Grŵp 4. Gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar landlordiaid (Gwelliannau 15, 16)

– Senedd Cymru am 5:40 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:40, 28 Tachwedd 2017

Grŵp 4, felly, yw’r grŵp nesaf, ynglŷn â gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid: gofynion ar landlordiaid. Gwelliant 15 yw’r prif welliant nawr, ac rydw i’n galw ar Siân Gwenllian i gynnig y prif welliant ac i siarad i’r gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 15 (Bethan Jenkins).

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:40, 28 Tachwedd 2017

Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliannau yma, wedi’u cyflwyno yn enw Bethan Jenkins, yn adlewyrchu’r angen am i wybodaeth am y Bil gael ei darparu mewn dull hygyrch sy’n adlewyrchu argymhelliad 4 adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb a fu’n edrych ar hyn. Rydym ni wedi gweithio efo’r Llywodraeth ar y gwelliannau yma, ac mae angen y gwelliannau i sicrhau bod cyfathrebu efo’r tenantiaid yn digwydd mewn dull hygyrch.

Gair byr cyffredinol, gan mai dyma’r tro olaf imi godi ar fy nhraed ar y pwnc y prynhawn yma: rydym ni wedi colli 46 y cant o dai o’r sector tai cymdeithasol yn sgil hawl i brynu. Mae bron i hanner y tai ddim bellach ar gael i’w rhentu gan bobl sydd methu fforddio unrhyw ffordd arall o gael to uwch eu pennau. Rhestrau aros hir, mwy o ddigartrefedd, gofid a phoen meddwl—dyna mae’r hawl i brynu wedi’i olygu yng Nghymru. O’r diwedd, mae’n cael ei ddiddymu—gobeithio—y prynhawn yma. Diwrnod hanesyddol yn wir.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:41, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu, o ran yr wybodaeth y dylid ei rhoi, bod y rhain yn welliannau call a byddwn yn eu cefnogi. Nid oes angen imi wneud unrhyw sylwadau mwy cyffredinol ar hyn o bryd, gan fod dau grŵp ar ôl y byddwn yn ymgysylltu'n llawn â nhw, ond byddwn yn cefnogi'r gwelliannau hyn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:42, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymwneud â gofynion landlordiaid yn gysylltiedig â darparu gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid. Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod landlordiaid, wrth roi'r wybodaeth i'w tenantiaid, yn rhoi sylw i'w hanghenion a darparu gwybodaeth mewn modd priodol.

Rwy'n rhannu dymuniad Bethan Jenkins i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybodaeth glir a phriodol, a hoffwn ddiolch i Bethan am gyflwyno'r gwelliannau hyn. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi bod yn weithgar iawn gyda'r Bil hwn drwy gydol ei hynt a bydd hi'n siomedig nad yw'n gallu bod yma heddiw.

Er bod nifer o ddyletswyddau cydraddoldeb a llesiant sy'n berthnasol yn y maes hwn, bydd y graddau y maen nhw'n berthnasol yn dibynnu ar natur y landlord, ac o bosibl y tenantiaid. Rwy'n awyddus i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr holl denantiaid y mae'r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnyn nhw yn cael gwybodaeth briodol sy'n diwallu eu hanghenion. Rwyf i felly yn falch o weld y sicrwydd ychwanegol hwn ar wyneb y Bil ac yn gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 15 ac 16.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Siân Gwenllian i ymateb i’r ddadl. Na. Gan hynny, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 15.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 16 (Bethan Jenkins).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 16? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 16.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.