2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Hydref 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Cymru wedi elwa ar fod yn wlad amrywiol o ran ethnigrwydd? (OAQ51135)
Gwnaf. Drwy gydol ein hanes, mae pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi dod â sgiliau ac entrepreneuriaeth i Gymru. Ac, wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, mae'r thema, 'Ein sêr, ein dyfodol, ein hanes' yn cefnogi ein huchelgeisiau yn rhan o 'Ffyniant i Bawb', gan ein bod yn gwybod bod angen pobl amrywiol, greadigol, hynod fedrus a hyblyg ar Gymru ffyniannus.
Diolchaf i chi, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i wrth fy modd o fod yn bresennol ac o siarad yn lansiad degfed Mis Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae digwyddiadau, a gynhelir trwy fis Hydref, yn ein helpu i fyfyrio ar dreftadaeth gyfoethog Cymru a chyfansoddiad amrywiol ei phobl a'u cyfraniad at lunio Cymru. Ac mae'n rhoi cyfle i ni fel corff seneddol estyn allan i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a’u hannog i ymgysylltu â ni a'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud. Fel y gwyddoch, Prif Weinidog, bydd ein cynllun prentisiaeth Cynulliad nesaf yn cael ei lansio y flwyddyn nesaf. A gaf i ofyn i chi, felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ceisiadau gan gymunedau pobl dduon ac ethnig?
Wel, rydym ni'n darparu £360,000 yn ystod 2017-20 ar gyfer rhaglen ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru gyfan, gan ddarparu gwybodaeth, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru ar faterion a heriau allweddol, a bydd hynny'n ein helpu ni, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni’n gallu recriwtio mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n llawn poblogaeth a chyfansoddiad Cymru.
Tair wythnos yn ôl, roeddwn i’n bresennol mewn cyfarfod yn Wrecsam gyda llysgennad Gwlad Pwyl o Lundain, y prif gonswl o Fanceinion, cynrychiolydd y cyngor, gwahanol asiantaethau a oedd yn bresennol, ac, wrth gwrs, cynrychiolwyr o’r cymunedau Pwylaidd a Phortiwgeaidd, yn trafod sut y gallem ni ddatblygu canolfan gyswllt. Yn yr achos hwn, siaradodd conswl Gwlad Pwyl am y ffaith y byddai’n bosibl y gallai clybiau busnes cymunedol Pwylaidd godi'r cyllid i gael mynediad at hyn. Ond mae angen rhywun arnom i hwyluso’r ffordd ymlaen, i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl yn y cymunedau hyn yn parhau i’w hwynebu, a hefyd, o ganlyniad, i leihau pwysau ar wasanaethau statudol. Sut gallai Llywodraeth Cymru helpu i hwyluso cynnydd yn y maes hwn?
Wel, rydym ni’n ceisio gweithio, wrth gwrs, trwy ein hymgysylltiad â'r gwahanol gymunedau, trwy'r gwahanol fforymau sydd gennym, a hefyd, wrth gwrs, y gwaith gyda llysgennad Gwlad Pwyl a chynrychiolwyr diplomyddol Gwlad Pwyl yn y DU. Rydym ni’n fwy na pharod i weithio gyda'r llysgennad er mwyn nodi lle mae grwpiau o'r fath yn bodoli yng Nghymru a sut y gallwn ni ymgysylltu â nhw orau. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod. Os byddaf yn ysgrifennu at lysgennad Gwlad Pwyl, efallai pe gallem amgáu'r geiriau y mae wedi eu defnyddio yn y Siambr hon yn rhan o'r llythyr, ac yna wrth gwrs, gallwn weld sut y gallwn gydweithio gyda'n gilydd orau i sicrhau'r canlyniad y mae wedi ei ddisgrifio.
Prif Weinidog, ddydd Gwener, roeddwn i gyda'r tîm cymorth ieuenctid ethnig yn Abertawe, ac roedden nhw’n dweud yr hoffent gael llawer mwy o gefnogaeth wrth fynd i ysgolion a lleoliadau addysg o ran ceisio cael cymunedau i gydweithio. Ac felly, mewn un ysgol, roedd ganddyn nhw ferch wen yn gwisgo hijab, a cherddodd i lawr y stryd, ac yna daeth yn ôl a dweud pa mor wahanol yr oedd hi'n teimlo ei bod hi wedi cael ei thrin oherwydd ei bod yn gwisgo un darn o benwisg a oedd yn wahanol i'r ffordd y byddai’n gwisgo fel rheol. Ac rwy'n credu y byddai'r mathau hyn o bethau yn helpu plant nad ydynt erioed wedi cael eu cyflwyno i gymunedau eraill, neu ethnigrwydd arall, yn eu bywydau i geisio deall sut beth yw byw’r profiadau beunyddiol hynny. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi siarad â nhw—gwn eu bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru—i roi adnoddau ychwanegol iddyn nhw fynd a gwneud hyn mewn ysgolion eraill ledled Cymru, i sicrhau, pan fyddwn ni'n dechrau’n ifanc, y gellir lliniaru’r problemau posibl hynny trwy ddechrau cyn gynted fyth ag y gallwn?
Wel, a gaf i awgrymu bod y sefydliad dan sylw yn dilyn y llwybr arferol—yn siarad â swyddogion y Gweinidog—ac yna, wrth gwrs, gallwn ystyried pa adnoddau allai gael eu rhoi ar gael yn y dyfodol?