3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yng Coilcolor yng Nghasnewydd? TAQ(5)0198(EI)
Gwnaf. Mae fy swyddogion wedi bod yn trafod gyda’r cwmni ers y llifogydd ar y safle. Ar 10 Gorffennaf, cawsom ein hysbysu bod y cwmni’n bwriadu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ond rydym yn barod i helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn.
Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r sefyllfa yn Coilcolor a’r bygythiad i swyddi dros 40 o weithwyr a gyflogir yno. Rwy’n deall bod y sefyllfa hon wedi codi o anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a Coilcolor dros daliad iawndal ar ôl i adeilad y cwmni ddioddef llifogydd yn 2016. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr yn mynnu bod taliad iawndal wedi cael ei addo, ond mae Llywodraeth Cymru yn gwadu hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymyrryd yn bersonol i achub y swyddi yn Coilcolor, ac a wnaiff gytuno i ymchwilio i’r mater hwn yn llawn i weld sut y gallai’r anghydfod hwn fod wedi codi a gwneud datganiad fel mater o frys, os gwelwch yn dda?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i bryder, a rennir gan lawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon? Yn wir, mae’r Aelod lleol, Jayne Bryant, wedi trafod ei phryderon ynglŷn â dyfodol y cwmni gyda mi ar sawl achlysur ac wedi cyflwyno sylwadau cryf iawn. Yn y bôn, rwy’n credu y byddai’n amhriodol i mi wneud sylwadau neu ddyfalu ynglŷn â hyfywedd y cwmni pe na bai’r llifogydd wedi digwydd, ond o ran yr hyn a ddigwyddodd gyda’r llifogydd, fel arfer yn y math hwn o achos byddai cwmni yswiriant yn talu’r iawndal ond yna’n erlyn y partïon sy’n atebol. Yn yr achos hwn mewn gwirionedd, roedd Llywodraeth Cymru, fel y tirfeddiannwr, wedi trwyddedu’r safle i Tai Tirion ar adeg y llifogydd. Yn ei dro, roedd y tir wedi’i feddiannu gan eu contractwyr, Walters, a oedd yn adfer y safle i’w baratoi ar gyfer cynllun tai. Nawr, fel y dywedaf, fel arfer byddai’r hawliad yn cael ei brosesu drwy gwmni yswiriant a byddent wedyn yn dod ar ein holau pe baem yn atebol. Nid yw hynny wedi digwydd. Mae swyddogion wedi bod mewn trafodaethau agos iawn gyda’r cwmni, ac rwyf wedi bod â diddordeb brwd iawn yn y mater ers misoedd lawer. Fe wnaethom helpu i hwyluso cymorth drwy Cyllid Cymru yn ôl ym mis Rhagfyr 2016, a alluogodd y cwmni i barhau i fasnachu heb broblemau mawr, gan fwrw ymlaen â’u hawliad yswiriant hefyd.
Buaswn yn gwrthod unrhyw honiad fod Llywodraeth Cymru erioed wedi addo taliad heb ragfarn. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod cyfreithwyr Coilcolor wedi anfon llythyr yn ymwneud â hawliad am £600,000 yn dilyn y llifogydd. Aeth Llywodraeth Cymru ati i gyfarwyddo cyfreithwyr allanol, a ofynnodd am fanylion yr hawliad, ond nid yw’r cwmni wedi bwrw ymlaen ag ef. Anfonasom ail lythyr ym mis Ebrill a chawsom ein hysbysu am hawliad arall yn ymwneud â thaliad o £58,000 i landlord yr adeilad, ond cyngor ein cyfreithiwr o hyd yw na ddylem roi unrhyw gamau ar waith neu wneud unrhyw daliadau sy’n ymwneud â’r hawliad neu’r adeilad hyd nes y byddwn wedi cael rhagor o fanylion, gan gynnwys sail lawn y ddau hawliad. Mae hynny’n gyfrifol ac yn angenrheidiol. Fodd bynnag, rwy’n pryderu am ddyfodol gweithwyr y cwmni, ac rydym yn barod i helpu’r banc a Grant Thornton mewn unrhyw ffordd bosibl, pe bai prynwr newydd yn ymddangos ac yn cymryd meddiant ar y gwaith. Mae gennym fodd dibynadwy o ymyrryd pan fo swyddi’n cael eu colli. Unwaith eto, byddem yn defnyddio’r math o gymorth y bwriadwn ei ddefnyddio pe bai swyddi’n cael eu colli yn Tesco yng Nghaerdydd, er enghraifft.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod eich bod chi a’ch swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda Coilcolor ers y llifogydd, ac wedi sicrhau bod cefnogaeth Cyllid Cymru a Busnes Cymru ar gael. A fyddwch yn parhau i wneud popeth yn eich gallu i weld a oes ffordd y gellir cynorthwyo’r cwmni a’r staff yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn?
Byddaf, yn sicr. Rwy’n ymrwymo i sicrhau bod swyddogion yn parhau i weithio gyda’r cwmni, gyda’r banc a chyda Grant Thornton i wneud popeth a allwn i achub y cwmni a hefyd y swyddi sy’n cael eu gwneud gan bobl fedrus iawn—tua 50 o bobl—a gyflogir ar y safle. Dylwn ddweud hefyd fod y gefnogaeth y gallasom ei rhoi drwy Cyllid Cymru yn dod o’u cronfa achub ac ailstrwythuro, a oedd yn golygu yn y bôn na allem ychwanegu cyllid ychwanegol ar ben hynny oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. Ond byddwn yn parhau i weithio gyda’r cwmni i geisio sicrhau dyfodol iddo ac i’r 50 a mwy o weithwyr sydd wedi’u lleoli ar y safle.
Mae’n peri pryder mawr fod cwmni ag enw da sy’n cyflenwi cwmnïau rhyngwladol wedi bod â phethau llym iawn i’w dweud am Lywodraeth Cymru. Hoffwn yn fawr glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â pham ei fod yn credu bod gan y cwmni bethau difrifol iawn i’w dweud ynglŷn â’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r sefyllfa hon. Yn amlwg, byddai 50 o deuluoedd yn cael eu siomi’n aruthrol pe bai’r cwmni’n dirwyn i ben. Rydym yn deall bod cynnydd wedi bod mewn ymholiadau gan gwmnïau mewn perthynas â chael eu cyflenwi gan Coilcolor, er gwaethaf y ffaith nad oes ganddynt y gallu i brynu stoc ar hyn o bryd. Ar y pwynt ynglŷn â’r taliadau heb ragfarn, a all egluro unwaith eto na wnaed unrhyw gynnig o’r fath? Ac a all daflu rywfaint o oleuni, efallai, ar ba gynnig a wnaed ac o ble y gallai’r gamddealltwriaeth fod wedi codi? Deallaf fod y llifogydd wedi dod o dir a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru, gerllaw’r cwmni. A yw’n credu bod rhywfaint mwy o ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd felly, yn hytrach na dim ond eu cyfeirio at Cyllid Cymru?
O ran y pwynt ehangach, yn enwedig pan fyddwn yn meddwl am enw da Cymru fel gwlad sy’n gyfeillgar i fusnesau, beth y mae’n ei ddweud os mai’r gorau y gallwn ei gynnig i fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yw benthyciad Cyllid Cymru gyda chyfradd llog o 11 y cant, pan fo llawer o bobl yn meddwl tybed sut y mae cwmnïau rhyngwladol mawr i’w gweld yn cael bargen well?
Byddwn yn gwrthod llawer o’r honiadau a wnaeth yr Aelod. Roedd cyfradd llog o 11 y cant ar y gronfa achub ac ailstrwythuro a ddefnyddiwyd yn yr achos hwn, ond roedd angen y gronfa honno am mai cyfyngedig oedd y cyfle mewn mannau eraill i dynnu’r adnoddau angenrheidiol i lawr er mwyn cadw’r cwmni i fynd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ni addawyd unrhyw daliad heb ragfarn—ac rwy’n datgan hynny eto: ni addawyd unrhyw daliad heb ragfarn erioed. Fodd bynnag, fe allodd Llywodraeth Cymru weithredu fel cyfryngwr, gan sicrhau bod cefnogaeth yn dod gan Cyllid Cymru. Archwiliwyd pob opsiwn arall ar gyfer cefnogi’r cwmni gydag adnoddau ariannol, ond fel rwyf newydd ei ddweud wrth Jayne Bryant, nid oedd hynny’n bosibl oherwydd byddai cefnogaeth bellach wedi mynd yn groes i gymorth gwladwriaethol.
Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r gymuned fusnes i ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn problemau fel hyn, ond rwy’n mynd yn ôl at y pwynt wneuthum i Mohammad Asghar: byddai’n amhriodol i mi ddyfalu ynglŷn ag i ba raddau yr arweiniodd y llifogydd at beri i’r cwmni wynebu’r math o broblemau a wynebodd. O ran y llifogydd, rwyf eisoes wedi rhoi manylion am ddeiliaid y tir, a’r broses arferol a fyddai wedi cael ei dilyn gan y cwmni yswiriant, i geisio iawndal gan y parti atebol—. Nid yw’r broses honno wedi cael ei ddilyn. Yn lle hynny, fel y dywedais wrth ddau Aelod yn awr, cawsom lythyr gan gyfreithwyr y cwmni yn galw arnom i dalu £600,000. Ni fyddai’n briodol i ni symud ymlaen heb y manylion sydd eu hangen. Ni chawsom yr ymateb rydym wedi gofyn amdano, er i ni ysgrifennu ar ddau achlysur.
Yn drydydd, rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried parhau i gyflogi’r 50 o weithwyr ar y safle fel blaenoriaeth ar hyn o bryd. Am y rheswm hwnnw, mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â’r cwmni i ganfod ffyrdd o gadw’r safle’n weithredol. Mae’r Aelod yn iawn: mae’n darparu gwasanaeth hynod o werthfawr ac mae ganddo lawer o gyflenwyr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni barhau i weithredu. Rwy’n hyderus fod y banc a Grant Thornton yn gwneud popeth yn eu gallu i ddod o hyd i brynwr. Yn sicr, rydym yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.