1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Hydref 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i dyfu busnesau canolig yng Nghymru? (OAQ51153)
Gwnaf. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn cyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu a blaenoriaethau a fydd o fudd i fusnesauu bach a chanolig eu maint, ac maent yn cynnwys y banc datblygu, cymorth gwell gan Fusnes Cymru a buddsoddiad mewn seilwaith.
Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach yr adroddiad 'Wales' Missing Middle', pryd y dywedasant,
Yn y cwmnïau canolig eu maint canol sydd ar goll, mae'r rheini sy'n cyflogi rhwng 50 a 250 o bobl yn cynrychioli cyfran fach o 12 y cant o gyflogaeth.
Aethant ymlaen i ddweud, o'r rheini sydd yn bodoli, eu bod yn aml yn wynebu dewisiadau i werthu i endidau amlwlad mwy yn hytrach na mynd ar drywydd twf domestig cynaliadwy. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i ba raddau y bydd yn ymddangos yn y cynllun economaidd sydd i ddod?
Mae'r Aelod wedi rhoi sylw i fater yn y fan yna sy’n gwbl gywir. Rydym ni wedi wynebu gormod o achosion yn y gorffennol lle mae busnesau y byddai'r Almaenwyr yn eu disgrifio fel y busnesau Mittelstand, yr oedd y perchnogion yn tueddu i’w gwerthu yn hytrach na’u tyfu. Mae'n broblem sydd gennym ers blynyddoedd. Edrychwyd ar un adeg ar ba un a allem ni geisio atgyfodi cyfnewidfa stoc Caerdydd er mwyn eu galluogi i dyfu ac yna dod yn rhestredig. Nid oedd yn ymarferol. Roedd hynny’n rhywbeth a ystyriwyd gennym 10 neu 11 mlynedd yn ôl.
Beth allwn ni ei wneud yn y cyfamser i'w helpu? Mae gennym ni wasanaeth Busnes Cymru, wrth gwrs, sy'n helpu BBaChau gan gynnwys busnesau canolig eu maint, a bydd banc datblygu Cymru yn rhan hanfodol o bolisi a darpariaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu ar arbenigedd Cyllid Cymru. Bydd hynny'n helpu BBaChau i gael gafael ar gyllid. A bydd y cynllun gweithredu economaidd, heb os, yn ceisio cefnogi busnesau o bob maint. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, 20 mlynedd yn ôl, bod y pwyslais yn gyfan gwbl ar ddenu buddsoddiad tramor a dim byd arall. Dyna’r oedd Awdurdod Datblygu Cymru yn ei wneud. Nid dyna'r sefyllfa erbyn hyn. Rydym ni’n gwybod pa mor bwysig yw pyramid eang a chryf o BBaChau, a busnesau Mittelstand, os caf eu galw’n hynny, gan mai nhw yw sylfaen economi Cymru, ac rydym ni eisiau sicrhau bod ein cynnig yn helpu i'w cryfhau hwythau hefyd.
Yr wythnos diwethaf, gofynnais am ddatganiad ar ba un a oedd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i adolygu'r telerau a'r amodau ar gyfer rhoi grantiau i fusnesau yng Nghymru, yn dilyn y colledion swyddi yn Newsquest a'r bygythiad i swyddi yn Essentra yng Nghasnewydd. Mae'r ddau gwmni wedi cael cymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Ers hynny, mae wedi dod i’r amlwg bod llai na chwarter y £320 miliwn a wariwyd ar gymorth busnes ers 2010 wedi cael ei ddosbarthu fel grant ad-daladwy neu fenthyciad masnachol. Ac mae llai na 2 y cant wed ei ad-dalu. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen brys i adolygu polisi ei Lywodraeth o ran cymorth grant i fusnesau i sicrhau bod eu hamcanion yn cael eu cyflawni a bod y budd mwyaf posibl i'r trethdalwr yn cael ei sicrhau yng Nghymru gyfan?
Mae can mil a hanner o swyddi wedi eu creu neu eu cadw o ganlyniad i'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar gael. Ni ydym yn mynd i ymddiheuro am hynny. Y gwir amdani yw i’r symudiad tuag at gyllid ad-daladwy gael ei wneud yn 2010 yn wreiddiol—saith mlynedd yn ôl. Nawr, mae’r amgylchiadau wedi newid ers hynny. Rydym ni wedi canfod nad oedd busnesau yn gallu cael gafael ar gyllid. Nid oeddent o’r farn bod cyllid ad-daladwy yn ddeniadol iddynt. Felly, ydym, rydym ni wedi darparu mwy o grantiau, ond rydym ni wedi gweld y canlyniadau ac rydym ni wedi gweld miloedd lawer o bobl sydd mewn swyddi heddiw oherwydd y cymorth y mae eu Llywodraeth wedi ei roi i'w teuluoedd, er mwyn iddyn nhw gael incwm ar gyfer y dyfodol.
Un o gasgliadau allweddol adroddiad yr FSB yw bod polisi economaidd Llywodraeth Cymru wedi dibynnu'n ormodol ar ddenu buddsoddiad tramor uniongyrchol. Nid yw hynny’n wir am y Llywodraeth hon yn unig; mae'n wir am bolisi economaidd Cymru yn mynd yn ôl 50 mlynedd pan luniwyd 'Wales: The Way Ahead' gan Cledwyn Hughes ym 1967. Nid yw wedi gweithio. Ar y gorau, mae wedi bod yn ateb byrdymor; ar y gwaethaf, mae wedi gwerthu’r chwedl anwir i bobl Cymru y byddai'r iachawdwriaeth i'n trafferthion economaidd yn dod o'r tu allan. A fyddwn ni'n gweld newid sylweddol o’r diwedd yn y strategaeth economaidd newydd, fel y gallwn ganolbwyntio ar beidio â gwerthu Cymru fel lleoliad i'r byd gynhyrchu ynddo, ond buddsoddi yn ein gallu ein hunain i gynhyrchu ein harloesedd ein hunain, ein sgiliau ein hunain a'n menter ein hunain?
Nid wyf yn gweld bod y ddau’n gwrthdaro. Mae'n iawn dweud ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran denu buddsoddiad tramor uniongyrchol a chyflogir miloedd lawer o bobl yng Nghymru gan gwmnïau o’r tu allan i Gymru. Nid yw hynny’n rhywbeth y dylem ni ymddiheuro amdano—mae'n arwydd o'n llwyddiant. Yn sicr, mae'n iawn yn dweud mai’r profiad a gefais ar ddechrau'r degawd diwethaf oedd bod polisi economaidd wedi'i gyfeirio, oherwydd y WDA, bron yn gyfan gwbl tuag at ddenu buddsoddiadau mawr iawn ar draul peidio â chefnogi BBaChau. Ni allwn fforddio gwneud hynny mwyach, gan ein bod ni eisiau sicrhau bod BBaChau yn gallu tyfu yn y dyfodol. Bryd hynny, nid oedd ein prifysgolion yn gweithio gyda BBaChau; nid oedden nhw’n gweld eu hunain fel cynhyrchwyr economaidd, nid oedden nhw’n gweld bod yn rhaid iddyn nhw greu busnesau newydd yn seiliedig ar eu hymchwil eu hunain. Mae hynny i gyd wedi newid. Mae ein prifysgolion yn sicr yn gefnogol erbyn hyn, ac rydym ni wedi gweithio gyda sefydliadau fel yr FSB. Mae gennym ni ddiddordeb yn yr hyn sydd gan yr FSB i’w ddweud o ran yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi busnesau yn y dyfodol, ond mae'n rhaid i ni ddeall bod pob gwlad—wel, pob gwlad agored—yn dibynnu ar fuddsoddiad tramor uniongyrchol. Maen nhw’n creu miloedd lawer o swyddi yng Nghymru. Nid yw hynny’n bopeth, rydym ni’n deall hynny. Mae cael cydbwysedd yn hollbwysig, a dyna'n union y bydd y cynllun gweithredu economaidd yn ei wneud.