– Senedd Cymru am 6:21 pm ar 21 Tachwedd 2017.
The next group of amendments is group 10, these amendments relate to work-based learning. The lead amendment in this group is amendment 16, and I call on Darren Millar to move and speak to the lead amendment and the other amendments in the group.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliant 16 a hefyd rwyf eisiau siarad am welliannau 22, 23 a 24, sydd i gyd wedi'u cyflwyno yn fy enw i.
Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 16, ac mae'n ceisio darparu ar gyfer pŵer i wneud Gorchymyn i alluogi Gweinidogion Cymru i ymestyn cwmpas y system anghenion dysgu ychwanegol newydd i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a ariennir gan drethdalwyr Cymru yn y dyfodol. Mae'r Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd dim ond yn mynnu bod y cyrff hynny sydd â dyletswyddau ar wyneb y Bil, h.y. ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol, yn darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol mewn amgylcheddau dysgu seiliedig ar waith. Ond bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod llawer o ddarparwyr eraill, yn y sector preifat a'r trydydd sector, hefyd yn darparu hyfforddiant seiliedig ar waith.
Yn ystod Cyfnod 1 o graffu ar y Bil, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, sy'n cynrychioli mwy na 100 o ddarparwyr hyfforddiant ar draws y wlad, ac fe nododd y Ffederasiwn yn glir ei fod yn awyddus i weld cwmpas y Bil yn cael ei ymestyn i brentisiaethau ac amgylcheddau dysgu seiliedig ar waith eraill i sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arno i ddatblygu ei sgiliau a'i gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth. Roedd yn ystyried hyn yn elfen allweddol o gyflawni nod datganedig Llywodraeth Cymru, a rennir ar draws y Siambr hon, wrth gwrs, o greu parch cydradd rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu academaidd. Pwysleisiodd hefyd bod dysgwyr ag anghenion mwy cymhleth, gan gynnwys anawsterau dysgu, yn fwy tebygol o ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith na phobl ifanc eraill ac, o ganlyniad i hynny, bod llawer o ddarparwyr hyfforddiant eisoes yn brofiadol iawn mewn darparu cymorth yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer unigolion.
Ond, hyd yma, er gwaethaf y gefnogaeth ar gyfer ymestyn y system newydd i bob darparwr dysgu seiliedig ar waith, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau i wneud hynny. Awgrymodd deiliad blaenorol y portffolio fod ganddo rai pryderon ynghylch goblygiadau ymestyn y darpariaethau i'r sector preifat. Ond fy marn i, a barn y pwyllgor yng Nghyfnod 1, oedd y dylai fod yn ofynnol i unrhyw ddarparwr dysgu seiliedig ar waith sy'n derbyn arian cyhoeddus ddarparu cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol i sicrhau chwarae teg i bob dysgwr.
Nawr, rwy'n cydnabod y gallai fod rhywfaint o waith i'w wneud i sicrhau bod estyniad o'r fath i gwmpas y Bil yn gymesur, yn enwedig o gofio bod llawer o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yn sefydliadau bach iawn weithiau. Dyna pam y mae fy ngwelliant yn ceisio pŵer i wneud Gorchymyn y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol i ganiatáu ar gyfer ystyriaeth briodol o oblygiadau'r estyniad.
Mae gwelliannau 22, 23 a 24 i gyd yn welliannau canlyniadol i welliant 16 ac yn cyfeirio at y pwerau hynny i wneud Gorchmynion mewn mannau eraill ar wyneb y Bil. Felly, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r gwelliannau.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Llywydd, rwy'n cydnabod bod cyfran o bobl ifanc ag ADY yn mynd ymlaen i gael dysgu seiliedig ar waith ar ôl iddynt adael yr ysgol neu addysg bellach. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn parhau i dderbyn cefnogaeth briodol ar gyfer eu hanghenion. A byddwn yn sicrhau bod y cysylltiadau priodol yn cael eu gwneud rhwng y system ADY newydd a darparwyr dysgu seiliedig ar waith.
Mae ymchwilio i'r cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau priodol a gynigir gan drefniadau cytundebol, yn fy marn i, yn ysgogiad mwy pwerus o bosibl na'r gwelliant. Os na chymerir camau, bydd canlyniad ariannol ar gyfer darparwyr, ac mae hyn yn debygol o fod yn offeryn mwy effeithiol i sicrhau cydymffurfiaeth. Safbwynt y Llywodraeth drwy gydol hynt y Bil hwn yw y byddai'n anghymesur i osod dyletswyddau statudol ar ddarparwyr yn hyn o beth.
Fodd bynnag, mae'r pŵer sydd wedi'u cynnwys yn y gwelliannau hyn yn annhebygol o fod yn ddigon eang i fod yn effeithiol. Ni fydd, er enghraifft, yn darparu ar gyfer apeliadau nac ar gyfer gosod gofynion drwy'r cod. Ac ni allem gadw trefn ar y system o dan y gwelliant a gynigir, gan nad oes unrhyw bwerau i gyfarwyddo darparwyr dysgu seiliedig ar waith. Ar y llaw arall, gall cytundebau contractiol, o bosibl ddarparu dull effeithiol o fynnu cydymffurfiaeth.
Mae'n debygol hefyd y bydd materion eraill o ran dibynnu ar y pŵer. Er enghraifft, o ran effeithiolrwydd gweithredol, gallai fod problem o ran sut y byddai'r ddarpariaeth hon yn cyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad. Yn benodol, mae yna gwestiwn ynghylch a fyddai is-gontractwyr, er enghraifft, sy'n darparu dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu dal gan eiriad y gwelliant. Ar yr wyneb, nid yw'n ymddangos fod unrhyw beth y byddai'r pŵer hwn yn ei ganiatáu na fyddem yn gallu ei gyflawni drwy gontract gyda darparwyr. Mae'r gofynion cytundebol presennol ar gyfer dysgu seiliedig ar waith eisoes yn darparu ar gyfer cymorth dysgu ychwanegol ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith, ac mae cyllid i gontractwyr i dalu am y costau sy'n gysylltiedig â hynny. Rwy'n fodlon—yn fodlon iawn—ailadrodd ymrwymiad blaenorol y Llywodraeth i ystyried pa welliannau y gellir eu gwneud i'r trefniadau presennol yn rhan o'r symudiad tuag at Cymru'n Gweithio o 2019 ymlaen. Bydd cynlluniau datblygu unigol yn adnodd sylfaenol ar gyfer darparwyr wrth benderfynu sut i gefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ac ystyriaeth allweddol yma yw bod yn rhaid iddo fod gyda chydsyniad y person ifanc. Ond rwyf am sicrhau bod y cyfleoedd yn cael eu gwireddu'n llawn ar gyfer integreiddio gydag offer y bydd Cymru'n Gweithio yn eu defnyddio i nodi rhwystrau i gyflogaeth a chyflenwi darpariaeth ddilynol. Ac am yr holl resymau a amlinellwyd gennyf, byddwn yn annog yr Aelodau i wrthwynebu'r gwelliannau hyn.
Rydw i newydd sylwi fy mod i heb alw Llyr Gruffydd yn y grŵp yma, felly Llyr Gruffydd.
Efallai mai fi yw'r unig Aelod sy'n flin ynglŷn â hynny, efallai, nid ydw i'n gwybod. Diolch, Llywydd. Rydw i jest eisiau rhoi ar record fy mod i'n hapus i gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp yma ac wedi gwneud hynny yn ffurfiol. Ni wnaf i ailadrodd y pwyntiau sydd eisoes wedi cael eu cyffwrdd â nhw, dim ond i ddweud: yn flaenorol, mae'r Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw'n gyndyn i estyn agweddau ar y Bil yma i mewn i'r sector preifat pan mae'n dod i ddarparwyr hyfforddiant yn seiliedig ar waith, ond, wrth gwrs, maen nhw wedi gwneud hynny o safbwynt meithrinfeydd, sydd yn derbyn arian cyhoeddus, a'r un egwyddor sydd yn y fan hyn. Hynny yw, mae yna ddarparwyr hyfforddiant yn seiliedig ar waith sydd yn derbyn arian cyhoeddus hefyd, felly rydw i yn meddwl y byddai ychydig o gysondeb yn rhywbeth i'w groesawu. Ac mae Estyn, wrth gwrs, hefyd wedi dweud wrthym mi, yng nghwrs y dystiolaeth rydym ni wedi'i derbyn, os ydych chi'n edrych ar yr egwyddor y tu ôl i'r Bil yna, meddai Estyn, mae'n anodd gweld pam na ddylid cynnwys y grŵp penodol yma o ddysgwyr hefyd. Felly, mi fyddwn i yn gofyn i Aelodau ystyried yn ofalus yr angen i gefnogi'r gwelliannau yma—nid i gynnwys darparwyr dysgu seiliedig ar waith o fewn y Ddeddf o reidrwydd, ond o leiaf er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud hynny drwy Orchymyn ar ryw bwynt yn y dyfodol.
Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i Llyr Gruffydd am ei gefnogaeth a dweud pa mor siomedig yr wyf i gydag ymateb y Llywodraeth? Rwy'n gwerthfawrogi y gallwch chi ddefnyddio ysgogiadau cytundebol i sicrhau newidiadau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ond mae gennych y corff sy'n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith—llawer ohonynt yn ddarparwyr sector preifat, rhai yn ddarparwyr trydydd sector, eraill yn ddarparwyr sector cyhoeddus—yn dweud, 'Rydym ni eisiau'r dyletswyddau hyn wedi'u gosod arnom ni.' Maen nhw'n gofyn am y pethau hyn mewn gwirionedd oherwydd eu bod eisiau darparu'r gwasanaethau y mae ein plant a'n pobl ifanc eu hangen, ac yn ogystal â hynny, mae llawer ohonyn nhw eisoes yn arbenigo mewn darparu cymorth mewn ffyrdd a allai fod yn ddefnyddiol i'r sector preifat eu dysgu. Felly, dywedodd llawer ohonyn nhw: 'Rydym ni eisoes yn helpu pobl ag anghenion dysgu ychwanegol; rydym ni eisiau gweld y dyletswyddau hyn yn cael eu hymestyn i ni.' Fel y mae Llyr Gruffydd wedi dweud yn gwbl briodol, rydych chi wedi ymestyn y gofynion hyn i'r sector preifat eisoes ym maes darparwyr y blynyddoedd cynnar, ac ni allaf yn fy myw weld pam y dylai fod dull gwahanol ym maes darparwyr seiliedig ar waith. Yn y pen draw, y trethdalwr sy'n talu am y pethau hyn a dylai fod cysondeb o ran y ddarpariaeth honno.
Erbyn hyn, rydym ni i gyd yn gwybod, pan fo cytundebau contract yn cael eu rhoi ar waith, ei bod yn bwysig iawn i wneud yn siŵr bod contractau yn cael eu gorfodi, a bod contractau yn cael eu hysgrifennu yn y fath fodd fel na all pobl weld bai arnynt a dianc rhag y cyfle i gael eu dwyn i gyfrif am y ddarpariaeth o'i gymharu â'r contractau hynny. Nid oes gan y sector cyhoeddus hanes da o ran gallu gwneud hynny bob amser, ac rydym ni'n mynd i fod mewn sefyllfa bosibl lle gallai colegau a sefydliadau addysg bellach, os ydyn nhw'n darparu dysgu seiliedig ar waith, o bosibl is-gontractio'r gwaith hwnnw i ddarparwr sector preifat, i ddarparwr trydydd sector, nad oes ganddynt unrhyw gyfrifoldebau o dan y trefniadau newydd hyn a llwyr ddianc rhag y system reoli—llwyr ddianc rhag y system reoli—yr ydych chi'n ceisio ei chyflwyno. Nid wyf yn gofyn i chi weithio allan yr holl ffyrdd y mae angen i ni wneud yn siŵr bod y system honno yn gweithio ar hyn o bryd. Y cyfan yr wyf yn ei wneud yw rhoi cyfle i chi fel Gweinidogion Cymru fod â phwerau i wneud Gorchmynion er mwyn i chi allu ymestyn darpariaethau'r Bil yn y dyfodol. Nid wyf yn gwybod pam nad ydych chi'n achub ar y cyfle hwn gyda'r ddwy law, a dyna pam yr wyf i'n dal i fod yn awyddus i wthio'r gwelliannau hyn i bleidlais.
Os na dderbynnir gwelliant 16, bydd gwelliant 24 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 16.