– Senedd Cymru am 2:20 pm ar 10 Hydref 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i wneud y datganiad busnes.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf i ddau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad cyn bo hir am ymgynghoriadau ar deithiau bws rhatach, ac mae'r amser a neilltuwyd ar gyfer cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yfory wedi ei leihau i 30 munud. Mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes sydd i’w ganfod ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ? Un, yn gyntaf oll, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Gan ei bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Rhyngwladol yr wythnos hon, rwy’n credu y byddai'n briodol i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi datganiad ynghylch sut yn union y mae'r Llywodraeth yn rhyngweithio â busnesau ac yn gweithio i ddarparu atebion iechyd meddwl yn y gymuned, yn enwedig therapïau trafod, sef maes sydd â llawer iawn o botensial heb ei wireddu yma yng Nghymru. Gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet daflu rhywfaint o oleuni ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda phartneriaid i sicrhau bod y cyfleusterau hyn ar gael, yn y gweithle, lle y graddnodwyd bod colled o £3 biliwn i economi Cymru, a cholled o £7 biliwn yn gyffredinol i gynnyrch economaidd Cymru, sy’n broblem ariannol enfawr y mae angen rhoi sylw iddi, a, gyda gwell darpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gallem wneud cam mawr ymlaen i gefnogi pobl sy'n wynebu'r her ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos.
Yr ail bwynt yr hoffwn ofyn am ddatganiad arno yw un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig, ynghylch deddfwriaeth iechyd anifeiliaid, ac yn arbennig cymhwysedd y Cynulliad i allu deddfu yn y maes penodol hwn. Rhoddodd y Prif Weinidog rywfaint o obaith ei bod yn eithaf posibl y gallai’r Llywodraeth adolygu ac atgyfnerthu’r ddeddfwriaeth yn y maes penodol hwn, yn enwedig o ran y gosb sydd ar gael i'r llysoedd yma yng Nghymru pan fo materion lles anifeiliaid yn dod ger eu bron. Gofynnwyd cwestiwn i'm cydweithiwr Paul Davies ym mis Rhagfyr y llynedd a oedd yn awgrymu bod elfen braidd yn amwys, os caf i ei roi felly, o ran y cyngor a gafodd Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd yn nodi nad oeddem mewn sefyllfa o gymhwysedd yn y maes penodol hwn. Y dystiolaeth a'r wybodaeth a gawsom gan gyfreithwyr y Cynulliad yw bod cymhwysedd yn gorwedd yn llwyr gyda Llywodraeth Cymru ac y gallwn wneud cynnydd yn y maes hwn—felly, pe gallem gael datganiad i egluro'n union pa bwerau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru fel y gellir datblygu ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ac y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd cynnydd ar faterion lles anifeiliaid yma yng Nghymru.
Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn yna. Yn gyntaf, ydy, mae'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Rhyngwladol heddiw, ac mae'n gyfle i ni gydnabod nid yn unig bod hyn yn broblem i un o bob pedwar ohonom, o ran anghenion a materion iechyd meddwl, ond hoffwn unwaith eto achub ar y cyfle hwn i ddweud, o safbwynt Llywodraeth Cymru, bod cefnogi pobl sy’n dioddef problemau iechyd meddwl yn un o'n prif flaenoriaethau. Rydym yn dal i wario mwy o arian ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o GIG Cymru, a bydd y cyllid yn cynyddu gan £20 miliwn i fwy na £629 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Fe wnaethoch grybwyll bod therapïau trafod yn bwynt allweddol. Mae yn cynnwys buddsoddiad o £3 miliwn mewn therapïau seicolegol i oedolion. Mae'n rhoi cyfle inni, unwaith eto, ganolbwyntio ar strategaethau iechyd yn y gweithle, sydd, wrth gwrs, yn nodwedd allweddol heddiw. Felly, diolch i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna.
O ran eich ail bwynt, yn amlwg, yn dilyn ymlaen o’r cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae'r Gweinidog dros yr amgylchedd a materion gwledig yn ymwybodol iawn ac yn ystyriol o’r materion a godwyd yn gynharach y prynhawn yma. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ysgrifennu atoch ynglŷn â’r materion pwysig hynny a godwyd gennych chi er mwyn egluro’r cymhwysedd fel y gofynnwyd.
Mae arweinydd y tŷ yn ymwybodol iawn o fy niddordeb mewn buddsoddi i arbed. Mewn gwirionedd, mae hi siŵr o fod wedi bod ar goll heb fy nghwestiynau dros y 18 mis diwethaf fwy neu lai. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar lwyddiant arloesi i arbed, a sut y mae arloesi llwyddiannus yn cael ei hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru ac ym mhob rhan o sector cyhoeddus Cymru.
Ydw, Mike Hedges, rwyf yn gweld eisiau y nifer o gwestiynau a gefais ynglŷn â buddsoddi i arbed, sydd bellach yn datblygu i’r gronfa arloesi i arbed, ond rwy'n falch o gael y cyfle i ymateb y prynhawn yma. Mewn gwirionedd, mae'r gronfa arloesi i arbed yn cefnogi wyth prosiect trwy gyfnod ymchwil a datblygu’r fenter ar hyn o bryd, a nod y cam hwn yw profi a gwella syniadau fel y gallwn asesu pa mor addas yw pob prosiect ar gyfer cymorth ariannol.
Roeddwn i’n meddwl tybed a allwn i gael diweddariad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros dai o ran yr hyn sy’n digwydd yn y sector preifat ynglŷn â deunydd cyfansawdd alwminiwm. Rwy’n gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am hyn oherwydd, ers ei ddiweddariad blaenorol, rwyf wedi bod yn siarad â phreswylwyr Prospect Place yng Nghaerdydd unwaith eto, ac maen nhw’n dweud wrthyf nad yw pobl yn gallu cael morgeisi er mwyn iddyn nhw allu gwerthu eu fflatiau ymlaen erbyn hyn, hyd yn oed fflatiau nad oes ganddynt ddeunydd cyfansawdd alwminiwm ynghlwm wrthynt. A, phan fydd Bellway yn gwerthu ei fflat olaf i'r preswylwyr, sy'n mynd i greu cwmni cyfyngedig preswylwyr, mae’n bosibl y bydd yn atebol am y costau ar gyfer unrhyw newidiadau y byddai angen eu gwneud o ganlyniad i'r ymchwiliad gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod hyn yn rhywwbeth y dylem ni bryderu amdano, oherwydd gallai hyn olygu swm sylweddol iawn o arian y bydd yn rhaid i bobl ei dalu, felly tybed a allwn i gael naill ai ddatganiad neu rywfaint o eglurder ynglŷn â'r hyn y bydd yn rhaid i’r rhai hynny yn y sector tai preifat ddioddef yn y dyfodol.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig a byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ymateb naill ai'n ysgrifenedig neu yn wir mewn datganiad i'r Aelodau.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ar y cynnydd o ran gwahardd rhyddhau llusernau awyr o dir cyhoeddus yng Nghymru? Mae llusernau awyr yn beryglus iawn i anifeiliaid ac yn achosi anafiadau a marwolaethau. Gallant hefyd achosi tân, difrodi cynefinoedd, a dinistrio cartrefi a phorthiant anifeiliaid. Yn ôl yn 2013, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at gynghorau yn eu hannog i wahardd rhyddhau llusernau awyr ar eu tir, ac mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu sicrhau mai ef fydd y deunawfed awdurdod lleol yng Nghymru i wahardd rhyddhau llusernau awyr o’i dir a helpu i hyrwyddo dewisiadau amgen. A allwn ni gael datganiad ynghylch pa un a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwaharddiad ledled Cymru ar ryddhau llusernau awyr o dir cyhoeddus os gwelwch yn dda?
Diolch i'r Aelod am godi mater sydd, yn wir, fel y dywedwch, wedi ei gyflwyno ger bron y Cynulliad hwn ac i sylw Llywodraeth Cymru. Mae'n galonogol clywed bod Casnewydd͏͏—i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Casnewydd fel awdurdod lleol; y deunawfed awdurdod o’r 22, felly mae mwy i ddod. Mae hyn yn rhywbeth sydd—bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, mi wn, wedi clywed y cwestiwn hwn a gallwn ystyried beth arall y gellir ei wneud er mwyn unwaith eto gwneud y pwyntiau pwysig yr ydych chi wedi'u gwneud o ran effaith andwyol rhyddhau llusernau awyr. Wrth gwrs, efallai y bydd angen llythyr arall i awdurdodau, fel y gwnaethom o'r blaen.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd mewn ymateb i’r ffigurau sydd wedi cael eu datgelu bod chwarter holl welyau ysbytai cymunedol gogledd Cymru nawr â chleifion dementia ynddyn nhw—bron hanner y gwelyau yn Eryri, yng Nghaernarfon, 14 yn Nhreffynnon a 18 yn Llandudno? Mae'r oedi wrth drosglwyddo gofal wedi arwain at gleifion yn aros, mewn rhai achosion, hyd 145 diwrnod—bron i bum mis—cyn cael eu rhyddhau, er enghraifft, o ysbyty’r Waun, 102 o ddyddiau yn ysbyty Deeside, 120 ym Mryn Beryl, 107 yn Alltwen. Mae’r gwaith gan gyngor iechyd cymuned gogledd Cymru wedi dangos fod y sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod y 12 mis diwethaf, a ddim wedi gwella. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, mewn mesurau arbennig ers dwy flynedd a hanner. O gofio hynny, rydw i angen esboniad ynglŷn ag a ydy’r Llywodraeth nawr yn derbyn cyfrifoldeb am y sefyllfa gwbl annerbyniol yma.
Could I also ask that the First Minister conveys to Chris Coleman our gratitude for everything that he and his management team have achieved over the last five years? We’ll all, of course, fully understand if he chooses to pursue a new challenge, but could the First Minister reiterate to him that it is the overwhelming view of Welsh players, Welsh fans and the Welsh nation that he should remain as Welsh manager and lead us through the qualification games for Euro 2020?
Diolch yn fawr, Llyr. O ran eich pwynt pwysig cyntaf am y ffigurau diweddaraf ar y defnydd o welyau ysbyty yn y gogledd, mae hwn yn fater y byddaf yn ei ddwyn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon. Dim ond o ran y ffigurau ar oedi wrth drosglwyddo gofal, sydd, wrth gwrs, yn gallu cael effaith o ran y defnydd a wneir o’r gwelyau hynny, rydym mewn sefyllfa dda yn gyffredinol o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, ac mae’r ffaith ein bod yn gweld gwelliannau, yn galonogol iawn. Rydym yn cydnabod ein bod hefyd yn wynebu symud tuag at bwysau'r gaeaf, sydd hefyd yn cynyddu, o ran pobl fregus a’r henoed, yn ogystal â salwch meddwl, a'r materion hynny sy'n codi.
O ran achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal sy’n ymwneud â chyfnod cyfrifiad Awst 2017, mae’n dangos cynnydd o 10 i gyrraedd cyfanswm o 422, ond mae'r cyfanswm yn 7 y cant yn is na’r adeg hon y llynedd, ac mae'n is nag unrhyw un o'r cyfansymiau a adroddwyd yn y ddwy flynedd flaenorol. Yn amlwg, mae hynny yn cynnwys pob rhan o Gymru, ac felly mae angen inni ystyried materion rhanbarthol hefyd. Ond rwyf yn credu bod angen inni gofio bod rhai o'r mentrau, er enghraifft y gronfa gofal canolraddol, a oedd yn rhywbeth a ddeilliodd o gytundebau a thrafodaethau ar y gyllideb i raddau helaeth, wedi cael effaith enfawr i alluogi trosglwyddiadau gofal priodol, a bydd £60 miliwn yn y gyllideb ar gyfer helpu hyn eto.
O ran eich ail bwynt, rwy'n credu yr hoffem ni i gyd ymuno â chi, nid y Prif Weinidog yn unig, ond pob un ohonom yma gyda’n gilydd– Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud 'clywch, clywch'—ynglŷn â Chris Coleman. Ei uniondeb, ei ymrwymiad—rwy'n credu y byddem ni i gyd yn awyddus i fynegi hyn heddiw, a'n diolch oddi wrth y Cynulliad cyfan, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, a dymuno'n dda iddo. Nid ydym eisiau ei golli, ond rydym yn dymuno'n dda iddo.
Mae tlodi, yn ei ffurfiau amrywiol, yn llechwraidd ac yn gymhleth a gall fod yn wanychol. Tybed a allwn ni gael datganiad ar y duedd sy’n datblygu erbyn hyn o ran tlodi misglwyf, sef un o'r ffurfiau o dlodi a welir yn ein cymunedau. Mae'r mater yn cael sylw mewn ysgolion erbyn hyn, sy'n dod yn fwy ymwybodol bod rhai o'r myfyrwyr ifanc sy’n mynychu’r ysgol yn methu â darparu nwyddau misglwyf ar gyfer eu hunain. Mae yna rai mentrau ardderchog sy’n ceisio mynd i'r afael â hyn, rhai a arweinir gan awdurdodau lleol yn ogystal â mentrau llawr gwlad hefyd. Mae Wings Cymru, grŵp o fenywod yn fy etholaeth i, dan arweiniad Gemma Hartnoll, wedi mynd ati i godi arian ac maen nhw bellach yn gweithio mewn tair ysgol yn fy etholaeth i, ac yn gobeithio ehangu hynny i fwy o ysgolion. Ar hyn o bryd mae Rhondda Cynon Taf yn ymgynghori ynghylch pa un a oes cynllun y gellir ei gyflwyno o fewn ei hardal ai peidio, ond mae hon bellach yn broblem gyffredin. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod banciau bwyd—nid yn unig banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, ond hefyd banciau bwyd eglwysi, elusennau a chymunedau lleol —bellach yn cynnwys nwyddau misglwyf yn rheolaidd yn rhan o'r pecynnau y maen nhw’n eu cynnig i deuluoedd. Felly, a gawn ni ddatganiad ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi ac annog ymdrechion gwirfoddol ar lawr gwlad ac ymdrechion awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thlodi misglwyf?
Diolch i Huw Irranca-Davies am dynnu ein sylw at y mentrau hollbwysig hyn, a mentrau lleol ydyn nhw yn aml iawn, sy’n dysgu oddi wrth ei gilydd. Fe wnaethoch chi sôn am Wings Cymru, sydd unwaith eto yn dylanwadu ar gymunedau ac awdurdodau cyfagos. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni, nid yn unig fel Llywodraeth Cymru, ond drwy weithio gyda'n partneriaid yn y trydydd sector, yn ogystal â llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd, eisiau ei ystyried, o ran mynd i'r afael â'r hyn sy'n anghyfiawn—hynny yw, yn 2017, rydym yn sôn am dlodi misglwyf. Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi tynnu sylw'r Cynulliad at y pwynt hwn heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, am yr adolygiad o drefniadau cyflog a'r cynllun gwerthuso swydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru? Yn amlwg, mae hwn yn sefydliad sydd wedi'i sefydlu ers dros dair blynedd erbyn hyn, ond deallaf fod yr adolygiad o'r graddfeydd cyflog a chynlluniau gwerthuso swyddi’r sefydliadau etifeddol—Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru—yn dal i fod heb ei gwblhau, ac o ganlyniad, ceir rhai unigolion nad ydynt yn cael eu gwobrwyo yn y ffordd y dylen nhw gael eu gwobrwyo am y gwaith y maen nhw’n ei wneud. Yn wir, yn ôl yr hyn a ddeallaf ar ôl siarad â chyd-Aelodau sydd ar feinciau Ceidwadwyr Cymru, mae yna rai sydd mewn gwirionedd wedi colli miloedd o bunnoedd oherwydd bod y gwaith yn parhau. A allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet am ba bryd y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, fel nad yw pobl ar eu colled yn ariannol, yn enwedig ar drothwy’r trydydd Nadolig ar ôl sefydlu'r sefydliad hwn?
Wel, rydych chi wedi tynnu sylw at fater sy'n fater gweithredol yn bennaf, ond mae'n bwysig eich bod chi wedi tynnu sylw ato heddiw, Darren Millar, o ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
A gawn ni ddatganiad o fewn amser y Llywodraeth ar ddilysrwydd yr ymyriad diweddar gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn y drafodaeth ynglŷn â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar yr iaith Gymraeg? Mae’r ombwdsmon wedi cyhoeddi ei ymateb ei hun i’r Papur Gwyn—yr unig un sy’n ymddangos ar eu gwefan nhw—sydd yn gwneud yr achos dros symud swyddogaethau cwynion o’r comisiynydd i’w swyddfa fe. Mae nifer ohonom yn anghytuno’n chwyrn â’r awgrym hwnnw a chefais i, a phobl eraill, ein hunain yn y sefyllfa ryfedd o ddadlau yr wythnos diwethaf ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r ombwdsman ynglŷn â mater o bolisi.
A fyddai’r rheolydd busnes yn cytuno nad lle’r ombwdsman, sydd i fod yn wrthrychol a thu fas i’r system ddemocrataidd, yw cymryd safbwynt ynglŷn â mater o bolisi? Ac a gaf i yn benodol gyfeirio’r rheolydd busnes at y memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiynydd y Gymraeg ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru? Mae’n dweud:
‘Mae Comisiynydd y Gymraeg ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cytuno i beidio ag adolygu gwaith ei gilydd gan eu bod yn ystyried eu hunain yn gyrff o statws cyfartal.’
Er hynny, mae’r ombwdsmon yn ei ymateb yn dweud bod nifer o’r cwynion sydd wedi mynd i Gomisiynydd y Gymraeg, yn ei eiriau ef, yn ddibwys. Oherwydd pa mor ddifrifol yw’r cwestiwn yma—oherwydd mae’n codi cwestiwn ymddiriedaeth yng ngwrthrychedd swyddfa’r ombwdsmon—a wnaiff y Llywodraeth ymchwilio i mewn i’r mater yma ar fyrder a dod â datganiad gerbron y Cynulliad?
Gallaf yn bendant sicrhau'r Aelod y byddaf yn gofyn am gyngor ar y sefyllfa hon, ac yna gallaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y materion a pha gamau gweithredu perthnasol y gellid eu cymryd.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth—neu ddatganiad gan y Llywodraeth ac, rwy’n credu, dadl y Llywodraeth, mewn gwirionedd? Yn gyntaf oll soniaf am y datganiad. Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod heddiw yn ddiwrnod pwysig ar gyfer ein cyd-Senedd yng Nghatalonia, oherwydd mae ganddynt benderfyniad pwysig iawn i’w wneud wrth ymateb i refferendwm a gafodd ei amharu gan heddlu Sbaen gydag ymddygiad ymosodol a threisgar, ac mae'n rhaid iddyn nhw nawr gynllunio ffordd ymlaen. Bu'n destun pryder mawr nad yw gwladwriaeth Sbaen wedi ceisio dechrau trafodaeth, nac unrhyw drafodaeth ystyrlon. Yr unig beth a wnaeth oedd bygwth a defnyddio cyfraith gyfansoddiadol i atal pobl Catalonia rhag mynegi eu hewyllys yn rhydd. Mae’n destun cryn bryder, rwy'n credu, bod sefyllfa'r Llywodraeth Lafur hon wedi bod mor ddiymadferth wrth ymateb i hynny, o gofio hanes y brigadau rhyngwladol o Aberdâr i Albacete, fel y mae'r llyfr yn ei ddweud wrthym. Yn y cyd-destun hwn, credaf mai dim ond aros am rai briwsion o fwrdd y Canghellor a wnaeth hi. Dyna sy'n gwneud hyn hyd yn oed yn fwy annymunol. Ymddengys ei fod yn cael ei wneud ar gyfer rhyw realpolitik tymor byr iawn yn hytrach nag ar gyfer golwg hirdymor ar sut yr ydym ni’n datblygu yn y cyffredindeb Ewropeaidd o ran ein hunaniaeth ranbarthol, ein hunaniaeth genedlaethol a mynegiant ewyllys rydd.
Ymyrraeth arwyddocaol yr wythnos hon fu'r ymyrraeth gan yr Elders, fel y’u gelwir—rhyw chwech uwch-lysgenhad rhyngwladol dan arweiniad Kofi Annan—sydd wedi galw am gymrodeddu a chyfryngu rhyngwladol yn yr amgylchiadau hyn. Mae nifer o wledydd Ewropeaidd wedi cefnogi hyn. Mae Cymru, sydd â chysylltiad cryf â phenrhyn Sbaen, yn parhau i fod yn wlad sydd â’i Llywodraeth a'i Senedd ei hun, ac mae'r Senedd wedi dweud rhywbeth am hyn ond nid yw'r Llywodraeth wedi dweud unrhyw beth. A gaf i annog arweinydd y tŷ, er ei bod hi braidd yn hwyr erbyn hyn, i wneud datganiad cyhoeddus o gefnogaeth i’r angen am gydweithrediad a chyfryngu rhyngwladol a’r angen i wladwriaeth Sbaen gael trafodaeth ystyrlon fel y gellir datrys y sefyllfa yng Nghatalonia yn unol ag ewyllys pobl Catalonia?
Yr ail fater yr hoffwn i ei godi—ac rwy’n credu mai dyma ble y bydd dadl yn addas—yw o ran y ddau Bapur Gwyn a gyhoeddwyd ddoe gan Lywodraeth y DU ar dollau ac ar fasnach. Maen nhw’n llawn rhethreg; nid oes unrhyw gynnig ynddynt mewn gwirionedd. Mae'n anodd iawn gwybod beth y byddan nhw’n ei olygu i ni, ond rwy’n credu y byddai dadl yn amser y Llywodraeth yn caniatáu inni archwilio sut y gallwn ni gyfrannu at yr hyn fydd y trefniadau tollau a masnach wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn fy marn i, nid oes llawer i ymgysylltu ag ef. Rwy'n hynod o bryderus bod y papur tollau yn sôn am y ffin tirol rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, sy’n iawn, ond nid yw'n sôn am y ffin forol sydd gennym rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Felly, os ydym ni’n mynd i weld trefniadau tollau yn dod i rym, mae angen inni ddeall beth y mae hynny'n ei olygu i'n porthladdoedd ni, o Gaergybi i lawr i Abergwaun yn arbennig, ac wrth gwrs, Doc Penfro. Nid oes unrhyw fanylion yno, ond mae yna—roeddwn i ar fin dweud awgrym 'diddorol'—nid yw’n ddiddorol iawn, ond mae yna awgrym na allwn ni gael unrhyw gytundeb, y gallem ni yn sydyn fod mewn sefyllfa lle y byddem yn gorfod trefnu trefniadau tollau. Ac eto rydym ni i gyd yn gwybod nad oes unrhyw beth wedi’i baratoi, nad oes unrhyw dir wedi'i neilltuo, nad oes unrhyw adeiladau ar gyfer gwneud hyn: ceir pethau ymarferol iawn nad ydynt yn cael sylw yn y papurau hyn, ac eto dywedir wrthym y gallai hyn fod yn bosibilrwydd real iawn. Felly, credaf y byddai dadl yn ein galluogi ni i archwilio rhai o'r materion hyn, ond rwy'n awyddus iawn, os yw hynny’n bosibl, heddiw, pe byddai Arweinydd y Tŷ yn gallu cadarnhau: pa fewnbwn a fu gan Lywodraeth Cymru i’r ddau bapur hyn? Yn arbennig, dywed y papur masnach y bydd mewnbwn gan weinyddiaethau datganoledig—rwy'n credu bod y defnydd o'r gair 'gweinyddiaethau' yn hytrach na 'Llywodraethau' yn dangos yn glir beth y maen nhw’n ei feddwl ohonom ni—ond serch hynny, mae'n dweud ‘mewnbwn’. Felly beth yw'r mewnbwn hwnnw? A ydym ni’n gallu deall beth yw'r broses barhaus ar gyfer y drafodaeth ynghylch y ddau bapur, ac rwy’n tybio eu bod nhw bellach yn ffurfio asgwrn cefn yr hyn y bydd Llywodraeth y DU yn ei wneud, er bod y cig ar yr esgyrn yn denau iawn, iawn?
Diolch yn fawr, Simon Thomas. O ran eich pwynt cyntaf: pwynt pwysig iawn o ran y ffaith ein bod wedi bod dros yr wythnosau diwethaf—mewn gwirionedd, rwy'n credu, ers dechrau sesiwn yr hydref hwn; mae hwn wedi bod yn fater a godwyd â mi, rwy’n credu, yn yr wythnos gynnar honno. Roedden nhw’n gwestiynau amserol yr ymatebwyd ar sail ein swyddogaeth, ein perthynas a'n pwerau o ran y sefyllfa sy'n datblygu yng Nghatalonia. Ac fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, o ymateb cryf iawn y Prif Weinidog ar y diwrnod hwnnw o drais ac ymyrraeth annerbyniol. Rwy'n credu bod eich pwynt ynglŷn â beth sy'n digwydd yn awr yn briodol iawn o ran y cydweithio, y cydweithrediad a'r cyfryngu sydd angen digwydd, ac mae'n bwysig eich bod chi wedi mynegi hynny i ni eto heddiw.
O ran eich ail bwynt: bydd, rwy'n siŵr y bydd yn amserol inni ystyried cael dadl yn awr oherwydd bod llawer iawn wedi digwydd. Rwy'n deall na fu gennym unrhyw fewnbwn i’r ddau Bapur Gwyn—fel Llywodraeth—a gyhoeddwyd. Rydym wedi bod yn adeiladol iawn ac wrth gwrs, rydym wedi gweithio'n agos iawn, ac yn wir gyda Phlaid Cymru hefyd, o ran dylanwadu ar y broses o sicrhau'r Brexit gorau posibl i Gymru, ac wedi gweithio'n agos â Llywodraeth yr Alban i sicrhau nad yw'r Bil ymadael yn tanseilio'r cyfansoddiad a'r setliad datganoli. Rwy'n credu y bydd cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop yn Llundain yfory ac y bydd y Prif Weinidog, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn bresennol yno. Felly, rwy'n credu ei bod yn amserol inni ystyried sut y gallwn wedyn gael dadl ac ystyried diweddariad ar y cynnydd a'n mewnbwn ni, ac, yn wir, craffu ar draws y Siambr.
Rwy'n credu bod fy nghyd-Aelod sydd yr ochr arall i’r Siambr yn y fan yna, Llyr, wedi achub y blaen arnaf o ran llongyfarch Chris Coleman a thîm Cymru, ond roeddwn i hefyd eisiau llongyfarch yr elusen wych, Gôl, sy'n cyflawni gwaith anhygoel. Mae'r cefnogwyr yn mynd i gartrefi plant amddifad ac maen nhw’n codi gwen ar wynebau cymaint o blant, ac maen nhw’n genhadon gwych dros Gymru. Felly, tybed a fydd modd i ni gael rhywbeth yn ysgrifenedig gan y Llywodraeth yn llongyfarch Gôl ar y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud ym mhob ymgyrch.
Yr ail ddatganiad yr wyf yn gofyn amdano yw datganiad ar y cod ymddygiad ar gyfer y Prif Weinidog. Ysgrifennais at y Prif Weinidog bythefnos yn ôl, yn gofyn iddo gyfeirio ei hun ar gyfer ymchwiliad o dan y cod ymddygiad, o dan god y gweinidogion, ac nid wyf wedi clywed dim: dim ond tawelwch llwyr. Y pwynt pwysig yw: a yw cod ymddygiad yn y Siambr hon yn berthnasol i bob un Aelod—ydy neu nac ydy? Os ydyw, rwyf wedi gwneud honiadau—. Dylai'r Prif Weinidog ddilyn esiampl Alex Salmond a chyfeirio ei hun ar gyfer ymchwiliad o dan god y gweinidogion. Felly, hoffwn ddatganiad ynglŷn â hynny, os gwelwch yn dda.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at waith da Gôl. Rwy'n credu bod mater y cod ymddygiad yn berthnasol iddo ef yn ogystal ag i eraill yn y Siambr hon.
Diolch i arweinydd y tŷ.