydych wedi cyflwyno eich syniadau a gallwn gael dadl ardderchog, rwy’n siŵr, ar y cynnig hwn. Felly, rwy’n credu bod angen mwy o hyn, ac rydych yn haeddu ymateb difrifol i’ch awgrym canolog.
O’m rhan ninnau, ni fyddwn yn ei gefnogi am resymau y byddaf yn eu nodi, ond yn sicr rydym yn rhannu’r nod o sicrhau defnydd mwy effeithlon o ynni am brisiau mwy cystadleuol. Yn ein barn ni, gellir cyflawni hyn heb ymyrraeth drom gan y Llywodraeth neu wladoli. Rwy’n nodi mai byrdwn argymhelliad Plaid Cymru yw cael rhyw fath o gwmni cenedlaethol y bydd cymunedau lleol ac awdurdodau lleol yn prynu i mewn iddo, o bosibl. Pe bai rhywbeth yn ymddangos sydd wedi’i ddatblygu’n lleol ac sy’n adlewyrchu rhywbeth fel Glas Cymru, yna mae’n debyg fod hynny’n fwy dichonadwy. Ond rhaid i mi ddweud bod gosod y math hwn o strwythur, gwthio’r fenter a’i gorfodi, yn rhywbeth y byddem yn amheus yn ei gylch.
A wnaiff yr Aelod ildio ar y pwynt hwnnw?
Gwnaf.
Yn fyr, os caf wneud y pwynt, pe bawn yn Geidwadwr byddwn wedi meddwl y byddai cap ar ynni hefyd yn ymyrraeth lawdrom iawn yn y farchnad. [Chwerthin.]
Wel, mae’n dod â mi’n daclus at y pwynt nad yw’n farchnad effeithlon na pherffaith.
O, rydym yn cytuno ar hynny. [Chwerthin.]
Gallaf glywed Aelod UKIP yn mwmian, ‘Nid oes ateb perffaith chwaith’, ac mae’n debyg bod hynny’n crynhoi’r anhawster rydym ynddo.
Ond mae prisiau ynni yn uchel ac maent hefyd yn anodd iawn eu deall pan fyddwch yn cael eich bil ynni. Oni bai eich bod wedi gwneud mathemateg ddwbl ar gyfer Safon Uwch, nid wyf yn meddwl bod gennych obaith, ac efallai y bydd angen i chi fod wedi astudio mathemateg yn y brifysgol hefyd. Ond yn gyffredinol, mae pris ein trydan oddeutu 15 y cant yn uwch na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ac mae hynny’n gwasgu ar bob un ohonom. Mae’n arbennig o ddramatig ac anffodus i’r rhai sy’n wynebu tlodi tanwydd rwy’n credu.
Yn ôl rhai cyfrifiadau, byddai’n ddichonadwy cyflenwi ynni’n effeithiol, ei ddefnyddio’n effeithlon a lleihau’r costau gymaint â 50 y cant. Felly, os yw’r math hwnnw o arbediad yn bosibl, rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y dylem anelu tuag ato’n bendant iawn, gydag effeithlonrwydd, wrth gwrs, yn allweddol i hynny. Os ydym i gyd yn defnyddio mwy o ynni wrth iddo ddod yn rhatach, nid yw’n mynd â ni i unman mewn gwirionedd.
Rwy’n credu ein bod yn ymrwymo i’r egwyddor fod mwy o gynhyrchu lleol yn bwysig a’r defnydd o fodelau eraill, modelau arloesol, fel cwmnïau cydweithredol. Rwy’n credu bod llawer ohonom wedi ymweld â rhai o’r cynlluniau hyn ac yn ystyried eu bod yn nodedig ac yn ysbrydoli’n fawr. Mae yna rai anfanteision. Mae angen deiet cytbwys o ddarparwyr yma mewn gwirionedd. Mae angen cydnerthedd ac nid ydych bob amser yn cael hynny mewn prosiectau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned leol. Hefyd, rydym yn dal i fod angen strategaeth ehangach, a chredaf fod hwnnw’n fater pwysig iawn i’w gadw mewn cof.
A gaf fi ddweud, er bod gennym rai amheuon ynglŷn â dull Plaid Cymru, rydym yn falch o’u nodi ac yn croesawu hyn fel rhan o drafodaeth iach? Efallai y bydd Plaid Cymru yn cael cysur yn hyn, ond mewn gwirionedd rydym yn ystyried bod gwelliant y Llywodraeth yn gywir at ei gilydd o ran ei ddull o fynd ati, er nad yw hynny’n golygu fy mod yn canmol yn llawn holl ddulliau presennol y Llywodraeth o weithredu ar ynni, a byddem yn eu hannog yn gryf i edrych ar rai o’r materion strwythurol mwy hirdymor sy’n cyfyngu ar dwf a datblygiad yng nghanolbarth a gogledd Cymru, o ran y grid a’r mynediad iddo, a sut y mae prosiectau hydro ar raddfa lai, yn arbennig, yn cysylltu ag ef. Ond a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod angen polisi sy’n seiliedig ar ddefnydd a dull dosbarthu trydan sy’n gynyddol effeithlon? Mae angen inni leihau’r defnydd o danwydd ffosil. Credaf fod hynny’n bwysig iawn a chyfeiriwyd at geir trydan, ond wrth gwrs nid yw hynny wedyn ond yn eich gwahodd i feddwl ynglŷn â sut rydych yn mynd i gynhyrchu’r trydan yn y ffynhonnell, ac nid ydym eisiau dibynnu ar danwydd ffosil, a’n nod yw economi carbon isel, ac mae digon o le hefyd ar gyfer prosiectau cymunedol arloesol. Unwaith eto, fe orffennaf drwy ganmol Plaid Cymru am—rwy’n credu mai dyma’r ddadl gyntaf ar adroddiad a gomisiynwyd gan blaid wleidyddol gan ddefnyddio’r adnoddau newydd, felly o leiaf, ar hynny, gallaf ddweud ‘da iawn’.
Os ydym ni o ddifri, wrth gwrs, am fynd i’r afael â newid hinsawdd fel un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, yna mae’n rhaid i ni, yn y lle cyntaf, leihau ein defnydd o ynni—dyna’r man cychwyn bob tro, pan mae’n dod i bolisi ynni—ond wedyn cynyddu, wrth gwrs, y gyfran o ynni sy’n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Nod Plaid Cymru, er mwyn ein galluogi ni i dorri allyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050, a 40 y cant erbyn 2020, yw cynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac mi fyddai gan Ynni Cymru, wrth gwrs, ran hanfodol i’w chwarae i gyflawni’r nod hwnnw.
Fel rydym ni wedi clywed, yn y Cynulliad diwethaf, mi gynhyrchodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd adroddiad o’r enw ‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’, ac mi gafodd gefnogaeth drawsbleidiol, a’r hyn yr oedd e, wrth gwrs, mewn gwirionedd, oedd ‘blueprint’ ar sut i symud yr agenda yma ymlaen. Mae’n awgrymu ffyrdd o wireddu’r potensial economaidd sy’n dod, wrth gwrs, o ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ni yn gyfrifol ac yn gynaliadwy, a chreu swyddi a chyfoeth i bobl Cymru yn sgil hynny. Mae e’n caniatáu i ni i fynd i’r afael â thaclo tlodi tanwydd, yn amlwg taclo newid hinsawdd, a hefyd, wrth gwrs, yn ymbweru cymunedau lleol i fod yn llawer mwy rhagweithiol ac yn fwy ‘engaged’ wrth bennu eu dyfodol ynni nhw eu hunain. Ac nid oes angen i Gymru aros i gael rhagor o bwerau chwaith, o San Steffan, cyn cyflawni llawer iawn o’r hyn sydd yn y weledigaeth a wnaeth y pwyllgor ei hamlinellu. Mi allem ni ddechrau ar lawer o’r gwaith yma nawr, ac yn wir mi ddylai llawer mwy o’r gwaith fod wedi’i gychwyn ers dros flwyddyn.
Un o argymhellion y pwyllgor, wrth gwrs, yn yr adroddiad hwnnw, yw mynd ati i greu cwmni gwasanaeth ynni ymbarél dielw. Fe glywom ni fod awdurdodau lleol ar draws Lloegr wedi sefydlu cwmnïau o’r fath. Rydym ni’n gwybod am enghreifftiau ym Mryste ac yn Nottingham, ac wrth gwrs, rydym ni’n gallu defnyddio hynny hefyd i dargedu ac i daclo’r tlodi tanwydd. Rydym ni’n gwybod, yn Nottingham, fod cwmni Robin Hood Energy yn cynnig tariff arbennig ar gyfer trigolion dinas Nottingham yn unig, ond hefyd oddi fewn i hynny, maen nhw’n gallu gosod cyfraddau is mewn ardaloedd penodol lle mae yna lawer o dlodi tanwydd.
Nid yw hynny i ddweud nad oes dim yn digwydd yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr am y rhwydweithiau gwres lleol yn fanna. Mae cyngor Wrecsam, hefyd, wedi gwneud llawer o safbwynt ynni solar. Ond fe ddylai hyn fod yn norm, nid yn enghreifftiau sydd yn eithriadau yn aml iawn. A byddai creu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru yn gyfle i ni fynd at wraidd rhai o’r materion yma o dlodi tanwydd, i fuddsoddi mewn seilwaith, bargeinio ar y cyd, creu ynni, cryfhau ymchwil a datblygu yn y maes ynni, a thrwy hynny, wrth gwrs, wedyn, creu’r cyfleoedd masnachol yna a fydd yn dod â lles ehangach i bobl Cymru, heb sôn am y manteision amgylcheddol.
Mae lleihau y galw am ynni, wrth gwrs, yn ffordd bwysig iawn, neu’n rhan allweddol o’r broses yna o drosglwyddo i ddyfodol ynni craffach, ac rydym yn gwybod bod aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario tua 80 y cant o’u costau ynni ar wresogi ystafelloedd a chynhesu dŵr yn y cartref. Mae angen inni, felly, sicrhau bod cartrefi mor effeithlon ag sydd yn bosib o ran ynni. Rydym yn gwybod bod yna gynlluniau fel Arbed a Nyth yn gwneud eu cyfraniad, ond fel yr wyf wedi ei ddweud dro ar ôl tro, nid ydyn nhw’n agos at fod yn ddigon o gyfraniad i ymateb i faint yr her sydd yn ein wynebu ni a’r lefel o fuddsoddiad sydd ei hangen mewn gwirionedd, pan mae’n dod i’r agenda yna. Ond, yn sicr, byddwn i’n teimlo bod gan Ynni Cymru, hefyd, rôl yn y maes yna o safbwynt annog ac addysgu pobl ynglŷn â sut mae mynd ati i daclo yr agenda yma.
So, mae angen inni symud i ffwrdd—ac rwyf wedi dweud hyn yn flaenorol hefyd, ond ni allaf ategu’r pwynt yn ddigonol. Mae’n rhaid inni symud i ffwrdd o’r model ‘hub and spoke’ yma o gynhyrchu ynni, lle mae ynni yn cael ei gynhyrchu mewn pwerdai mawr canolog ac yn cael ei drosglwyddo yn aneffeithlon mewn modd costus ar hyd grid hynafol, sydd yn gwegian yn aml iawn. Mae angen inni symud i fodel o grid sydd yn fwy o we pry cop—grid clyfrach, gyda’r ynni yn cael ei gynhyrchu yn nes at y lle y mae’n cael ei ddefnyddio. Mi fyddai Ynni Cymru, yn sicr, yn gallu bod yn rhan o’r trawsnewidiad yna. Byddai hefyd yn gallu edrych ar systemau storio ynni yn y cartref ac ar lefel ddinesig—[Torri ar draws.] Wel, 10 eiliad sydd ar ôl gen i, yn anffodus. Mae hefyd angen edrych ar y gyfundrefn gynllunio, ac mae adroddiad y pwyllgor wedi gwneud hynny. Fy nghri i yw: mae’r templed—y ‘blueprint’—yn ei le; yr hyn sydd ei eisiau nawr yw’r ewyllys gwleidyddol i yrru’r agenda yma yn ei blaen.
Wel, rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan yn y ddadl hon ac rwyf wedi darllen gyda diddordeb y papur a gynhyrchwyd gan Simon Thomas, ond rwy’n cael peth anhawster i ddeall sut y gallai cwmni o’r fath, yn ymarferol, wneud unrhyw wahaniaeth materol i’r ddarpariaeth ynni yng Nghymru os nad oes ganddo fynediad at gyfalaf o farchnadoedd preifat. Rwy’n cymryd nad ydym yn ystyried sefydlu cwmni ynni wedi’i wladoli. Wrth gwrs, mae rôl i fentrau cydweithredol ac yn y blaen, ond nid yw hynny’n debygol o wneud mwy na gwahaniaeth ymylol i gyflwr presennol y farchnad. Nid wyf yn gwrthwynebu hyn mewn egwyddor, ond rwy’n gweld anawsterau ymarferol penodol o ran ei greu i wneud gwahaniaeth.
Rwy’n cael peth anhawster gyda rhai o’r honiadau a wneir yng nghyd-destun y papur sy’n sail i’r cynnig, a dof atynt mewn munud. Ond, hynny yw, y cefndir i hyn oll yw Deddf Newid yn yr Hinsawdd, ac mae hyn yn cael ei wneud yn glir yn y rhagair i’r ddogfen. Mae gennym ddyletswydd i leihau ein hallyriadau carbon 80 y cant erbyn 2050. Mae angen i ni fod yn gwbl glir na ellir gwneud hyn heb osod costau anferthol ar gartrefi a busnesau yng Nghymru. Fel y clywsom yn y ddadl ddiwethaf, o gofio bod gennym rai o’r rhannau tlotaf nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond yng ngorllewin Ewrop hefyd, mae hwnnw’n faich sylweddol sy’n rhaid ei ystyried.
Roedd costau Deddf Newid yn yr Hinsawdd wedi’u dosbarthu ymhlith y boblogaeth yn 2014 yn £5 biliwn y flwyddyn. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein biliau trydan, yn ogystal â rhannau o gostau darparu pŵer ar ein cyfer, sy’n cael eu talu gan gwmnïau ac yn bwydo i mewn i’r biliau ynni mewn ffyrdd eraill yn ogystal—cyfuniad, felly, o drethi gwyrdd uniongyrchol ar y naill law a chynnydd yn y costau cynhyrchu ar y llaw arall. Bydd y ffigur o £5 biliwn yn 2014 yn codi i £14 biliwn y flwyddyn yn 2020. Gadewch i ni roi’r ffigurau hyn mewn persbectif go iawn. Beth y mae’n ei olygu ar gyfer aelwydydd cyffredin? Yn 2020, bydd yr aelwyd gyfartalog yn y Deyrnas Unedig yn talu £584 y flwyddyn am y rhwymedigaethau a gawsom o dan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd. Yn 2030, bydd y ffigur wedi codi i £875 y flwyddyn. Erbyn 2050, bydd pobl yn talu £1,390 y flwyddyn yn ychwanegol yn eu biliau trydan. Mae’r rheini ym mhrisiau cyson heddiw. Felly, yn y 16 mlynedd rhwng 2014 a 2030, bydd y cartref cyffredin yng Nghymru yn talu £11,000 ychwanegol o gostau trydan. Nid yw hwnnw’n swm ansylweddol ac wrth gwrs, po bellaf i lawr y raddfa incwm yr ewch chi, y mwyaf yw’r baich a deimlir. Felly, mae’n rhaid inni fod yn eithaf clir fod yr hyn a wnawn yn werth chweil er budd y cyhoedd yn y pen draw. Nid wyf yn credu bod hynny’n wir.
Dywedir yn y cyfiawnhad dros y newid hwn fod yna restr o heriau yn wynebu’r cyflenwad ynni yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, mae’n cyfeirio at ragor o ddigwyddiadau tywydd ansefydlog oherwydd newid yn yr hinsawdd. Nid wyf yn gwybod am unrhyw dystiolaeth o gwbl i gyfiawnhau’r honiad hwnnw. Yn wir, mae’r dystiolaeth yn hollol i’r gwrthwyneb. Beth a welwn mewn patrymau tywydd byd-eang sy’n wahanol o gwbl i unrhyw adeg yn y 100 mlynedd diwethaf? Wrth gwrs, nid oes setiau data ar gael y tu hwnt i hynny, felly ni allwn gymharu tebyg at ei debyg am gyfnod hir iawn. Felly, rydym yn gwneud rhagdybiaethau dramatig ar sail data annigonol, ac yn seiliedig arnynt, rydym yn gosod beichiau go iawn ar bobl go iawn. Nid wyf yn credu, fel deddfwyr, fod honno’n ffordd gyfrifol i ni ymddwyn.
Os edrychwn yn unig ar gorwyntoedd, er enghraifft, ar ôl Corwynt Katrina yn 2005, fe ddywedodd y rhai sy’n codi bwganod am hinsawdd yn y byd, wyddoch chi, fod diwedd y byd gerllaw a bod pawb ohonom wedi symud i gyfnod o fwy o ansefydlogrwydd a oedd yn mynd i osod costau enfawr ar y byd. Wel, tystiolaeth data’r Weinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig Genedlaethol, sy’n mynd yn ôl i 1851, yw nad oes unrhyw gorwynt mawr categori 3 neu uwch wedi cyrraedd cyfandir yr Unol Daleithiau ers Wilma ym mis Hydref 2005. Felly, dyna’r saib hiraf a gofnodwyd erioed, ac mae’r Weinyddiaeth yn dweud:
Mae’n rhy gynnar i ddod i’r casgliad fod gweithgareddau pobl—yn arbennig allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n achosi cynhesu byd-eang—eisoes wedi cael effaith ganfyddadwy ar weithgaredd corwyntoedd yr Iwerydd.
Ym mwletin Cymdeithas Feteorolegol America yn 2015, roedd yna erthygl ddiddorol iawn ar ddeall tueddiadau stormydd eithafol a chyflwr gwybodaeth. Nodai:
Nad oedd tuedd sylweddol yn nifer y corwyntoedd sy’n taro’r Unol Daleithiau ers 1900; ymddengys bod y cynnydd ers 1970 yn amrywiad naturiol.
Mae’r amrywiad yn digwydd o fewn blynyddoedd ac o fewn degawdau, ond nid dros holl gyfnod cyfan y setiau data. Mae’r un profiad i’w weld ar gyfer tornados, sychder, a phob math o dywydd naturiol arall.
Prin y gallaf ddechrau dadlau’r pwynt hwn mewn pum munud wrth gwrs. Ond y cyfan yr hoffwn ei ddweud i gloi yn y ddadl hon yw nad oes sail wyddonol y gallwn ddibynnu arni’n ddiamwys i gyfiawnhau’r costau enfawr yr ydym ni fel deddfwyr yn eu gosod yn fwriadol ar bobl gyffredin ac agored i niwed.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch i chi, Llywydd. Mae’n bleser gennyf ymateb i’r ddadl hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei huchelgais i ddarparu system ynni carbon isel ar gyfer Cymru. Wrth wneud hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru yn sgil y newid hwn ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y gwaith a wnaed ar ddatblygu model Ynni Cymru.
Yn sicr, wrth ddarllen yr adroddiad, rwy’n credu ei bod yn glir iawn fod yr adroddiad yn nodi blaenoriaethau strategol tebyg iawn i’r rhai a nodais yn fy natganiad ynni ym mis Rhagfyr: defnyddio ynni’n fwy effeithlon, symud at gynhyrchiant carbon isel, ac ennill budd economaidd o’r technolegau a’r modelau busnes newydd sy’n dod i’r amlwg o’r newid.
Mae’r rhan fwyaf o’r mathau o weithgareddau a argymhellir yma eisoes yn cael eu datblygu gan raglenni cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth Ynni Lleol, a’r cynnig cymorth i’r sector cyhoeddus. Rydym yn parhau i nodi ffynonellau cyllid cyfalaf y gellir eu defnyddio i gefnogi datblygiad prosiectau effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy ar draws pob sector. Rwy’n credu ein bod wedi cael cryn dipyn o effaith gyda’n rhaglenni effeithlonrwydd ynni hyd yma ac rydym yn awyddus i barhau i fynd i’r afael â her effeithlonrwydd ynni a nodi camau gweithredu i’w cymryd.
Rwy’n credu mai trafodaeth gychwynnol rhwng Simon Thomas a minnau a roddodd gychwyn ar y sgwrs hon i raddau, ynglŷn â chael cwmni dielw. Cefais gyfarfod cychwynnol gyda Simon Thomas ac yna cynhaliodd Llywodraeth Cymru dri digwyddiad ar draws Cymru ym mis Mawrth i gasglu tystiolaeth a safbwyntiau ynglŷn â’r potensial i gael cwmni gwasanaethau ynni ar gyfer Cymru, a siaradodd Simon yn y digwyddiad yn Aberystwyth. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn i weld bod y dyheadau y siaradoch amdanynt heddiw, Simon, wedi’u nodi’n glir yn yr adroddiad yr ydym yn ei ystyried heddiw.
Argymhellodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf y dylid sefydlu cwmni ynni ac roedd ei adroddiad yn cydnabod y risgiau a’r heriau o fynd i mewn i’r hyn sy’n awr yn farchnad gystadleuol iawn, gyda dros 50 o ddarparwyr. Yn sicr, yr adborth a gawsom o’r tri chyfarfod yw ei bod yn heriol iawn ar hyn o bryd i werthu ynni rhad sydd hefyd yn garbon isel oni bai eich bod yn berchen ar y cynhyrchiant. Mae elw, felly, yn ansicr. Fel y dywedodd un cyfranogwr wrthym mewn digwyddiad, mae’r sector cyflenwi yn ymwneud â niferoedd cwsmeriaid uchel ac elw bach iawn.
Yr adborth a gawsom oedd mai teimlad pobl oedd bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â diben cwmni ynni. Mae perygl y gallai cwmni ynni dynnu sylw oddi ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd, sef y gwaith rydym eisoes yn ei wneud yn hybu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu adnewyddadwy a seilwaith er mwyn galluogi’r newid i system ynni clyfar wedi’i datgarboneiddio yng Nghymru.
Mae angen i ni edrych ar fanteision a risgiau cwmni o’r fath. Rhaid i ni hefyd fod yn glir ynglŷn â phwrpas cwmni—gallai fynd i’r afael â phrisiau ynni, gallai fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag ymddiriedaeth mewn darparwyr, neu gallai helpu i ddarparu marchnad ar gyfer cynhyrchwyr yng Nghymru, ond mae’n annhebygol y byddai unrhyw fodel unigol yn gallu mynd i’r afael â’r holl faterion.
Felly, mae’n dda gallu gweithio gyda phobl sydd â diddordeb yn y syniad hwn i ddeall pa weithgaredd sydd eisoes ar y gweill ac egluro sut y gall Llywodraeth Cymru ychwanegu gwerth yn y ffordd orau yn y maes hwn. Rydym hefyd yn ymwybodol o nifer o sefydliadau yng Nghymru sydd eisoes yn ystyried neu’n gweithredu, yn erbyn cefndir lle mae nifer y cwmnïau ynni yn cynyddu’n gyflym. Fel y dywedais, ceir 50 o ddarparwyr eisoes sydd â thrwydded gyflenwi, a rhai ohonynt â chanlyniadau cymdeithasol yn ganolog iddynt, ac yn cynnig mwy o ddewis. Fodd bynnag, rydym wedi gweld methiant GB Energy, a chredaf fod hynny’n dangos ei bod yn anodd cystadlu mewn marchnad sy’n gynyddol orlawn.
Cawsom rywfaint o adborth hefyd o’r digwyddiadau am y ffaith fod angen i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu amgylchedd polisi cefnogol a chydlynu gweithgaredd ar draws Cymru i alluogi prosiectau i gael eu cyflwyno er lles Cymru. Adborth arall oedd bod pobl yn teimlo mai gwaith y Llywodraeth yw gweithredu fel llais gonest a dibynadwy dros siarad gwerthu cyflenwyr ynni sy’n cystadlu, gan edrych ar y materion strategol a rheoleiddiol. Rydym eisoes yn gwneud hyn—rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Ofgem, gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu, y Grid Cenedlaethol a Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn cyflawni ein blaenoriaeth i ddarparu system ynni sy’n galluogi’r newid carbon isel yng Nghymru. Ni fyddai corff hyd braich heb rym y Llywodraeth i gynnull yn gallu gwneud hyn.
Rydym yn canolbwyntio adnoddau’r Llywodraeth ar nodi a mynd i’r afael â’r bylchau yn y farchnad, gan gysylltu gweithgareddau a chefnogi datblygiadau na fydd yn digwydd yn naturiol. Felly, dyma’n union a wnawn drwy gefnogi prosiectau fel Ynni Lleol ym Methesda, sy’n treialu gwerthu trydan yn lleol, ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â hwy’n fuan iawn. Rwy’n credu y bydd hynny’n ein helpu i ddeall sut y mae angen i reoleiddio newid er mwyn helpu hyn i ddigwydd yn ehangach.
Rydym eisoes wedi nodi gwres fel maes allweddol, ac wedi bod yn gweithio gyda Phen-y-bont ar Ogwr i ganfod dulliau newydd o ddarparu gwres carbon isel. Rydym bellach yn casglu tystiolaeth i lywio datblygiad y gwasanaethau cymorth a ddarparwn i gyrff cyhoeddus a grwpiau ynni lleol yng Nghymru. Mae’r gwasanaethau hyn eisoes wedi cael budd lleol o ddarparu prosiectau ynni ar draws Cymru, a byddant yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hymagwedd tuag at greu’r amgylchedd cywir ar gyfer y newid carbon isel yng Nghymru.
Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at gyhoeddi ein hadroddiad o’r digwyddiadau diweddar hynny, ynghyd â’n safbwynt ar y cynnig. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda Simon Thomas, ac unrhyw Aelodau etholedig eraill sy’n cefnogi ein gweledigaeth, i nodi sut i barhau i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn y ffyrdd mwyaf arloesol er mwyn cyflawni ein nodau ynni.
Galwaf ar Simon Thomas i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Rwy’n meddwl, os gallwn geisio dod o hyd i o leiaf un peth y mae pawb ohonom yn gytûn yn ei gylch, sef ei bod yn farchnad amherffaith ac nad yw’n cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd y byddech yn disgwyl i farchnad dda ei wneud—dyna pam y mae angen rheoleiddio trwm o’r fath. Rwy’n meddwl y gallwn brofi hynny drwy ofyn i’r Aelodau godi eu dwylo os ydynt yn dal gyda’r cwmni ynni gwreiddiol roeddent gydag ef cyn preifateiddio, ac rwy’n credu y byddai cryn dipyn sydd eisoes yn dynodi ychydig bach eu bod, yn wir, yn dal gyda’r cwmnïau gwreiddiol hynny—Swalec neu Nwy Prydain neu bwy bynnag y bônt. Rwy’n meddwl bod hynny ond yn dangos bod y farchnad yn anodd iawn i’r defnyddiwr cyffredin ymrafael ynddi. Dyna pam y mae angen hyrwyddwyr defnyddwyr arnom, a gallai fod yn rheoleiddiwr neu gallai fod yn gwmni a sefydlwyd i ymyrryd mewn ffordd arbennig.
Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei digwyddiadau ymgynghori, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o fanylion yn deillio ohonynt—yn sicr, pleser oedd mynychu’r un yn Aberystwyth, ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod brwdfrydedd yn y digwyddiad ynglŷn â datblygiad fel hwn, er fy mod yn derbyn y bydd diben a ffocws yn bwysig iawn. Beth fyddai’r prif bwrpas neu ffocws? Mae yna amrywiaeth eang o bethau y gallai cwmni ynni fod. Gallai fod yn dlodi tanwydd, gallai fod yn ynni adnewyddadwy, gallai fod yn fuddsoddiad, ac mae’n rhaid iddo arbenigo—wel, nid arbenigo; mae’n rhaid iddo arwain ar rai o’r rhain i fod yn effeithiol mewn gwirionedd. Mae hwnnw’n benderfyniad yr hoffwn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn ei gylch, ond nid un sy’n dweud yn syml, ‘Wel, gadewch inni barhau fel yr ydym’, oherwydd credaf fod cymaint o’i le ar y farchnad ar hyn o bryd fel y byddem yn gwneud cam â phobl Cymru os na fydd gennym ymyrraeth fwy sylweddol.
Disgrifiodd Llyr Gruffydd y senario ddelfrydol fel ymagwedd sy’n fwy o we pry cop tuag at gynnal neu ddal y pryfed neu beth bynnag y bo, ond sy’n cynnal ein hynni. Hoffwn feddwl y byddai cwmni ynni Cymru ond yn un edau—ni fyddai’n we pry cop cyfan, ond byddai’n brif edau a fyddai’n dal y we gyda’i gilydd, a’r un mwyaf gludiog, wrth gwrs; mae hynny’n bwysig iawn.
Clywsom—rwy’n meddwl bod rhan sylweddol o ddadl Neil Hamilton yn ymwneud â chostau a buddsoddi. Credaf ei bod yn bwysig nodi bod y cynnig sydd gennym—a dogfen drafod yn unig ydyw, ond un o’r cynigion yn y ddogfen yw y gallech sefydlu cwmni o’r fath, ond y byddem am i Lywodraeth Cymru gadw cyfran reoli. Ond nid oes rheswm pam na all marchnadoedd preifat fod yn rhan o hyn. Ond rwy’n credu mai camgymeriad sylfaenol yw ceisio dadlau nad yw’r byd yn newid. Mae Tsieina’n buddsoddi £300 biliwn mewn ynni adnewyddadwy erbyn 2020. Mae gan India darged i gael 60 y cant o ynni adnewyddadwy erbyn 2027. Rydym yn hen ffasiwn yn hyn o beth mewn gwirionedd; yr economïau newydd sy’n symud ymlaen.
Ac mae’n deg dweud, wrth gwrs, fod yna drethi carbon, os ydych am eu galw’n hynny, ond mae £6 biliwn y flwyddyn o gymhorthdal yn mynd i mewn i’r diwydiant tanwydd ffosil presennol—£6 biliwn; ddwywaith yr hyn sy’n mynd tuag at ynni adnewyddadwy—ddwywaith hynny—a hynny’n bennaf ar ffurf gostyngiadau treth ar gyfer olew a nwy Môr y Gogledd, wrth gwrs. Mae yna hefyd gymorthdaliadau sylweddol drwy’r pris streic i niwclear, ac rwy’n credu y byddem yn esgeulus pe na baem yn cydnabod bod yna gymhorthdal parhaus i’r ffordd rydym yn byw heddiw, ac nad yw’r galw am gymorthdaliadau newydd ar gyfer newid er mwyn goresgyn heriau’r dyfodol yn afresymol yn y cyd-destun hwnnw. Rwy’n credu—er nad wyf yn meddwl y byddai Neil Hamilton yn cytuno â hyn, ac rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd David Melding—fod rhaid i ni leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Mae hynny’n dda i ni yn amgylcheddol, ond mae’n dda i ni fel cenedl yn ogystal gan ei fod yn ein gwneud yn fwy dibynnol—hunanddibynnol, dylwn ddweud. Mae gennym yr ynni yma, gyda’n harfordir a’n mynyddoedd a’n hafonydd, i fod yn fwy hunanddibynnol o ran ynni. Pwy na fyddai am ddod yn fwy hunanddibynnol o ran ynni?
A yw’n cytuno bod cyfran sylweddol o’r cymorthdaliadau i danwydd ffosil ar hyn o bryd mewn perthynas â datgomisiynu ym Môr y Gogledd ac mae’n debyg y byddai hynny’n rhywbeth y mae am ei weld yn lle bod y seilwaith olew yn cael ei adael yno?
Wel, mae’n gymysgedd, i fod yn onest gyda chi; mae peth ohono’n hynny, ond nid yw hynny ond yn barhad o’r manteision treth blaenorol a oedd ar gyfer fforio. Felly, ei droi’r ffordd arall rownd a wnaethant.
Roeddwn eisiau gorffen ar hynny, mewn gwirionedd, a diolch i’r Aelodau am o leiaf gydnabod bod y ddadl hon wedi deillio, nid yn unig o bolisi Plaid Cymru, ond gan ddefnyddio adnoddau’r Cynulliad hefyd, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn gweld mwy o ddadleuon fel hyn. Rwy’n annog yr Aelodau i ddefnyddio’u cronfeydd ar gyfer datblygu polisi yn y ffordd hon; roeddwn yn ofalus iawn yno, Llywydd, fy mod yn dweud yr hyn roeddwn yn bwriadu ei ddweud—ar gyfer datblygu polisi yn y ffordd hon. Cyflwynwch fwy o ddadleuon yn y ffordd hon os gwelwch yn dda. Mae’r adnoddau yno i’n cefnogi fel Aelodau’r Cynulliad. Mae’n golygu y gallwn feddwl y tu allan i’r bocs o bryd i’w gilydd hefyd. Rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth a fydd yn datblygu’n naturiol ac yn organig yng Nghymru; byddwn yn gweld cwmnïau ynni lleol yn datblygu dros gyfnod o amser. Hoffwn ein gweld yn dangos mwy o arweiniad cenedlaethol ar y mater.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yna tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r pleidleisio.