3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 5 Gorffennaf 2017.
Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o bapur polisi Llywodraeth y DU, ‘Safeguarding the Position of EU Citizens in the UK and UK Nationals in the EU’, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf? TAQ(5)0716(FM)
Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud cyfraniad hynod o bositif i fywyd bob dydd yma yng Nghymru. Mae cynigion Llywodraeth y DU yn gam hwyr ymlaen, ond er hynny, nid ydynt yn darparu eglurder llawn i’r dinasyddion yr effeithir arnynt, ac ar y gwaethaf, ymddengys eu bod yn parhau i drin pobl fel testunau bargeinio, sy’n hollol annerbyniol i ni. Mae angen rhoi eglurder a sicrwydd llawn i bawb yr effeithir arnynt, ac mae angen i hynny ddigwydd heb ragor o oedi.
Rwy’n ddiolchgar am eich ateb. Er ei bod bob amser yn bleser gweld Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, cyflwynais y cwestiwn hwn i’r Prif Weinidog, gan ei fod wedi mynnu dro ar ôl tro mai ef yw Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am faterion allanol. Ac efallai fod ei anallu i fod yma heddiw yn adlewyrchu’r angen i Lywodraeth Cymru edrych eto ar yr angen am Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion allanol i Gymru yn ystod yr ychydig flynyddoedd tra phwysig hyn sydd o’n blaenau.
Yr wythnos diwethaf, roedd y papur, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn bell iawn o’r disgwyliadau a bennwyd gan Lywodraeth y DU yn wreiddiol. Mynasant y byddent yn ystyried trefniant a fyddai’n ddwyochrog, a phan fyddwn yn cymharu papur Llywodraeth y DU â phapur yr Undeb Ewropeaidd, mae’n deg dweud na chyflawnwyd hynny. Ac wrth gwrs, mae hynny wedi cael effaith enfawr ar yr 80,000 o wladolion yr UE yng Nghymru a’r 3 miliwn o wladolion yr UE ledled y DU.
Mae’r cynigion yn cynnwys rhoi statws preswylydd sefydlog, na fyddai’n cael ei roi’n awtomatig i wladolion yr UE, hyd yn oed y rhai sy’n dod yn breswylwyr parhaol. Byddai myfyrwyr yr UE yn cael aros am gyfnod eu cwrs, ond ceir amwysedd ynglŷn ag a fyddent yn cael aros wedi i’r cwrs ddod i ben. Un maes sy’n peri cryn bryder yw’r amwysedd ynglŷn â’r terfyn amser, gan y gallai gwladolion yr UE—yn enwedig y rheiny sydd â phlant—wynebu sefyllfa lle byddai gan y rhieni wahanol statws mewnfudo i’w plant. Ac mewn gwirionedd, yn ôl fy nehongliad i o bapur sefyllfa Llywodraeth y DU, ymddengys i mi y bydd gwladolion yr UE yn colli eu hawliau ailuno teuluoedd, ac nid oedd yr UE yn cynnig hynny yn eu papur sefyllfa hwy ar gyfer gwladolion y DU ar y cyfandir. Ac ynglŷn â gwladolion y DU ar y cyfandir, yn groes i’r graen, mae papur y DU yn dweud llai am hawliau gwladolion y DU ar y cyfandir nag y mae papur yr Undeb Ewropeaidd yn ei ddweud am wladolion Prydeinig ar y cyfandir. Fe sonioch am destunau bargeinio. Credaf ei bod yn drist iawn gweld ei bod yn ymddangos, yn y papur sefyllfa a gyhoeddwyd, fod gwladolion yr UE yn cael eu defnyddio fel testun bargeinio. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ei phapur sefyllfa ei hun fel rhan o broses Llywodraeth y DU o lunio ei phapur ei hun? Os na wnaethant, a yw’n credu y byddai’n fuddiol bellach i Lywodraeth Cymru gyhoeddi papur sefyllfa i roi pwysau gwleidyddol ar Lywodraeth y DU, fel y gallwn gynnal hawliau’r 80,000 o wladolion yr UE yn y wlad hon? Ac ai safbwynt Llywodraeth Cymru yw y dylai fframweithiau presennol yr UE sy’n ymwneud â hawliau dinasyddion gael eu trosi i gyfraith y DU, o dan ddarpariaethau’r Bil diddymu, yn hytrach na drwy’r dull a gynigir gan Lywodraeth y DU, sef dechrau o’r newydd â chyfraith y DU, sydd, fel y dywedais, yn cael gwared ar hawliau presennol dinasyddion yr UE?
Ac yn olaf, dywedwyd wrthym mai hon fyddai’r rhan hawsaf o drafodaethau Ewropeaidd y DU. Dyna a ddywedodd Llywodraeth y DU wrthym dro ar ôl tro. Ac mae’r ffaith na allwn sicrhau trefniadau dwyochrog mewn perthynas â mater sylfaenol hawliau dinasyddion sydd wedi cyfrannu at ein gwlad—beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym am y ddwy flynedd nesaf, pan fyddwn yn trafod materion y bernir eu bod hyd yn oed yn anos na hwn?
Wel, Dirprwy Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy ddweud rhywbeth am bwyntiau cychwynnol Steffan Lewis. Oherwydd mae’n ymddangos i mi mai camgymeriad sylfaenol yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ymgymryd â’r rhan hon o’r trafodaethau oedd ei bod, yn hytrach na disgrifio eu papur fel man cychwyn, rhywbeth i’w drafod ymhellach, ffordd o ddynesu at feysydd go gymhleth, wedi mynnu ei ddisgrifio o’r dechrau fel rhyw fath o gynnig hynod o hael yr oedd pobl yn siŵr o heidio i ymrwymo iddo. Yn anochel, yn y pen draw, fel y dywedodd Steffan Lewis, siomi pobl yn unig a wnaeth ar ôl i’w disgwyliadau gael eu codi. Mae’n ddechrau hollol ryfedd i Lywodraeth y DU beidio â chyfeirio hyd yn oed yn y ddogfen a gyhoeddwyd ganddynt at bapur yr UE a gyhoeddwyd cyn eu papur hwy, gan dramgwyddo, unwaith eto, y bobl y mae’n rhaid i chi allu dod i gytundeb synhwyrol â hwy. Felly, fy nehongliad i o’r papur hwn yw ei fod yn ddechrau digon synhwyrol, a phe bai wedi cael ei gyflwyno yn y ffordd honno, a’i ddisgrifio yn y ffordd honno, credaf y byddai wedi bod yn haws sicrhau ymrwymiad iddo.
Fel y dywedodd Steffan Lewis, mae’n gadael cyfres o amwyseddau ynglŷn â statws dinasyddion yr UE. A fyddant yn gallu cefnogi rhieni dibynnol? O dan ba reolau y dylai darpar briod wneud cais, er enghraifft? Ac mae mater y terfyn amser yn hollbwysig yma. Rwy’n credu’n wirioneddol fod gwleidyddion y DU sy’n dadlau y byddai terfyn amser yn y dyfodol yn arwain at fewnlif torfol o bobl i’r Deyrnas Unedig i geisio sicrhau statws preswylwyr sefydlog—mae hynny mor bell o realiti cyfoes ymfudo, lle rydym wedi gweld cwymp mewn gwirionedd yn nifer y bobl a ddaw i’r Deyrnas Unedig. Pan siaradais â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain yr wythnos diwethaf, roedd eu haelodau’n awyddus i ddweud wrthyf pa mor anodd bellach yw recriwtio’r bobl sydd eu hangen arnynt i weithio yn eu busnesau. Felly, mae peryglon terfyn amser yn cael eu gorliwio’n fawr ar lefel y DU, a dylid mynd i’r afael â hynny hefyd.
A wnaethom gyhoeddi papur sefyllfa? Wel, fel y gŵyr yr Aelod, ni wnaethom hynny, ond gallaf ddweud wrtho nad oedd hynny’n golygu am funud na fu modd i ni roi ein barn yn ddiamwys i Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Dywedodd Llywodraeth y DU wrthym na fydd hyn yn rhan o fecanwaith y Bil diddymu, ond y bydd yn rhan o Fil ar wahân, a bydd yna bethau y byddwn yn awyddus i’w dweud, ac yn awyddus i’w dweud yn gyhoeddus, cyn i unrhyw Fil o’r fath gael ei gyhoeddi.
Pwynt olaf Steffan Lewis, mewn rhai ffyrdd, yw’r un mwyaf digalon, onid e? Os mai hon oedd y rhan hawsaf, os oedd hwn yn fater roedd pawb yn cytuno bod angen inni gael cytundeb cyflym yn ei gylch, yna mae’r methiant i allu gwneud cynnydd cyflym yn y ffordd y teimlwn y byddai wedi bod yn hollol bosibl i ni ei wneud yn arwydd go ddigalon o’r anawsterau sydd o’n blaenau pan fydd angen trafod pethau llawer mwy cymhleth.
Yn dilyn pwynt Steffan ynglŷn â gwladolion yr UE sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig, mae heddiw’n nodi 69 mlynedd ers sefydlu’r GIG. Credaf fod yna dystiolaeth sy’n awgrymu bod llai o bobl o’r UE yn cofrestru i weithio yn y GIG bellach o ganlyniad uniongyrchol i bleidlais Brexit. Heddiw, rwyf wedi ail-lansio ymgyrch ‘Diolch Doc’ i annog pobl yng Nghymru i ddiolch i’r bobl o dramor sy’n gweithio ac yn ein helpu yn ein GIG. Ond nid dyna’r cwestiwn roeddwn am ei ofyn. Y cwestiwn roeddwn am ei ofyn oedd: a yw’r Gweinidog cyllid yn cytuno y gall fod nam technegol yn y Ddeddf a sbardunodd broses Brexit, oherwydd er bod y Ddeddf yn awdurdodi Prif Weinidog y DU i roi gwybod i’r UE ein bod yn bwriadu gadael, nid yw’n dynodi, fel y cafodd ei hysgrifennu, y dylem adael?
Nawr, o ystyried bod hynny’n dod gan un o gefnogwyr brwd yr UE fel fi, rwy’n deall y bydd yn swnio fel ystryw i’n hatal rhag gadael yr UE, ond nid dyna ydyw—mae’n gwestiwn dilys ynglŷn ag a ellid herio’r Ddeddf, fel y mae wedi’i drafftio, yn y llys. A fyddai’r Ysgrifennydd cyllid yn barod i edrych ar hyn er mwyn ceisio eglurhad gan arbenigwyr cyfreithiol y Llywodraeth?
Diolch i Eluned Morgan am ddwy ran yr hyn a ddywedodd. Mae’n hollol gywir ynglŷn â’r GIG—ni fyddai’r GIG yng Nghymru yn goroesi oni bai bod pobl Cymru wedi bod yn ddigon ffodus i allu denu pobl o rannau eraill o’r byd sy’n barod i ymrwymo eu dyfodol i fod yn rhan o’n dyfodol ni. Mae’n hollol gywir y dylem gydnabod hynny a bod yn barod i ddweud hynny’n uniongyrchol wrth bobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cymunedau.
Rwy’n ymwybodol o’r pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â’r nam technegol posibl mewn perthynas â deddfwriaeth erthygl 50. Gwn fod yna grwpiau o gyfreithwyr—mae un yn fy etholaeth i sydd wedi dadlau’n gryf iawn fod yna broblem dechnegol gyda’r Ddeddf Seneddol a basiwyd ar lefel y DU. Rwy’n gwybod eu bod wedi cyflwyno’r safbwynt hwn i’r Comisiwn ac rwy’n gwybod bod rhai o gyn-Arglwyddi’r Gyfraith blaenllaw iawn, er enghraifft, yn rhannu’r safbwynt hwnnw. Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn y Siambr a bydd wedi clywed y pwynt hwnnw a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael safbwynt cyfreithwyr Llywodraeth Cymru. Pan fyddaf yn edrych ar hyn a chael pobl yn dod i fy ngweld, yn aml byddaf yn dweud wrthynt yn y diwedd fy mod yn meddwl tybed a ydynt yn camgymryd y gyfraith am wleidyddiaeth y mater hwn, a hyd yn oed os oes nam technegol yn y ffordd y gallai’r Ddeddf fod wedi cael ei llunio, ni ellir honni na fydd y mwyafrif gwleidyddol a oedd o blaid diben y Ddeddf honno’n fwy arwyddocaol yn y pen draw.
Dywed Llywodraeth y DU bod sicrhau cytundeb ar hawliau gwladolion yr UE yn y DU a gwladolion y DU yn yr UE bob amser wedi bod yn flaenoriaeth, ond wrth gwrs, cyn dechrau’r trafodaethau ffurfiol, roedd y Comisiwn a Llywodraeth y DU wedi dweud na allai cynigion a gwrthgynigion a thrafodaethau ar gytundebau gychwyn nes i’r trafodaethau gychwyn yn ffurfiol. Felly, mae’r DU wedi rhoi cynnig, gan roi’r sicrwydd y mae 3 miliwn o wladolion yr UE yn chwilio amdano mewn perthynas â dyfodol eu bywydau, a fyddai’n rhoi mynediad at fudd-daliadau’r DU ar yr un sail â gwladolion y DU, ond maent hefyd yn dweud y byddai cytundeb dwyochrog yn rhoi’r un sicrwydd i fwy na miliwn o wladolion y DU sy’n byw yn yr UE. Llywodraeth y DU sy’n datgan bod y cynnig hwn yn golygu y gall trafodaethau ffurfiol ar ymadawiad y DU â’r UE gychwyn mewn modd y maent yn gobeithio y bydd yn gynhyrchiol. Felly mae’n rhan o broses, ac maent wedi gwneud hynny’n gwbl glir. Ond yn ei ymateb, argymhellodd prif negodwr yr UE y dylid cadw Llys Cyfiawnder Ewrop fel y corff sy’n cynnal hawliau dinasyddion yr UE yn y DU. Rwy’n deall bod opsiynau eraill wedi cael eu trafod yn rhagarweiniol—pa un a ellid sefydlu corff newydd, o ystyried canlyniad y refferendwm y llynedd, a fyddai’n ymwneud yn rhannol â’r broses o ddychwelyd pwerau deddfu. Felly, o ystyried bod y cylch nesaf o drafodaethau rhwng y DU a’r UE i ddigwydd ar 17 Gorffennaf, pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU ar y mater penodol hwn?
Wel, Dirprwy Lywydd dros dro, fel y dywedodd Steffan Lewis, os yw hyn bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, yna mae’r methiant i wneud cynnydd digonol ar rywbeth sydd bob amser wedi bod yn flaenoriaeth yn arwydd eithaf digalon o ran yr agweddau eraill, mwy cymhleth ar y trafodaethau. Mae obsesiwn y Prif Weinidog gyda Llys Cyfiawnder Ewrop yn mynd yn rhwystr gwirioneddol i wneud penderfyniadau synhwyrol yn y trafodaethau hyn. Mae Mark Isherwood, rwy’n credu, yn gywir i ddweud bod yna rai atebion dros dro i’r mater hwn, ond po gyflymaf y bydd Llywodraeth y DU yn cydnabod hynny ac yn realistig yn ei gylch, y cyflymaf y down i benderfyniad. Mewn unrhyw gytundebau masnach a wneir gan y DU, nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd yna ganolwr annibynnol i’r cytundebau masnach hynny na fydd yn rhan o system llysoedd domestig y DU ei hun yn llwyr. Dylai hwnnw fod yn ateb y gallant ei ddyfeisio mewn perthynas â hawliau dinasyddiaeth hefyd.
O ran y cylch nesaf, ysgrifennais ar y cyd â Mike Russell, Gweinidog yr Alban dros Brexit, am yr eildro, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar, yn cynnig y dylai mecanwaith y Cydbwyllgor Gweinidogion gael rhan reolaidd yn y cylch misol o drafodaethau y mae Llywodraeth y DU bellach wedi ei ddechrau, oherwydd byddai hynny’n rhoi cyfle sicr i weinyddiaethau datganoledig drafod o amgylch y bwrdd gyda Llywodraeth y DU, gydag awydd i wneud hynny’n adeiladol, ac awydd i gynorthwyo o ran y modd y gallwn gyfrannu at y safbwynt negodi y bydd y DU yn ei gymryd. Ond heb fecanwaith o’r fath sy’n rheolaidd ac yn sicr, yr hyn sydd gennym yw cyfres ddwyochrog o alwadau ffôn, cyfarfodydd a llythyrau ac yn y blaen, a chredaf fod honno’n ffordd anfoddhaol iawn o gynnal trefniadau o fewn y DU rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU.