Trais yn erbyn Menywod a Merched

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched? OAQ51342

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i longyfarch yr aelod ar yr hyn y credaf yw'r cwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog y mae hi wedi ei ofyn? Rwy'n gobeithio y gallaf i roi ateb sy'n foddhaol iddi hi.

Rydym ni'n gweithredu'r strategaeth genedlaethol sy'n cyflwyno ein camau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ac mae'n rhaid i leisiau goroeswyr fod yn flaenllaw yn y gwaith hwn. Gan gydnabod hynny, rydym ni'n datblygu fframwaith ymgysylltu â goroeswr cenedlaethol.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:09, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna i fy nghwestiwn cyntaf iddo. Rwy'n credu ei bod yn syfrdanol darganfod yr wythnos hon bod dwy fenyw yr wythnos ar gyfartaledd yn cael eu lladd gan bartner neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Ddoe, siaradais yn nigwyddiad amlffydd Light a Candle blynyddol BAWSO yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, yn dilyn gorymdaith o swyddfeydd cymdeithas dai Llamau. Codwyd ymwybyddiaeth a chefnogaeth gennym i'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod. Croesewais, yn fy ngeiriau yn yr Eglwys Gadeiriol, y dull y mae Julie James yn ei ddilyn o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod fel busnes i bawb. Dyna oedd y neges ddoe. A gaf i dalu teyrnged i BAWSO, a drefnodd y digwyddiad ddoe? Maen nhw'n gwneud gwaith arloesol, gan gefnogi menywod sy'n wynebu cam-drin domestig, priodasau dan orfod, masnachu mewn pobl ac anffurfio organau cenhedlu benywod, a drafodwyd gennym yn ddiweddar. A all y Prif Weinidog fy sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwaith BAWSO ledled Cymru gyfan?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gallaf, rwy'n ddiolchgar i sefydliadau fel BAWSO, sydd yn cynnig cymorth i rai o aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni wedi darparu £446,000 o gyllid i BAWSO o'r grant refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a chyfarfu swyddogion â defnyddwyr gwasanaeth BAWSO yn ddiweddar yn rhan o'r fframwaith ymgysylltu â goroeswyr. Rwy'n deall y bydd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymweld â swyddfa BAWSO yn Wrecsam yr wythnos nesaf.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'n rhaid i ddioddefwyr cam-drin domestig guddio neu aros mewn llochesi am gyfnodau hir iawn o amser yn aml iawn. Os edrychwch chi ar draws Ewrop yn gyffredinol, nid yn unig y mae gan wledydd fel yr Eidal a'r Almaen gyfreithiau llawer mwy uniongyrchol a phendant ar gymryd y camdriniwr allan o'r cartref priodasol, yn hytrach na'r sawl sy'n cael ei gam-drin, ond maen nhw hefyd o'r farn os amharwyd ar deulu a bod rhaid i riant, menyw â phlant yn aml iawn, guddio, yn hytrach na dim ond eu gadael mewn llochesi, maen nhw'n mynd â nhw, yn eu rhoi mewn cartref ac yna'n eu helpu i adeiladu bywyd newydd, ysgolion newydd, sefydlogrwydd newydd, plannu gwreiddiau newydd mewn lle diogel. A wnewch chi addo ar ran eich Llywodraeth i edrych ar yr hyn y mae lleoedd fel yr Eidal a'r Almaen yn ei wneud, i weld a allwn ni ddod â'r math hwnnw o safbwynt arloesol, teulu cyfan o ran sut y gallem ni helpu rhywun sy'n dioddef ac y bu'n rhaid iddo adael ei gartref oherwydd cam-drin domestig?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:11, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni edrych ar enghreifftiau da ledled Ewrop. Un o'r materion a wynebwyd gennym ar un adeg oedd y wal y daethom yn ei herbyn gyda'r ffin ddatganoli a methu â gallu gwneud fel y byddem yn ei ddymuno er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn fod mor effeithiol â phosibl. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, gyda'r model cadw pwerau, bod mwy o gyfleoedd nawr i ni ddatblygu'r math o fframwaith cyfreithiol y byddem ni'n dymuno ei gael, ond, yn sicr, wrth i ni ddatblygu'r fframwaith cyflawni traws-Lywodraeth a fydd yn ategu ein strategaeth genedlaethol, bydd edrych ar wledydd eraill a'r hyn y maen nhw'n ei wneud, er mwyn gweld beth yw'r arfer gorau, yn rhan bwysig o gyfrannu at yr hyn y byddwn ni'n ceisio ei wneud yng Nghymru wedyn.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:12, 28 Tachwedd 2017

Mae Cymorth i Ferched Bangor a'r cylch, yn fy etholaeth i, yn hynod bryderus yn sgil y sôn am integreiddio grant gwasanaethau trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol i mewn i un grant cyfansawdd. Maen nhw'n bryderus y gallai'r un peth a ddigwyddodd yn Lloegr ddigwydd yma. Fe gollwyd 17 y cant o lochesi arbenigol, a bu'n rhaid gwrthod traean o'r holl gyfeiriadau at lochesi oherwydd prinder lle. Fe ddigwyddodd hyn ar ôl i'r Llywodraeth yn Lloegr roi'r gorau i glustnodi Cefnogi Pobl—'ring-fence-io', hynny yw—fel arian ar wahân. A fedrwch chi warantu y bydd lefel ddigonol o gyllid ar gael ar gyfer darparu llochesi ar draws Cymru os daw'r newid cyllidebol i rym yn 2018-19?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 28 Tachwedd 2017

Dyna yn gymwys beth rŷm ni'n moyn ei weld, ac ni fyddem ni'n moyn gweld y gwasanaeth sydd yna ar hyn o bryd yn cael ei leihau mewn unrhyw ffordd.