1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2017.
3. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau y caiff yr amgylchedd ei ddiogelu’n well dros y 12 mis nesaf? OAQ51368
Cwestiwn amserol iawn, os caf i ddweud. Trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chreu Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gennym ni eisoes, wrth gwrs, rywfaint o'r ddeddfwriaeth amgylcheddol a threfniadau gorfodi integredig mwyaf datblygedig yn y byd.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae dim llai nag wyth o elusennau bywyd gwyllt a chefn gwlad yng Nghymru wedi beirniadu toriadau i gyllid amgylcheddol a nodwyd yn y gyllideb ddrafft. Dywedodd WWF Cymru ei bod yn ymddangos bod bwlch rhwng eich addewidion ar yr amgylchedd a realiti'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, tra bod eraill wedi cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau digonol i ddarparu deddfwriaeth fel Deddfau'r amgylchedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Pa neges y mae'r Prif Weinidog yn ei gredu y mae'r toriad hwn i gyllid yn ei anfon am ymrwymiad ei Lywodraeth i ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru?
Os edrychwch chi ar grant refeniw sengl yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy awdurdodau lleol, dyrannwyd cyfanswm o £61.79 miliwn i'r awdurdodau lleol ar gyfer 2017-18. Mae hynny'n rhywbeth sy'n hynod bwysig, yn ogystal, wrth gwrs, â'r gwariant a fydd yn dod gan y Llywodraeth.
Ond, unwaith eto, dywedaf wrtho ef a'i blaid, nad yw mewn unrhyw sefyllfa i bregethu i ni am arian pan, unwaith eto, mae gennym ni gyllideb sy'n amddifadu Cymru o arian, sy'n rhoi dim ond £200 miliwn i ni i'w wario dros bedair blynedd, lle'r ydym ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle'r ydym ni 7 y cant yn waeth ein byd mewn termau real [Torri ar draws.]—rwy'n gwybod ei fod yn brifo, ond mae'n rhaid i chi wrando—7 y cant yn waeth ein byd mewn termau real ers 2010, lle, pan gafodd Gogledd Iwerddon £1.67 biliwn, ni wnaethon nhw unrhyw ddadleuon o gwbl dros Gymru, a lle mae Cymru mor ddibwys yn eu hystyriaethau, fel bod arweinydd yr wrthblaid—ac rwy'n teimlo trueni tuag ato erbyn hyn—wedi ei wahardd rhag eistedd yng Nghabinet y DU, er bod ei gydweithiwr o'r Alban yno. Ac dyna nhw, yn eistedd yn y fan yna yn pregethu wrthym ni am sefyll dros Gymru a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael mwy o arian i Gymru. Byddwn ni'n gwneud hynny; ni fyddan nhw byth yn gwneud hynny.
Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer cynyddol o bobl yn poeni ein bod ni'n cadw'r cyfreithiau amgylcheddol sydd yn amddiffyn yr hyn yr ydych chi newydd ei ddisgrifio—y ffordd yr ŷm ni wedi gwella'r amgylchedd yma yng Nghymru ac ym Mhrydain. Nawr, ddydd Llun, gerbron y pwyllgor materion allanol, fe ddywedoch chi eich bod chi wedi paratoi Bil parhad rhag ofn nad yw'r trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan yn llwyddo i ddarparu'r amddiffyn yma rydym ni'n chwilio amdano fe. Onid ydych chi'n teimlo y byddai fe'n briodol ichi gyhoeddi'r Bil parhad yna ar ffurf drafft nawr fel arwydd cyhoeddus o'ch ymrwymiad a'ch bwriad chi i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yma'n parhau wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd?
Mae yna Fil. Bydd yna benderfyniad ynglŷn â phryd y dylai'r Bil yna gael ei gyhoeddi. Ar hyn o bryd, beth hoffwn ei weld yw'r gwelliannau yn cael eu derbyn gan Dŷ'r Cyffredin. Os yw hynny'n wir, ni fydd eisiau cael Bil parhad, ond mae'n wir i ddweud bod un wedi cael ei ddrafftio.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos, drwy ei dull rhagweithiol o reoleiddio, gorfodi a mentrau ehangach, y gellir gwneud cynnydd mawr i ddiogelu amgylchedd Cymru. Gwelir hyn yn amlwg yn uchelgais rhagweithiol Llywodraeth Lafur Cymru i Gymru ailgylchu 70 y cant o'r holl wastraff erbyn 2025 a bod yn ddi-wastraff erbyn 2050, gyda dros 60 y cant o'n gwastraff dinesig yng Nghymru yn cael ei ailgylchu ar hyn o bryd. Pa gamau pellach, felly, all Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r cyflawniad gwych a strategol hwn?
Talaf deyrnged i'm cyd-Aelod Lesley Griffiths a'r rheini a oedd yn gwneud y swydd o'i blaen am y gwaith ardderchog a wnaed o ran ailgylchu. Yn ôl yn 2000, roeddem ni'n ailgylchu tua 4 y cant o sgil-gynhyrchion gwastraff yng Nghymru. Ceir targedau ymestynnol ar gyfer y dyfodol, ond mae angen hefyd i ni weithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod llai o ddeunydd pacio. Mae'n anodd gwneud hynny ar lefel Cymru, gan fod y rhan fwyaf o'r hyn a ddaw i Gymru yn cael ei becynnu a'i brynu mewn mannau eraill, ond byddai gweithredu Ewropeaidd cydgysylltiedig, gweithredu byd-eang, yn wir, i leihau deunydd pacio yn y lle cyntaf yn lleihau sgil-gynhyrchion gwastraff ac yn ei gwneud yn haws fyth i ni gynyddu ein lefel o ailgylchu.