2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd llwyddiant ym myd chwaraeon o ran hyrwyddo Cymru i'r byd? OAQ(5)0694(FM)
Mae'n chwarae rhan gyfoethog yn ein diwylliant a’n traddodiad. Rydym ni bron i flwyddyn ymlaen o Bencampwriaeth Ewrop, a wnaeth fwy, mae'n debyg, nag y gallai unrhyw wleidydd ei wneud i godi proffil Cymru ledled Ewrop a'r byd. Ie, un o'r pethau yr ydym ni’n ei anghofio weithiau yw, ar y pryd, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan nad oedd gennym fawr ddim arall i’w ddangos fel cenedl, bod chwaraeon wedi chwarae rhan enfawr o ran datblygu Cymru fodern a rhoi ymdeimlad o genedligrwydd i bobl. Yn 1905 y canwyd yr anthem genedlaethol gyntaf mewn unrhyw ddigwyddiad chwaraeon mewn unrhyw le yn y byd, yn y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd. Felly, mae'n hynod bwysig, nid yn unig o ran ychwanegu at ein diwylliant, ond, wrth gwrs, fel ysgogwr economaidd, yn enwedig yn Abertawe.
A gaf i ddiolch i’r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Rwy'n credu ein bod i gyd—neu'r rhan fwyaf ohonom ni wedi mwynhau llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop y llynedd yn arw, ac fe wnaethom ni wir weld Cymru'n cael ei hyrwyddo fel chwaraewr o bwys yn Ewrop o'i herwydd. Rwy'n credu ei bod, wrth gwrs, yn hanfodol bod Chwaraeon Cymru hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd chwaraeon proffesiynol yng Nghymru. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, o ran Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a phwysigrwydd pêl-droed Uwch-gynghrair Lloegr i hyrwyddo Abertawe a Chymru? Dangosir tri deg wyth gêm Uwch-gynghrair Lloegr y flwyddyn ar y teledu ledled y byd gyda'r gair 'Swansea' yn cael ei grybwyll. Dyna’r cyhoeddusrwydd gorau y mae Abertawe neu Gymru yn ei gael o unrhyw le. A yw'r Prif Weinidog hefyd yn falch iawn y bydd Abertawe yn treulio tymor arall yn Uwch-gynghrair Lloegr?
Yr ateb syml yw 'ydw'. Nid wyf yn credu y gallaf i fynd lawer ymhellach na hynny, ond mae Mike Hedges yn hollol gywir i ddweud pa mor bwysig yw clwb Abertawe fel brand i ddinas Abertawe hefyd. Rydym ni wedi gweithio, drwy Croeso Cymru, gyda'r clwb ers 2011 i gynyddu proffil y clwb, ac, wrth gwrs, proffil Cymru.
Wel, ar ôl Mike Hedges, yn union yr un fath: effeithiau aruthrol llwyddiant ein tîm cenedlaethol—y tîm pêl-droed—wrth gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016 a hyrwyddo Cymru yn y byd. Nawr, rwy’n credu bod criced hefyd yn gamp sy'n cael ei chwarae yn gyffredin ymhlith gwledydd y Gymanwlad, ac mae rhai o'r gwledydd sydd yn llawer llai na Chymru yn cynrychioli ar lwyfan y byd ac yn hedfan eu baner ar y meysydd criced ym mhedwar ban byd. Pam na allwn ni, Prif Weinidog, gytuno ar hyn, nawr, bod yr amser wedi dod i ni, Cymru, gael ein tîm criced ein hunain i gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd?
Mae hwn yn fater yr wyf i’n sicr wedi ei gefnogi yn y gorffennol—tîm undydd yn sicr. Nid tîm prawf; nid wyf yn credu ein bod ni’n chwarae’n agos at y lefel honno. Ond mae'n rhyfedd ein bod ni’n gweld Iwerddon a'r Alban yn chwarae mewn cystadlaethau rhyngwladol ac nid Cymru. Roedd gennym ni dîm undydd ar un adeg am ychydig flynyddoedd. Gwn fod pryderon ym Morgannwg oherwydd y fantais ariannol y maen nhw’n ei chael, o fod yn rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, gan fod hynny’n cael ei anghofio weithiau, ond o’m safbwynt i, hoffwn yn fawr iawn ein gweld ni’n cael ein cynrychioli’n rhyngwladol ar y maes criced, cyn belled, wrth gwrs, nad oes ergyd ariannol i Forgannwg a'u gallu i chwarae ar y lefel uchaf.
Yn gyntaf oll, yn anffodus rwy'n credu fod Mike Hedges yn iawn, a dweud y gwir, am Abertawe.
Ydi mae – i gefnogwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. I fod o ddifrif, fodd bynnag, rwyf i wedi cael llawer o gwynion gan etholwyr nad ydyn nhw’n teimlo ein bod ni’n rhoi digon o gefnogaeth i seiclo yng Nghymru. Mae Geraint Thomas newydd fod y Cymro cyntaf erioed i wisgo'r crys melyn, a byddwn yn gobeithio y byddech chi’n ei longyfarch ar hynny yn ffurfiol. Hoffwn wybod: beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo mwy ar seiclo?
Rydym ni wedi cael digwyddiadau, wrth gwrs, yn cael eu cynnal yng Nghymru. Cafwyd y Tour of Britain, os wyf i’n cofio’n iawn. Rwy'n cofio bod yng Nghaerffili, yn ei wylio wrth iddo groesi mynydd Caerffili. Mae gennym ni, wrth gwrs, y felodrom yng Nghasnewydd, sy'n gyfleuster da iawn i bobl allu ei ddefnyddio, ac mae'r ffaith ein bod ni wedi cael llwyddiant ym myd seiclo rhyngwladol—Geraint Thomas, wrth gwrs, ar hyn o bryd; Nicole Cook ac eraill yn y gorffennol—yn dangos bod y cyfleusterau gennym ni i hyrwyddo seiclo. Rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, bod seiclo, unwaith eto, yn un o'r campau hynny sy’n gamp elitaidd ar lefel ryngwladol, ond yn weithgaredd hynod o bwysig o ran gwella iechyd pobl pan eu bod yn seiclo ar gyfer hamdden.