1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2017.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardrethi busnes yn y sector ynni cymunedol? OAQ(5)0686(FM)[W]
Yn 2017-18 mae mwy na £210 miliwn o ryddhad yn cael ei ddarparu i helpu trethdalwyr gyda’u hardrethi annomestig. Mae’r rheini ar gael i bob trethdalwr cymwys sy’n bodloni’r meini prawf, gan gynnwys prosiectau ynni cymunedol.
Ddydd Sadwrn, roeddem ni’n lansio dau gynllun ynni dŵr yn Arfon, sef Ynni Padarn Peris ac Ynni Ogwen. Mae Ynni Anafon yn weithredol yn barod ac rydw i’n falch iawn bod gennym ni dri chynllun sydd yn harneisio un o’n hadnoddau naturiol mwyaf dibynadwy ni, sef dŵr, a bod yr elw sy’n cael ei greu yn cael ei wario ar brosiectau yn y gymuned ac yn dod â manteision i bobl leol. Ond, yn anffodus, mae’r broses o ailbrisio trethi wedi creu pryder mawr yn y sector yma ac yn debygol o rwystro datblygiadau i’r dyfodol. Mae’r Alban wedi mynd ati i gyflwyno pecyn rhyddhad trethi ar gyfer cynlluniau o’r fath, gan ddangos yn glir eu cefnogaeth nhw i’r sector yma. A fedrwch chi ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno pecyn tebyg a fydd yn rhoi gwell sicrwydd i gynlluniau ynni cymunedol ar draws Cymru?
Wrth gwrs, mae yna gynllun mewn lle yn barod er mwyn sicrhau bod rhyddhad i gwmnïau ynglŷn â threthi yn y ffordd hwn. Rŷm ni yn gweithio gyda’r sector er mwyn sicrhau pa fath o gefnogaeth gellid cael ei roi ynglŷn â beth sydd yna ar hyn o bryd, ac wrth gwrs rŷm ni’n moyn sicrhau bod y sector yn tyfu yn y pen draw. Mae’n anodd i wybod beth yw’r ffactorau unigol ynglŷn â’r cwmni y mae’r Aelod wedi sôn amdano, a pa fath o brofiad maen nhw wedi’i gael. Os mae hi’n moyn ysgrifennu ataf i gyda beth mae hi wedi clywed ganddyn nhw, fe fyddwn i’n falch i ateb.
Prif Weinidog, rydym ni’n gwybod bod llawer o'r rheini sydd wedi datblygu’r prosiectau hydro cymunedol hyn yn bryderus dros ben am y cynnydd enfawr hwn. Nawr, fel y mae’r aelod dros Arfon wedi cyfeirio ato, mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud y bydd ganddi ryddhad ardrethi busnes o 100 y cant i’r prosiectau hyn, ac mae hyd yn oed y Llywodraeth yn Lloegr wedi ymrwymo na fydd yn costio mwy na £600 yn fwy iddynt. A allwn ni gael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth Cymru y byddwn ni’n rhoi’r mathau hynny o ryddhad ardrethi ar waith?
Wel, mae gennym ni eisoes system rhyddhad ardrethi ar gyfer ardrethi annomestig sy'n fwy hael na’r hyn sydd ar gael, er enghraifft, yn Lloegr. Mae mwy o fusnesau wedi eu cynnwys yn y cynllun rhyddhad hwnnw nag sy'n wir yno. Gallaf hefyd ddweud bod WEFO wedi galw ar sefydliadau i gyflwyno cynigion i elwa ar £14 miliwn o arian yr UE ar gyfer mentrau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach: mae £10 miliwn ar gael i orllewin Cymru a'r Cymoedd a £4 miliwn i ddwyrain Cymru. Caiff unrhyw sefydliad, pa un a yw yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector, wneud cais. Gallaf ddweud mai’r dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 30 Mehefin, felly nid oes llawer iawn o amser ar ôl, ond serch hynny mae’r cynnig hwnnw wedi bod ar gael ers cryn amser.
Diolch i’r Prif Weinidog.