Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A gaf fi eich llongyfarch ar eich swydd newydd hefyd? A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod y broses graffu wedi'i chwblhau, a bod y system Nowcaster fondigrybwyll yng nghyngor Abertawe, ac rwy'n derbyn nad ydych, o bosibl, yn gyfarwydd â hi'n bersonol, bellach ar waith wedi sawl blwyddyn o oedi, ac yn cynghori gyrwyr mewn amser real pa un a yw ansawdd yr aer yn y rhan honno o Abertawe yn ddigon diogel i yrru drwyddo. Nid yw'n dweud wrthynt pan fo ansawdd yr aer yn ddigon da, ond mae'n dweud wrthynt pan fo'n wael. Mae eich adran wedi gwrthod cais pellach am gyllid ar gyfer y prosiect penodol hwn. Rwy'n derbyn efallai nad ydych yn gwybod llawer amdano eich hun, ond a ydych yn credu y byddai eich adran yn fwy tebygol o gefnogi cais i ymestyn y system Nowcaster pe gallai'r data a gasglwyd gan y peiriannau hysbysu'r broses o reoli traffig yn y ddinas yn well—er enghraifft, drwy ddarparu tystiolaeth ar gyfer metro rhanbarthol bae Abertawe, efallai—neu pe bai'n gallu helpu gyda'r fframwaith aer glân drwy gynorthwyo i greu targedau y gellir eu gorfodi mewn perthynas â lleihau lefel y gronynnau? Diolch.