– Senedd Cymru am 3:41 pm ar 26 Medi 2017.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Seilwaith ynglŷn â chynigion trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy, a galwaf ar Ken Skates i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf y cyfle hwn heddiw i ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â nifer o ddatblygiadau trafnidiaeth yng Nglannau Dyfrdwy. Does dim angen dweud ein bod ni, fel Llywodraeth, yn gwbl benderfynol i greu ffyniant a chefnogi datblygu economaidd ym mhob rhan o Gymru.
Ym mis Mawrth eleni, lansiais fy ngweledigaeth trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru a metro gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’r weledigaeth hon yn golygu creu system drafnidiaeth gyfannol o ansawdd da ar draws y rhanbarth gan gynyddu'r cyfleoedd economaidd trwy gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae gwella cysylltedd yn mynd y tu hwnt i'r ffin ranbarthol, a dyna pam yr wyf wedi sefydlu grŵp llywio trafnidiaeth sy'n dod â phartneriaid allweddol o ogledd Cymru, Glannau Mersi a Swydd Gaer ynghyd i gyflawni fy ngweledigaeth. Bydd y grŵp llywio yn cydgysylltu datblygiad rhaglen waith ar gyfer metro’r gogledd-ddwyrain yn ogystal â datblygu buddsoddiadau mewn rhannau eraill o'r rhanbarth. Dros y misoedd diwethaf, bu'r grŵp yn gweithio gydag awdurdodau lleol, sectorau busnes a chwmnïau bws a thrên i ddatblygu pecyn o fuddsoddiadau trafnidiaeth i'w darparu dros y misoedd nesaf.
Y prif bwyslais oedd creu canolfannau trafnidiaeth cyfannol mewn safleoedd cyflogaeth allweddol ledled y gogledd ac ardal ehangach y Mersi a’r Dyfrdwy. Yn y gogledd, mae'r canolfannau hyn yn ardaloedd Bangor, Abergele, Y Rhyl, Llanelwy, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Fy mwriad dros yr wythnosau nesaf yw cyhoeddi rhaglen o fentrau metro yng nghanolfan ardal Wrecsam, ond heddiw mae fy mhwyslais ar Lannau Dyfrdwy.
Heddiw, bydd fy natganiad yn cyflwyno fy mhenderfyniad ynghylch y dewis a ffefrir ar gyfer cynllun coridor Glannau Dyfrdwy, yn ogystal ag amlinellu mentrau ehangach sy'n cael eu datblygu yn ardal Glannau Dyfrdwy. Byddaf yn gwneud datganiadau pellach dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i esbonio fy nghynigion ar gyfer y canolfannau eraill.
Mae cyfuno trafnidiaeth yn ymwneud â chysylltu’r holl ddulliau trafnidiaeth, ac mae'r pecyn o fesurau yr ydym ni’n ei gynllunio ar gyfer Glannau Dyfrdwy yn darparu ar gyfer pob un o’r dulliau hynny ac yn gwella seilwaith a gwasanaethau. Yn bwysig, mae'r gwelliannau'n cefnogi’r cynllun Glannau Dyfrdwy a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan Gyngor Sir y Fflint. Hoffwn longyfarch yr awdurdod ar ei gynllun, sy'n nodi'r hyn sy’n angenrheidiol ei wneud yn y maes trafnidiaeth er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd. Mae'r pecyn o fesurau yr ydym ni’n ei ddatblygu yn gwneud llawer iawn i fodloni’r dyheadau sy’n rhan o gynllun Glannau Dyfrdwy.
Yn gyntaf, rwy'n falch o gyhoeddi, ar ôl ystyried yr agweddau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mewn cysylltiad â chynllun coridor Glannau Dyfrdwy, ynghyd â chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gennym, fy mod wedi penderfynu mabwysiadu'r llwybr coch fel y dewis a ffefrir. Mae'r dewis hwn, sy'n cynnwys cynyddu’r capasiti ar yr A548 bresennol a ffordd newydd rhwng yr A55 a'r A548, yn fy marn i, yn mynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth yr oeddem ni wedi'u nodi o'r blaen yn yr astudiaeth gwelliannau cyfnod allweddol 2 i goridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548. Bydd y llwybr arfaethedig yn helpu i fynd i'r afael â'r tagfeydd parhaus a geir yn yr ardal, bydd yn gwella amserau teithio i fusnesau a thraffig cymudo, a bydd hefyd yn cryfhau'r cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd rhwng y gogledd, ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, Caer a thu hwnt. Bydd pentrefi fel Oakenholt a Northop Hall yn elwa oherwydd bydd llai o draffig ar yr A548 a’r B5125.
Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cynllun TR111 er mwyn gwarchod y llwybr dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cyfeirio pob cais cynllunio yn y dyfodol sydd yn agos i’r llwybr dewisol at Lywodraeth Cymru. Y camau nesaf fydd gwneud mwy o ymchwil a datblygu dyluniad rhagarweiniol. Yn arbennig, byddwn yn rhoi sylw manylach i’r materion amgylcheddol a pheirianneg, gan ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad ac edrych ar strategaeth o ran adeiladu cyffyrdd a dewisiadau ar gyfer ffyrdd ochr a mynediad. Bydd y dyluniad hefyd yn ystyried y gofynion a allai godi o ddatblygiadau mewn technoleg megis cerbydau cysylltiedig a rhai sy’n gyrru eu hunain. Mae'n hollbwysig bod yr hyn yr ydym yn ei gyflawni gyda'n buddsoddiad heddiw yn addas ar gyfer y dyfodol.
Yn dilyn y dyluniad cychwynnol, byddwn yn cyhoeddi Gorchmynion drafft o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Caffael Tir 1981. Mae'r Gorchmynion drafft yn cynnwys y pwerau i sefydlu llinell, addasu'r ffyrdd ochr, prynu tir a gweithredu unrhyw hawliau eraill sydd eu hangen arnom i gyflawni'r cynllun. Byddwn hefyd yn mynd ati i gyflwyno cynllun gwella ffordd A494 yr Afon Ddyfrdwy. Bydd y cynllun hwn yn ymchwilio i ddewisiadau a fydd yn datrys tagfeydd traffig sydd yn y lleoliad hwn o'r rhwydwaith ar hyn o bryd ac yn goresgyn y problemau sy'n ymwneud â pha mor rhwydd yw hi i ddefnyddio’r bont bresennol.
Mae ein gwaith datblygu i wella cysylltedd ar y rheilffyrdd hefyd yn symud i'r cam nesaf. Ar hyn o bryd rydym ni’n trafod gyda Network Rail y posibilrwydd o gomisiynu gwaith pellach ar orsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy newydd a chyd-leoli gorsafoedd Shotton uchaf a Shotton isaf. Bydd yr elfen olaf hon yn galluogi teithwyr sydd eisiau newid rhwng llinell Wrecsam a Bidston a phrif linell arfordir gogledd Cymru i wneud hynny’n rhwydd. Yn achos Parcffordd Glannau Dyfrdwy, mae hyn yn cynnig cyfle cyffrous i wella mynediad i'r parc busnes, cyflwyno darpariaeth parcio a theithio, a chyfleusterau ar gyfer traffig cludo nwyddau ar y ffyrdd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir y Fflint i gyflwyno'r cynigion hyn ymhellach.
Rwyf wedi rhoi cyllid i'r awdurdod lleol er mwyn ei gwneud hi’n haws teithio i lannau Dyfrdwy trwy ddulliau cynaliadwy. Mae dros £1 miliwn wedi'i ddyrannu i wella gwasanaethau bysiau ac i annog cerdded a beicio. Bydd rhan o'r arian hwn yn cael ei wario ar ddatblygu cyfnewidfeydd bysiau, mesurau blaenoriaethu bysiau ar goridor B5129 Shotton a'r seilwaith bysiau ar barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd gweddill y grant yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno llwybrau teithio gweithredol ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Bydd hyn yn arwain at rwydwaith cyflawn o lwybrau beicio penodol ar bob ffordd fynediad ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gyda chysylltiadau di-dor gyda chanolfannau rheilffordd a bysiau. Bydd cyfleusterau diogel i adael beiciau yn rhan o ddyluniad y canolfannau cludiant. Caiff y ddarpariaeth a gynigir o ran beicio a cherdded ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy ei defnyddio fel yr esiampl i arwain y gwaith o ddatblygu canolfannau gwaith allweddol eraill ledled y rhanbarth.
Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn ardal Glannau Mersi a’r Ddyfrdwy, a chyda chwmnïau bysiau, i ddatblygu cynllun partneriaeth ansawdd bysiau gyda'r nod o wella'r profiad teithio a chynyddu nifer y teithwyr. Rydym ni eisoes wedi buddsoddi £5.5 miliwn yn safle Porth y Gogledd i hwyluso datblygiad masnachol. Mae buddsoddiad ychwanegol o £4.7 miliwn wedi'i ymrwymo er mwyn parhau i adeiladu seilwaith ffyrdd ychwanegol, i ryddhau tir i'w ddatblygu a denu mwy o fusnesau i leoli ar y safle. Bydd y seilwaith hwn yn gwella cysylltedd trafnidiaeth i'r safle ac oddi yno.
Bydd yr holl fentrau yr wyf wedi'u disgrifio yn gwneud llawer iawn i fynd i'r afael â'r rhwystrau o ran gallu cael gafael ar y swyddi sydd ar gael yn ardal Glannau Dyfrdwy. Byddant hefyd yn ffurfio un o'r cerrig sylfaen a fydd yn darparu gweledigaeth metro gogledd-ddwyrain Cymru o system drafnidiaeth gyfannol sydd â chysylltiad da ac o safon uchel.
Diolch yn fawr am eich datganiad. Rydych yn cyfeirio at sefydlu grŵp llywio trafnidiaeth i ddatblygu rhaglen waith ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru, gan gyfeirio at amryw o bartneriaid yng ngogledd Cymru, Glannau Mersi a Swydd Gaer. Wrth gwrs, mae gweithgor eisoes yn bodoli, a grëwyd trwy Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a'u partneriaid. I ba raddau mae hyn yn cyd-fynd â hynny ac â'u cynigion yn eu gweledigaeth eu hunain, ac wrth gwrs â chynllun Growth Track 360, yn bennaf yng nghyd-destun rheilffyrdd?
Mae'r pedair canolfan yr ydych chi'n eu disgrifio o ran y gogledd-ddwyrain yn hepgor yr ardal fawr honno rhwng Glannau Dyfrdwy a Wrecsam, ac yn enwedig yr ardaloedd hynny lle mae cysylltedd ar ei waethaf, mewn rhai o'r trefi a'r pentrefi llai. Felly, byddwn yn croesawu sylw gennych chi ynglŷn â sut y bydd hynny'n cydgysylltu, ac na chaiff y cymunedau hynny eu gadael yn ynysig, yn enwedig fel mannau gwaith i bobl ifanc, neu i bobl hŷn allu defnyddio gwasanaethau allweddol. O ran eich canolfannau eraill—Bangor, mae'n debyg eich bod chi'n sôn yn bennaf am y bont, neu'r drydedd groesfan, neu beth bynnag a allai hynny fod, ac Abergele-Y Rhyl—i ba raddau y mae'r rheini'n cyd-fynd â gweledigaeth metro gogledd-ddwyrain Cymru? Rydych chi’n sôn am bedair canolfan a'r gogledd-ddwyrain, felly beth yw'r berthynas rhwng y ddau? A ydym ni'n sôn am rywbeth gwahanol, neu ai un prosiect gyda phedair elfen wahanol iddo yw hyn?
Rydych chi'n cyfeirio at y cynllun Glannau Dyfrdwy a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint. Efallai eich bod yn ymwybodol, fel yr wyf innau’n bendant unwaith eto, fel y soniais o'r blaen, bod llawer o'r trefi a'r pentrefi llai nad ydynt ar lannau Dyfrdwy yn awyddus i fanteisio ar y cysylltedd hwn, a gobeithio y gallwch chi wneud sylwadau ynghylch hynny.
Nawr, aeth naw mlynedd heibio ers i'r ymchwiliad cyhoeddus argymell i gyn-Weinidog yn ystod y trydydd Cynulliad na ddylai'r cynnig blaenorol ar Aston Hill fynd rhagddo, a dyma’r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Rwy'n siŵr y bydd trigolion Aston Hill a'r miloedd sy'n byw yn y cyffiniau yn croesawu eich penderfyniad i fabwysiadu'r dewis coch yn hytrach na'r dewis arall. Yn amlwg, nid yw coridor yr A55 / A494 / A548 yn bodloni safonau modern, gyda rhai o'r ffyrdd ymuno yn rhy fyr, yn rhy agos, ac yn golygu na allwch chi weld yn iawn. Rydym ni’n deall y byddai'r llwybr coch yn ffordd 8 milltir rhwng yr A55 a'r A548 gyda dwy lôn ym mhob cyfeiriad, gan arwain at gynnydd mewn capasiti a gwelliant mewn amserau teithio rhwng cyfnewidfa Afon Dyfrdwy a Llaneurgain. Fodd bynnag, yn amlwg ni fydd y bobl sy’n byw ar y llwybr hwnnw mor groesawgar o'ch penderfyniad. Yn eich ymgynghoriad, fe ddywedasoch chi y byddai'r llwybr coch yn debygol o effeithio ar oddeutu 56 hectar o dir amaethyddol a busnesau fferm ac y byddai mesurau lliniaru drwy gynnig iawndal ariannol a thrwy wneud gwaith hwyluso. A allwch chi ddweud wrthyf pa gynigion y mae'n rhaid i chi eu trafod â'r busnesau a'r unigolion hynny a fydd yn cael eu heffeithio mewn perthynas â'r gwaith lliniaru a'r iawndal ariannol hwnnw?
Hefyd, fel y gwn i o ohebiaeth yr ydych chi wedi'i chael ac yr wyf wedi cael copi ohoni gan drigolion lleol, mae cred neu alw am lôn araf, ac am arwyddion da ar ddechrau'r llwybr coch, ac rwy’n meddwl tybed a allwch chi gadarnhau pa un a gaiff y pethau hynny eu cynnwys neu eu hystyried.
Mae rhai pobl hefyd yn galw, hyd yn oed gyda'r llwybr coch, bod cyfnewidfa yr A494 / A55 yn dal wedi ei rhestru gan y Gymdeithas Foduron fel un o'r gwaethaf yn y DU, ac y bydd angen rhywfaint o weithredu yno͏—nid i gynyddu'r lonydd, ond i gael gwell allanfeydd o’r briffordd.
Rydych chi'n cyfeirio at bont y Ddyfrdwy ar yr A494. Yn yr ymgynghoriad, rydych chi'n disgrifio hwnnw fel cynllun ar wahân, ond a allwch chi gadarnhau, fel y gwn i sy’n wir, bod y llwybr coch yn dibynnu ar hynny, a chadarnhau sut y bydd y ddau yn gweithio ar yr un pryd i sicrhau y gall y cynllun cyfan gyflawni fel y’i bwriadwyd? Rydych chi'n cyfeirio at ddatblygiadau cyfnewidfeydd bysiau a seilwaith bysiau. Sut ydych chi'n ymateb i bryder a fynegwyd gan ddarparwyr cludiant cymunedol yn Sir y Fflint eu bod wedi gwrthwynebu neu wrthod y cynnig gan y cyngor i ymgymryd â rhai o'r llwybrau masnachol, ac na fydd modd o bosib parhau â’r cynlluniau bws mini arbrofol fydd yn cael eu gweithredu yn Kinnerton a Bwcle sy'n cael eu rhedeg gan gwmnïau tacsi trwyddedig ar ôl i'r cyllid cychwynnol ychwanegol a gynigir i gwmnïau masnachol ddod i ben, a hefyd eu pryder nad yw grŵp cludiant gogledd Cymru ar gyfer iechyd, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi cyfarfod ers mis Mai 2016, ac nad yw Llywodraeth Cymru wedi ailgynnull y cyfarfodydd? Unwaith eto, i lawer o bobl, mae'r cysylltedd trafnidiaeth hwn yn hollbwysig, ond efallai mai'r rhai sydd fwyaf ei angen sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan ei absenoldeb.
Yn olaf, fe gyfeiriasoch at Barcffordd Glannau Dyfrdwy fel cyfle cyffrous i wella mynediad rheilffyrdd i'r parc busnes. Fel y gwyddoch, mae Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffyrdd Wrecsam Bidston wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 1 y cant o bobl sy’n teithio i’r gwaith ar y rheilffyrdd yn Sir y Fflint, sy’n llai na hanner cyfartaledd Cymru gyfan, fel bod yn rhaid i lawer o weithwyr ddefnyddio eu car er mwyn cyrraedd eu gwaith, ac nid yw’r rheini na all wneud hynny o bosib yn gwireddu eu potensial ar gyfer cyflogaeth, a bod 20 y cant o gyfweliadau a chynigion swydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cael eu gwrthod oherwydd anawsterau cludiant—ac fe ddigwyddodd hynny, yn wir, i fy mab hynaf i. Diolch i’r drefn, daeth o hyd i waith arall yn rhywle arall. A ydych chi’n cynnig y dylai'r lleoliad ar gyfer y parcffordd fod ger neu o fewn parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac os felly, sut byddwch chi'n lliniaru effaith hyn ar Bont Penarlâg?
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei sylwadau ac am ei gwestiynau? Rwy'n credu y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr yn croesawu cyhoeddiad heddiw. Mae llawer o Aelodau wedi bod yn galw’n gyson am fuddsoddiad yn y gogledd i liniaru'r tagfeydd, yn enwedig ar hyd y rhan hon o'r hyn sy’n briffordd economaidd allweddol. Rhof sylw i bob cwestiwn yn ei dro, gan ddechrau gyda'r cwestiwn diwethaf a ofynnodd Mark Isherwood ynghylch Parcffordd Glannau Dyfrdwy.
Rwy'n credu bod hyn yn cynnig cyfle enfawr i chwalu’r rhwystrau mae llawer gormod o bobl ifanc—yn wir, pobl o unrhyw oedran—yn eu hwynebu wrth geisio cael gwaith. Cyfeiriodd yr Aelod at yr ystadegyn bod 20 y cant o bobl yn methu mynd i gyfweliadau swyddi oherwydd nad oes cludiant cyhoeddus fforddiadwy neu ddibynadwy ar gael iddynt. Mae'r ffigur hwnnw'n cwmpasu holl ardal y Mersi a’r Dyfrdwy, ac mae'n rhan o'r cyfiawnhad dros edrych ar y fenter hon fel prosiect trawsffiniol i sicrhau y gall pobl yng Nghymru fynd i gyfweliadau ar gyfer swyddi nid yn unig yn y gogledd ond hefyd ar draws y ffin. Ac fe fydd yn hanfodol bod gorsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy wedi ei lleoli yn y parc diwydiannol. Mae'r dyluniad cychwynnol a'r cynlluniau ar gyfer y parcffordd—y llwybrau beiciau, y lonydd bysiau—wedi'u dylunio mewn modd sy'n galluogi pobl i symud o un modd o gludiant i’r llall ac i deithio'n rhwydd yn y parc diwydiannol.
O ran y grŵp llywio, mae'r Aelod yn gywir, does arnom ni ddim eisiau llu o sefydliadau yn arwain y gwaith hwn. Mae’r tasglu a sefydlwyd i ystyried pa welliannau rheilffyrdd sydd eu hangen ar gyfer y rhanbarth wedi cynhyrchu prosbectws rhagorol, Growth Track 360. Bydd y grŵp llywio yn dethol aelodau o’r tasglu hwnnw a bydd hefyd yn ystyried aelodau ychwanegol o blith yr awdurdodau lleol, oherwydd bydd eu buddsoddiad hwy ym metro gogledd Cymru hefyd yn hanfodol bwysig. Mae'n gwbl bosibl y gallai'r fargen dwf gyfrannu at ehangu maint a natur y metro yn y blynyddoedd i ddod.
O ran dyluniad y metro, y bwriad yw iddo gysylltu cymunedau mawr a bach gyda’r prif fannau cyflogaeth. Rydym ni wedi nodi'r canolfannau cychwynnol hynny lle bydd gwaith yn digwydd yn y camau cyntaf fel blaenoriaeth, yn syml oherwydd nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi yn y mannau hynny a'r rhagolygon ar gyfer twf mewn swyddi.
Rydym ni hefyd wedi cyplysu prosiectau datblygu economaidd strategol gyda gweledigaeth y metro, ac mae'r Aelod yn ymwybodol o'r sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch sy'n cael ei ddatblygu’n gyflym gan olygu y bydd un ganolfan ym Mrychdyn ac un arall ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Felly, rydym yn cyplysu cyfleoedd cyflogaeth gyda buddsoddiad mewn trafnidiaeth yn y dyfodol.
Rwy'n mynd i grybwyll y ddadl gyhoeddus a gynhaliwyd ynghylch y dewis a ffefrir. Rwy'n cydnabod y gall unrhyw gynnig ar gyfer ffordd newydd ac ar gyfer gwella ffyrdd fod yn ddadleuol, ond cydnabuwyd gan fwy na 80 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, neu a fu yn yr arddangosfeydd, bod cludiant cyhoeddus lleol, ffyrdd cyhoeddus lleol a chefnffyrdd yn hanfodol er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd gwaith da ac at ddibenion cymdeithasol. Nododd mwy na 80 y cant bod buddsoddi mewn cludiant yn bwysig neu'n bwysig iawn.
O ran dewis un llwybr dros un arall, roedd y gefnogaeth i’r llwybr coch yn 74 y cant, i wneud dim yn 5 y cant, a'r gweddill ar gyfer y llwybr glas. O ran y rheiny yr effeithiwyd arnynt—ac yn amlwg, pe byddem ni wedi mynd ymlaen â'r llwybr glas, byddai hynny wedi achosi aflonyddwch anhygoel i lawer iawn o bobl sy’n byw yn yr ardal yr effeithir arni, a byddai hefyd wedi effeithio’n helaeth ar ba mor gystadleuol yw’r rhanbarth, gan y byddai angen uwchraddio dros gyfnod sylweddol o amser. Wrth i ni symud tuag at ddylunio'r llwybr penodol, byddwn yn trafod gyda rhanddeiliaid a bydd unrhyw iawndal y mae angen ei dalu yn unol â'r trefniadau presennol yn cael ei drafod gyda pherchnogion tir a pherchnogion eiddo yn y modd a sefydlwyd. Rwyf yn cydnabod hefyd bod angen cael arwyddion da a phriodol ar ddechrau'r cynllun llwybr coch cyfredol. Wrth ddod oddi ar yr M56, neu yn wir teithio tuag at yr M56, credaf y byddai'n fuddiol iawn cael arwyddion clyfar sy'n gallu cyfeirio traffig o’r mannau hynny lle mae damweiniau’n tueddu i ddigwydd, pan fônt yn digwydd, ac i sicrhau bod teithio i'r gogledd ac ar hyd arfordir y gogledd mor ddi-dor ac mor llyfn â phosib. Bydd yr arwyddion hynny, a'r cais am lôn araf yn y fan lle mae’r llwybr coch yn codi tuag at Laneurgain a Northop Hall, yn cael eu hystyried yn ystod y cam dylunio. Yn yr un modd, soniais yn fy natganiad am strategaeth o ran cyffyrdd a fydd yn rhoi sylw i ddiogelwch a chydymffurfiad ar y cyffyrdd presennol. Darganfuwyd—. Gwn fod yr Aelod yn ymwybodol iawn o lawer o'r cyffyrdd ar gyfnewidfa'r A494 / A55—byddwch yn ymwybodol bod rhai o'r cyffyrdd wedi eu cysylltu'n wael â'r lonydd, mae rhai o'r llithrfeydd yn rhy fyr, mae rhai o'r cyffyrdd yn gweld nifer fawr o ddamweiniau ac mae'n rhaid mynd i’r afael â’r rheini. Yn wir, bu dwy farwolaeth drasig dim ond yn ystod y mis diwethaf ar yr A494 yn Aston Hill. Felly, bydd y cyffyrdd yn cael sylw trwy gyfrwng strategaeth o wella diogelwch, amserau teithio a chapasiti.
Cododd Mark Isherwood y cwestiwn am bont A494 yr Afon Ddyfrdwy, a'r angen i sicrhau bod y bont hon yn cael y buddsoddiad priodol i'w huwchraddio fel ei bod yn ddiogel ac i sicrhau bod traffig yn gallu llifo'n ddidrafferth lle mae tagfa pur ddifrifol ar hyn o bryd, yn enwedig yn ystod oriau brig. Er y bydd y gwaith hwnnw'n digwydd ochr yn ochr â gwaith ar y llwybr coch, ni fydd yn dibynnu arnom ni yn dilyn y llwybr coch. Mae’n rhaid i'r gwaith hwnnw ddigwydd waeth beth sy’n digwydd gyda phrosiect coridor Glannau Dyfrdwy. Felly, bydd y buddsoddiad hwnnw'n digwydd ochr yn ochr, ond nid yw'n amodol ar gwblhau’r gwaith ar gyfer y llwybr coch o fewn amserlen benodol, er y byddem yn dymuno cyflwyno'r ddau cyn gynted ag y bo modd.
Yn olaf, mae'r Aelod wedi gofyn am y capasiti ar yr A494 a'r A55 presennol, gan awgrymu bod gwaith sydd angen ei wneud ar gyfnewidfa Ewloe, er y byddwn yn bwrw ymlaen â’r llwybr coch. Rwy’n cytuno â'r Aelod; bydd hynny'n ffurfio rhan o'r adolygiad strategol o gyffyrdd. Ac ar hyd yr A494 ar Aston Hill, mae'n ffaith syfrdanol bod cymaint â 70,000 o gerbydau ar hyn o bryd yn defnyddio'r rhan benodol honno o’r ffordd bob dydd—70,000 o bobl neu fwy yn defnyddio ffordd na chafodd ei chynllunio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac mae'r ffigwr hwnnw'n cyfateb i sawl rhan o'r M4, ac eto dim ond dwy lôn sydd i’r A494. Felly, rwy'n credu ei bod hi’n hen bryd gwneud y gwaith hwn. Rwyf hefyd o'r farn y bydd mwyafrif helaeth pobl y rhanbarth yn ei gefnogi, ac y bydd yn arwain at ranbarth llawer mwy cystadleuol.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ar y cynigion trafnidiaeth yng Nglannau Dyfrdwy? Ac er fy mod i’n croesawu elfennau o'r datganiad, rwyf yn cwestiynu'r rhesymeg y tu ôl i gyflwyno diweddariadau ar wahân i'r Siambr hon ar gyfer y pedair canolfan sy’n ffurfio metro gogledd-ddwyrain Cymru, o gofio'r gyd-ddibyniaeth amlwg rhwng y canolfannau fel rhan o'r prosiect metro hwnnw. Credaf fod angen inni drafod hyn yn drwyadl ac mewn ffordd gyfannol. Mae angen inni fod yn profi a yw'r prosiect metro yn gweithio fel cyfanwaith a byddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet neilltuo amser y Llywodraeth i’n galluogi ni i wneud yn union hynny.
Gan droi at rai agweddau penodol, o ran bysiau, yn amlwg, bydd darparu gwasanaethau bws prydlon a safonol yn brawf allweddol ar gyfer llwyddiant y prosiect metro. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa ystyriaeth y mae wedi'i rhoi i ddefnyddio pwerau newydd ynglŷn â rheoleiddio gwasanaethau bws i sefydlu cwmni bysiau sy'n eiddo i'r cyhoedd i ddarparu gwasanaethau yn rhan o'r prosiect metro hwn? Ac o ystyried rheilffyrdd, yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, er eich bod wedi trafod comisiynu gorsaf newydd ym Mharcffordd Glannau Dyfrdwy gyda Network Rail, fel y dywedasoch chi, a chyd-leoli gorsaf Shotton uchaf a gorsaf Shotton isaf, fe wyddom ni, wrth gwrs , bod Cymru'n dal i gael cyfran llawer llai o arian nac y dylai o ran buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd. Wedi'r cyfan, mae 6 y cant o rwydwaith rheilffyrdd y DU yng Nghymru, fel y gwyddoch, ond dim ond 1 y cant o fuddsoddiad rheilffyrdd y DU y mae’n ei gael. Felly, yr hyn sy’n deillio o hynny yw: sut ydych chi'n ceisio sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o arian cyfalaf, a pha brosiectau eraill yr ydych chi’n pwyso amdanynt ar hyn o bryd yn rhanbarth ehangach Gogledd Cymru er mwyn ymestyn y buddsoddiad cyfalaf mewn rheilffyrdd yng Nghymru ?Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau a'i sylwadau? Rydym ni wedi ymgynghori ynglŷn â diwygiadau bws eisoes, yn ystod y 12 mis diwethaf. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw ddechrau'r flwyddyn hon a daeth i ben ym mis Mai. Byddwn yn bwrw ymlaen, yn seiliedig ar yr ymgynghoriad, gyda darn arall o waith yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf, a allai, yn ei dro, fod yn sail i ddarpariaethau a fydd yn rhan o ddeddfwriaeth bosibl yn y dyfodol, ond mae'n gwestiwn dilys iawn pa un a allai ac a ddylai cyrff cyhoeddus redeg gwasanaethau bws lleol. Mae'n rhywbeth yr wyf i’n bersonol o’i blaid, a chredaf hefyd bod angen inni sicrhau ein bod yn unioni, cyn gynted ag y gallwn ni gyda'r pwerau newydd, rhai o'r problemau sydd wedi bodoli ers dadreoleiddio yn y 1980au. Ond, fel y dywedais, fe gynhaliwyd yr ymgynghoriad yn y maes hwn. Bydd yn sail i ymgynghoriad pellach ar y pecyn o ddarpariaethau y gellid eu cynnwys mewn deddfwriaeth bosibl yn y dyfodol.
O ran canolfan Glannau Dyfrdwy a'r canolfannau eraill arfaethedig ar gyfer gogledd Cymru, mae'n ffaith bod Cyngor Sir y Fflint eisoes wedi datblygu cynllun effeithiol iawn i Lannau Dyfrdwy a fu’n sail i’r agweddau penodol hynny o ran canolfan Glannau Dyfrdwy sy’n cael eu cynnig heddiw. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i wireddu’r weledigaeth o sefydlu canolfannau tebyg, a byddwn yn eu cysylltu gyda'i gilydd trwy'r cysyniad metro. Mae hon yn system a dyluniad y mae’n rhaid iddi fodloni anghenion lleol a lle mae gofyn cydweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny o ran ble y byddant yn cael eu lleoli, yn hytrach na'u bod yn cael eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'm partneriaid ar draws y gogledd i sicrhau bod y canolfannau a'r system fetro sy'n eu cysylltu yn gweithio i'r bobl, ac yn cael eu dylunio gan eu cynrychiolwyr lleol gymaint â chan arbenigwyr a dylunwyr o fewn Llywodraeth Cymru.
O ran buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd, mae'r Aelod yn gywir; mae'n 11 y cant o lwybr Network Rail Cymru, ond yn y cyfnod rheoli diweddaraf, dim ond 1.5 y cant o gyllid sydd wedi dod i Gymru mewn gwirionedd i fuddsoddi mewn seilwaith. Nid yw hynny'n dderbyniol. Fe wnaethom ni gyflwyno achos cryf dros ddatganoli cyfrifoldeb am seilwaith rheilffyrdd, ac am gael cyllid teg a phriodol ar gyfer hynny. Rydym ni’n parhau i alw am hynny. Yn y cyfamser, rydym ni’n parhau i bwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynghylch yr angen i fuddsoddi yng Nghymru, ac yn arbennig mewn rhai o'r prosiectau hynny y mae angen sylw brys arnynt. Gofynnodd yr Aelod pa brosiectau eraill sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd y credaf y dylent gael sylw ar unwaith a byddwn yn dweud prif reilffordd gogledd Cymru.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, er y mae'n rhaid imi ddweud nad wyf yn croesawu'r datganiad a'r penderfyniad i ddewis y llwybr coch. Rwy'n gwerthfawrogi y bu’n benderfyniad anodd ac, ydy, mae'n berffaith wir bod tagfeydd yn y Fferi Isaf yn ofnadwy. Roedd yn rhaid i mi gymudo drwy'r gyfnewidfa bob dydd ar un adeg, ac fe wn i o brofiad personol ei fod yn gwbl hunllefus. Ond nid wyf yn siŵr mai adeiladu ffordd newydd ar draws mannau glas rhwng Oakenholt a Kelsterton yw'r ffordd gywir ymlaen.
Ymddengys i mi y byddai’r llwybr glas yn ddewis gwell. Rwy'n gwybod y byddai wedi achosi llawer o aflonyddwch yn ardal Glannau Dyfrdwy tra ei fod yn cael ei adeiladu, ond yr hyn sy'n fy mhryderu i am y llwybr coch yw, nad ydy’ch chi mewn gwirionedd yn gwneud dim mwy na symud y dagfa ymhellach i'r gorllewin. Y broblem sydd gennym ni yn y Fferi Isaf ar hyn o bryd, i bob pwrpas, yw bod gennych chi bedair lôn sy’n culhau i ddwy, yr holl gyffyrdd gwahanol yn arwain oddi arnynt, ac, na fydd, o’r gorau, ni fydd gennym ni’r broblem o gyffyrdd ychwanegol ar ddiwedd y llwybr coch, ond bydd gennych chi yr un broblem o bedair lôn traffig sy'n cyfuno i ddwy, a fydd yn creu tagfa. Felly, nid wyf i wir yn credu bod y llwybr coch yn mynd i ddatrys llawer o broblemau. Rwy'n credu ei fod yn mynd i symud y broblem ymhellach i'r gorllewin i rhwng Llaneurgain a Threffynnon.
Un peth arall sy'n peri pryder imi am y penderfyniad i fabwysiadu'r llwybr coch yw, ar hyn o bryd, bod yr ardal honno y bydd y ffordd newydd yn teithio ar ei thraws—sy’n barth gwyrdd ar hyn o bryd; mae'n glustog ar hyn o bryd rhwng aneddiadau Fflint a Bagillt a Kelsterton, Cei Conna, a'r cyffiniau hynny yng nghornel gogledd-ddwyreiniol gogledd Cymru. Mae'n peri pryder imi, wrth adeiladu ffordd newydd, y bydd anogaeth i gael gwared â'r rhwystr gwyrdd hwnnw yn gyfan gwbl ac, yn y pen draw, yr hyn fydd gennym ni yw cytref o'r Fflint i’r Fferi Isaf. A allwch chi sicrhau pobl y Fflint ac Oakenholt, a thrigolion yr ardaloedd cyfagos, a Llaneurgain, na chaiff eu hamgylchfyd ei droi, yn y pen draw, i gytref? Beth ydych chi'n mynd i'w wneud i amddiffyn y mannau gwyrdd hynny?
Peth arall sy'n peri pryder i mi yw—. Rwy’n gwbl gefnogol i gydweithio gyda gogledd-orllewin Lloegr, rwy’n gwbl gefnogol i wella cysylltiadau, ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus yng ngogledd Cymru oherwydd, ar hyn o bryd , rydym ni eisoes yn dechrau dod yn llety dros nos i ogledd-orllewin Lloegr. Hoffwn glywed pa fesurau y byddwch chi'n eu cyflwyno yn y dyfodol i wneud yn siŵr nad yw gogledd Cymru yn dod yn llety dros nos i ogledd-orllewin a gorllewin canolbarth Lloegr, oherwydd y llwybr newydd hwn a'r gwelliannau hyn. Nid wyf yn beirniadu gwella'r system ffyrdd na'r metro na'r rhwydwaith rheilffyrdd. Yr hyn yr hoffwn i gael gwybod yw: a ydych chi wedi ystyried y canlyniadau hirdymor? Sut ydych chi'n mynd i rwystro gogledd Cymru rhag cael ei droi yn llety dros nos? Sut ydych chi'n mynd i rwystro coridor yr A55 rhag dod yn llety dros nos i Loegr?
Iawn, gan symud ymlaen i'r ymgynghoriad, y soniasoch chi amdano cyn hynny, wyddoch chi, bu cyfnod o ymgynghori yn ei gylch. Roedd y cyfnod ymgynghori hwnnw yn wyth wythnos o hyd. I ba raddau y gwnaethoch chi roi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad hwnnw? Faint o bobl leol oedd yn gwybod am yr ymgynghoriad mewn da bryd i allu ymateb yn ddigonol iddo? A faint o ymatebion a gawsoch chi, a phwy oedden nhw?
Yn olaf, rydych chi wedi crybwyll £5.5 miliwn yr ydych chi wedi'i fuddsoddi ym Mhorth y Gogledd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod faint o swyddi mae'r arian hwn wedi eu creu a pha fath o swyddi ydyn nhw. A ydyn nhw’n swyddi ar gyflog mwy neu'n rhai lle mae’r cyflog yn fach, ac a ydyn nhw’n llawn amser neu'n rhan-amser? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? Rwy’n siŵr y bydd Pobl Aston Hill, Fferi Isaf, Shotton, Saltney, Ewloe a Brychdyn yn synnu’n fawr bod UKIP mor awyddus i gefnogi'r llwybr glas, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth y byddai'r llwybr glas wedi effeithio ar ansawdd bywyd nifer fawr o bobl. Hyd yn oed pan fyddai wedi ei gwblhau, hyd yn oed pan fyddai’r ffordd wedi ei lledu, byddai’n dal wedi arwain traffig i fyny rhiw serth a fyddai, yn ei dro, wedi creu ansawdd aer gwael i filoedd ar filoedd o bobl. Nid oedd gwneud dim, fel y dangosodd yr ymateb, yn ddewis. Dim ond 5 y cant o'r rheini a ymatebodd a ddywedodd na ddylem ni wneud unrhyw beth o gwbl. Cefnogodd saith deg pedwar y cant y llwybr coch ac, o ran yr ymgynghoriad, rwy'n falch o ddweud y derbyniwyd mwy na 2,500 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Daeth mwy na 1,800 o bobl i’r arddangosfeydd, a hysbysebwyd yn dda ac, mewn gwirionedd, cynhaliwyd arddangosfa ychwanegol ar gais un o'r Aelodau lleol, Hannah Blythyn, yr Aelod dros Delyn.
Byddwn yn gweithio gyda'r cymunedau yr effeithir arnynt a chyda'r perchnogion tir a’r perchnogion eiddo hynny i sicrhau y ceir lliniaru amgylcheddol ac iawndal amgylcheddol, a bod iawndal i berchnogion eiddo a thir. Ond gadewch imi grybwyll un pwynt a wnaeth yr Aelod am bobl o ogledd-orllewin Lloegr yn byw yng ngogledd Cymru. Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn ymwybodol o hyn, ond mae tua 25,000 i 30,000 o bobl yn croesi'r ffin bob dydd o Gymru i Loegr i weithio. Ac mae tua 25,000 o bobl yn croesi'r ffin o Loegr i Gymru bob dydd. Cyn belled â bod yr economi ranbarthol yn y cwestiwn yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, nid oes ffin, ac ni ddylem ni geisio codi mur o lechi ar draws ffin weithredol iawn sy'n cyfrannu'n enfawr at Gynnyrch Domestig Gros a Gwerth Ychwanegol Gros economi Cymru gyfan.
Mae angen inni gryfhau'r economi honno, creu swyddi o ansawdd gwell, yn nes at gartrefi pobl—swyddi o ansawdd gwell i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru. Ond, ar hyn o bryd, mae'n bosib dod o Fanceinion a Lerpwl i barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy mewn, faint—40 munud? Ar ddiwrnod gwael, ar yr A494 i fyny Aston Hill, gall gymryd cymaint o amser i ddod o Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy i'r Wyddgrug. Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae angen inni sicrhau bod gan bobl sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru fynediad da a chyflym i gyfleoedd gwaith yn yr hyn sydd y parc diwydiannol mwyaf yn Ewrop ac un o’r rhai gorau hefyd. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am greu swyddi a chreu cyfleoedd gwaith ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy; dylai fod yn rhywbeth y mae UKIP yn falch ohono.
O ran y cwestiynau penodol, cwestiynau technegol am gyfnewidfa'r A494-A55 a pha un a fydd yn symud y dagfa, nid wyf y cytuno â hynny ychwaith, oherwydd bod dewis y llwybr coch bellach yn rhoi dwy ffordd fynediad i ogledd Cymru. Gellir dilyn un i fynd i ogledd Cymru, a dilyn y llall i fynd i Wrecsam, ac felly ni fydd yn symud y dagfa, oherwydd bydd gennych y dewis i ddargyfeirio traffig o Aston Hill, os bydd yn parhau i'r gogledd, tra bod cerbydau eraill yn gallu aros ar y ffordd os yw modurwyr yn dymuno troi am Wrecsam neu deithio tua’r de ymlaen i gymunedau eraill fel Caer. Rwy'n cydnabod y bydd gan yr Aelod ei barn ei hun am y prosiect a'i gwrthwynebiad ei hun i'r llwybr a ffefrir, ond byddwn yn ei hannog i seilio ei dymuniadau ar y dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir mai'r llwybr coch yw'r dewis a ffefrir ar gyfer y gymuned ac ar gyfer y rhanbarth.
Gan y bydd y llwybr coch, fel y'i cyhoeddwyd heddiw, yn cael effaith sylweddol ar fy etholaeth i yn Delyn, mae'n debyg ei bod hi’n ddyletswydd ddemocrataidd arnaf i yma heddiw i sôn am y nifer o bryderon y mae etholwyr wedi'u codi gyda mi a nifer o bwyntiau ehangach.
Rwyf am ddechrau gyda rhywbeth y gellid ei ystyried yn bwynt braidd yn bedantig a braidd yn blwyfol ynghylch teitl datganiad heddiw, sef 'Cynigion Trafnidiaeth ar gyfer Glannau Dyfrdwy'. Oherwydd, os edrychwch chi ar fap y cynnig cychwynnol, gyda'r llwybrau coch a glas , mewn gwirionedd, mae cyfran sylweddol o hynny yn cwmpasu cymunedau Oakenholt, Y Fflint, Mynydd y Fflint a Llaneurgain, sydd y tu hwnt i ardal Glannau Dyfrdwy. Rwy’n fwy na pharod i gynnig cwrs dwys i swyddogion Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ar wahanol gymunedau y gogledd-ddwyrain a Sir y Fflint, ond, ar bwynt mwy difrifol—ac fe soniais am hyn yn rhan o'r broses ymgynghori—rwy’n credu, er mwyn i hyn fod mor hygyrch â phosib i bobl, mae angen iddyn nhw ddeall ei fod yn effeithio ar eu hardal nhw hefyd, a'i fod yn ymgynghoriad ac yn gynnig iddyn nhw gymryd rhan ynddo. Rwy'n gobeithio y caiff hyn ei ystyried yng nghyfnod nesaf y broses.
Er, fel y clywsom ni eisoes, y bu llawer o ddadlau ac anghytuno lleol dros y ddau gynnig a roddwyd ger bron, ac fe wn i y bydd yr anghytuno a'r dadlau hynny'n parhau. Rwy'n credu y byddai’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw un yn y gogledd-ddwyrain nad yw'n credu bod angen buddsoddiad o ryw fath yn ein seilwaith trafnidiaeth, ac yn enwedig yn y fynedfa allweddol i ogledd Cymru. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn ymwybodol o'm gohebiaeth ar y mater hwn bod nifer o'm hetholwyr a'm cymunedau yn yr ardal wedi crybwyll amrywiaeth o bryderon, ac rwyf am eu hamlinellu'n fyr yma heddiw.
Wrth gwrs, mae'r goblygiadau a'r pryderon amgylcheddol ehangach sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynnig, unrhyw ffordd newydd o'r maint hwn. Ac fe wn i y bydd y llwybr coch fel y gelwir ef yn effeithio ar nifer o ffermydd yn fy etholaeth i, ac y byddwn yn gweld colli coetiroedd a hawliau tramwy cyhoeddus. A gaf i ofyn pa waith a wnaed ac a fydd yn cael ei wneud ynglŷn â hyn, a pha ran fydd bodloni ein hamcanion llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei chwarae o ran asesu goblygiadau amgylcheddol y llwybr coch fel y'i cynigir ef heddiw?
Ar gost o £250 miliwn mae’r cynllun trafnidiaeth hwn yn fuddsoddiad sylweddol a dylai hefyd ddod â manteision cymdeithasol sylweddol i gymunedau’r ardal, ac fe hoffwn i weld unrhyw fudd cymdeithasol yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned a'i ddefnyddio i wella cyfleusterau. Rydych chi wedi sôn am y cynlluniau teithio gweithredol ar gyfer parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yr wyf yn eu croesawu, ond a ellir ehangu hynny’n fwy eang ar draws Sir y Fflint, er mwyn galluogi pobl i feicio i’w gwaith pan fo hynny'n bosibl, ar gyfer iechyd a lles pobl? Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych chi farn ar y cam hwn ynglŷn â sut y gellid defnyddio manteision cymdeithasol a'u rhoi yn ôl i'r gymuned? A allai'r buddion cymdeithasol sy'n dod o'r gronfa ffyrdd gyfrannu, er enghraifft, at bethau fel y rhaglen gyfalaf i atgyweirio Theatr Clwyd?
Pwynt arall: yn ddealladwy, mae fy etholwyr yn pryderu am yr effaith y gallai'r cynnig ei gael ar y trefi cyfagos yr wyf eisoes wedi'u crybwyll, yn arbennig y traffig trwy'r Fflint a Llaneurgain, y ddau ohonynt eisoes yn dioddef traffig trwm ar brydiau ar adegau brig. Hefyd, rydym ni eisoes wedi clywed sut mae'r gyfnewidfa newydd a'r lonydd cyfunol yn Llaneurgain͏—. Mae yna bryderon y gallai hynny arwain at drosglwyddo problemau yn llythrennol ymhellach ar hyd y ffordd. Pa waith lliniaru sydd wedi'i wneud ac a gaiff ei wneud yng nghyffiniau Llaneurgain a Mynydd y Fflint? A roddwyd ystyriaeth i sut yr oedd astudiaeth o gydnerthedd yr A55 a oedd yn mynd i—? A fydd hynny hefyd yn rhan o hyn, oherwydd rwy'n gwybod eich bod eisoes wedi ymateb i fy nghyd-Aelod Mark Isherwood o ran y posibilrwydd o gael lôn araf? Rwy'n credu y dylid ystyried hynny yn rhan o hyn, nad dyma ddiwedd y gân, mae angen—. Rwy'n credu bod yna broblemau eraill ar hyd y llwybr hwnnw y mae angen mynd i'r afael â nhw.
Mae pont Sir y Fflint yn rhan allweddol o'r cynigion. A yw'r cynigion ar gyfer gwella'r bont hon yn sicrhau ei bod yn addas i’w diben? Rwy'n gwybod ei bod yn aml yn cael ei chau oherwydd gwyntoedd cryfion ac mae'n dal i gael ei hadnabod fel y bont newydd yn yr ardal, er ei bod bron yn 20 mlwydd oed, ac mae rhai pobl leol wedi ei bedyddio â’r llysenw 'y bont i nunlle' oherwydd os ewch chi drosti, go brin y gwelwch chi, efallai, un neu ddau o geir eraill yn ei chroesi. Rwy'n credu y cyfeirir ati, sut yr ydych chi wedi cael hyn—. Bu yno ers blynyddoedd lawer bellach, ond mae pobl yn dal i ddewis mynd i fyny Aston Hill i ddod i ogledd Cymru. Felly, pa warant allech chi ei rhoi, pe byddai'r llwybr hwn yn mynd rhagddo, na fyddai pobl yn dal i deithio ar hyd Aston Hill ac na fyddai’r traffig yn dal i grynhoi yno, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd?
Cyfeiriasoch at bentref Oakenholt yn eich datganiad. Rwy'n gwybod bod gan drigolion Oakenholt bryderon arbennig ynghylch sut y bydd y ffordd newydd yn effeithio ar yr ardal. Rydym ni eisoes wedi gweld datblygiadau tai sylweddol yn Oakenholt dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi fod yn wirioneddol hyderus y bydd y llwybr fel yr amlinellir yn gwella Oakenholt a'r ardal gyfagos, ac na fydd yn niweidio’r gymuned?
Ac yn fyr, i orffen, gan symud o ffyrdd i sôn am reilffyrdd, oherwydd rwy’n cydnabod bod eich datganiad yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu metro’r gogledd-ddwyrain, rhywbeth yr wyf yn ei groesawu. Rydym yn siarad llawer am gysylltu parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, sy'n bwysig iawn , fel conglfaen yr economi ranbarthol, ond mewn gwirionedd mae angen i ni sicrhau nad yw cymunedau eraill tua'r gorllewin o Sir y Fflint yn cael eu hesgeuluso na’u hamddifadu, a’u bod wedi'u cysylltu yn rhan o gynigion metro gogledd-ddwyrain Cymru. Byddwch yn gwbl ymwybodol mai dim ond un orsaf drenau sydd yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, sef yn y Fflint. Mae defnyddio cludiant cyhoeddus i nifer fawr o boblogaeth Delyn yn golygu defnyddio bysiau ac, i fod yn onest, ar hyn o bryd, nid ydynt naill ai'n ddibynadwy iawn neu nid ydynt yn cysylltu â’i gilydd. Mae gan y metro hwn ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru y potensial i fod yn alluogwr economaidd enfawr, nid yn unig i'r rhanbarth, ond i unigolion allu manteisio ar gyfleoedd gwaith, i gyrraedd parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gwn yn fy achos fy hun, yn fy nigwyddiad Dyfodol Sir y Fflint a gynhaliais yn ddiweddarach eleni, bod pryder penodol ynglŷn â sut y gallai pobl ifanc deithio i barc diwydiannol Glannau Dyfrdwy i weithio os na allant fforddio car, neu os oes ganddyn nhw gar, yn aml mae cost yswiriant i bobl iau yn golygu na allant ei fforddio.
Croesawaf y newyddion i edrych ar orsafoedd Shotton Uchaf, Shotton Isaf a Gorsaf parc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ond a allem ni, yn rhan o gynigion metro gogledd-ddwyrain Cymru, edrych ar sut y gallem ni ddatblygu gorsafoedd ymhellach i lawr y rheilffordd i'r gorllewin o'r Fflint? Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag aelodau Cyngor Tref Treffynnon, cynrychiolwyr o Network Rail a’m cyd-Aelod Seneddol, David Hanson, i edrych ar safle posibl ar gyfer gorsaf newydd yn ardal Maes Glas a Threffynnon. Mae llawer o'r strwythur yn dal i fod yno—yn amlwg mae angen ychydig o waith arno a’i wella rhyw gymaint—ond mae’n dal i fod yno o'r hen orsaf. Mewn gwirionedd roedd yr orsaf honno'n ffurfio pwynt strategol allweddol, heb fod yn rhy bell o Borthladd Mostyn, sy'n cysylltu sector gweithgynhyrchu uwch y gogledd-ddwyrain â sector ynni'r gogledd-orllewin, a dyma lle mae'r adenydd A380 ar gyfer yr Airbus A380 yn gadael neu yn cael eu trosglwyddo i Toulouse. Felly, rwyf wir yn annog ystyried hyn yn ddwys—ac mi fyddwn yn falch o gwrdd â chi a swyddogion i weld sut y gallwn ni ddatblygu hyn ymhellach—cael gorsaf newydd yn yr hyn a elwir yn Arhosfa Maes Glas, neu, i ddweud y gwir, pe byddem ni yn gwneud hynny, beth am ei galw'n Arhosfa y Santes Gwenffrewi er mwyn gwneud yn fawr o’r asedau treftadaeth a'r twristiaid a fyddai ar garreg y drws o’r lle y byddai wedi ei lleoli?
I gloi, yr ydym ni’n gweld bod buddsoddiad ar raddfa fawr ar y gweill yn ein seilwaith yn y gogledd-ddwyrain. Mae cynigion mawr wedi eu rhoi ger bron, cynigion megis y metro, a fyddai'n dod â photensial mawr i'n hardal. Ond, wrth gloi, mae’n wirioneddol raid i mi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wrando a gweithredu ar syniadau a phryderon pobl, cymunedau a sefydliadau Sir y Fflint. Byddaf yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan fy etholwyr lais wrth i’r broses hon fynd rhagddi. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i sicrhau bod y broses mor hygyrch â phosib i bob cymuned yn Sir y Fflint, nid yn unig Glannau Dyfrdwy, a’i fod mewn difrif yn cynnwys pobl o gymunedau ledled y sir.
A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? Rwy'n cydnabod yr angen i sicrhau bod y weledigaeth metro yn ymestyn ar draws y rhanbarth cyfan ac i gymunedau yn etholaeth Delyn. Rwy’n derbyn y sylw ynglŷn â theitl cynnig y coridor, ac nawr fy mod wedi gallu cyhoeddi mai’r llwybr coch fydd yn cael ei ddatblygu, rwy'n credu y gallwn addasu enw'r prosiect, efallai, i goridor gogledd Cymru neu goridor Sir y Fflint. Rwyf yn credu y bydd busnesau a phoblogaeth y rhanbarth yn croesawu cyhoeddiad heddiw. Cyhoeddodd y prosiect £250 miliwn o fuddsoddiad yn y gogledd-ddwyrain, ac mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £600 miliwn ar draws seilwaith yn rhanbarth y gogledd—rhywbeth y mae llawer o fusnesau wedi galw amdano dro ar ôl tro. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau, wrth ddangos cydymdeimlad â'u hetholwyr eu hunain, hefyd yn ystyried mai meithrin agwedd ranbarthol, strategol tuag at ddatblygu economaidd a thrafnidiaeth yw'r brif flaenoriaeth ar gyfer y gogledd.
Rwy’n hoff iawn, iawn—rwyf yn wirioneddol hoffi’r syniad o gael arhosfa y Santes Gwenffrewi neu arhosfa Maes Glas yn rhan o'r metro, a byddaf yn sicr yn gofyn i'r grŵp llywio ystyried hynny fel prosiect gwirioneddol bosib a dichonadwy. Credaf hefyd bod modd cael canolfannau ar raddfa lai mewn trefi eraill yn Nelyn, gan gynnwys tref farchnad hanesyddol yr Wyddgrug ac yn y Fflint, er mwyn sicrhau bod trefi mawr a phentrefi bach wedi'u cysylltu'n well â'r canolfannau cyflogaeth mwy ac i wasanaethau rheilffordd hefyd.
O ran y manteision cymunedol a allai ddeillio o'r prosiect hwn, mae'n amlwg bod £0.25 biliwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn, a byddwn yn dychmygu y bydd potensial enfawr i gynlluniau cymunedol dynnu arian, cymorth uniongyrchol a chymorth mewn adnoddau yn ogystal . Rwy’n awyddus iawn i weld buddsoddi yn Theatr Clwyd. Mae hi'n hen bryd iddi gael rhaglen foderneiddio ac mae ei phrosiect cyfalaf, rwy'n credu, yn uchelgeisiol iawn ac mae ganddo gefnogaeth eang. Felly, byddwn yn fwy na pharod i weld bod Theatr Clwyd yn cael ei rhoi mewn sefyllfa lle y gall elwa'n sylweddol fel cynllun budd cymunedol.
O ran Oakenholt a'r Fflint a chymunedau eraill sy'n agos at y llwybr coch, bydd y cynllun datblygu lleol yn pennu llawer o'r tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer adeiladu tai arno. Bydd Cyngor Sir y Fflint, fel yr awdurdod cynllunio, hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ddatblygiad sy'n digwydd yn gymesur a bod y gymuned yn gallu darparu ar gyfer unrhyw gartrefi ychwanegol. Rwy'n credu bod gan gymunedau fel Oakenholt gymeriad nodedig iawn a hunaniaeth gref, ac ni fyddwn yn dymuno i'r elfennau hynny gael eu gwanhau wrth i gymunedau eraill ymledu i Oakenholt neu, yn wir, wrth i’r gymuned benodol honno ehangu yn sylweddol. Yn yr un modd, y cymunedau eraill yn yr ardal – Northop Hall, Llaneurgain a’r Fflint - rwy'n credu ei bod hi’n hanfodol eu bod yn cadw eu hunaniaeth a'u nodweddion unigryw.
Gofynnodd yr Aelod hefyd am arwyddion a sut y byddwn yn sicrhau bod traffig a allai ddefnyddio'r llwybr coch newydd yn defnyddio'r llwybr coch newydd. Fy mwriad yw sicrhau, wrth i'r traffig ddod oddi ar yr M56 ac ymlaen i'r A494, bod digon o arwyddion i’w gweld i sicrhau bod traffig sy'n dymuno defnyddio’r A55 yn gallu cael ei gyfeirio y ffordd honno.
O ran y broses ddylunio a fydd yn cael ei dilyn nawr, rwy'n hyderus, trwy ein cynllun arweiniol ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, y byddwn yn gallu sicrhau y cydymffurfir â Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Rwy'n credu, hyd yn hyn, bod y broses yr ydym ni wedi ei dilyn wir wedi cydnabod y ffyrdd o weithio mae’r Ddeddf yn eu hyrwyddo, gan gynnwys y ffordd gynhwysol yr ydym ni wedi mynd ati i siarad â phreswylwyr, ymgysylltu â phreswylwyr, a gwahodd sylwadau gan drigolion a busnesau. O'r mwy na 2,500 o ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd tua 1,800 o blaid y llwybr coch. Mae cryn gefnogaeth i'r prosiect hwn, a hefyd, rwy'n hyderus y bydd hyn yn arwain at welliant yng nghystadleurwydd a chysylltedd gogledd-ddwyrain Cymru.
Diolch. Ac yna, yn olaf, Cadeirydd y pwyllgor. Ond gyda chwestiwn yn unig, os gwelwch yn dda.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf greu'r grŵp llywio y soniasoch amdano. A allwch chi amlinellu yn fanylach sut yr ydych chi'n bwriadu cryfhau gweithio trawsffiniol gyda'r Adran Drafnidiaeth, ‘Transport for the North’, ac eraill i sicrhau eich bod yn manteisio ar fuddsoddiad Llywodraeth y DU yng nghynlluniau ‘HS2’ a ‘high speed 3?
Yn olaf, er ei bod hi’n iawn a phriodol bod y seilwaith yng ngogledd Cymru yn creu cysylltiadau â gogledd Lloegr, mae hefyd yn bwysig, wrth gwrs, bod y seilwaith hwnnw'n hwyluso mwy o gysylltedd â chanolbarth Cymru. Ni fyddech yn disgwyl i mi ddweud unrhyw beth gwahanol. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth yw eich cynlluniau chi i wella'r cysylltiadau rhwng y gogledd a'r canolbarth, yn enwedig o ran sut y gall busnesau fanteisio ar ddatblygiadau yn y gogledd a manteisio arnynt.
A gaf i gofnodi fy niolch i Aelodau Seneddol yn ardal Wrecsam, De Clwyd, a hefyd ar draws y ffin—rwyf wedi cyfarfod ag Owen Paterson ar sawl achlysur—am ddilyn ymgyrch i gael ffordd ddeuol rhwng yr Amwythig a Rhiwabon? Mae'n ymgyrch uchelgeisiol, ond yn un sydd yn fy marn i yn dangos yr angen a'r awydd i weld gwelliannau o ran teithio rhwng y de a’r gogledd ar sail drawsffiniol.
Rydym ni hefyd yn datblygu, ar gyflymder da, ffordd osgoi'r Drenewydd, y mae'r Aelod yn ymwybodol iawn ohoni, ac mae hyn unwaith eto yn gwella teithio rhwng y de a’r gogledd. Ond, yn ychwanegol at hyn, rwyf eisoes wedi cyhoeddi'r gronfa—y gronfa i fynd i’r afael â mannau lle mae traffig yn crynhoi—a fydd yn mynd i'r afael â rhai o’r prif dagfeydd traffig ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd, gan gynnwys yng nghylchfan Halton ar yr A483. Rwy'n falch fy mod wedi cael gwaith ymchwil cychwynnol yn ôl gan swyddogion, ac ymddengys y byddwn yn gallu uwchraddio’r man penodol hwnnw yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Ac, ar sail drawsffiniol, rwy'n credu bod y momentwm yr ydym ni wedi'i adeiladu gyda chynllun ‘Growth Track 360’ a'r tasglu wedi bod yn aruthrol ac nid wyf am i ni golli'r momentwm hwnnw. Bydd gan y grŵp llywio gynrychiolwyr o asiantaethau trawsffiniol, ac rwy'n awyddus i sicrhau bod cynnig twf gogledd Cymru yn cynnwys cyfran sylweddol o brosiectau trafnidiaeth er mwyn galluogi'r rhanbarth i fod yn fwy cysylltiedig ac i gyd-fynd â'r cynnig bargen twf o fewn ardal Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.