<p>Dysgu Cynhwysol sy'n Seiliedig ar Waith</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â dysgu cynhwysol sy'n seiliedig ar waith? OAQ(5)0736(FM)[R]

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth agenda'r Llywodraeth ar gyfer cyflogadwyedd. Mae Cymru’n Gweithio yn cydnabod ymrwymiad y Llywodraeth hon i sicrhau bod dysgu seiliedig ar waith yn parhau i fod yn gynhwysol i bawb, waeth beth fo'r angen.

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:59, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cefais gyfarfod â Dr Stephen Beyer o Brifysgol Caerdydd, sy'n gweithio ar brosiect Engage to Change, a sefydlwyd gan ddefnyddio arian o gyfrifon banc segur ac sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru. Y nod yw cael pobl 16 i 25 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i mewn i waith hirdymor. Un o'r sefydliadau sy'n gweithio gydag ef yw Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yn fy etholaeth i, lle rwy'n llywodraethwr, ac rwy’n datgan buddiant. Rwy'n credu bod ganddo swyddogaeth bwysig, y prosiect hwn, o ran cynorthwyo hyfforddiant swydd a phrofiad gwaith i’r bobl ifanc hynny. Rwy'n credu y gallai hefyd fod â goblygiadau i drefniadau pontio o dan y trefniadau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan y Bil anghenion dysgu ychwanegol. A fyddai'r Prif Weinidog felly yn cefnogi model o'r math hwn os bydd y cynllun arbrofol trwy Brifysgol Caerdydd yn llwyddiannus?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwn, byddwn yn edrych i weld, wrth gwrs, sut y mae'r model yn gweithio, a byddwn yn gwerthuso'r model, ond rydym ni’n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gennym ni gymaint ar gael i gael pobl i mewn i waith, yn enwedig y rhai sydd ag anableddau a'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistig, ac wrth gwrs, rydym ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r prosiect.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno y dylai addysg uwch ymgysylltu â dysgu seiliedig ar waith i fynd i'r afael â'r rheidrwydd economaidd o gyflenwi gweithwyr sydd â’r sgiliau a'r wybodaeth briodol i'w paratoi ar gyfer natur newidiol gwaith yn yr hinsawdd swyddi bresennol. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i annog mwy o gydweithredu rhwng cyflogwyr, sefydliadau cyflogwyr ac addysg bellach ac uwch i ddarparu ac ehangu’r dysgu perthnasol yn y gweithle yng Nghymru?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n gweithio'n agos iawn, wrth gwrs, gyda chyflogwyr gan ein bod ni’n gwybod bod dysgu seiliedig ar waith yn hynod bwysig i ddatblygu sgiliau pobl yn y dyfodol. Rydym ni’n ystyried sut i ddatblygu cyflogadwyedd pobl a sut yr ydym ni’n gweithio gyda busnesau er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:01, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o gyflogwyr yn teimlo bod pobl ifanc yn gadael y system addysg heddiw heb y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt ar gyfer y farchnad lafur. Mae gan lawer o bobl radd, er enghraifft, ond nid yw cyflogwyr o’r farn eu bod yn barod ar gyfer gwaith. A ydych chi'n meddwl y dylid ailwampio’r system prifysgolion yng Nghymru?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod prifysgolion wedi gwella dros y blynyddoedd o ran y ffordd y maen nhw’n gweithio gyda busnesau. Mae'n wir i ddweud bod y cysylltiad yn denau iawn tua 10 mlynedd yn ôl. Nid oedd Prifysgolion o’r farn bod angen iddyn nhw weithio gyda busnesau yn y ffordd y maen nhw nawr. Rwyf i’n sicr wedi gweithio gyda phrifysgolion ac wedi mynd i brifysgolion lle maen nhw’n gweithio'n agos iawn gyda byd busnes, a lle maen nhw’n gweld eu hunain fel sbardun economaidd i greu busnesau newydd. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i’n ei groesawu'n fawr.