2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Medi 2017.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am egwyddorion buddsoddi i arbed? (OAQ51070)[W]
Diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Mae cyllid buddsoddi i arbed yn cael ei ddefnyddio yn unol â chyfres o egwyddorion sy’n cynnwys y canlynol: darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, creu arbedion sylweddol sy’n rhyddhau arian, annog mwy o gydweithredu rhwng cyrff a gwasanaethau cyhoeddus, a rhannu gwersi a ddysgwyd a’r arferion gorau.
Diolch am yr ymateb yna. Mi hoffwn i awgrymu wrth yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai buddsoddi mewn datblygu addysg feddygol israddedig gynhwysfawr yn y gogledd—hynny ydy, yn cynnwys myfyrwyr blwyddyn gyntaf, a reit trwy eu hastudiaethau—yn enghraifft wych o weithredu egwyddorion buddsoddi i arbed. Rydym ni’n gwybod bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwario £80 miliwn ar locyms yn y tair blynedd diwethaf. Rhywsut, mae’n rhaid torri’r cylch dieflig yma, ac mi fyddai buddsoddi, rydw i’n meddwl, mewn hyfforddi meddygon yn lleol yn gyfraniad mawr at hynny. Nid ysgol feddygol lawn annibynnol yr ydym ni’n gofyn amdani hi, gyda llaw; efallai y daw hynny maes o law. Ond, tra bod yna bob mathau o resymau bod angen y datblygiad yma, er bod y Llywodraeth ddim fel petaen nhw’n gweld hynny hyd yn hyn—i’r Ysgrifennydd cyllid yn benodol, rydw i’n apelio am iddo fo gydnabod a gweld hyn fel enghraifft o fuddsoddiad synhwyrol rŵan er mwyn creu buddiannau hirdymor.
Wel, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, rydw i’n clywed yr achos mae’r Aelod yn ei wneud, ac rydw i’n cydnabod beth mae e’n ei ddweud am sut mae’r arian yn cael ei wario yn y gogledd ar hyn o bryd. Bydd e’n awyddus i wybod, rydw i’n siŵr, fy mod i wedi cael cyfarfod y bore yma gyda’r Ysgrifennydd gyda chyfrifoldeb dros iechyd i drafod y datblygiadau yn y gogledd.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y bydd yr Aelodau’n falch o glywed bod adolygiad annibynnol wedi canfod bod pob £1 a fuddsoddwyd wedi arwain at oddeutu £3 mewn arbedion. Mae hynny’n wirioneddol dda ac yn arwydd o gryn arloesedd. Rydym yn awyddus i weld mwy o hynny. Fodd bynnag, 0.4 y cant yn unig o fuddsoddiad o bron £14 miliwn y mae tai wedi’i gael o dan y cynllun hyd yn hyn. Tybed a wnewch chi edrych ar ffyrdd posibl y gallai’r sector tai elwa, efallai drwy leihau costau cychwynnol adeiladu cartrefi, ac yn enwedig mesurau i gefnogi safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni. Maent yn cael cryn effaith ar iechyd a lles y tenantiaid a’r bobl sy’n byw yn y tai hynny wedyn.
Diolch i David Melding am ei bwynt. Mae’n tynnu sylw at un o nodweddion y gronfa, sef ei bod wedi cael ei defnyddio gan rai rhannau o’r sector cyhoeddus yn llawer mwy rheolaidd nag eraill. Felly, mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru hanes gwych o ddefnyddio’r gronfa ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni, ac mae wedi arbed llawer iawn o arian yn y gwasanaeth iechyd o ganlyniad. Mae awdurdodau lleol wedi bod ychydig ar ei hôl hi mewn perthynas â’r gronfa buddsoddi i arbed, ond rydym yn annog y rhai a wnaeth lai o ddefnydd ohoni hyd yn hyn i ddefnyddio mwy arni yn y dyfodol. Rydym yn cymryd ceisiadau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn bellach, yn hytrach nag ar adegau penodol o’r flwyddyn, ac yn gweithio gyda phobl â llai o brofiad o wneud ceisiadau i’r gronfa, fel eu bod yn cael rhywfaint o fentora yn ystod y broses er mwyn annog y math o gais a grybwyllwyd gan yr Aelod.