Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 29 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:57, 29 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Suzy. Diolch am eich cwestiwn a diolch am eich llongyfarchiadau caredig. Rwyf wedi cael briff—rwy'n gyfarwydd â system Nowcaster. Rydych wedi codi pwyntiau dilys iawn, ac os ydych yn awyddus i fynd ar drywydd hynny drwy anfon llythyr ataf—. Ac rwy'n credu, yn y dyfodol, fel y dywedais, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod hyn yn uchel ar yr agenda, a gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chydag awdurdodau lleol ac yn gyffredinol mewn perthynas â sut rydym yn mynd i'r afael â'r mater pwysig hwn, nid yn unig yn ne-orllewin Cymru, ond ledled Cymru.