<p>Datblygu Economaidd yng Nghymoedd De Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:59, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y cyfraniad y mae twristiaeth yn ei wneud i ddatblygiad economaidd ledled y wlad, rwy’n falch o nodi’r llwyddiant ysgubol rydym wedi’i weld gyda’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth ledled Cymru. Ond mae’n peri pryder i mi nodi, o’r 205 o gynlluniau sydd wedi derbyn cynigion am gymorth grant o dan y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth ers mis Ebrill 2011, mai pedwar yn unig o’r rheini sydd wedi’u lleoli yn rhanbarth Cymoedd de Cymru. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Rock UK yn fy etholaeth yn un ohonynt. O ystyried yr harddwch gwledig y mae David Melding newydd fod yn siarad amdano, a threftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol gyfoethog yr ardal, a ydych yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r nifer gyfyngedig sydd wedi manteisio ar hyn yn y Cymoedd, hyd yn oed o ystyried bod y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth yn gyllidwr pan fetha popeth arall? A gaf fi ofyn a fyddech yn ystyried gwneud rhywfaint o ymchwil mewn perthynas â pham nad yw busnesau yn yr ardal hon yn barod i fanteisio ar y ffynhonnell benodol hon o gyllid ac a oes lle, mewn gwirionedd, i ehangu’r cynllun—i ehangu cwmpas y cynllun?