3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 4 Hydref 2017.
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r cyhoeddiad y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020? (TAQ0049)
Galwn ar Jaguar Land Rover i gadarnhau na fydd y symud yn aberthu swyddi yng Nghymru. Cyfarfu’r Prif Weinidog a minnau â Ford yn ddiweddar a chyda chynrychiolwyr undebau i drafod dyfodol hirdymor y safle, ac rwy’n falch o ddweud y bydd gweithgor yn ymchwilio i’r holl bosibiliadau ar gyfer y cyfleuster.
Diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw. Gwelais yr arwyddion clir cyntaf o gythrwfl ym mis Mawrth, ac ar 21 Awst pleidleisiodd y gweithlu, fel y gwyddoch rwy’n siŵr, dros weithredu diwydiannol, sydd bellach wedi ei ohirio. Mae wedi bod yn hysbys ac wedi cael ei ddweud gan aelodau o’ch Llywodraeth chi fod arferion gwaith wedi cael eu caniatáu i dyfu fel problem ers nifer o flynyddoedd. Cawsom gyfarfod trawsbleidiol ym mis Mai gydag undebau llafur lle y mynegwyd pryderon o’r fath. Roedd yr undebau a’r gweithlu eisiau ymyrryd ar y pryd ac roeddent am helpu i arallgyfeirio ar y pryd a chyfryngu gyda’r rheolwyr ar y pryd. Felly, rwy’n chwilfrydig ynglŷn â pham y mae wedi cymryd nes y pwynt hwn i sefydlu’r grŵp gorchwyl a gorffen. Pa amgylchiadau lliniarol eraill a olygodd na chafodd ei sefydlu’n gynt? Hoffwn wybod pwy fydd yn aelodau ohono a sut y bydd yn adrodd wrthych. A fydd yn dod atom ni fel Cynulliad ac a fydd yn canolbwyntio ar arallgyfeirio? Mae cynrychiolwyr ar ran Ford wedi dweud y gellid defnyddio’r injan Dragon newydd fel sylfaen ar gyfer uned bŵer hybrid ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth edrych ar geir y genhedlaeth nesaf. Felly, a allwch ein sicrhau yma heddiw y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen penodol hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod Pen-y-bont ar Ogwr yn dod yn ganolfan fodurol ac yn gwella’i statws o ran datblygu technolegau newydd yn yr ardal? Credaf mai’r hyn y mae gweithlu Ford yn ei ddweud wrthyf, ac eraill rwy’n siŵr, yw eu bod eisiau gallu edrych ar ffyrdd newydd o gynnal y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae angen inni wneud hynny yn awr.
Yn hollol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am gydnabod pwysigrwydd y gweithgor a sefydlwyd mewn partneriaeth gymdeithasol go iawn rhwng Llywodraeth Cymru, undeb Unite, Ford a Fforwm Modurol Cymru. Bydd yn edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer y cyfleuster, gan gynnwys technolegau newydd ar gyfer injans trydan a hybrid. Bydd yn adrodd wrthyf yn rheolaidd, ac rwy’n rhoi fy ymrwymiad yn fy nhro i adrodd wrth y Siambr hon yn rheolaidd hefyd.
Mae Unite wedi cadarnhau yn ddefnyddiol y byddai’n well ganddynt ddeialog yn hytrach na gweithredu diwydiannol ffurfiol. Mae hwnnw’n gam sydd i’w groesawu’n fawr gan yr undeb, ac rwy’n falch o ddweud yn ogystal fod y Prif Weinidog wedi cynnig gweithredu fel brocer rhwng y safle a’r undeb. Unwaith eto, cafodd hyn dderbyniad da iawn. Nid oes amheuaeth fod wyneb y sector modurol yn newid, fod technolegau newydd yn cynnig cyfleoedd a heriau, ond gyda’r £100 miliwn yn barod i gael ei fuddsoddi yn y parc technoleg fodurol yng Nglyn Ebwy, mae cyfle enfawr i gwmnïau fel Ford fanteisio ar y technolegau sy’n datblygu a fydd yn pennu dyfodol y sector.
O ran gweithgareddau eraill yn y maes hwn, euthum i Cologne i gyfarfod â phrif swyddogion Ford yn Ewrop yn ystod yr haf. Roeddwn yn falch o’r ymateb. Mae Ford Europe a Ford Britain wedi mynegi eu dymuniad i edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer dyfodol hirdymor y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a cheir awydd gwirioneddol i leihau dibyniaeth ar yr injan draddodiadol ac i ganolbwyntio yn lle hynny ar gynhyrchu injan hybrid a thechnolegau eraill sy’n datblygu. Dirprwy Lywydd, hoffwn ddweud hefyd ein bod yn galw ar JLR i gadarnhau na fydd y symudiad hwn yn aberthu swyddi yng Nghymru ac yn eu symud yn lle hynny i orllewin canolbarth Lloegr.
Diolch i Bethan am ddwyn hyn i’n sylw heddiw. Mae’n fater pwysig, ac roedd yn newyddion siomedig iawn ein bod wedi cael cadarnhad y byddai’r llinell gynhyrchu yn dod i ben, ond nid yn unig hynny—y byddai’n dod i ben dri mis yn gynharach nag a drafodwyd erioed o’r blaen. Mae’n dangos yn glir fod bwriad gan linell gynhyrchu JLR i symud cyn gynted ag y bo modd, ac mae hynny’n hynod siomedig. Rwy’n ddiolchgar am y ffordd gadarnhaol y mae’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â hyn. Rydym wedi cyfarfodd â’r undebau fel Aelodau Cynulliad, ond hefyd cyfarfu Chris Elmore a minnau â chynrychiolwyr Ford yn San Steffan wythnos a hanner yn ôl i lobïo’r achos dros fuddsoddi yn y ffatri yn y dyfodol. Roeddent am bwysleisio eu bod yn awyddus i gymryd rhan yn gadarnhaol mewn deialog, nid yn unig gyda’r undebau, ond hefyd roeddent yn ganmoliaethus iawn o rôl Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i bob llwybr posibl, nid yn unig i ddod â’r hyn y byddem yn ei alw’n gynhyrchiant y system yriant draddodiadol i’w modelau newydd, ond hefyd pethau fel cynhyrchu cerbydau trydan neu gynhyrchu batrïau ac yn y blaen. Mae’n dda, ac rwy’n annog y Gweinidog yn gryf i fwrw ymlaen â hynny.
Ond fe orffennodd drwy ddweud y pwynt ynglŷn ag i ble y mae cynhyrchiant JLR yn symud. Rydym wedi gweld arwyddion sy’n peri pryder fod cynhyrchiant JLR yn symud—ac yn symud yn gynt na’r disgwyl—i safle yn Wolverhampton yn seiliedig ar gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i linell gynhyrchu fodurol newydd. Os yw hynny’n wir, mae’n golygu bod swyddi a ddylai fod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae eu hangen yn ddybryd, yn cael eu dwyn yn uniongyrchol. Os felly, a allai dynnu sylw’r Ysgrifennydd Gwladol at hyn yn ei drafodaethau ac a wnaiff ofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol: beth y maent yn mynd i’w roi yn ôl i dde Cymru a Phen-y-bont ar Ogwr i wneud iawn am hyn? Oherwydd os yw’n wir fod buddsoddiad Llywodraeth y DU yn dwyn y swyddi hyn o Gymru, yna rydym eisiau’r buddsoddiad hwnnw yn ôl er mwyn creu rhagor o swyddi a chynnal y swyddi sydd yma ar hyn o bryd.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau ac am ei angerdd wrth eu gofyn? Mae’n gwbl ymroddedig i weithlu Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y mae’r Aelod lleol ac eraill yn y Siambr hon, a hoffwn ei longyfarch am sicrhau bod y cyfarfod yn Llundain yn digwydd, cyfarfod a oedd, o ran y briff a roddodd i mi, yn hynod o gynhyrchiol yn fy marn i. Gwyddem y byddai’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gweld lleihad yng nghapasiti’r injan AJ wrth i ffatri weithgynhyrchu Wolverhampton ddod yn weithredol. Fodd bynnag, rwy’n chwilio am sicrwydd nad yw Llywodraeth y DU wedi cael unrhyw ran yn trosglwyddo gwaith yn gynnar i’r safle yn Wolverhampton. Mae’n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn gweithredu mewn ffordd sydd o fudd i’r DU yn gyfan ac sy’n cadw cydbwysedd economi’r DU, fel y mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn ei amlinellu.
Gallaf hefyd ddweud bod fy swyddogion yn cymryd rhan ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y DU a chyda’r Sefydliad Buddsoddi Modurol i ymchwilio i ffyrdd ategol o ddefnyddio safle Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn sicrhau cyfleoedd yn y dyfodol, gan gynnwys buddsoddiad. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig. Gallai hefyd gyd-fynd yn daclus â’r gronfa her, ac yn arbennig â her Faraday. I’r perwyl hwnnw, yn ystod yr haf, roeddwn yn falch hefyd o gyfarfod â Richard Parry-Jones, sydd â rôl hanfodol yn yr her arbennig honno, a buom yn trafod nifer o gyfleoedd a allai fod yn berthnasol i Ford Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn amlwg, mae hwn yn newyddion drwg, yn enwedig gan ei bod yn fwy tebygol y daw cynhyrchiant i ben yno. Rwyf wedi clywed yn eich atebion heddiw ac i fod yn deg, yn ystod y chwe mis diwethaf, neu fwy na hynny hyd yn oed, fod Ford a’r diwydiant modurol yn wynebu newid cyflym a’u bod yn parhau i edrych am gyfleoedd uwch-dechnoleg eraill ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym wedi clywed heddiw eich bod yn fodlon iawn â’r sgyrsiau gyda Ford ac ymdrechion i gasglu gwybodaeth o bob cwr o Ewrop a gweddill y byd—credaf fod cyflwyniadau cynharach wedi cyfeirio at hynny yma. Mae hyn i gyd yn galonogol iawn, ond nid oes gennyf deimlad cryf o ba bryd y byddai rhyw ymrwymiad penodol yn cael ei wneud gan Ford. Rwy’n deall mai Ford a ddylai ei wneud, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Ar ryw bwynt, a ydych yn rhoi pwysau ar Ford i ddweud, ‘A wnewch chi roi rhyw fath o ateb pendant inni erbyn rhyw ddyddiad penodol?’? Nid wyf yn awgrymu beth y dylai’r dyddiad hwnnw fod, ond mae angen dod â rhywfaint o sicrwydd i mewn i’r broses.
Yn ail, tybed a fyddech yn ddigon caredig i ateb cwestiwn na wnaethoch ei ateb gan Bethan Jenkins ynglŷn â’r gweithgor. Yn sicr, pan gysylltodd yr undebau â’r holl Aelodau Cynulliad perthnasol i ddweud bod y grŵp yn cael ei sefydlu, roedd yna deimlad y byddai ACau yn rhan o hynny, ac nid wyf yn siŵr a yw hynny’n wir. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un yn y Siambr wedi mynd ar ei drywydd.
Ac yn drydydd, rwyf eisiau sôn eto ynglŷn â’r fargen ddinesig a’r ganolfan arloesi dur. Gwn fod hyn yn eithaf pell i ffwrdd, felly nid yw’r amseriad yn berffaith yma, ac yn amlwg, nid yw’r safle yn ardal y fargen ddinesig, ond mae ar garreg y drws, ac mae’n gyfleuster enfawr lle y mae cynhyrchu cynhyrchion modurol newydd gan ddefnyddio deunyddiau newydd, wedi’u datblygu drwy’r ganolfan wyddoniaeth o bosibl—mae’n gyfle na ellir ei anwybyddu. Fel rwy’n dweud, nid yw’r amseru’n wych o ran hynny, ond byddai colli arbenigedd y gweithlu hwn gyda hynny ar y gorwel yn ergyd ddifrifol, yn amlwg, i’r gweithwyr yr effeithir yn uniongyrchol ar eu teuluoedd—ac maent wedi cael eu trin yn wael iawn yn ystod y broses hon—ond hefyd i deuluoedd eraill hefyd sy’n rhan o economi y rhan hon o dde Cymru. Felly, er ein bod yn sôn am geir hybrid ac yn y blaen, gall deunyddiau newydd gynnig cyfleoedd modurol eraill. Diolch.
Ac mae’r Aelod yn hollol iawn. Mae’r gweithgor yn edrych yn frwd ar gyfleoedd a ddaw yn sgil y fargen ddinesig a chyfleoedd y gall strwythurau buddsoddi eraill sy’n rhan o strategaeth ddiwydiannol y DU, er enghraifft, eu cynnig hefyd. Mae’r diwydiant yn newid yn gyflym a phennir buddsoddiadau mewn cynhyrchion yn y dyfodol gan gylchoedd buddsoddi. Mae cynhyrchion newydd yn debygol o fod yn seiliedig ar dechnoleg sy’n datblygu, yn seiliedig yn bennaf ar fodelau injan hybrid a modelau injan drydan, ac rwyf wedi pwyso ar Ford yn Ewrop, ar lefel yn Cologne, i sicrhau bod Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn cael pob cyfle i wneud cais am y cynhyrchion newydd hyn ac i’w cael. Bydd y dyddiadau’n cael eu pennu gan benderfyniadau’r cylch buddsoddi, h.y. pan fydd yr injans presennol yn cael eu diddymu’n raddol ac injans newydd yn cael eu cyflwyno, ond rwyf wedi gofyn am gael fy nghadw mewn cysylltiad llawn â Ford dros eu cylchoedd buddsoddi. Ond mae cyfleoedd eraill y gellid eu sicrhau ar gyfer safle Ford ar ffurf cynhyrchu a gorffen injans sy’n cael eu gorffen yn rhywle arall ar hyn o bryd, ac unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y mae’r gweithgor yn mynd ar ei drywydd ar hyn o bryd.
O ran cyfansoddiad y gweithgor, rwyf eisoes wedi amlinellu bod yr aelodaeth yn cynnwys y fforwm modurol, Llywodraeth Cymru, Ford ei hun ac undeb Unite. Bydd yn adrodd wrthyf yn rheolaidd a minnau, yn fy nhro, yn adrodd wrth Aelodau’r Cynulliad. Pe bai Aelodau’r Cynulliad yn dymuno cyfarfod ag aelodau eraill o’r gweithgor, rwy’n siŵr mai grŵp trawsbleidiol fyddai’r fforwm mwyaf perthnasol a phriodol ar gyfer gwneud hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, er ei bod yn siomedig fod Jaguar Land Rover wedi penderfynu cynhyrchu eu hinjans yn fewnol, nid oedd unrhyw sicrwydd y byddai Ford wedi ennill y contract pan oedd i fod i gael ei adnewyddu ym mis Rhagfyr 2020. Felly, mae gennym ddwy flynedd a hanner i fod yn gadarnhaol a dod o hyd i gontractau ychwanegol ar gyfer safle Pen-y-bont ar Ogwr. Yr hyn nad oes ei angen yn awr yw bygythiad o streic. Mae angen i’r undebau, Ford, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i gontractau eraill. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddodd Ford heddiw y byddant yn buddsoddi’n drwm yn y cerbydau trydan. Rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf o hyn wedi’i ateb yn barod, ond hoffwn gofnodi’r hyn rwy’n ei drafod. Pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai safle Pen-y-bont ar Ogwr ddarparu’r system yriant ar gyfer fflyd drydan a hybrid Ford yn y dyfodol? Hefyd, hoffwn gael fy ngwahodd i unrhyw gyfarfodydd sydd i ddod, neu o leiaf gael gwybod amdanynt, fel y nododd Suzy Davies. Diolch.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig i bob Aelod gael yr holl wybodaeth ynglŷn â datblygiadau mewn perthynas â Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwy’n addo gwneud yn siŵr fod y newyddion diweddaraf yn cael ei gynnig i’r Aelodau’n rheolaidd ac fel y dywedais wrth Suzy Davies, efallai mai mewn grŵp trawsbleidiol fyddai’r adeg fwyaf priodol i gyfarfod ag Aelodau eraill y gweithgor ac i archwilio rhai o’r cyfleoedd wrth iddynt gael eu datblygu ymhellach. Rydych yn gywir fod gan Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddwy flynedd a hanner i sicrhau cynhyrchion newydd i’w cynhyrchu ar y safle, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod hynny’n digwydd. Rwy’n falch o ddweud bod undeb Unite wedi dewis deialog yn hytrach na gweithredu diwydiannol ffurfiol, ac mae arweinyddiaeth yr undeb yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod dyfodol hirdymor a chynaliadwy i’r safle a’i weithlu medrus.
Mae llawer o drafodaethau wedi digwydd eisoes ynglŷn â’r potensial i ddenu systemau gyriant trydan i’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y trafodaethau hynny’n parhau ac fel y dywedais wrth Suzy Davies ac eraill, rydym yn benderfynol o fanteisio ar bob cyfle sy’n cael eu cynnig gan y technolegau newydd sy’n dod i’r amlwg yn gyflym.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.