– Senedd Cymru am 7:43 pm ar 29 Tachwedd 2017.
A'r eitem nesaf yw'r ddadl fer. Gwnawn ni aros ychydig eiliadau wrth i Aelodau adael y Siambr yn dawel.
Y ddadl fer, felly, ar broblem anweledig Cymru—effaith gymdeithasol hapchwarae. Rwy'n galw ar Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu munud yr un i Mick Antoniw a Jane Hutt yn y ddadl.
Mae hanes hir i hapchwarae. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi gamblo mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar ryw adeg yn ein bywydau. Y llynedd, gamblodd dros hanner poblogaeth y DU sy'n 16 oed neu'n hŷn—o gêm o bingo a bet fach yn y siopau betio i'r Loteri Genedlaethol a betio ar-lein, erbyn hyn mae'n haws nag erioed i gamblo. I'r rhan fwyaf o bobl, mae gamblo'n debygol o fod yn weithgarwch anfynych, cymdeithasol sy'n hwyl—ffurf ar adloniant wedi'i chwarae o fewn ffiniau a chyfyngiadau rhesymol. Mae'r llinell yn mynd yn deneuach ac yn deneuach, fodd bynnag, ac mae rhai grwpiau mewn perygl o ddatblygu ymddygiad gamblo peryglus, gan arwain o bosibl at ddibyniaeth fwy niweidiol ar gamblo. Gyda llai na mis i fynd cyn y Nadolig, efallai nad yw gamblo cymhellol yn rhywbeth rydym yn ei gysylltu â'r Nadolig, ond er ei fod yn amser hapus, gall beri straen a phryder i lawer. Gall y Nadolig roi straen ariannol ar unigolion a theuluoedd, yn enwedig yn ein diwylliant nwyddau traul 'prynu nawr, talu wedyn' sy'n canolbwyntio ar gredyd.
Mae'n destun pryder fod Cymdeithas y Plant wedi amcangyfrif bod disgwyl i 43 y cant o deuluoedd yng Nghymru fenthyca mwy o arian i dalu am y Nadolig—y gyfran uchaf o holl ranbarthau'r DU. Gall hapchwarae gyflwyno llwybr dianc deniadol i'r rhai sy'n daer i dalu dyled yr aed iddi yn ystod cyfnod y Nadolig. I lawer, ni fydd effaith ariannol boenus y Nadolig i'w theimlo tan y flwyddyn newydd. Mae mis Chwefror bob amser yn dangos cynnydd sydyn mewn cyfraddau gamblo, wrth i'r biliau credyd gyrraedd ar gyfer sawl mis yn gynharach. Mae unigolion sy'n wynebu pwysau ariannol eithafol yn fwy tebygol o feddwl nad oes ganddynt unrhyw beth i'w golli wrth osod bet.
Mae arbenigwyr ar broblem hapchwarae, Cyngor ar Bopeth Casnewydd, yn fy etholaeth i, yn darparu un o'r ychydig wasanaethau wyneb yn wyneb ar gyfer pobl sy'n cael trafferth gyda dibyniaeth ar hapchwarae yn benodol. Mae eu gwybodaeth a'u harbenigedd ar broblem hapchwarae yng Nghymru yn amhrisiadwy a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i'w canmol wrth Ysgrifennydd y Cabinet.
Gellir diffinio gamblo cymhellol fel sefyllfa lle mae hapchwarae'n tarfu ar neu'n niweidio diddordebau personol, teuluol neu hamdden. Bellach derbynnir yn gyffredinol fod ganddo'r potensial i fod yn anhwylder sy'n debyg i ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Bydd unrhyw un sy'n cael eu caethiwo yn nhrobwll gamblo cymhellol yn canfod ond yn rhy fuan y gall yr effaith negyddol ar eu bywydau fod yn ddinistriol. Y broblem fwyaf uniongyrchol ac amlwg fel arfer yw dod o hyd i arian i gamblo, a daw hynny â digon o broblemau yn ei sgil. Ond mae ysfa ddifäol i gamblo ar unrhyw gost yn arwain at anawsterau sy'n effeithio ar gyflogaeth, ansawdd bywyd, cydberthnasau teuluol ac iechyd corfforol a meddyliol.
Nododd y Comisiwn Hapchwarae fod mwy na 2 filiwn o bobl yn y DU naill ai'n gamblwyr cymhellol neu mewn perygl o ddibyniaeth a rhybuddiodd nad oedd Llywodraeth y DU a'r diwydiant yn gwneud digon i fynd i'r afael â'r broblem hon. Mae Carolyn Harris AS, sydd wedi bod yn ymgyrchydd dygn ar gamblo cymhellol, wedi codi'r mater yn gyson yn San Steffan, gan ddweud nad yw'r broblem yn mynd i ddiflannu; yn wir, mae'n mynd yn waeth. Mae hi ac eraill wedi bod yn llym iawn eu beirniadaeth o'r diwydiant, yn arbennig y nifer fawr o beiriannau hapchwarae ods sefydlog, sydd wedi dod i gael eu hadnabod fel cocên crac hapchwarae.
Mae adnabod gamblo cymhellol yn hollbwysig os yw unigolyn i gael cymorth. I rai pobl, mae cydnabod problem yn syml. I lawer o unigolion, fodd bynnag, ni chafwyd diagnosis o gamblo cymhellol, ac mae'n aml yn cydfodoli â dyled, problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. I'r rhai sy'n troi at hapchwarae mewn cyfnodau anodd yn bersonol ac yn ariannol, gall y demtasiwn i beryglu'r cyfan yn y gobaith o ennill fod yn ormod. Gwaethygir y broblem, gan fod dyledion hapchwarae sylweddol yn aml yn cronni'n gyfrinachol heb yn wybod i'r teulu. Mae effaith datgelu'r ddyled gudd hon yn wirioneddol ddinistriol ar unigolion a theuluoedd. Gall effeithio'n negyddol ar iechyd a lles partneriaid, plant a chyfeillion. Gall y niwed ymestyn hefyd i gynnwys cyflogwyr, cymunedau a'r economi. Bydd niferoedd y rhai sy'n dioddef niwed o ganlyniad i hapchwarae gan eraill yn sylweddol fwy na nifer y bobl sy'n niweidio'u hunain.
Yn 2014, nododd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, sy'n cynnwys fy etholaeth fy hun, fod dibyniaeth ar hapchwarae yn fater sy'n peri pryder sylweddol. Mae ei adroddiad, 'New and Emerging Threats to the Health of the Gwent Population', yn awgrymu y gall gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, ochr yn ochr â gofal iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, chwarae rôl bwysig mewn diagnosis ac atgyfeirio am gymorth.
Er mai pwerau cyfyngedig sydd gan Gymru mewn perthynas â rheoliadau hapchwarae, mae dibyniaeth ar hapchwarae'n cael ei chydnabod yn gynyddol fel pryder iechyd cyhoeddus. Am y rheswm hwnnw, tyfodd fy niddordeb i a sawl cyd-Aelod Cynulliad mewn darganfod mwy am gamblo cymhellol yng Nghymru. Penderfynasom gomisiynu Prifysgol De Cymru i gynnal ymchwiliad i effeithiau cymdeithasol gamblo cymhellol, gan mai ychydig iawn o ddata a geir sy'n benodol i Gymru. Drwy ganolbwyntio ar Gasnewydd, Pontypridd, Wrecsam, Bro Morgannwg a De Clwyd, mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg inni ar effaith gamblo cymhellol ar draws y wlad. Fel Aelodau Cynulliad, roeddem yn pryderu ynghylch y dystiolaeth anecdotaidd gan etholwyr mewn perthynas â gamblo cymhellol. Roeddem yn teimlo ei bod yn broblem gynyddol a arweiniai at frwydrau personol, dibyniaeth ar alcohol, iechyd gwael, teuluoedd yn chwalu, dyledion, tlodi a digartrefedd.
Yn gynharach y mis hwn, lansiodd Mick Antoniw a minnau adroddiad o'r enw 'An investigation of the social impact of problem gambling in Wales' yma yn y Senedd gyda Phrifysgol De Cymru. Daeth yr academyddion a oedd yn rhan o'r gwaith o amrywiaeth o ddisgyblaethau, ac roedd hynny'n rhoi dyfnder ychwanegol i'r adroddiad, a hoffwn gofnodi fy niolch i Brifysgol De Cymru a phawb a weithiodd ar yr adroddiad. Rwy'n eich annog chi i gyd i'w ddarllen, ond fe wnaf rai pwyntiau allweddol ar yr adroddiad.
Roedd canfyddiadau'r adroddiad yn amlygu'r ffaith fod maint y ddibyniaeth bosibl ar hapchwarae yng Nghymru yn uwch o lawer nag y dangosodd astudiaethau blaenorol. Nododd yr adroddiad fod dros chwarter y boblogaeth yng Nghymru mewn perygl posibl o ymddygiad gamblo diffygiol. Roedd hyn yn gynnydd sylweddol ers adroddiad y Comisiwn Hapchwarae yn 2015 a oedd yn awgrymu bod 5 y cant o'r boblogaeth yn wynebu risg uchel. Canfuwyd bod hapchwarae ar-lein hefyd yn llawer uwch o gymharu â'r un astudiaeth yn 2015, ar 11 y cant o'i gymharu â 5 y cant, a datgelwyd yr un duedd ar gyfer peiriannau hapchwarae ods sefydlog.
Datgelodd yr adroddiad hefyd fod hapchwarae'n dod yn broblem gynyddol gudd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gamblo ar eu pen eu hunain, a cheir llu o gyfleoedd i ymroi i gamblo'n hawdd. Mae gwefannau ac apiau ffonau symudol yn golygu y gall pobl gamblo yn unrhyw le ar unrhyw adeg bellach. Mae clystyrau o siopau hapchwarae trwyddedig mewn ardaloedd daearyddol difreintiedig yn golygu ei bod hi'n hawdd ymweld â pheiriant hapchwarae ods sefydlog mewn siop fetio leol.
Mae stigma'n perthyn i ddibyniaeth, ac nid yw gamblo cymhellol yn wahanol yn hyn o beth. Mae unigolion yn gyndyn iawn i gyfaddef bod ganddynt broblem, hyd yn oed os ydynt yn ei chydnabod eu hunain. Yn bwysig, mae'r straeon personol a rennir yn yr adroddiad yn rhoi cipolwg ar yr effaith gymdeithasol a'r profiadau sy'n sail i'r ystadegau. Dywedodd un fod gamblo ar beirannau hapchwarae ods sefydlog wedi peri i mi geisio cyflawni hunanladdiad ychydig flynyddoedd yn ôl. Ni allaf reoli fy gamblo pan af ar-lein neu wrth chwarae peiriannau ods sefydlog.
Tynnodd rhai sylw at effaith hapchwarae ar fywyd teuluol, gan ddweud, 'Mae'n lladd teuluoedd', ac mae'n broblem sy'n gudd, ac fel arfer nid oes help ar ei chyfer. A'r dyddiau hyn, mae'n rhy hawdd... ar ffonau, ar-lein, mewn siopau, dylid eu gorchuddio mewn du fel y sigaréts.
Dywedodd un arall:
Mae gennyf riant a fu'n gamblo'n ormodol ers 25 mlynedd. Bu'n rhaid i mi eu helpu'n ariannol i'w hatal rhag colli eu cartref.
Mae'r datganiadau hyn yn sampl o realiti erchyll cost ddynol gudd dibyniaeth ar hapchwarae, ac mae'n ddyletswydd arnom fel Aelodau Cynulliad i gefnogi ein hetholwyr.
Mae dwysedd enbyd siopau hapchwarae trwyddedig mewn ardaloedd difreintiedig yn drawiadol. Mae angen mwy o ymchwil i effaith y clystyrau hyn ar gymunedau lleol a chymunedau ehangach. Y bobl sy'n byw mewn ardaloedd llai cefnog sy'n fwyaf tebygol o gael eu dylanwadu gan hysbysebion apelgar a welir yn rheolaidd ar y teledu, mewn papurau newydd ac ar-lein. Dylid cynnal astudiaeth systematig o hapchwarae ar-lein gan ganolbwyntio ar effeithiau technegau hysbysebu soffistigedig megis hysbysebion naid wedi'u teilwra. Mae angen gwneud rhagor o ymchwil ar hysbysebion wedi'u targedu'n benodol er mwyn denu menywod a phobl ifanc.
Mae angen gofyn cwestiynau ynglŷn ag atal niwed a datblygu triniaeth. Rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r posibilrwydd o sgrinio'n systematig am broblemau hapchwarae mewn gwasanaethau procsi, megis gwasanaethau ar gyfer dyledion a dibyniaeth. Un rheswm y mae maint y broblem hapchwarae yn parhau i fod yn gudd yw nad oes cronfa ddata o unigolion â dibyniaeth ar hapchwarae yn bodoli ar hyn o bryd. Ond nid yw mesur y broblem yn ddigon. Rhaid datblygu technegau triniaeth ymyrraeth gynnar i leihau effaith ddiamheuol gamblo cymhellol ochr yn ochr ag unrhyw sgrinio, a buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o leihau effaith gamblo cymhellol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
Er ei fod yn drylwyr ac yn helaeth, nid yw adroddiad Prifysgol De Cymru ond yn crafu wyneb gamblo cymhellol yng Nghymru. Ein nod oedd i'r adroddiad roi syniad i ni o'r problemau posibl mewn gwahanol ardaloedd, a buasai pawb a gymerodd ran yn y prosiect gyda'r cyntaf i ddweud bod yr adroddiad yn gofyn mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb. Cipolwg ydyw ar draws Cymru, ac mae angen gwneud gwaith ymchwil pellach. Fodd bynnag, mae'n dweud yn bendant fod yna broblem yng Nghymru, problem sy'n tyfu, ac mae ei heffaith yn ddinistriol. Fy ngobaith yw bod yr adroddiad yn tynnu sylw pawb ohonom at y broblem anweledig hon. Eisoes, mae ein gwasanaeth iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol yn codi'r darnau a adawyd ar ôl o fywydau a ddinistriwyd gan effaith hapchwarae. Rhaid i ddull iechyd cyhoeddus o fynd o'r afael â hapchwarae ymdrin â'i effeithiau ar bobl ifanc a phobl agored i niwed, ar deuluoedd a chysylltiadau agos gamblwyr, ac ar y gymuned ehangach, yn ogystal ag ar y rhai sy'n dioddef niwed o'u gamblo eu hunain. Nawr yw'r amser i weithredu.
Diolch i chi am y ddadl fer bwysig hon. Mae'n bwynt clyfar iawn, ac er fy mod yn falch eich bod wedi crybwyll yr adroddiad, sef y dystiolaeth wirioneddol newydd gyntaf sydd gennym sy'n canolbwyntio'n benodol ar gymunedau yng Nghymru, yr ail beth yw tynnu sylw at y ffaith bod pawb ohonom bellach yn cael ein lobïo gan ddiwydiant sy'n dechrau pryderu—diwydiant gwerth £37 biliwn—ac mae angen inni fod yn effro iawn. Mae hyn yn debyg iawn i'r hyn a ddigwyddodd gyda'r diwydiant tybaco, a byddwn yn cael mathau tebyg o sylwadau ynglŷn â sut y mae'n ymwneud mewn gwirionedd â lobïo teg, yn union fel y mae'n ymwneud â rheoli drylliau'n deg ac yn y blaen yn America. Felly, mae hynny'n bwysig.
Ein pryder ni, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i ni ymdrin â'r mater hwn, oherwydd mae'n rhy hwyr inni ymdrin ag ef pan ddaw'n epidemig. A gaf fi wneud un pwynt yn gyflym iawn i Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod mater gamblo'n ffurfiol, yn penderfynu'n ffurfiol ei bod am ddatblygu strategaeth a phenderfynu'n ffurfiol ei bod yn dechrau gwneud gwaith ymchwil, a'i bod hefyd yn galw am gyllid priodol gan y Comisiwn Hapchwarae, gan y diwydiant, i ariannu peth o hyn mewn gwirionedd.
A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am ganiatáu i mi siarad yn ei dadl fer hefyd? Roeddwn yn un o'r ACau a noddodd yr astudiaeth ar y cyd. Roedd yn ddiddorol darllen y data ar fy etholaeth, Bro Morgannwg. Yn yr adroddiad, nid oedd canol tref y Barri yn cael ei ystyried yn ardal ddwysedd uchel o ran nifer y siopau betio, ond nodwyd nifer uchel yr arcedau difyrion ar Ynys y Barri. Wrth gwrs, mae'n bosibl fod hynny'n cael ei adlewyrchu mewn trefi glan môr eraill ledled Cymru.
Fel y pwysleisiwyd eisoes, crafu'r wyneb yn unig y mae'r adroddiad yn ei wneud. Yn anochel, mae'n gofyn mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb, ond roeddwn am sôn am un maes a nodwyd yn yr ymchwil sy'n haeddu ei ymchwilio ymhellach: sef ymchwiliad i'r newid yn y ddemograffeg a dargedir gan y diwydiant hapchwarae, ac mae hynny'n cynnwys pobl hŷn. Dywed yr adroddiad fod pobl iau yn tueddu i gael eu heffeithio'n fwy gan hapchwarae, yn enwedig hapchwarae ar-lein drwy ffonau a chyfrifiaduron llechen, ond gwyddom fod nifer gynyddol o bobl hŷn yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn ymwneud â thechnoleg newydd. Pa mor agored i niwed hysbysebu gamblo didrugaredd fydd y grŵp hwn o bobl yn y dyfodol? At hynny, o waith achos, mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu, pan fydd pobl hŷn yn wynebu unigrwydd ac arwahanrwydd, gallant fod yn fwy agored i sgamwyr a hyrwyddiadau gamblo. Rydym wedi clywed y prynhawn yma fod hapchwarae'n broblem gudd, ac efallai y bydd pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain ac sy'n teimlo'n ynysig yn arbennig o agored i niwed ac eisiau ymgysylltu'n daer. Efallai y buasai ymchwil pellach i'r risgiau posibl i'r henoed mewn perthynas â hapchwarae yn y dyfodol yn helpu i ateb rhai o'r cwestiynau a godwyd yn yr adroddiad hwn.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, am gyfraniad meddylgar iawn, ac yn yr un modd i Mick Antoniw a Jane Hutt am ychwanegu rhai pwyntiau at hynny yn ogystal. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i gynnal deialog ac i gymryd rhan yn y Siambr i drafod materion yn ymwneud ag effaith gamblo cymhellol yn gymdeithasol ac ar iechyd. Rwy'n falch o ddweud fy mod yn cydnabod bod cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy’n falch o weld bod Cadeirydd y pwyllgor wedi aros yn y Siambr ar gyfer y ddadl.
Oherwydd fe wyddom fod llawer o bobl, fel y nododd Jayne Bryant, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hapchwarae heb unrhyw broblemau amlwg. Ond rydym hefyd yn gwybod, i rai pobl, a nifer gynyddol o bobl, fod hapchwarae'n tyfu'n ddibyniaeth, sy'n arwain at ganlyniadau niweidiol i iechyd ac yn gymdeithasol. Fel y gŵyr llawer ohonom, mae lefelau gamblo cymhellol yng Nghymru yn gymharol isel, ond mae'r effaith ar iechyd ac yn gymdeithasol yn sylweddol, ac mae'n effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau mwy difreintiedig, sydd bum gwaith yn fwy tebygol o fod â phroblemau ariannol yn deillio o hapchwarae. Ac wrth gwrs, mae hapchwarae bellach yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen, fel y mae'r cyfranwyr wedi nodi. Hapchwarae ar-lein gyda mynediad 24 awr yn y cartref, yn y gwaith, unrhyw le y byddwn, yn cymudo neu'n cysylltu â'n ffonau neu ddyfeisiau symudol—ac mae hapchwarae ar-lein yn y DU wedi cynyddu rhwng 2008 a 2014 o 9.7 y cant i 15.4 y cant o'r boblogaeth.
Mae gamblo ar-lein yn rhoi mwy o gyfleoedd i gamblo i fwy o bobl, gyda llai o gyfyngiadau, ac mae hynny'n amlwg yn achos pryder mawr iawn. Cyfyngedig yw'r mesurau diogelu chwaraewyr i'r rheini sy'n gamblo ar-lein. Wrth gwrs, gall hapchwarae effeithio ar gyflwr meddwl yr unigolyn a gall effeithio ar eu gallu i weithredu yn y gwaith, dwysáu problemau ariannol, ac arwain at lefelau uwch o dlodi. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwyd eisoes. Ond mae'r niwed a achosir gan hapchwarae i gymdeithas ehangach yn cynnwys nid yn unig yr allbwn economaidd a gollir a chost trin dibyniaeth, ond yr effaith ar iechyd a'r camau a gymerir i liniaru effaith tlodi ar y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt, a'r effaith ar y gymuned ehangach yn ogystal. Gwyddom y gall hyn ymestyn i gynnwys twyll a lladrata, fel gydag amryw o fathau eraill o ddibyniaeth hefyd.
Fel Llywodraeth, ein nod yw gweithio ar draws portffolios i nodi'r camau y gallwn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a chyfyngu ar ei effaith ar bobl Cymru. Fel y gwyddom, nid yw rheoleiddio a thrwyddedu hapchwarae yn faes sydd wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond y flwyddyn nesaf, bydd Deddf Cymru yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru a'r Cynulliad mewn perthynas â pheiriannau hapchwarae ods sefydlog. Fodd bynnag, ni fydd y pwerau newydd ond yn berthnasol i drwyddedau newydd a gyhoeddir o dan Ddeddf Hapchwarae 2005, ac ni fyddant ond yn ymwneud â pheiriannau hapchwarae sy'n caniatáu betiau o £10 neu fwy am un gêm. Mae'r cyfyngiad ynddo'i hun yn siomedig. Ni fyddant yn berthnasol i drwyddedau safleoedd betio sy'n gysylltiedig â thrac. Felly, nid yw hynny'n cynnwys traciau rasio ceffylau neu gŵn, neu unrhyw le arall lle mae ras neu ddigwyddiadau chwaraeon eraill yn digwydd.
Wrth gwrs, mae gamblo ods sefydlog wedi bod yn ffocws i lawer o sylw yn y cyfryngau yn y misoedd diwethaf. Roeddwn yn falch o glywed Jayne Bryant yn cyfeirio at Carolyn Harris a'i gwaith yn y Senedd. Mae Llywodraeth y DU newydd lansio ymgynghoriad ar argymhellion ar gyfer newidiadau i beiriannau hapchwarae a mesurau cyfrifoldeb cymdeithasol, gyda galwadau am fwy o reoleiddio, gan gynnwys lleihau betiau gamblo ods sefydlog i £2. Daw'r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 23 Ionawr y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, rydym yn ystyried opsiynau ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio ein pwerau newydd yn y dyfodol i leihau unrhyw niwed a nodwyd o'r math hwn o hapchwarae, gan ddisgwyl â diddordeb am ganlyniadau terfynol ymgynghoriad Llywodraeth y DU.
Hoffwn nodi'n glir mai barn y Llywodraeth hon yw y dylem gael ein pwerau wedi'u hunioni. Os oes unrhyw beth yn mynd i newid y bensaernïaeth gamblo a'r pwerau sydd ar gael, dylid trosglwyddo'r pwerau hynny i Gymru hefyd, yn hytrach na chael rhaniad artiffisial rhwng y mesurau y gallai'r Llywodraeth hon eu rhoi ar waith a mesurau eraill lle mae'n rhaid i Lywodraeth y DU weithredu, neu ni fydd unrhyw weithredu'n digwydd o gwbl yng Nghymru. Buasai hwnnw'n ganlyniad annymunol iawn i'r ymgynghoriad. Gobeithio y gwelir gweithredu gan Lywodraeth y DU, gan nad yw hwn yn fater gwleidyddiaeth plaid.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod yr angen i weithredu yn awr i fynd i'r afael â phenderfynyddion niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, gyda'r pwerau sydd wedi'u datganoli i ni. Yng Nghymru, mae gennym nifer o ymyriadau a pholisïau ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, sydd eisoes wedi comisiynu adolygiad i edrych ar newidiadau o ran defnydd tir a ganiateir heb fod angen cais cynllunio. Bydd yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig yn y flwyddyn newydd. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried, yn rhan o hynny, a oes angen newidiadau i atal gorgrynodiad o siopau betio, gan ystyried materion iechyd a'r angen i gynnal bywiogrwydd, hyfywedd ac atyniad canolfannau manwerthu a chanolfannau masnachol sefydledig. Mae hyn yn dychwelyd yn daclus at y pwynt a wnaeth Jane Hutt, pan fyddwch yn meddwl am rai o'n canolfannau lle y ceir crynodiad o'r gweithgaredd hwn eisoes ac rydych yn deall y math o effaith a gaiff ar y gymuned honno, ac nid yn unig fel math o weithgarwch twristiaeth.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu ymchwil i fapio pob lleoliad hapchwarae ar draws Cymru. Dylai hynny eu helpu i gydblethu â'r gwaith a gomisiynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio. Dylai gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnwys map gwres gweledol yn dangos dwysedd lleoliadau hapchwarae yn ddaearyddol, i amlygu ardaloedd lle y ceir crynodiadau o leoliadau hapchwarae. Bydd hynny'n sicr o helpu ein trafodaeth ar y mater hwn ac unrhyw gamau y gallem ddewis eu rhoi ar waith wedyn.
Rydym yn gwybod nad oes unrhyw ymyrraeth feddygol benodol ar gyfer hapchwarae, ond mewn rhai achosion gall ymyriadau seicolegol helpu i ysgogi unigolion i newid eu hymddygiad. Yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' rydym wedi cytuno ar gynllun gyda'r GIG i ehangu gwasanaethau therapi seicolegol ar gyfer oedolion a phlant, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol y flwyddyn i helpu i gyflawni'r cynllun. Er y gall cleifion drafod unrhyw beth gyda'u meddygon teulu, i'r rhai yr effeithir arnynt gan gamblo patholegol neu ddibyniaeth gamblo cymhellol, ceir gwasanaethau eraill y tu allan i'r gwasanaeth iechyd hefyd, fel Gamblers Anonymous neu GamCare, sy'n gallu darparu gwybodaeth a chymorth.
Mae'n werth nodi, o ran yr amrywiaeth o gyfleoedd chwarae sy'n bodoli, mae llawer ohonynt yn cynnwys prynu ar apiau, a cheir ystod o heriau nad ydynt yn annhebyg i rai o'r problemau rydym yn gyfarwydd â hwy mewn perthynas â gamblo. Wrth gwrs, ceir llawer iawn o gemau gamblo ar ddyfeisiau symudol.
Mae sefydliadau eraill ledled Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor, megis canolfannau cyngor ar bopeth. Er enghraifft, mae Cyngor ar Bopeth Casnewydd yn gwneud gwaith ar gefnogi niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, a ariennir gan GambleAware. Maent yn cyflwyno prosiect lleihau niwed gamblo yng Nghymru. Ei fwriad yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae yn y gwraidd drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc a grwpiau eraill sy'n agored i niwed.
Rwyf am gydnabod y pwynt a wnaeth Mick Antoniw ynglŷn â'n sgwrs barhaus gyda'r diwydiant a'r realiti o orfod bod mor gyfrifol â phosibl yn gymdeithasol, ac nid yw'r sgwrs honno wedi gorffen. Wrth inni symud yn agosach at gael rhai pwerau yn y maes hwn, rwy'n tybio ein bod yn fwy tebygol o gael sgwrs fwy cynhyrchiol gyda'r diwydiant.
Rwy'n siŵr y bydd pobl yn yr ystafell hon yn ymwybodol fod y prif swyddog meddygol yn arwain gwaith ar y niwed a achosir gan hapchwarae fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ei adroddiad blynyddol, ac edrychaf ymlaen at weld ei argymhellion cychwynnol yn y flwyddyn newydd. Rwyf am ailadrodd ar y pwynt hwn y cynnig a wnaed yn flaenorol wrth ateb cwestiwn blaenorol i Jayne Bryant fel cynigydd y ddadl hon, ond hefyd i Jane Hutt a Mick Antoniw fel aelodau o'r meinciau cefn a helpodd i gomisiynu'r adroddiad hwn ar y cyd, i gyfarfod â swyddogion sy'n ystyried ymateb Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd. Ar ôl comisiynu'r adroddiad a'r diddordeb amlwg sydd ganddynt, credaf y bydd trafodaeth ddefnyddiol i'w chael gyda'r tri ohonynt, a phe bai'r Aelodau am fanteisio ar y cyfle, buaswn yn hapus i drefnu i hynny ddigwydd.
Mae'n amlwg o'r cyfraniadau heddiw y ceir cytundeb fod angen inni weithio ac nid aros i'r broblem waethygu, a bod rhaid i'r gwaith ddigwydd ar draws portffolios yn y Llywodraeth, ond hefyd gyda phartneriaid y tu allan i'r Llywodraeth. Nid yw hwn yn fater y gall un sector fynd i'r afael ag ef yn llwyddiannus ar ei ben ei hun. Ond mae cyfle yma i chwarae rôl arweiniol yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n dioddef o gamblo cymhellol ac eraill y mae'n effeithio arnynt. Mae gan ddull amlbartner o weithredu botensial i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a'i effaith ar iechyd pobl Cymru ac ar y gymdeithas ehangach.
Yn rhan o'r gwaith hwnnw, dywedaf unwaith eto y buaswn yn annog Llywodraeth y DU i wneud mwy i fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â hysbysebu hapchwarae, i wella diogelwch defnyddwyr ac i fanteisio i'r eithaf ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i ymdrin â gamblo cymhellol ac amddiffyn pobl rhag niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, gan gynnwys y pwerau a allai ac a ddylai fod ar gael yma yng Nghymru; ac ailadroddaf fy ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ag Aelodau yn y Siambr hon a'r tu allan i wneud popeth y gallem ac y dylem ei wneud yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.