– Senedd Cymru am 2:34 pm ar 6 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf felly ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), ac rwy’n galw ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i wneud y cynnig. Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau agoriadol ar rai o'r themâu a phwrpas y ddeddfwriaeth, ac yna defnyddio gweddill fy amser i ymateb i Aelodau, ac i bwyntiau y mae Aelodau’n dymuno eu codi, yn fy sylwadau i gloi.
Rwy'n credu yr hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma â phwyslais clir iawn ar bwynt a phwrpas y ddeddfwriaeth hon. Pwrpas y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau bod y profiad dysgu cyfoethocaf posibl ar gael i bob dysgwr yng Nghymru. Nid yw'n iawn, ac nid yw'n dderbyniol, nad yw pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth a’r gefnogaeth a'r strwythurau a'r amgylchedd a'r gallu i wneud cynnydd yn eu dysgu, ac i gyrraedd a chyflawni eu holl botensial. Mae'r ddeddfwriaeth hon wedi ei chynllunio a’i datblygu ar gyfer gwneud hynny.
Mae wedi ei datblygu dros nifer o flynyddoedd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i fy rhagflaenydd yn y swydd hon ac i eraill, mewn pwyllgorau ac mewn mannau eraill, am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud wrth gynhyrchu'r Bil sydd gennym o'n blaenau heddiw. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am gyfraniadau gan y gwrthbleidiau. Rwyf wedi dweud mewn sylwadau blaenorol am y ddeddfwriaeth hon fy mod yn gobeithio creu consensws a’i alluogi i ddatblygu o gwmpas a thrwy gydol y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau o bob ochr i'r Siambr am y ffordd y maen nhw wedi cynnal y ddadl, a chraffu ar ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r Aelodau am y croeso eang iawn y mae’r Bil, a'r ddeddfwriaeth, wedi’i gael ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad, fodd bynnag, drwy ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r tri phwyllgor sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith craffu ar y Bil hwn, am eu gwaith dros y chwe mis diwethaf. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu hymagwedd gynhwysfawr a chynhwysol tuag at y Bil hwn. A hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r nifer o randdeiliaid a phartneriaid sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r gwaith hwn, ac sy'n parhau i weithio gyda ni i weddnewid addysg ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ac er mwyn pwysleisio—a hoffwn bwysleisio eto yn y ddadl hon—mai’r hyn sy'n bwysig am y broses hon yw'r rhaglen weddnewidiol y mae’r Bil hwn yn rhan ohoni. Yn aml iawn, pan fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yn y lle hwn, mae'n ddarn penodol o ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â mater penodol. Ond, mae'r Bil hwn yn rhan o raglen weddnewid ehangach, ac rwy’n meddwl drwy gydol ein sgyrsiau, drwy gydol ein dadleuon, a thrwy gydol ein trafodaethau, yr hoffwn bwysleisio ei bod yn rhaglen weddnewidiol ehangach: y buddsoddiad yn y system, y buddsoddiad mewn pobl, y buddsoddiad yn yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni a fydd yn creu’r modd i’r Bil, y ddeddfwriaeth a'r strwythurau y bydd yn eu creu, lwyddo.
Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno bod hwn yn ddarn hanfodol o ddiwygio, a bod ganddo'r potensial i gefnogi degau o filoedd o blant a phobl ifanc pan fydd ar waith. Bydd y Bil yn disodli'r system bresennol ar gyfer anghenion addysgol arbennig, ac yn sefydlu system gwbl newydd o gymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, hyd at 25 oed. Bydd gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael cynllun datblygu unigol sy'n nodi'r gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt i’w helpu i ddysgu. Bydd y system anghenion dysgu ychwanegol newydd yn seiliedig ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ddatrys anghydfodau’n gynnar. Bydd gan blant, eu rhieni a phobl ifanc i gyd hawl i apelio i'r tribiwnlys addysg.
Mae'r Bil yn creu swyddogaeth newydd cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, a’r swydd newydd swyddog arweiniol dynodedig mewn byrddau iechyd, er mwyn gwella darpariaeth cymorth a chydgysylltu rhwng iechyd, addysg ac awdurdodau lleol. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu edrych tuag at rai o'r materion sydd wedi codi yn ystod craffu Cyfnod 1. Mae nifer o themâu wedi dod i'r amlwg. Gwnaf rai sylwadau am bob un o'r rheini, ond rwyf hefyd yn mynd i ddweud ar ddechrau'r ddadl hon ei bod yn fwriad gennyf i geisio derbyn mwyafrif helaeth argymhellion pob un o’r tri phwyllgor sydd wedi adrodd ar y Bil hwn.
Un maes sydd wedi cael pwyslais sylweddol yw anghenion gofal iechyd. Mae gan blant a phobl ifanc sydd â chyflwr meddygol sy'n cyfrannu at angen dysgu ychwanegol hawl i gael darpariaeth ychwanegol i ddysgwyr o dan y system newydd. Bu rhywfaint o drafodaeth ynglŷn ag ymestyn y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol i gynnwys pob cyflwr meddygol, gan gynnwys, er enghraifft, asthma neu alergedd i bysgnau, pa un a ydynt yn effeithio ar allu plentyn i ddysgu ai peidio. Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau statudol i ysgolion ar gyfer plant ag anghenion gofal iechyd hirdymor a thymor byr. Mae hyn wedi ei groesawu gan lawer o randdeiliaid, ac edrychaf ymlaen at weld ymateb i’r canllawiau statudol hynny wrth iddynt ymwreiddio, ac wrth iddynt gael eu cyflwyno gan ymarferwyr. Rwy'n fodlon, mewn egwyddor, i ystyried rhinweddau newid y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol, er mwyn dangos ei gwmpas o ran cyflyrau meddygol. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn destun cryn drafodaeth ac rwyf wedi dweud mewn sgyrsiau preifat fy mod yn barod i ystyried rhinweddau gwelliant. Hoffwn roi hynny ar y cofnod hefyd a hoffwn wahodd Aelodau ar bob ochr o'r Siambr i gyfrannu at sgwrs lle’r wyf yn gobeithio y gallwn ddod i gytundeb ar eiriad gwelliant o'r fath.
Bu rhywfaint o sgwrs hefyd am swyddogaeth a darpariaeth bosibl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelodau nad wyf wedi fy argyhoeddi gan y dadleuon a gyflwynwyd yn ystod craffu Cyfnod 1 ar y mater hwn. Mae'r Bil yn seiliedig ar hawliau plant. Mae'n seiliedig ar hawl plentyn i gael addysg, sicrhau bod addysg ar gael i rai sydd ag anghenion gwahanol ac nid yn unig bod gan blant a phobl ifanc lais, ond eu bod yn ganolog iawn yn y broses i asesu a diwallu eu hanghenion. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod holl gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig yn cael eu hysgrifennu i fod yn berthnasol i wladwriaethau ac nid i unigolion nac ymarferwyr. Nid diben unrhyw un o gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig yw cael ei ddefnyddio yn y ffordd sy'n cael ei hawgrymu, ac nid yw'r Llywodraeth hon yn bwriadu gwneud hynny. Fodd bynnag, bwriad y Llywodraeth hon, ers cryn amser, yw sicrhau bod confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yn llywio'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu, ac rwy’n gobeithio y bydd Aelodau ar bob ochr o'r Siambr yn cytuno bod egwyddorion y confensiwn yn cael eu cyflwyno'n dda drwy'r dyletswyddau statudol a gynhwysir yn y Bil hwn.
Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a gan randdeiliaid am y swyddogaeth gryfach i’r gwasanaeth iechyd gwladol yn y Bil hwn. Mae craffu Cyfnod 1 wedi tynnu sylw at ddau faes o drafodaeth: yn gyntaf oll, swyddogaeth y tribiwnlys o ran materion iechyd. Yng Nghymru, mae gan y GIG broses eisoes ar gyfer cwynion a gwneud iawn. Mae’n rhaid inni hefyd barchu egwyddor sylfaenol barn glinigol, sy'n sail i holl benderfyniadau’r GIG. Mi ddywedaf wrth yr Aelodau: rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon wedi cael nifer o sgyrsiau ffrwythlon a chadarnhaol iawn am y mater hwn. Mae'n fater y byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i geisio ei ddatrys. Rwyf wedi cael sgyrsiau â llywydd y tribiwnlys hefyd, ac rwy’n fodlon parhau i sgwrsio i geisio cytuno ar ffordd ymlaen ar y mater hwn. Dywedaf yn y fan hon hefyd fod llywydd y tribiwnlys wedi ysgrifennu ataf i a'r pwyllgor, gan awgrymu nifer o wahanol newidiadau i swyddogaeth y tribiwnlys. Er nad yw'r pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad am bob un o'r rheini, mi ddywedaf fy mod yn fodlon chwilio am newidiadau i gyflawni'r rhan fwyaf o ddymuniadau y llywydd ar y materion hyn oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gallu symud ymlaen, gan gryfhau'r tribiwnlys yn ogystal â chryfhau’r system y mae'n ei thanategu.
Yn ail, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud i ddatblygu model swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i amlinellu'r datblygiadau diweddaraf o ran y cynlluniau arbrofol ledled Cymru, yn dilyn pryderon a amlygwyd yn ystod y craffu. Mewn ymateb i alwadau am gryfhau elfennau blynyddoedd cynnar y system, byddaf yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i’w gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn dynodi swyddog arweiniol y blynyddoedd cynnar. Hoffwn weld mwy o bwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar gan gynnal arfer da ledled Cymru. Ar ben arall yr ystod oedran, nid wyf wedi fy mherswadio eto bod angen ymestyn y Bil i gynnwys pob dysgu yn y gweithle, ond rwy’n cydnabod bod dadl gref yn cael ei gwneud yn hynny o beth, ac mae'n fater y byddaf yn parhau i’w ystyried.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi darparu drafft o'r cod anghenion dysgu ychwanegol ym mis Chwefror i gynorthwyo gwaith craffu ar y Bil. Rwy'n ddiolchgar am farn y pwyllgor am sut y gellir ei ddatblygu ymhellach ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau ar draws y Siambr gyfan am y croeso y maen nhw wedi ei roi i gyhoeddi'r cod hwn. Rwyf wedi bod yn glir y bydd y cod yn destun y craffu ymgynghori llwyraf posibl. Felly, byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i wneud y cod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Roedd hwn yn fater yr adroddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol arno ac rwyf wedi rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y mater hwn, a byddaf yn cyflwyno gwelliannau i gyflawni ar y sicrwydd hwnnw.
Dirprwy—. Dirprwy Lywydd—
Cadeirydd.
Cadeirydd. Roeddwn yn mynd yn agosach. [Chwerthin.] Rwy’n mynd i gau fy nghyfraniad agoriadol drwy gadarnhau na fyddaf yn cynnig penderfyniad ariannol heddiw. Rwyf wedi ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad y bore yma i amlinellu'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i'r asesiad effaith rheoleiddiol. Rwy’n disgwyl y bydd y fersiwn ddiwygiedig ar gael imi erbyn diwedd toriad yr haf a byddaf yn ailgyflwyno penderfyniad ariannol yn yr hydref. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i drafod a datblygu'r Bil ac rwy’n gobeithio y gwnaiff y Cynulliad hwn gefnogi ei egwyddorion cyffredinol, ond rwy’n credu ei bod yn iawn ac yn briodol bod craffu yn graffu gwybodus. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â’r mater hwn, ac rwy’n credu bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarperir i'r holl bwyllgorau ac i'r Aelodau, a hefyd bod y gwaith craffu sy'n digwydd yn y pwyllgor craffu yn graffu cwbl wybodus, a bod y Llywodraeth yn gwneud ei gorau i sicrhau ei bod yn darparu'r holl wybodaeth mewn modd amserol i bwyllgorau. Felly, byddaf yn gobeithio parhau i weithio gydag Aelodau ar bob ochr i'r Siambr er mwyn sicrhau bod gennym ddarn o ddeddfwriaeth a fydd nid yn unig yn newid bywydau pobl ifanc a phlant heddiw, ond ar gyfer y dyfodol hefyd.
Diolch yn fawr. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Cadeirydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon heddiw i amlinellu prif gasgliadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Roedd y pwyllgor yn cytuno’n unfrydol ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym yn credu y bydd y Bil yn darparu llwyfan ar gyfer diwygio'r system AAA bresennol, ac mae’n hen bryd gwneud hynny, barn a rannwyd yn glir gan y mwyafrif o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni. Roedd y dystiolaeth hefyd yn amlygu bod llawer o heriau o'n blaenau wrth i'r Bil gael ei roi ar waith. Ni fydd dim ond pasio’r ddeddfwriaeth yn ymdrin â'r problemau sylfaenol dyfnach o fewn y system bresennol.
Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhaglen gweddnewid ADY ehangach Llywodraeth Cymru i ateb yr heriau hynny a chyflwyno system sy'n gadarn ac sy'n darparu'r cyfleoedd gorau i ddysgwyr ag ADY. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog wrth iddo fwrw ymlaen â’r rhaglen weddnewid. Mae hon wedi bod yn broses Cyfnod 1 hir a chymhleth, ond mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y Bil hwn yn iawn.
Rydym wedi cwrdd â llawer o randdeiliaid a chlywed ganddynt, gan gynnwys plant a phobl ifanc ag ADY, a rhieni a gofalwyr y rheini ag ADY. Mae cyfraniad pawb sydd wedi cymryd rhan wedi bod yn amhrisiadwy, a hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Clerc a'r tîm ymchwil am eu gwaith diwyd ar y Bil hwn.
Bydd y Bil yn cael ei ategu gan god ADY statudol, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl craffu ar y Bil yn effeithiol heb weld y cod. Er ein bod yn diolch i'r Gweinidog am sicrhau bod y cod drafft ar gael, rydym yn credu y dylai fod wedi bod ar gael ar yr adeg y cyflwynwyd y Bil.
Mae'r pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil yn gryf, er bod y dystiolaeth a gawsom yn amlygu llawer o bryderon ynglŷn â’i roi ar waith. Ni ddylai neb danbrisio maint yr agenda hon. Mae dros 100,000 o ddisgyblion mewn ysgolion ag AAA neu ADY, sydd dros un o bob pump o'r holl blant. Felly, rydym wedi gwneud 48 o argymhellion gyda'r nod o gryfhau nid yn unig y Bil ei hun, ond hefyd y cynigion ehangach ar gyfer diwygio'r system. Yn yr amser sydd ar gael, ni allaf fynd drwy bob un heddiw, ond byddaf yn canolbwyntio ar rai o'r materion allweddol a ddaeth i'r amlwg.
Mae'r Bil wedi’i adeiladu ar sail y diffiniad o ADY. Mae'n hanfodol bod y diffiniad yn glir ar wyneb y Bil a'i fod yn hawdd ei ddeall. O ran y blynyddoedd cynnar, er y gall y diffiniad ar wyneb y Bil fod yn briodol, rydym yn credu y dylai’r cod egluro bod dysgu’n cynnwys meysydd fel dysgu drwy chwarae a rhyngweithio cymdeithasol, nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu’n benodol yn y Bil ar hyn o bryd. Rydym yn credu y gallai'r cod hefyd egluro nad yw dysgu’n cyfeirio at ddysg person yn ei gyfanrwydd yn unig, a’i fod yn cyfeirio hefyd at agweddau neu elfennau penodol ar eu dysgu.
Trydydd pryder a oedd gennym oedd sut y byddai cyflyrau meddygol y dysgwyr yn ymwneud â'r diffiniad. Rhoddodd y Gweinidog sicrwydd, lle byddai cyflwr meddygol yn arwain at ADY, y byddai'n dod o dan y diffiniad. Fodd bynnag, rydym yn credu bod yn rhaid gwneud hyn yn glir ar wyneb y Bil ac o fewn y cod.
Mae'r pwyllgor yn croesawu'n gryf y pwyslais yn y Bil ar sicrhau mai buddiannau'r plentyn neu'r person ifanc sy’n ganolog, ac yn credu mai defnyddio model o gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw’r dull cywir. Fodd bynnag, credwn mai colli cyfle fyddai peidio ag ymgorffori ymrwymiad cyffredinol Cymru i hawliau plant ar wyneb y Bil, ac rydym yn argymell cynnwys dyletswydd gyffredinol o sylw dyledus i'r CCUHP.
Bydd swyddogaeth yr ALNCO o fewn pob lleoliad yn hanfodol er mwyn sicrhau cysondeb a safonau uchel. Rydym yn croesawu'r dyhead y dylai fod gan yr ALNCO gymhwyster lefel Meistr, ond rydym yn pryderu y gallai hyn arwain at golli pobl hynod fedrus a phrofiadol sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel cydlynwyr AAA. Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn ailystyried ei ymagwedd ac yn ei gwneud yn glir, wrth symud ymlaen, y dylai gradd Meistr fod yn ddymunol ac nid yn ofynnol. Mae'r pwyllgor hefyd yn pryderu am oblygiadau’r swyddogaeth ALNCO o ran adnoddau ac yn credu y dylai'r Gweinidog adolygu effaith y swyddogaeth newydd ar adnoddau a galluoedd o fewn 12 mis.
Rydym yn croesawu bwriad y Bil i sefydlu system oedran sengl, 0-25 sy'n nodi ADY plentyn ac yn darparu ar ei gyfer o'i enedigaeth, ond mae gennym nifer o bryderon am sut y bydd anghenion pobl y tu allan i'r oedran ysgol statudol yn cael eu diwallu. Rwyf eisoes wedi tynnu sylw at ein pryderon am y diffiniad o ADY o ran y blynyddoedd cynnar, ond rydym hefyd yn credu y dylid diwygio adran 57 y Bil i'w gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd godi pryderon bod ADY gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol, yn hytrach na’r pŵer disgresiwn sy'n bodoli fel y'i drafftiwyd. Mae gan gyrff iechyd ddyletswydd i hysbysu awdurdodau lleol o dan y system bresennol, ac nid ydym yn gweld rheswm i wanhau’r ddarpariaeth hon. Yn yr un modd, nid yw’r Bil yn darparu llwybr clir i warchodwyr plant a phobl sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant i godi pryderon y gallai fod gan blentyn ADY, ac rydym yn credu y dylai'r Bil neu’r cod ddarparu mecanwaith clir ar gyfer hyn.
O ran ôl-16, mae gan y pwyllgor bryderon difrifol ynghylch digonolrwydd y berthynas sy'n bodoli rhwng awdurdodau lleol a'r sector addysg bellach i wneud darpariaethau'r Bil yn effeithiol, yn enwedig yn y cyfnod pontio heriol i addysg bellach. Mae'r pwyllgor hefyd yn cytuno’n gryf â rhanddeiliaid y dylid ymestyn y fframwaith ADY i gynnwys dysgu yn y gwaith. Yn aml, y dysgwyr sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf cymhleth sy'n dewis y llwybr dysgu yn y gwaith, a dylai'r system newydd arfaethedig gynnwys dysgwyr o'r fath.
Fel y dywedodd y Gweinidog, roedd yr angen am gydweithredu amlasiantaethol mwy effeithiol, yn enwedig gyda'r GIG, yn rhywbeth yr oedd rhanddeiliaid yn tynnu sylw ato’n gyson fel rhywbeth sy’n hanfodol i lwyddiant y diwygiadau hyn. Mae'n hanfodol nad yw'r gwendidau o ran cydweithio o fewn y system bresennol yn cael eu mewnforio i'r un newydd. Mae'r pwyllgor yn fras yn croesawu'r bwriad i sefydlu’r swyddogaeth swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig strategol. Fodd bynnag, mae diffyg manylder am y swyddogaeth, yn enwedig sut y bydd yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys y swyddogaeth cydgysylltydd iechyd newydd. Rydym hefyd yn ei chael hi’n anodd deall pam na chafodd y cynlluniau arbrofol DECLO, a ddechreuwyd yn ddiweddar iawn, eu cynnal yn llawer cynharach, gan y byddai hyn wedi rhoi cipolwg pwysig i natur a gweithrediad y swyddogaeth. Clywsom bryder eang nad yw'r Bil yn darparu cylch gwaith i’r tribiwnlys dros benderfyniadau a gweithredoedd cyrff iechyd nac unrhyw bwerau i gyfarwyddo’r cyrff hynny. Mae'r pwyllgor yn credu y dylid ymestyn cylch gwaith y tribiwnlys i gynnwys cyrff iechyd, ond hefyd bod yn rhaid i'w aelodaeth fod yn ddigonol i ystyried barn glinigol gweithwyr iechyd proffesiynol wrth iddo wneud penderfyniadau.
O ran y Gymraeg, rydym yn credu nad yw rhai elfennau penodol ar y Bil yn adlewyrchu’r uchelgais a’r her ar gyfer y Gymraeg, ac rydym yn cytuno â galwad Comisiynydd y Gymraeg am unfed nod craidd ar ddeg, sef bod y Bil yn sicrhau y darperir gwasanaethau ADY dwyieithog.
Wrth gwrs, mae’n hanfodol bod adnoddau, cynlluniau gweithlu a threfniadau hyfforddi digonol ar waith i gefnogi gweithrediad y Bil a'r rhaglen weddnewid ehangach, ac rydym wedi gwneud argymhellion penodol yn hyn o beth. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf i'r pwyllgor yw'r ffaith bod y costau a'r arbedion ar gyfer y Bil, fel y’u nodwyd yn y memorandwm esboniadol, wedi bod mor anghywir. Bydd yr Aelodau wedi cael eglurhad o'r costau a’r arbedion diwygiedig gan y Gweinidog. Yn anffodus, ni chafodd y ffigurau diwygiedig hyn eu darparu i'r pwyllgor tan y diwrnod ar ôl inni gyflwyno ein hadroddiad. Mae'n siomedig na chafodd y wybodaeth hon ei darparu’n gynt fel y gallai’r pwyllgor fod wedi ei hystyried a'i chynnwys yn ein hadroddiad. Felly, mae wedi bod yn amhosibl i'r pwyllgor graffu ar y costau a'r arbedion ar gyfer y Bil yn briodol, ac rwy’n croesawu'r penderfyniad i ohirio’r penderfyniad ariannol tan y bydd yr asesiad effaith rheoleiddiol ddiwygiedig ar gael ar gyfer craffu.
Yn olaf, Cadeirydd, hoffwn ddiolch unwaith eto i’r rheini a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac a helpodd gyda'n gwaith. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r pwyllgor am y ffordd gynhyrchiol yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar hyn. Mae gan y Bil hwn y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a theuluoedd yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch, Cadeirydd. Mae'n bleser gennyf siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y Bil hwn, ond hefyd, fel aelod blaenorol o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwy'n falch o weld y Bil yn gwneud rhywfaint o gynnydd. Cyn imi sôn am ystyriaeth ein pwyllgor i oblygiadau ariannol y Bil, mae'n rhaid imi ymdrin yn gyntaf â llythyr y Gweinidog ar 25 Mai, y mae Lynne Neagle hefyd newydd gyfeirio ato, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a ragwelir i asesiad effaith rheoleiddiol y Bil. Rwyf hefyd yn siomedig iawn na chafodd y newidiadau hyn eu rhannu â ni tan y diwrnod ar ôl dyddiad cau adrodd Cyfnod 1, gan atal yr wybodaeth hon rhag ffurfio rhan o ystyriaeth ein pwyllgor cyn dadl heddiw.
Mae'r newidiadau hyn yn sylweddol, yn cael effaith sylweddol ar gostau’r Bil, ac, oherwydd amseriad y cyhoeddiad, nid ydynt wedi cael sylw ychwaith yn ein hadroddiad. Mae maint y diwygiadau ar y cam hwn o hynt Bil yn frawychus; mae’r Gweinidog nawr yn amcangyfrif y bydd y Bil yn costio £8.3 miliwn dros y cyfnod gweithredu, sef pedair blynedd, yn hytrach nag yn arbed £4.8 miliwn. Mae hyn yn cynrychioli cyfanswm newid costau o £13.1 miliwn. Ar ben hynny, mae'r Gweinidog wedi nodi y gallai’r ffigurau hyn newid eto ac na fydd y ffigurau terfynol ar gael tan y cyhoeddir asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig cyn trafodion Cyfnod 3, y bwriedir ar hyn o bryd eu cynnal ym mis Medi. Yng ngoleuni'r wybodaeth hon, ysgrifennais at y Gweinidog i ofyn iddo oedi cyn cynnig penderfyniad ariannol ynglŷn â'r Bil tan i grynodeb wedi’i ddiweddaru o'r costau gael ei ddarparu a’i graffu. Ysgrifennodd y Gweinidog at yr Aelodau y bore yma ac mae wedi cadarnhau i'r Cyfarfod Llawn heddiw y bydd yn gohirio cynnig y penderfyniad ariannol ac y cyhoeddir asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig erbyn diwedd toriad yr haf. Fel cyn-aelod gweithgar iawn o'r Pwyllgor Cyllid, fel yr wyf yn cofio, yn ei dymor cyntaf yn y Cynulliad, rwy'n siŵr ei fod yn deall pryderon y Pwyllgor Cyllid yn y maes hwn ac yn gwerthfawrogi y byddwn yn awr yn cael cyfle i edrych ar yr asesiad o effaith diwygiedig hwnnw cyn y cynigir penderfyniad ariannol.
Dyma, fodd bynnag, lle mae pethau'n mynd ychydig yn gymhleth, os caf ddweud hynny, Cadeirydd, oherwydd, ar adeg cyflwyno'r Bil, roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol sydd wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd yn amcangyfrif arbedion o dros £14.2 miliwn dros bedair blynedd. Fodd bynnag, fe'n cynghorwyd gan y Gweinidog y diwrnod cyn ein sesiwn dystiolaeth fod camgymeriadau wedi eu canfod yn yr asesiad o effaith rheoleiddiol, a olygodd bod yr arbedion a ragwelwyd wedi gostwng i £12.8 miliwn dros y cyfnod o bedair blynedd. Mae ein hadroddiad yn cydnabod sicrwydd y Gweinidog bod y ffigurau diwygiedig hyn yn gadarn. Serch hynny, roeddem yn siomedig na chafodd y camgymeriadau hyn eu canfod cyn cyflwyniad y Bil a gwnaethom argymell diweddaru’r asesiad o effaith rheoleiddiol i ystyried y wybodaeth ariannol ddiwygiedig. Yn amlwg, fodd bynnag, nid oedd y ffigurau diwygiedig yn gadarn, oherwydd mae llythyr diweddaraf y Gweinidog yn nodi arbedion amcangyfrifedig o ddim ond £3.7 miliwn dros y cyfnod o bedair blynedd. Felly, i grynhoi, rydym wedi mynd o arbedion disgwyliedig dros bedair blynedd o £14.2 miliwn i ffigwr heddiw o £3.7 miliwn. Ond nid yw'r ffigurau hyn wedi eu harchwilio gan y Pwyllgor Cyllid ac nid ydynt yn rhan o'n hadroddiad heddiw. Mae'r newid sylweddol yn cael ei briodoli i raddau helaeth i bryderon a godwyd gan SNAP Cymru ynglŷn ag anghytundebau ac apeliadau. Mae llythyr y Gweinidog yn datgan bod ei swyddogion wedi cyfarfod â SNAP Cymru ym mis Mawrth, felly mae'r pwyllgor yn awyddus i ddeall pam na chafodd canlyniad y trafodaethau hyn ei rannu â’r pwyllgor cyn dyddiad cau Cyfnod 1.
Datblygiad allweddol arall yn ystod ein gwaith craffu oedd cyhoeddiad y Gweinidog o fuddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn i gefnogi dysgwyr ADY. Eglurodd y Gweinidog fod y buddsoddiad hwn yn berthnasol nid dim ond i gyflawni'r Bil, ond hefyd i weithgaredd gweddnewidiol ehangach, a rhoddodd ragor o fanylion am y dyraniad cyllid a ragwelir i gefnogi ailwampio'r system ADY. Yn ein hadroddiad, rydym yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru i ailwampio'r system, ond credwn hefyd fod costau gweithredu'r Bil wedi cael eu tanbrisio. Rydym felly'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn. Er ein bod yn cydnabod bod cyd-destun newid gweddnewidiol yn ei gwneud yn fwy heriol i gategoreiddio costau, mae'n bwysig ein bod yn deall sut y caiff yr arian hwn ei ddyrannu’n uniongyrchol i hwyluso a chefnogi’r broses o roi’r Bil ar waith er mwyn cynnal gwaith craffu ariannol cadarn. O ganlyniad, rydym yn argymell bod unrhyw asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig yn egluro pa un a yw’r buddsoddiad ychwanegol o £20 miliwn yn cael ei ddarparu at ddibenion y Bil. Mae llythyr diweddar y Gweinidog yn nodi mai Llywodraeth Cymru fydd yn talu’r gost ddiwygiedig o £8.3 miliwn sy'n gysylltiedig â'r Bil ac y daw’r arian hwn o’r pecyn ariannu £20 miliwn i’w roi ar waith. Mae hyn yn codi cwestiynau pellach, fodd bynnag, ynghylch diben y pecyn cyllido ac effaith y cynnydd mewn costau gweithredu ar y cynlluniau blaenorol i ddyrannu'r cyllid hwnnw.
Mae’r prif faes arall sy'n peri pryder a amlygwyd yn ein hadroddiad yn ymwneud ag arian pontio Llywodraeth Cymru, a ddarperir i gyrff eraill er mwyn cyflawni darpariaethau'r Bil. Mae hyn yn cynnwys tua £7 miliwn mewn grantiau pontio sydd ar gael i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i gefnogi’r broses o roi’r Bil ar waith. Rydym yn croesawu bwriad y Gweinidog i ddatblygu dyraniad seiliedig ar fformiwla a’i ymrwymiad i leihau biwrocratiaeth a baich proses ymgeisio. Fodd bynnag, credwn fod angen arweiniad ariannol clir, ac felly rydym wedi argymell y dylai'r arian grant gael ei neilltuo.
Mae'r Bil hefyd yn cynnig trosglwyddo cyfrifoldeb am gynllunio a sicrhau darpariaeth addysg bellach arbenigol ôl-16 o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo cyllideb flynyddol bresennol Llywodraeth Cymru o £12.4 miliwn i'r grant cynnal refeniw. Roedd y Gweinidog yn pryderu y byddai neilltuo’r cyllid hwn yn arwain at gapio cyllidebau, yn hytrach na chefnogi system gyllido sy’n seiliedig ar anghenion. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus nad yw awdurdodau lleol yn dyrannu’r cyllid a drosglwyddwyd yn ôl y bwriad ac maen nhw wedi argymell bod yn rhaid neilltuo’r arian i gyflawni'r cyfrifoldebau a drosglwyddwyd.
Mae ein hadroddiad yn ymdrin â nifer o argymhellion eraill, ond nid oes gennyf amser, yn anffodus, Cadeirydd, i sôn yn fanwl amdanynt. Ond un yr hoffwn iddo gael sylw'r Cynulliad yw ein hargymhelliad ynghylch y swyddogaeth swyddog arweiniol clinigol addysgol dynodedig statudol, a'r effaith, felly, ar ddarpariaeth ADY byrddau iechyd, sy'n adlewyrchu rhai o drafodaethau'r pwyllgor arall.
I gloi, os caf i, Cadeirydd, mae’r lefelau adolygu wedi codi pryderon difrifol ynghylch dilysrwydd costiadau’r Llywodraeth a'i gallu i ariannu’r Bil a’i roi ar waith yn llwyddiannus. Mae’n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod yr asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig, a addawyd erbyn diwedd toriad yr haf, yn cael ei gyhoeddi mewn da bryd, yn gywir ac yn gadarn, ac yn caniatáu inni i gyd yn y Cyfarfod Llawn ac yn y pwyllgor i ganiatáu ar gyfer craffu priodol cyn y cynigir penderfyniad ariannol yn y Cyfarfod Llawn. Diolch yn fawr.
Diolch, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau'n deall ei bod yn bwysig bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cael y cyfle i roi sylwadau am y ffigurau a gyhoeddwyd ar ôl cyhoeddi adroddiad y pwyllgor.
I call on the Chair of the Constitutional and Legislative Affairs Committee, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Cadeirydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n clerc a’n tîm ymchwil a chymorth deddfwriaethol, a hefyd i aelodau diwyd ein pwyllgor am graffu ar y Bil hwn, y gwnaethom adrodd amdano ar 24 Mai, gan wneud 12 argymhelliad?
Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn deall ei bod yn ddyletswydd arnom i fod yn daer am ddeddfwriaeth dryloyw ac eglur a chraffu trylwyr, felly rwy'n gwybod na fydd ein dadansoddiad cadarn yn ei synnu. Yn rhan o'n hystyriaeth arferol, buom yn edrych ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ar ôl i Lywodraeth Cymru ymdrin ag ef drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r Bil yn cynnwys nifer o bwerau gwneud rheoliadau y nododd y Gweinidog nad oedd yn bwriadu eu defnyddio yn y dyfodol agos na’r dyfodol y gellir ei ragweld. Nawr, fe wnaethom fynegi pryder am y dull hwn, gan nad ydym wedi ein hargyhoeddi gan y ddadl sy'n dweud, gan na fydd Bil pellach yn y maes hwn yn y dyfodol agos, o ganlyniad, y dylid ychwanegu pwerau gwneud rheoliadau i roi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru. Ein dadl fyddai, os aiff un o Ddeddfau’r Cynulliad yn hen yn gyflym neu am ba bynnag reswm, gan gynnwys amgylchiadau annisgwyl, a bod angen ei newid yn sylweddol o ganlyniad, y dylid defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i gyflawni hynny.
Felly, mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar y Gweinidog i gyfiawnhau pam mae angen y pwerau i wneud rheoliadau o dan adrannau 12(7)(c), 50(3), 60(1) a 68(4) o fewn y Bil. Roeddem yn arbennig o bryderus â'r dull a fabwysiadwyd o ran pwerau gwneud rheoliadau o dan adrannau 45(2)(d), 82(c) ac 86(8). Cawsom ein synnu gan resymeg y Gweinidog dros gynnwys pwerau gwneud rheoliadau yn adran 45 i ganiatáu i Weinidogion Cymru nodi rhagor o amgylchiadau lle na fyddai awdurdodau lleol dan ddyletswydd i ffafrio addysg brif ffrwd a gynhelir ar gyfer plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol. Ac, o ran y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 86 i ddiwygio'r diffiniad o 'corff GIG', ein cred hirsefydlog yw bod yn rhaid i reoliadau sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol fod yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cynulliad. Ynghyd â'r potensial i achosi newid polisi arwyddocaol, fe wnaethom argymell defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer y rheoliadau hyn. Nawr, mae Llys Hawliau Dynol Ewrop—mae wedi ei grybwyll mewn cyfraniadau cynharach—wedi ei gwneud yn glir y dylai integreiddio plant i mewn i ysgolion prif ffrwd fod yn norm yn hytrach nag eithriad. Felly, roeddem yn bryderus ynghylch sut y gellid defnyddio’r pŵer hwn yn y dyfodol, ac rydym yn credu, pe byddai categori newydd o ysgolion yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, sef y cyfiawnhad a roddwyd gan y Gweinidog, y dylai'r Gweinidog asesu'r pwerau a fyddai eu hangen ar yr adeg honno. Felly, fe wnaethom argymell y dylai'r ddarpariaeth hon gael ei dileu o'r Bil, neu, o leiaf, y dylai fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Byddai adran 82 y Bil yn caniatáu i'r Gweinidog newid drwy reoliadau y diffiniad o bwy sydd 'yn ardal' awdurdod lleol yng Nghymru mewn deddfwriaeth addysg nad yw o reidrwydd yn ymwneud ag anghenion ychwanegol. Nawr, ni welwn ddim rheswm pam y dylid cynnwys y pŵer cyffredinol hwn yn y Bil, ac rydym yn argymell bod y Gweinidog yn cael gwared ar y ddarpariaeth hon o'r Bil. Unwaith eto, o leiaf, dylai hyn fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol er mwyn caniatáu craffu llawn a chadarn gan y Cynulliad cyfan.
Nawr, i droi at faterion eraill yn y Bil, rydym yn croesawu ymagwedd y Gweinidog at ddatblygu'r cod anghenion dysgu ychwanegol, a’i ymrwymiad ag Aelodau yn ei ddatblygiad. Er mwyn helpu i greu cyfraith hygyrch i bob dinesydd sydd â diddordeb mewn anghenion dysgu ychwanegol, rydym yn gobeithio y gwnaiff ef barhau i gymryd rhan ar hyn, ac rydym yn sicr y gwnaiff hynny. Rydym yn ystyried bod statws y cod, fodd bynnag, yn aneglur, gan ei fod yn cymysgu gofynion a chanllawiau statudol, rhywbeth yr ydym yn credu y gallai fod yn ddryslyd. Er mwyn gwneud cyfraith sy’n gweithio’n dda, dylai fod yn glir i weithwyr proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd pa ddarpariaethau sydd ag effaith ddeddfwriaethol. Ni allwn weld unrhyw reswm pam, felly, na allai’r gofynion a nodir yn y cod gael eu cynnwys yn y Bil ar ffurf rheoliadau yn hytrach. Byddai hyn yn ei wneud yn gliriach i bawb dan sylw.
Rydym hefyd yn nodi nad yw'r drefn a awgrymir ar gyfer adran 5 y Bil yn dilyn yr un drefn â’r cod anghenion addysgol arbennig sydd eisoes yn bodoli y mae'n ei ddisodli. Yn ein barn ni, nid yw'r weithdrefn negyddol yn rhoi digon o graffu i ddogfen mor bwysig, ac rydym yn argymell bod y Gweinidog yn ystyried y weithdrefn uwchgadarnhaol yn hytrach. Byddai hyn yn caniatáu i randdeiliaid ac Aelodau ystyried hyn yn fanwl, cyn i’r corff hwn, y Cynulliad Cenedlaethol, wneud y penderfyniad terfynol.
Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at ein hargymhellion ynglŷn ag adrannau 13(2) ac 14(2) y Bil, sy'n cynnwys pwerau gwneud rheoliadau i ragnodi eithriadau o ran plant sy'n derbyn gofal. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi bod y rheoliadau, ym mhob achos, yn ymdrin â materion gweinyddol technegol yn unig. Yn absenoldeb gwybodaeth ar wyneb y Bil, rydym yn argymell defnyddio’r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau a wneir yn y lle cyntaf, ac yna’r weithdrefn negyddol wedi hynny.
Felly, i gloi, rwy’n croesawu natur agored y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol heddiw, pryd y dywedodd ei fod yn bwriadu derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y tri phwyllgor, ac wrth i'r Bil barhau â’r ymgysylltiad adeiladol hwn, rydym yn obeithiol ac yn hyderus y gellir gwella’r Bil ymhellach, ac y gwneir hynny, ac y datrysir y materion sy'n weddill drwy ymgysylltu cadarnhaol pellach.
Rwy’n croesawu'r cyfle i siarad o blaid egwyddorion cyffredinol Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Llywodraeth Cymru. Mae'n dda bod Llywodraeth Cymru yn cipio’r cyfle hwn i sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol yr ydym yn ymdrin â'r mater hwn oddi mewn iddo yn addas i'w ddiben. Fel y nodwyd ym memorandwm esboniadol y Bil, mae'r fframwaith presennol yr ydym yn gweithredu ynddo, ac y bûm yn addysgu oddi tano, yn achosi cynifer o heriau i’m hetholwyr a phobl eraill ledled Cymru a phrin fu’r newidiadau iddo dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae angen chwa o awyr iach y Bil hwn i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn alw ar fy mhrofiad o addysgu mewn ysgol uwchradd, sy'n golygu fy mod yn gyfarwydd â llawer o'r heriau sy'n wynebu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn amgylcheddau ysgolion ledled Cymru. Mae hyn yn berthnasol i leoliadau prif ffrwd ac i grwpiau ar wahân, mwy arbenigol. Mae'r profiad hwn hefyd yn atgyfnerthu fy ymdeimlad o frys o ran sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. I wneud hyn, mae'n rhaid inni ddarparu cynnig addysgol sy'n caniatáu i bob person ifanc ffynnu a chyflawni, ac rwy’n falch bod hyn wrth wraidd y Bil. Mae’n rhaid i bobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ond rhaid i’w rhieni, eu gwarcheidwaid, eu teulu a’u ffrindiau deimlo hynny hefyd.
Yn anffodus, rwy’n clywed yn aml gan fy etholwyr yr wyf yn cwrdd â nhw yn fy swyddfa a fy nghymorthfeydd bod hyn yn aml yn her. Yn wir, rwy’n meddwl ei bod yn ddiogel dweud mai cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yw un o'r materion sydd wedi codi amlaf yn fy ngwaith achos ers imi ddod yn AC ychydig dros flwyddyn yn ôl. Gall llawer o'r achosion hyn adael rhieni plant ifanc sydd ag anghenion eithaf cymhleth yn teimlo eu bod yn brwydro yn erbyn system nad yw’n gwbl o’u plaid. Felly, rwy’n croesawu’r egwyddor a geir yn y Bil hwn i roi anghenion y dysgwr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn gallu cael cymorth mewn lleoliad sy'n bodloni eu hanghenion unigol eu hunain, a bod systemau’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod bob amser yn gallu cael mynediad llawn at ddarpariaeth ar y lefel sy’n berthnasol i’w datganiad.
Rwy’n gwybod, o'r data cynhwysfawr a gynhwysir yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil, nad yw'r profiadau yr wyf wedi clywed amdanynt yn fy ngwaith achos yn rhai ynysig. Rwy’n gwybod y gallai pwyslais y Bil ar ddatblygu cynlluniau unedig, gan ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd, helpu i leihau'r profiadau gwrthwynebus y mae fy etholwyr wedi’u cael yn rhy aml, sef nhw yn erbyn y system. Mae materion eraill yr wyf wedi ymdrin â nhw yn ymwneud â diffyg cyfleoedd cymharol i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol pan eu bod yn gorffen addysg orfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi cyfarfod â rhai rhieni gwirioneddol eithriadol sydd wedi ymladd yn galed i gael y cyfleoedd gorau posibl i'w plant. Ond dyma’n union beth yw’r pwynt; ni ddylent orfod ymdrechu a brwydro. Rwyf felly'n croesawu'r pwyslais yn y Bil ar greu system ddeddfwriaethol sengl sy'n cynnwys unigolion o enedigaeth i 25 mlwydd oed.
Ychydig fisoedd yn ôl cefais gyfarfod â Sense Cymru i drafod eu prosiect llwybr â chymorth i fod yn oedolion; efallai y bydd y Gweinidog yn gyfarwydd ag ef. Ei nod yw lleihau llawer o'r rhwystrau sy’n ymwneud â phontio, ac â’r symudiad sy’n wynebu pobl ifanc wrth iddynt gyrraedd oedolaeth. Mae llawer o arfer rhagorol y gallem ei gymryd o hyn. Mae her i sicrhau y gall yr egwyddorion yn y Bil ddod yn realiti, felly rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei weithredu wedi’i ariannu’n iawn. Un o'r agweddau mwyaf niweidiol ar y ddarpariaeth yw lle nad yw addewidion yn cael eu cadw oherwydd diffyg cyllid, neu bod yr opsiwn rhataf yn cael ei ddewis dros y gorau. Rwy’n edrych ymlaen at sicrwydd y Gweinidog na fydd hyn yn digwydd yn y fan yma.
I gloi, mae'r Bil hwn yn cynnig cyfle i ni sicrhau bod y fframwaith ar gyfer darpariaeth ADY yng Nghymru yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn addas i'w ddiben. Rwy'n hapus i'w gefnogi, oherwydd ni ddylai’r rhieni a’r bobl ifanc a welaf yn fy swyddfa ac yn fy nghymhorthfa orfod disgwyl dim llai.
A gaf i ddatgan buddiant ar ddechrau'r ddadl hon fel llywodraethwr ysgol yn Ysgol Santes Ffraid yn Sir Ddinbych? Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei araith agoriadol. Rwy’n meddwl ei bod yn galonogol gwybod ei fod yn gwrando, nid yn unig ar bryderon y pwyllgorau, ond ar y llawer o randdeiliaid eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad ag ef yn y misoedd diwethaf. A hoffwn estyn fy niolch iddo am ymgysylltu â mi fel llefarydd yr wrthblaid hefyd.
Mae hon wedi bod yn dasg anodd iawn i'r pwyllgor plant a phobl ifanc o ran edrych ar yr holl dystiolaeth. Rydym wedi cael, yn amlwg, llawer iawn o dystiolaeth, ond cawsom ein rhwystro, yn rhannol o ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth amserol gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd—yn gyntaf oll, cyhoeddi’r cod drafft yn hwyr fel nad oedd ar gael ar ddechrau'r broses graffu. Mae ansawdd gwael rhywfaint o'r wybodaeth ariannol, sydd eisoes wedi ei gyfeirio ato gan gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—cafodd ei gywiro unwaith yn ystod y broses. Ers hynny, rydym wedi cael sylwadau pellach gan SNAP Cymru am gost datrys anghydfodau. Cawsom wybodaeth, yn ogystal, yn hwyr yn y dydd, am swyddogaeth yr arweinwyr clinigol addysgol dynodedig a faint o bobl eraill y gallai fod eu hangen i'w cefnogi yn eu gwaith, yn enwedig mewn byrddau iechyd mawr iawn. Ac rwy’n meddwl bod hynny wedi gwneud ein gwaith yn anoddach o ran ceisio deall bwriadau Llywodraeth Cymru, mewn sawl ffordd.
Hefyd, wrth gwrs, roedd diffyg gwybodaeth am y cynlluniau arbrofol. Clywsom dystiolaeth dda o Sir Gaerfyrddin fod pethau wedi gwella yno o dan y trefniadau newydd a oedd yn cael eu treialu, ond ni welsom unrhyw werthusiadau annibynnol o hynny o gwbl. Rydym yn gwybod y bu cynlluniau arbrofol eraill nad ydynt wedi eu cynnal eto, ac rwy'n meddwl bod y diffyg gwybodaeth am hynny wedi peri pryder. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn derbyn argymhelliad 25, ac y byddwn yn cael mwy o wybodaeth am hynny yn y dyfodol.
Ond roeddwn eisiau cyffwrdd ar rai o'r pethau yr hoffwn eu gweld wedi’u gwella yn y Bil yn y dyfodol, ac rwy’n gwybod, fel y dywedais yn gynharach, bod y Gweinidog yn gobeithio bwrw ymlaen â’r rhain. Yn gyntaf oll, ar anghenion meddygol, rwy’n meddwl y gellid ac y dylid newid y diffiniad yn y Bil, ac rwy'n falch bod y Gweinidog yn fodlon gwrando ynglŷn â hynny, oherwydd rydym yn gwybod, er bod y Gweinidog wedi cyhoeddi rhai canllawiau statudol drafft ar gyfer anghenion meddygol a’u diwallu mewn ysgolion, nad yw’r canllawiau hynny’n ymestyn i'r blynyddoedd cynnar, ac nad ydynt yn ymestyn y tu hwnt i oedran ysgol gorfodol hyd at 25, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae'r Bil ADY yn gwbl briodol yn ei wneud. Felly, rwy’n poeni am hynny. Rwyf hefyd yn pryderu, yn ogystal, nad yw trefniadau cludiant o’r cartref i'r ysgol wedi bod yn ddigon amlwg naill ai yn y cod drafft—ac yn sicr nid ydynt yn ymddangos ar y Bil, ac efallai y gallai’r Gweinidog ddweud wrthym sut y mae'n disgwyl i hynny gael ei ystyried yn y dyfodol. Ond clywsom lawer o dystiolaeth am yr anghenion meddygol hynny, yn enwedig gan Diabetes UK, gan sefydliadau epilepsi, ac eraill, am anghenion penodol pobl yn yr ystafell ddosbarth—dysgwyr a all fod ag angen cymorth.
Yr ail beth y mae’n amlwg bod angen ymdrin ag ef yw gwneud iawn. Mae angen ymestyn y system gwneud iawn i gynnwys darpariaeth y gallai fod angen iddi fod ar waith gan y GIG. Roeddwn yn falch o glywed am y sgyrsiau sydd wedi bod yn digwydd o fewn y Llywodraeth ynghylch y ffordd orau o gyflawni hynny. Rwy'n meddwl bod y pwyllgor wedi’i berswadio’n glir y dylai fod gan y tribiwnlys bwerau i gyfarwyddo cyrff y GIG yn y dyfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod cymorth digonol ar gael ar gyfer dysgwyr sydd ag angen cymorth gan y GIG—unwaith eto, i gael yr un system gwneud iawn hon, yn hytrach na gorfod mynd drwy'r broses 'Gweithio i Wella', a all fod yn broses hir iawn i gleifion, ac yna system ar wahân o ran y tribiwnlys addysgol ar gyfer anghydfodau eraill.
O ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae'n amlwg iawn bod cynsail wedi ei osod yn y Cynulliad Cenedlaethol yn y gorffennol, a gan Lywodraeth Cymru, wrth dderbyn diwygiadau i ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sydd wedi rhoi cyfeiriadau at gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Ddeddf honno, gan gynnwys y confensiwn ar hawliau'r plentyn ac, yn wir, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Felly, ni allaf dderbyn, Gweinidog, eich bod yn gwrthod ein hawgrym y dylent fod ar wyneb y Bil ac y dylai pob un o'r sefydliadau hynny a fydd yn cael dyletswyddau yn y dyfodol o dan y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol newydd roi ystyriaeth briodol i hynny. Rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn eich perswadio, naill ai yn ystod Cyfnod 2 neu Gyfnod 3, i newid eich safbwynt er mwyn cynnig hynny, oherwydd mae'n rhaid i’r busnes hwn o gael dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer deddfwriaeth redeg drwy ein holl ddeddfwriaeth, ac, rwy’n meddwl, beth am ailadrodd y pethau hyn o bryd i’w gilydd ar ddarnau pwysig o ddeddfwriaeth, yn enwedig y rhai sy'n uniongyrchol berthnasol i blant a phobl ifanc?
Yn olaf, os caf i, ar y Gymraeg, rydym wedi gwneud rhai argymhellion allweddol am y Gymraeg, ac rwy’n gwybod eich bod eisiau gwella'r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg. Mae'n rhaid i’r ddeddfwriaeth wneud mwy i bwysleisio dewis dysgwyr a dewis rhieni. Nid yw’r cydbwysedd yno ar hyn o bryd. Yn syml, mae'n golygu y caiff penderfyniadau eu gwneud, ar hyn o bryd, gan gyrff y GIG, ysgolion a sefydliadau addysg bellach, ac nid wyf yn meddwl bod hynny'n ddigon da. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed y cyfraniad ar ddiwedd y ddadl.
A gaf innau ddatgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol hefyd, ar y cychwyn fel hyn? Yn amlwg, mae Plaid Cymru wedi cefnogi’r alwad am ddeddfwriaeth o’r fath ers nifer o flynyddoedd, ac felly rydym ni am gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil y prynhawn yma. Ond nid yw hynny yn dweud, wrth gwrs, nad oes angen gwella a chryfhau’r Bil mewn mannau, fel sydd yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad y pwyllgor. A lle mae yna 48 o argymhellion, mae’n amlwg bod yna dipyn bach o waith ar ôl i’w wneud i gael y Bil i lle byddem ni am ei weld e. Ac a gaf innau hefyd ategu’r diolch sydd wedi cael ei roi i’m cyd-Aelodau ar y pwyllgor, swyddogion y pwyllgor a’r cannoedd lawer o randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at y broses graffu hyd yma?
Rydw innau hefyd am rannu ychydig o’r rhwystredigaeth, tra’n cydnabod bod y Gweinidog wedi bod yn hapus iawn i eistedd i lawr a thrafod a rhannu gwahanol ddogfennau atodol gyda ni. Mae wedi bod yn rhwystredig, y modd darniog y mae nifer o’r rhain wedi dod ger ein bron ni. Mae’r Bil ei hun wrth gwrs, mi ddaeth y cod, mi ddaeth y canllawiau ar anghenion gofal iechyd wedyn ac mi ydym ni wedi cael gwahanol fersiynau o’r manylion cyllidol ac yn y blaen, ac rydw i’n teimlo nad dyma’r ffordd ddelfrydol i graffu ar Bil mewn gwirionedd.
O ran y gwelliannau, yn amlwg, o fewn ychydig funudau, mae’n amhosib gwneud cyfiawnder â phob un o’r 48 argymhelliad sydd yn yr adroddiad, ond mi fyddwn i’n ategu’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn ag ehangu’r diffiniad o ‘anghenion dysgu ychwanegol’ i gynnwys anghenion meddygol. Mae’n hynod bwysig bod anghenion meddygol disgyblion mewn ysgolion yn cael eu rheoli’n effeithiol a bod canllawiau manwl a chadarn ar gael i sicrhau bod hynny’n digwydd. Rwy’n cydnabod, ac yn falch, bod y Gweinidog wedi cyhoeddi’r canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yn ystod y broses yma, ond mae yna gwestiynau, fel rydym ni wedi clywed, yn aros ynglŷn â dal yr ystod oedran llawn a fydd o fewn y Bil anghenion dysgu ychwanegol. Rydw i’n croesawu’r ffaith, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi ymrwymo i edrych eto ar ddiwygio’r diffiniad yn adran 2 o’r Bil i’w gwneud hi’n glir ar wyneb y Bil yma y bydd gan rywun angen addysgol ychwanegol os bydd ganddyn nhw gyflwr meddygol sy’n golygu bod ganddyn nhw anhawster dysgu sylweddol fwy na’r rhan fwyaf o bobl o’r un oed.
Rydw i’n meddwl ei bod hi’n gamgymeriad peidio â chynnwys y rhai sy’n ymgymryd â dysgu yn seiliedig ar waith, er enghraifft prentisiaethau, o fewn y Bil yma. Mae pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o gymryd y llwybr dysgu yma yn hytrach nag, efallai, parhau ar gyrsiau mwy academaidd. Rydw i’n clywed pwynt y Gweinidog, neu mae e wedi gwneud y pwynt yn y gorffennol, ei fod e ddim o reidrwydd eisiau tynnu’r sector breifat i fewn i’r Bil. Wel, y gwir yw, maen nhw’n derbyn arian cyhoeddus gan y Llywodraeth, wrth gwrs, i ddarparu’r gwasanaethau yma. Ar ben arall y sbectrwm oed, mae meithrinfeydd sector breifat sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru neu arian cyhoeddus yn cael eu cynnwys o fewn dyletswyddau’r Bil. Felly, fe fyddwn i’n awyddus i weld mwy o gysondeb yn hynny o beth.
Mae’n rhaid cytuno, wrth gwrs, gyda’r nod sydd wrth galon y Bil yma o greu cyfundrefn sydd wedi’i chanoli ar y person: system fwy tryloyw, haws i’w ymwneud â hi. Ond eto, mae’r Llywodraeth yn edrych i gadw dwy gyfundrefn gwbl ar wahân o apeliadau ar gyfer addysg ac iechyd. Rydw i’n clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â pharhau â’r drafodaeth o gwmpas hynny, ond roedd hyd yn oed tystiolaeth y byrddau iechyd, i bob golwg, yn derbyn bod yna le i un tribiwnlys ac un system apelio, cyhyd â bod yr arbenigedd perthnasol yn rhan o’r broses honno, i sicrhau bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud ar y sail glinigol gywir.
Mae yna lawer o gyfeiriadau i’w croesawu at eiriolaeth yn y Bil, ac mi fuaswn i’n awyddus i fynd ymhellach. Mae yna sôn yn yr adroddiad ynglŷn ag edrych ar y cyfnodau pontio allweddol yna pan mae’n dod i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gwasanaethau eiriolaeth, ac nid dim ond ar adegau pan fo torri lawr yn y broses neu pan fo anghydfod.
O ran y Gymraeg, rydw i yn teimlo bod y Bil wedi’i gryfhau. Rydw i’n meddwl bod yna le i fynd ymhellach. Mae yna sôn y byddai hi’n ddymunol darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai llefydd yn y Bil. Wel, fe ddylem ni o leiaf ddweud bod yna ddisgwyl iddo fe gael ei ddarparu lle mae e ar gael. Ond, ar bwynt ehangach, ers degawdau rydym ni’n gwarafun nad oes y capasiti o fewn y gwasanaeth i ddarparu’r hyn y byddem ni ei eisiau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sbectrwm o wasanaethau, ac rydw i yn teimlo—. Un awgrym rydw i wedi’i roi yw bod angen rhyw fath o gymal gwawrio, neu ‘sunrise clause’, yn y Bil. Ie, bod yn bragmataidd a dweud, ‘Lle y bo hi’n bosib, darparu’r gwasanaeth,’ ond erbyn rhyw bwynt penodol yn y dyfodol, dyweder mewn 10 mlynedd, yna mi fydd disgwyl bod y gwasanaethau yna ar gael. Rydw i’n meddwl y byddai hynny’n creu ‘impetus’ i weithredu’n bendant ar yr agenda yma unwaith ac am byth, a sicrhau bod y cynllunio gweithlu a’r hyfforddi angenrheidiol, ac yn y blaen, yn digwydd, yn lle ein bod ni yn dod nôl i fan hyn eto mewn 10, 20 mlynedd arall, gyda’r un gŵyn a’r un broblem.
Yn olaf, nid ydw i’n cytuno â’r Gweinidog ynglŷn â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rydw i o’r un farn â gweddill aelodau’r pwyllgor a’r comisiynydd plant y dylid gosod dyletswyddau i roi sylw dyladwy i’r confensiwn ar wyneb y Bil. Mae’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn gwneud hynny. Mi fuasai peidio â gwneud hynny fan hyn yn anghyson ac yn anfon y neges anghywir am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau’r plentyn.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno’r ddadl heddiw. Nid wyf i ar unrhyw un o'r pwyllgorau sy'n craffu ar y Bil hwn, ac mae'r materion sy'n cael eu codi wedi eu codi gan fy nghyd-Aelod Michelle Brown, sydd ar y pwyllgor addysg ac sy’n methu bod yma heddiw.
Mewn egwyddor, rydym yn cefnogi'r Bil. Mae cyflwyno CDU, cyn belled â’i fod wedi’i wneud yn iawn, yn syniad da. Fodd bynnag, i sicrhau cysondeb ar draws awdurdodau lleol, a wnaiff y Gweinidog gytuno â'r cais gan lawer o randdeiliaid i ddefnyddio CDU templed safonol sy'n berthnasol ar draws yr awdurdodau lleol ac felly’n gludadwy? Byddwn yn gobeithio y gwnaiff y Gweinidog gymryd camau i sicrhau bod gan yr unigolyn sy'n ysgrifennu'r CDU yr arbenigedd sydd ei angen i wneud hynny, a’r wybodaeth i ddod â'r gwahanol ddarparwyr gwasanaethau at ei gilydd i’w cydlynu.
Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion fel ei gilydd ddyletswydd i baratoi a chynnal CDU os ydynt o'r farn bod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, ond does dim sefyllfa ddiofyn, felly yn y pen draw, gallai awdurdodau lleol ac ysgolion fod yn chwarae ping pong gyda'r CDU. A wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud naill ai'r awdurdod lleol neu'r ysgol yn bennaf gyfrifol am baratoi'r CDU, er mwyn atal unrhyw daflu baich o'r math sy'n peri cymaint o rwystredigaeth i’r cyhoedd wrth ymdrin ag adrannau cynghorau?
Oni bai bod gan yr unigolyn anabledd fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu bod ganddo lawer mwy o anhawster i ddysgu, ni fydd neb yn ystyried bod ganddo ADY. Mae hyn yn golygu nad yw plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau meddygol sy'n mynd â nhw allan o'r ystafell ddosbarth, neu’n effeithio fel arall ar eu haddysg, wedi’u cynnwys, ac mae hyn wedi bod yn bryder mawr a leisiwyd gan etholwyr. Felly, a fyddai’r Gweinidog cystal ag egluro pa ddarpariaeth a wneir ar gyfer y rheini sydd â chyflyrau meddygol nad ydynt yn gyfystyr ag anabledd ac nad ydynt yn cael llawer mwy o anhawster i ddysgu, ond bod eu cyflyrau meddygol yn effeithio ar eu dysgu mewn rhyw ffordd arall?
Rwy’n deall bod angen trothwy, ac mae'r diffiniad o 'anghenion dysgu ychwanegol' yn darparu hynny. Fodd bynnag, pa gymorth y bydd plant a phobl ifanc yn ei gael os ydynt ychydig bach o dan y trothwy hwnnw? Pa gefnogaeth a fydd ar gael i blant a phobl ifanc sy'n cael mwy o anhawster i ddysgu na'r plentyn neu'r person ifanc cyfartalog, ond nad oes ganddo anhawster sy’n sylweddol fwy—mewn geiriau eraill, na’r rhai yn y canol?
Soniodd Llyr am brentisiaethau. Mae'r Llywodraeth yn dweud ei bod mor ymrwymedig i hyfforddiant galwedigaethol ag y mae i academia, ond felly mae'n ymddangos yn rhyfedd nad yw’r Bil yn cwmpasu prentisiaethau, a allai adael allan nifer fawr o bobl sydd ag ADY. Does bosib na ddylai'r Bil gael ei ymestyn i gwmpasu’r rhain, er y dylai'r cyfrifoldeb am y CDU fod gyda'r awdurdod lleol yn hytrach na'r cyflogwr, oherwydd byddai hynny'n anghymell creu prentisiaethau.
Rwy'n falch iawn bod yna ragdybiaeth o blaid addysgu plant a phobl ifanc ag ADY mewn ysgol brif ffrwd. Mae hwn yn gam ardderchog. Dylid cadw ysgolion arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu cael eu haddysgu mewn ysgol brif ffrwd er eu lles eu hunain, yn hytrach na’u defnyddio’n rhannol fel tir dympio ar gyfer plant neu bobl ifanc y mae’r ysgolion prif ffrwd yn meddwl bod eu haddysg yn dreth ar adnoddau. Efallai fod nodi y caiff awdurdod lleol drefnu ar gyfer rhoi darpariaeth dysgu ychwanegol y tu allan i ysgol yn gam ymlaen, ond o ystyried y ffaith nad oes rhaid i’r arfer hwn fod yn seiliedig ar ba un a yw er pennaf les y plentyn—mae gan yr awdurdod lleol ddisgresiwn llwyr—gallai’r awdurdod lleol, felly, gellid dadlau, ddosbarthu darpariaeth allan ar sail cost, ar draul y plentyn neu'r person ifanc. Felly, sut y bydd y Gweinidog yn ymdrin â’r broblem bosibl hon?
Rwyf hefyd yn croesawu'r ddyletswydd ar gyrff y GIG i ddarparu triniaeth feddygol. Gallaf ddeall pam nad oes amserlen benodedig wedi'i datgan, ond yn ddelfrydol dylai’r Bil ddatgan bod yn rhaid cydymffurfio â hon a dyletswyddau eraill a gwneud penderfyniadau o fewn amser rhesymol i ymdrin â'r amseroedd aros gormodol a adroddwyd gan rai rhieni plant a phobl ifanc ag ADY.
Yn olaf, ynglŷn â’r gweithdrefnau anghydfod. Er mai’r bwriad yw y bydd y Bil yn helpu i osgoi anghydfodau—ac yn amlwg, mae osgoi’n well na chael anghydfodau yn y lle cyntaf—bydd anghydfodau’n digwydd er hynny, ac eto mae'r llwybrau ar gyfer eu datrys yn dal i fod yn feichus.
Nawr, mae un neu ddau o bobl wedi sôn am berthynas y Bil â'r GIG. Nid oes gan y tribiwnlys addysg unrhyw awdurdod dros gyrff y GIG—nid oes gan y tribiwnlys unrhyw rym i orchymyn un o gyrff y GIG i ddarparu triniaeth neu i ystyried elfennau ar apêl sy'n ymwneud â'r GIG—felly, bydd yn rhaid i rieni ac eraill ddefnyddio proses ar wahân y GIG, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt ymwneud â dwy system apêl yn hytrach nag un. Sut y mae'r Gweinidog yn mynd i sicrhau bod y bobl sy'n apelio i'r tribiwnlys yn cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu sicrhau bod y tribiwnlys yn clywed yr holl wybodaeth berthnasol? Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau na all unrhyw elfen ar yr apeliadau hyn lithro i mewn i'r ether rhwng prosesau apelio addysg a’r GIG?
I grynhoi, rydym yn cefnogi’r Bil hwn, ond rydym hefyd yn pryderu y gallai diffyg staff a chyllid danseilio rhai amcanion da iawn a geir yn y Bil hwn.
Hoffwn groesawu’r ddadl hon yn gynnes iawn, ynghyd â'r egwyddorion arloesol a blaengar o fewn y Bil hwn ar gyfer y bobl ifanc yr ydym i gyd yn eu cynrychioli. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y gwaith cryf, cadarn a chydnerth yn hyn o beth, a hefyd am waith parhaus y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'i Gadeirydd, Lynne Neagle. Mae gan y Bil arloesol hwn, rwy’n credu, y potensial i fod cystal â rhai o’r pethau eraill a ddigwyddodd gyntaf yng Nghymru, fel y Ddeddf trawsblannu organau, y Ddeddf trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig a’r ddeddfwriaeth amgylcheddol arloesol. Bydd y Bil hwn yn ychwanegu at bortffolio o arloesi yng Nghymru ac mae ei angen o ran rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae'n hollol gywir, fodd bynnag, ein bod yn ei wneud yn iawn.
Bydd y Bil hwn yn cael effaith ar dros 100,000 o ddisgyblion ag ADY ac AAA—un o bob pump o ddisgyblion ledled Cymru—ac yn briodol, mae’n rhoi pwyslais ar gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n iawn bod y Bil hwn yn canolbwyntio ar anghenion y dysgwr, cryfhau llwybrau a fframweithiau, cynyddu ymwybyddiaeth o ADY a chynllunio, a gwella darpariaeth a chyflawni yn rhan o'r rhaglen weddnewidiol ehangach ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Nid yw rhieni, gofalwyr a'n pobl ifanc yng Nghymru yn haeddu dim llai, ac mae'r effeithiau a ragwelir ac a ddymunir gan y Bil hwn yn sylweddol ac yn gadarnhaol. Er fy mod yn cydnabod hyn, mae’n rhaid inni hefyd gydnabod yr awydd i gynyddu arbenigedd a gwybodaeth ar draws y sector. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn ystyried yr angen i gynyddu i orfodi cymhwyster Meistr ar gyfer cydlynwyr ADY fel gofyniad hanfodol pan fyddai 'dymunol' hefyd yn cynnal cysondeb a gallu o fewn y sector? Felly, i gloi, rwy’n croesawu'r Bil arloesol hwn. Diolch.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i’r ddadl.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeiryddion y pwyllgorau a'r Aelodau sydd wedi siarad y prynhawn yma. Rwy'n meddwl bod Lynne Neagle, yn ei sylwadau agoriadol, wedi dal hanfod yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni—rhaglen weddnewidiol sy'n gweddnewid bywydau unigolion, o ran eu profiad o addysg, ond hefyd gweddill eu bywydau, yn ogystal, ac mae'r sylw olaf yr ydym newydd ei glywed gan Rhianon Passmore rwy’n meddwl, unwaith eto, yn ail-bwysleisio pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon mewn termau dynol, o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni dros y bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Ac roeddwn yn hoff iawn o’r sylwadau a wnaeth yr Aelod dros Gwm Cynon hefyd, sydd, rwy’n credu, yn cyfleu profiad llawer ohonom sydd hefyd yn ymdrin â'r materion hyn yn rheolaidd bob wythnos fel Aelodau etholaethol. Ac mae'n fater o ymdrin â'r materion hynny, brwydrau teuluoedd yn rhy aml i gael datganiad, ac i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae’n rhaid i’r ddeddfwriaeth hon unioni’r brwydro a'r ymladd a'r ymgyrchu y mae'n rhaid i deuluoedd ei wneud yn rhy aml. Ac mae hynny'n golygu gwneud pethau'n iawn—nid dim ond ei wneud yn iawn er ein budd ni yma y prynhawn yma, ond ei wneud yn iawn ar gyfer cenedlaethau i ddod hefyd. Ac rwy’n adleisio'n gryf yr ymrwymiadau a wnaethpwyd gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma bod yn rhaid inni weithio'n galed gyda'n gilydd, ar y cyd, ar bob ochr i'r Siambr, er mwyn sicrhau bod gennym ddeddfwriaeth sy'n addas i’w diben, nid dim ond deddfwriaeth sy’n golygu ein bod yn gallu ennill pleidlais yma ac acw, ond deddfwriaeth a fydd yn gweithio ac yn gweddnewid bywydau pobl yn y dyfodol.
Gadewch imi ddweud ychydig eiriau am rai o'r sylwadau a wnaethpwyd a'r cyfraniadau a wnaethpwyd yn y ddadl. Mi wnaf ddweud, yn dawel iawn—ac rwy'n teimlo'n eithaf anfoesgar wrth wneud hynny—bod Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr, yn hael iawn â rhai o'i sylwadau am y dull yr ydym wedi’i ddefnyddio, ond rwyf am ddweud wrtho nad oedd y cod yn hwyr. Nid yw'r cod yn ffurfio rhan o'r gwaith craffu ar y ddeddfwriaeth hon, wrth gwrs. [Torri ar draws.] Ildiaf i chi mewn munud. Ond mae'r cod yno fel cymorth i graffu ar y Bil, ac ar y Bil yr ydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ac nid y cod, ac rwy’n pryderu weithiau, pan fyddwch yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol, sydd â’r nod o fod yn gymorth i graffu, bod pobl yn craffu ar yr wybodaeth ychwanegol honno yn hytrach nag ar y Bil ei hun. Ildiaf.
Rwy’n sylweddoli ac yn deall hynny’n llawn, Gweinidog, ac rwy'n ddiolchgar iawn ichi am ildio, ond y realiti yw, pan fyddwn yn wynebu atebion i'n cwestiynau, fel 'Beth am y mater hwn? Beth am y mater arall?', yr ymateb stoc a roesoch i'r pwyllgor oedd ‘Wel, bydd y mater hwn yn cael sylw yn y cod.' Wel, oni bai eich bod wedi cael golwg ar y cod, allwch chi ddim cael sicrwydd y bydd hynny mewn gwirionedd yn digwydd, a dyna beth yr oedd rhanddeiliaid yn galw amdano. Felly, mae cyflwyno’r cod hwnnw’n hwyr—. Yn y bôn, yr hyn yr wyf yn ei ddweud yw: dylai fod wedi cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil, er mwyn rhoi rhywfaint o ffydd inni nad yw’r materion hyn wedi eu colli.
Nid dyna’r ffordd yr ydym yn deddfu, wrth gwrs, ond rwy’n anghytuno â chi am yr ateb stoc. Nid oes unrhyw atebion stoc yn y Llywodraeth hon, Darren, fel atebion i gwestiynau sy'n cael eu gofyn, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod hynny. Ond gadewch inni symud ymlaen.
Y broses sy'n bwysig. Y rhaglen weddnewidiol, y mae’r Bil hwn yn rhan ohoni, yw'r elfen allweddol absoliwt o’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni heddiw. Ac rwy’n meddwl eich bod chi yn eich sylwadau, ac rwy’n meddwl bod Llyr ac eraill hefyd, wedi sicrhau ein bod wedi canolbwyntio ar y rhaglen weddnewidiol honno. Byddwn yn sicrhau bod cyllid ar gael—ac rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaeth Simon Thomas yn ei gyfraniad—i dalu costau gweithredu, ond hefyd—a hwn yw’r pwynt allweddol, rwy’n meddwl—nid dim ond i dalu costau sylfaenol gweithredu'r ddeddfwriaeth, ond hefyd i ddarparu'r cyllid a'r adnoddau i gyflwyno'r rhaglen weddnewidiol ehangach hefyd. Ac mae hynny’n golygu buddsoddi mewn pobl, buddsoddi yn y gweithlu, buddsoddi mewn datblygu'r gweithlu—yr union bwyntiau yr oedd Llyr yn eu gwneud am y Gymraeg, ac rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaethoch am yr iaith. Rwy’n cydnabod, fel chithau, bod gwelliant sylweddol wedi'i wneud i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu mewn ffordd fwy sylweddol a ffordd fwy cynhwysfawr nag sydd wedi’i awgrymu o'r blaen. Rwy’n hoff o’ch syniad o gymal machlud. Mae'n well gen i wawr, ond mae'n ddigon posibl, er na allwn gytuno ar yr adeg o'r dydd, y gallwn gytuno ar yr egwyddor o sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaethau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond gadewch imi ddweud hyn. Gallaf weld bod amser yn symud ymlaen. Rwyf eisoes wedi cadarnhau na fyddaf yn cynnig penderfyniad ariannol heddiw, ond byddaf yn ei ailgyflwyno ar ôl toriad yr haf, ar ôl cyhoeddi'r asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig. Byddaf hefyd yn rhoi ymrwymiad i Aelodau y byddaf yn parhau â’r sgyrsiau a gawsom. Mae nifer o Aelodau wedi codi materion penodol. Byddaf yn siarad â llefarwyr y pleidiau, ac â'r pwyllgorau, cyn inni osod gwelliannau'r Llywodraeth i'r Bil hwn. A byddaf, lle bynnag y bo modd, yn ceisio sicrhau bod sgwrs yn digwydd er mwyn sicrhau bod y gwelliannau yr ydym yn eu gosod yn welliannau sy'n adlewyrchu'r ddadl a gawsom y prynhawn yma, a’r broses graffu y mae pob un o’r tri phwyllgor wedi ymgymryd â hi.
Rwyf hefyd am ddweud, i gloi, wrth Huw Irranca-Davies, ac adroddiad y pwyllgor CLA, fy mod wedi treulio llawer o flynyddoedd ar CLAC, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ac mae’r profiad hwnnw wedi fy ngadael bron yn methu â gwrthod derbyn yr argymhellion. Ond byddaf yn ceisio sicrhau ein bod yn symud tuag at ymagwedd fwy cadarnhaol, pan fo hynny'n bosibl o gwbl. Ac yn sicr, o ran y cod—a myfyrio ar y sylwadau a wnaeth Darren Millar yn ei ymyriad ac yn ei sylwadau cynharach—byddwn yn sicrhau, pan fydd gennym y ddeddfwriaeth ei hun, y byddwn wedyn yn ymgymryd â phroses o graffu ar y cod hefyd.
A bydd hynny’n sicrhau nid yn unig ein bod yn cael y ddadl a'r drafodaeth am ddeddfwriaeth—am y ddeddfwriaeth sylfaenol—ei hun, ond yna o ran ei rhoi ar waith—. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaethpwyd ar bob ochr i'r Siambr ynglŷn â gweithredu, a bydd gennym, gan gymryd pwynt Gareth Bennett am dempled CDU—byddwn yn bwrw ymlaen â’r mathau hynny o faterion, a byddwn yn sicrhau bod amser ar gael, gyda’r wybodaeth y mae Simon Thomas wedi gofyn amdani ac y mae’n ei disgwyl, ac y mae ganddo’r hawl i'w disgwyl, ac yna bydd cyfle i graffu ymhellach ar y cod. Mae angen i hynny fod yn amserol—yn amserol o safbwynt y pwyllgorau hefyd; dywedaf hynny’n glir iawn, iawn—ond bydd hefyd yn sicrhau bod y Llywodraeth hon yn cyflwyno darn o ddeddfwriaeth, a bod y Cynulliad hwn wedyn yn deddfu darn o ddeddfwriaeth a fydd yn cyflawni ein holl uchelgeisiau sydd wedi eu disgrifio mewn gwahanol ffyrdd, ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.