– Senedd Cymru am 3:45 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, ac rwy'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.
Lywydd, rydym wedi colli pob teimlad o gyffro ynglŷn â democratiaeth. Mae wedi dod yn gefndir diflas i'n bywyd bob dydd yn hytrach na grym sy'n gwneud ein ffordd o fyw yn bosibl mewn gwirionedd. Ni ddylai neb fod yn ddagreuol; mae cymdeithasau agored, democrataidd yn gallu adnewyddu'n rhyfeddol, fel y gwelwyd yn y 25 mlynedd diwethaf ar gwestiynau'n ymwneud â rhywioldeb, er enghraifft. Eto yn y meysydd gwleidyddol ac economaidd, mae pethau'n edrych yn llawer mwy diflas ac nid yw hyn ond yn tanseilio diwylliant democrataidd yn gyffredinol.
Mae angen mwy o gyfranogiad dinasyddion oherwydd ni ellir is-gontractio gwaith democratiaeth i Gynulliadau a Seneddau yn unig. Mae'r oes ddigidol yn creu galw cryf am fwy o gyfranogiad a'r dulliau technolegol i gyflawni hynny, ond rydym wedi bod yn araf i ymateb i'r galw hwn am gyfranogiad dinasyddion. Un canlyniad yw bod elitiaeth wleidyddol wedi cael ei gweld yn fwy fel dosbarth bonedd na swyddogion penodedig y bobl. Mae angen partneriaeth newydd arnom sy'n cau'r bwlch moel a welwn yn aml rhwng gwleidyddion a dinasyddion.
Un diffiniad bras o ddemocratiaeth gyfranogol fyddai un lle mae dinasyddion yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau. Ni fyddai hyn yn lleihau'r angen am sefydliadau cynrychioliadol, na Llywodraeth ganolog yn sicr—nid ydym yn anelu'n nôl tuag at Athen—ond byddai'n golygu bod cyfranogiad y cyhoedd yn llawer mwy nag etholiadau cyfnodol. Wrth arsylwi ar deimladau'r cyhoedd ar y diwrnod pleidleisio, mae'r rhan fwyaf yn cael eu taro gan y cywair dwys; nid yw'n amser carnifal. Y gronfa hon o ddiben sydd angen inni fanteisio arni: cyfranogiad a dinasyddiaeth weithredol yn adnewyddu ein sefydliadau democrataidd.
Yng Nghymru, gallem fynd ymhellach a ffurfio siambr dinasyddion yn y Cynulliad. Ni fyddai'n galw am 60 o aelodau o'r cyhoedd i wasanaethu'n amser llawn am bum mlynedd—byddai hynny'n faich ac nid yn weithred o wasanaeth dinasyddion. [Chwerthin.] Dylai gwasanaeth dinasyddion fod yn rhwymedigaeth gyffredinol y gelwir amdani o bryd i'w gilydd fel y gelwir am wasanaeth rheithgor yn awr. Gallai siambr dinasyddion fod yn gronfa o 600 neu hyd yn oed 6,000 o ddinasyddion, y gewir arnynt o bryd i'w gilydd. Byddai gorchwylion penodol sy'n eu diddori yn cael eu dynodi ar gyfer pob dinesydd a gallent ganolbwyntio ar ran benodol o weithgarwch llywodraethol ac yna, pan fydd y maes hwnnw'n cael ei drafod, byddent yn cyfarfod fel rhan o'r Cynulliad.
Gallai siambr dinasyddion arwain hefyd at ddatblygu democratiaeth ddigidol. Drwy arolygon ar-lein a mecanweithiau eraill, byddai amrywiaeth ehangach o gyfranogiad cyhoeddus yn bosibl, gan ddarparu deunydd efallai i siambr dinasyddion ei drafod a'i ddatblygu'n fwy manwl. Byddai angen i waith o'r fath fod yn dryloyw a'r prif ganlyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'u cofnodi'n gywir. Gellid bwydo deddfau drafft, neu syniadau ar gyfer deddfau, i mewn i'r Cynulliad Cenedlaethol, a byddai'n dod yn sefydliad dwy siambr wedyn ar ffurf fodern iawn. Anghofiwch Dŷ'r Arglwyddi; gallem wneud rhywbeth gwirioneddol wych â dinasyddion fel ein haelodau. Wrth gwrs, ceir modelau eraill o gynulliadau dinasyddion, ond yr hyn sy'n amlwg yw'r angen am yr ymgysylltiad eang hwn os ydym i greu cwlwm democrataidd newydd rhwng y dinesydd a'r gwleidydd.
Mae angen i ddemocratiaeth dreiddio'n ddwfn hefyd a phwyso ar y cryfder sydd gennym yng ngwreiddiau cymunedau. Unwaith eto, mae'r chwyldro digidol yn cynnig cyfleoedd i rwydweithiau lleol gyfranogi, trafod a gwneud penderfyniadau. Mae cynghorau tref a chymuned mewn sefyllfa dda i ddatblygu eu rôl fel llais y gymuned. Gallai cynghorau tref mwy o faint ystyried sefydlu swydd maer etholedig. Gellid llunio'r cynghorau eu hunain o gynghorwyr a etholir yn uniongyrchol a dinasyddion a ddewiswyd ar hap, i wasanaethu am dymor fel rhan o'u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus. Byddai grymuso'r lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth hefyd yn helpu i adnewyddu cynghorau lleol yn gyffredinol. Gallai asiantaethau cyhoeddus eraill, megis Ymddiriedolaethau'r GIG, ddefnyddio'r ffynhonnell hon o gyfranogiad cyhoeddus hefyd.
Ddirprwy Lywydd, roedd democratiaeth gynrychioliadol yn ffynnu ar y cyffro o ethol arweinwyr y gymdeithas; roedd yn drawsnewid aruthrol oddi wrth Lywodraeth aristocrataidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond roedd hefyd yn gwneud pobl yn sofran am ddiwrnod yn unig ac yn cyfyngu ar y cyfleoedd i allu cyfranogi'n ddyfnach. Gallai awydd i adfer rheolaeth ddangos bod dinasyddion yn barod i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau.
Nid yw hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl eisiau dod yn wleidyddion rhan-amser, ond mae'n golygu y gallwn archwilio'r cysyniad o wasanaeth dinasyddion ar y sail bod gwasanaeth rheithgor yn sylfaen i'n system gyfreithiol. Ni ddylem orliwio'r ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â gwasanaethu. Byddai'n amrywio o amser llawn am gyfnod byr—rheithgor dinasyddion ar ddatblygiad amwynder lleol, er enghraifft—i ran-amser am gyfnod hwy—diwrnod y mis am ddwy flynedd neu fwy yng nghynulliad y dinasyddion, efallai.
Ni fyddwn yn byw mewn democratiaeth gyfranogol hyd nes y bydd ymgysylltiad dinasyddion yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau lawn cymaint â chasglu barn y cyhoedd drwy brosesau ymgynghori traddodiadol. Yng Nghymru, mae gennym gyfle i arwain y ffordd. Rydym yn mwynhau manteision democratiaeth sy'n newydd ac yn fach. Os gallwn arloesi, gellid chwyddo pŵer y traddodiad seneddol rydym wedi ei etifeddu gan rym dinasyddiaeth weithgar. Ochr yn ochr â rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gallem weld cyhoeddi rhaglen gwerin i'w thrafod yn siambr dinasyddion y Cynulliad Cenedlaethol.
Ddirprwy Lywydd, nid yw democratiaeth yn sâl ac yn dila, ond mae angen ei hadnewyddu. Heddiw, y weithred fwyaf o arweinyddiaeth wleidyddol fyddai gwella egni dinasyddiaeth. Dyma ddiben fy mil.
Diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno'r syniadau hyn. Credaf fod llawer o werth ynddynt. A gytunwch fod angen gwella cyfranogiad dinasyddion yn y gwasanaeth iechyd, yn anad dim? Nid yw'r ffaith fod y gwasanaeth iechyd yn rhad ac am ddim lle mae ei angen yn golygu y dylem gael pobl yn mynd at y meddyg am fod ganddynt ddolur gwddf. Mae gwir angen inni gael pobl i ddewis yn dda, fel y dywed ymgyrch y Llywodraeth. Mae angen i bobl gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain. Felly, credaf fod gofal iechyd darbodus yn crynhoi hynny ac rwy'n credu, heb ofal iechyd darbodus, y byddwn yn gweld fwyfwy na all y gwasanaeth iechyd ddiwallu anghenion mwy cymhleth dinasyddion sydd â salwch difrifol. Felly, credaf fod hyn yn rhywbeth y byddai'n ddefnyddiol mynd ar ei drywydd.
Ond hefyd roeddwn am ofyn i chi a ydych yn credu bod angen inni hefyd wneud rhywbeth i wrthdroi'r modd y cafodd cyfranogiad pleidleiswyr ei lethu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae'r ffordd y'i gwnaed yn anos i bobl gofrestru i bleidleisio yn golygu bod miloedd lawer—miliynau lawer o bobl yn wir ar draws y wlad yn y DU—heb eu cofrestru i bleidleisio. Naill ai oherwydd problemau llythrennedd neu resymau eraill, nid ydynt yn gallu deall y broses syml hon. Felly a wnewch chi ystyried cynnwys ei gwneud yn ddyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus yn eich Bil, pan fyddant yn cyflawni gwaith gyda'r dinesydd, boed ar y dreth gyngor, budd-dal tai, budd-dal plant, DVLA, neu newid trwydded, fod y gwasanaeth cyhoeddus hwnnw, yn awtomatig, yn gallu eu cofrestru i bleidleisio? Nid rhwymedigaeth i bleidleisio yw hyn, ond eu galluogi i gofrestru i bleidleisio. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a ydych yn credu y byddai hynny'n rhan o'ch Bil.
Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r cynigion deddfwriaethol hyn. Mae'r cysyniad o wasanaeth dinasyddion cenedlaethol wedi bod yn bolisi gan y Ceidwadwyr Cymreig ers talwm, ond wrth gwrs, mae'n un sy'n codi uwchlaw rhaniadau rhwng pleidiau ac mae gwahanol fodelau i'w hystyried yma fel y dywedodd David. Ond rwy'n croesawu hyn yn arbennig, gan fod unrhyw gyfraniad tuag at syniadau ar gyfer democratiaeth gyfranogol sy'n cynnig dewis amgen yn lle refferenda yn sicr yn rhywbeth i'w groesawu.
Rwy'n cefnogi hyn oherwydd, yn y bôn, wrth wraidd hyn, rydym yn sôn am gydnabyddiaeth a hyd yn oed dathliad o'r unigolyn a'r cyfunol, ac os caf siarad â fy nghyd-Aelodau sosialaidd yma, yr ymdeimlad o gymuned, galwad ar gyfalaf cymdeithasol heb ei gyffwrdd i gyfrannu at gydlyniad cymdeithasol, gwella gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd y mae David wedi crybwyll, ac yn bendant, adeiladu'r ddinasyddiaeth hyderus, ragweithiol a gwleidyddol honno.
Cofiaf un o fy siomedigaethau cynnar pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad mewn cwestiwn i'r Prif Weinidog, pan ofynnais iddo a fyddai'n barod i ystyried rhyw fath o wasanaeth dinasyddion cenedlaethol ar yr adeg honno, a dywedodd nad oedd Cymru angen gwasanaeth o'r fath gan ei bod eisoes yn hyrwyddo gwirfoddoli i bobl iau. Credaf ei fod yn siarad, ar y pryd, am GwirVol, nad yw bellach yn bodoli, yn anffodus, cynllun a gyrhaeddodd rai pobl ifanc, ac nid oes gennyf amheuaeth ei fod yn werthfawr o'u rhan hwy a'u datblygiad fel unigolion, ond nid oedd yn cynnig llawer ar lefel strategol gyda phwrpas cymdeithasol clir ar lefel y boblogaeth.
Gyda chyd-Aelodau, ymwelais ag Israel ychydig fisoedd yn ôl, ac yno, wrth gwrs, mae gwasanaeth milwrol cenedlaethol yn orfodol i rai nad ydynt yn ddinasyddion Arabaidd a rhai categorïau eraill sydd wedi'u heithrio, ac mae'n para rhwng dwy a thair blynedd. Yn amlwg, nid wyf yn dadlau dros efelychu hwnnw, ond cefais fy nharo gan rai o'r effeithiau parhaol roedd y profiad hwnnw'n eu cael ar bron bob person Iddewig o Israel y siaradasom â hwy, ni waeth pa mor bell yn ôl y cawsant y profiad hwnnw. Y cyntaf oedd yr ymdeimlad o undod a chyfrifoldeb tuag at ei gilydd, ni waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol. Wrth gwrs, rwy'n derbyn bod y bygythiad i ddiogelwch sy'n bodoli yno drwy'r amser yn sicr o ganolbwyntio meddyliau i ryw raddau, ond er hynny, roedd yn glir ein bod yn cyfarfod â phobl a oedd wedi dysgu bod yn hyderus ynglŷn â gwneud penderfyniadau, gweithredu ar y penderfyniadau hynny, ac ymddiried yn ei gilydd i wneud yr un peth—ac nid er eu mwyn eu hunain yn unig, ond dros achos cyffredin. Ystyrid bod camgymeriadau'n anochel, fel roedd ymadfer a dechrau eto pan oedd pobl yn gwneud camgymeriadau.
Yr ail beth a'm trawodd oedd sut roedd hyn i'w weld yn eu hagwedd tuag at yr economi a'i thwf: pobl o bob oed a chefndir yn bod yn eofn, yn gadarnhaol iawn, yn mentro'n ofalus, heb lwyddo bob amser ond yn gyfforddus iawn wrth gydweithredu â gilydd, hyd yn oed mewn amgylchedd cystadleuol. A dywedodd rhai wrthym mai eu profiad o wasanaeth ochr yn ochr ag eraill a oedd wedi rhoi'r ymagwedd hon tuag at gynnydd iddynt—cynnydd a welent fel rhywbeth a ddarparai fanteision a ymestynnai y tu hwnt iddynt hwy eu hunain. [Torri ar draws.]
O, ie? Tair munud sydd gennyf, ie? O, mae'n wir ddrwg gennyf am hynny.
I bob pwrpas, y cyfan roeddwn am ei ddweud yw os ydym o ddifrif ynghylch cydgynhyrchu ac yn arbennig, yr orfodaeth a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yna mae gwir raid inni wneud rhywbeth yn awr i annog y boblogaeth yn gyffredinol i fod yn ddigon hyderus i fod yn gyfranogwyr yn y Gymru gydgynhyrchiol honno.
Diolch i David Melding am y cynnig deddfwriaethol gan Aelod heddiw. Mae'r syniadau hyn ynglŷn â chynyddu cyfranogiad dinasyddion yn ennyn fy chwilfrydedd. Wrth gwrs, mae'n nod canmoladwy, ond nid wyf yn siŵr pa mor hawdd y caiff ei gyflawni'n ymarferol. Yn fyr, nid wyf yn sicr fod y cynllun hwn, er ei fod yn arloesol, yn un ymarferol mewn gwirionedd.
Y gwahaniaeth rhyngom ni yn y Siambr hon a'r cyhoedd yn gyffredinol yw ein bod ni, credwch neu beidio, yn wleidyddion proffesiynol. Gwn fod hynny'n ymddangos yn anodd ei gredu ar adegau, pan fydd pawb ohonom yn gweiddi ar draws y Siambr ar ein gilydd, ond ni yw'r gweithwyr proffesiynol mewn gwirionedd. Hynny yw, cawn ein talu i fod yma y rhan fwyaf o wythnosau. Rydym yn aelodau o bwyllgorau, rydym yn gwrando ar dystiolaeth, rydym wedi talu staff i'n helpu i ymchwilio i bethau. Nawr, nid yw hynny'n dweud bod gennym unrhyw allu cynhenid i wneud gwleidyddiaeth yn well na'r cyhoedd yn gyffredinol, ond rydym yn gwneud y gwaith hwn wythnos ar ôl wythnos, yn rhan o strwythur a fydd yn caniatáu rhywfaint o arbenigedd i ni—rwy'n pwysleisio, 'rhywfaint'.
Y broblem gydag ennyn diddordeb y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd yw nad oes gan lawer o bobl ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae gan eraill ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth hyd at bwynt, ond mewn cyfrannau cymharol fach yn unig. Efallai nad yw'r syniad o gymryd rhan mewn dadleuon a drefnwyd, mewn gwaith craffu gan bwyllgor ac yn y blaen, mor ddeniadol â hynny, hyd yn oed i'r rhan o'r etholaeth sy'n cymryd rhywfaint o ran ac yn dilyn gwleidyddiaeth i ryw raddau. Wrth gwrs, gallwn roi cynnig arni, mae'r rhain yn syniadau diddorol, ond rwy'n wfftio braidd at yr elfen o orfodaeth, y syniad o bobl yn cael eu galw i wneud gwasanaeth dinasyddion, ac yn meddwl tybed a allai'r posibilrwydd hwnnw droi llawer o bobl yn erbyn gwleidyddiaeth yn llwyr, hyd yn oed y bobl sy'n cymryd rhywfaint o ran mewn gwleidyddiaeth yn awr.
Efallai bod angen inni edrych ar rai o'r ystadegau sydd ar gael i nodi brwdfrydedd y cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â'r Cynulliad. Nifer y rhai a bleidleisiodd yn etholiadau'r Cynulliad: tua 45 y cant. Mae hwnnw'n ystadegyn sy'n gyfarwydd ac ar gael yn rhwydd. Ceir ffigurau eraill y gallem eu harchwilio. Er enghraifft, beth yw'r ffigurau gwylio cyfartalog ar gyfer darllediadau BBC Wales o'r cwestiynau i'r Prif Weinidog? Beth yw'r ffigurau perthnasol ar gyfer darllediadau Senedd.tv o fusnes y Siambr a phwyllgorau'r Cynulliad? Credaf fod y darllediadau hyn yn wasanaeth cyhoeddus gwerthfawr, ond mae arnaf ofn fod lefelau defnydd ymhlith y cyhoedd yng Nghymru yn debygol o fod yn eithaf isel. Pan edrychaf ar yr oriel yma ac yn yr ystafelloedd pwyllgora, y rhan fwyaf o'r amser maent bron yn wag.
Mae rhai pobl yn cymryd rhan o bryd i'w gilydd, fel arfer pan fyddant yn ystyried bod eu hardaloedd lleol o dan ryw fath o fygythiad. Ar yr adegau hyn, mae ymgyrchoedd yn dechrau a deisebau'n cael eu cychwyn, ac mae hyn oll yn dda; rydym i gyd o blaid ymgyrchoedd lleol yn UKIP. Yn wir, ers peth amser, ein polisi yw caniatáu refferenda lleol sy'n rhwymo'n gyfreithiol ar faterion cynllunio o bwys sy'n effeithio ar ardal benodol. Dyma lle y gellid meithrin ymgysylltiad gwleidyddol yn effeithiol, drwy ddangos y bydd deddfwyr yn ystyried dymuniadau trigolion lleol. Ond mae'r syniad o ddinasyddion yn ffurfio Siambr ar wahân mewn Cynulliad ehangach—rhaid i mi gyfaddef, rwy'n teimlo bod y syniad yn mynd braidd yn rhy bell ac mae arnaf ofn, ymhell o fod yn ennyn brwdfrydedd mwy o bobl, gallai fethu yn ei nod mewn gwirionedd a throi mwy o bobl yn erbyn gwleidyddiaeth.
Felly, er y credaf fod y rhain yn syniadau diddorol iawn, rwy'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn yn y ffordd y symudwn ymlaen i geisio eu cymhwyso mewn ffordd ymarferol. Felly, credaf fod angen inni droedio'n ofalus yma.
A gaf fi alw yn awr ar arweinydd y tŷ, Julie James?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid cynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o lunio polisi yng Nghymru, ac rydym yn sicr yn rhannu'r dyhead a nodwyd gan David Melding yn ei gynnig cyffrous i gau'r bwlch rhwng gwleidyddion a'r cyhoedd er mwyn ennyn diddordeb pobl Cymru mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt ac i'n cadw wedi ein gwreiddio yn y cymunedau a wasanaethwn. Nid wyf yn hollol siŵr fy mod yn rhannu'r besimistiaeth a fynegodd am rai o'r agweddau ar hynny, ond serch hynny, rwy'n deall y teimlad.
Byddai'r cynnig a wnaed gan David Melding i gael gwasanaeth dinasyddion, gan gynnwys ail Siambr i'r Cynulliad hwn, yn sicr yn agwedd ddiddorol ar hyn, ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol fod yna nifer o fodelau o wasanaeth dinasyddion, gan gynnwys modelau ymgysylltu ar gyfer yr holl bobl ifanc, fel adnodd dysgu ac fel profiad gwaith ar gyfer cyflawni amrywiaeth eang o dasgau defnyddiol yn gymdeithasol. Credaf fod y Sefydliad Materion Cymreig wedi nodi un model o'r fath ychydig flynyddoedd yn ôl, ac roeddwn yn sicr â diddordeb mewn mynd ar drywydd hynny yn fy rôl flaenorol.
Hefyd, ceir nifer o enghreifftiau o gynulliadau dinasyddion a sefydlwyd yn bennaf gan seneddau ledled y byd: er enghraifft, yng Ngweriniaeth Iwerddon, Canada, yr Iseldiroedd a Gwlad Pwyl. Maent oll wedi ymgynghori ar faterion penodol iawn yn hytrach na gweithredu fel ail siambrau deddfwrfeydd yn gyffredinol. Wrth gwrs, mater i Gomisiwn y Cynulliad ac nid Llywodraeth Cymru yw gwasanaeth dinasyddion neu ail siambr i'r ddeddfwrfa hon. Ond mae David Melding yn sicr wedi nodi llawer o bethau i feddwl amdanynt, yn enwedig i mi, ar bosibiliadau digidol rhai o'r agweddau hynny.
Ond rwy'n credu y carwn awgrymu, pe bai diddordeb ymysg yr Aelodau mewn sefydlu corff o'r fath, y byddai nifer o faterion i'w hystyried. Cafodd rhai o'r materion hynny eu crybwyll eisoes, ond yn y fath fodd fel y byddai angen sicrhau y byddai cyfranogwyr yn cynrychioli'r cyhoedd ehangach. Os yw pobl yn camu ymlaen yn wirfoddol, mae hynny'n annhebygol o fod yn wir; byddent yn hunanddewis. A fyddem yn chwilio am arbenigwyr mewn meysydd penodol? Ar y llaw arall, a fyddai'n dderbyniol i wneud cyfranogiad ar ryw lefel yn orfodol? Sut y byddem yn gorfodi hynny? Yn wir, sut y byddem yn talu amdano, gan fod nifer fawr iawn o bobl, yn enwedig pobl hunangyflogedig neu bobl sy'n rhedeg busnesau bach, eisoes dan anfantais ddifrifol os cânt eu galw i wneud gwasanaeth rheithgor? Yn wir, gwn fod David Melding yn ymwybodol o rai o'r anawsterau o gynnull rheithgorau ar gyfer achosion hir a chymhleth o dwyll, ac ati, a'r modd y bu'n rhaid i hynny addasu dros amser.
A pha faterion y byddent yn cael eu gwahodd i'w hystyried? Pwy fyddai'n penderfynu pa faterion y caent eu gwahodd i'w hystyried, gan gynnwys a ddylid canolbwyntio ar ychydig bynciau neu'n wir, a ddylid edrych drwy gyfrwng dwy siambr ar benderfyniadau, er enghraifft ar ddeddfwriaeth, y mae'r tŷ yn ei gwneud, yn y ffordd y mae Tŷ’r Arglwyddi'n ei wneud, er enghraifft? A fyddai angen hyfforddi pobl angen ar gyfer eu rôl? A fyddai angen cymorth parhaus arnynt ar gyfer eu trafodaethau? Sut y byddai'r trafodaethau'n bwydo'n ôl i drafodaethau'r Cynulliad ei hun? A fyddai eu gwaith yn ymwneud â gwaith senedd ieuenctid Cymru, er enghraifft? A nifer o faterion eraill—a byddai modd mynd i'r afael â phob un ohonynt, wrth gwrs, ond byddai angen meddwl amdanynt a'u costio ac yn y blaen.
O ran polisi, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i barhau i ddatblygu ei dulliau ei hun ar gyfer ennyn diddordeb pobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Unwaith eto, fel y nododd David Melding a Suzy Davies a nifer o bobl eraill, mae yna nifer enfawr o ffyrdd o gynnwys pobl mewn penderfyniadau. Nid oes un ffordd sy'n addas ar gyfer popeth, ac mae dulliau newydd yn cael eu datblygu drwy'r amser. Er enghraifft, cefais y fraint o fod yn rhan o grŵp gweithredu a chynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd, yn seiliedig ar adborth helaeth y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd de Cymru, ac mae cyllideb 2018-19 yn cynnwys cynllun peilot cyllideb gyfranogol ar gyfer y grŵp. Mae wedi bod yn hynod o ddiddorol gweld yr ymgysylltu a fu ar draws y cymunedau hynny—beth sydd wedi gweithio, beth sydd heb weithio, beth sydd wedi ennyn brwdfrydedd pobl a beth sydd heb ennyn eu brwdfrydedd efallai. Mae'n rhaid dweud nad y pethau y credem y byddent yn gwneud hynny a wnaeth hynny bob tro. Mae rhai o'r ymatebion a ddaeth i law wedi bod yn galonogol iawn, ac mae rhai wedi bod fel arall yn llwyr, ond maent oll wedi bod yn unigryw a diddorol mewn modd nad oeddwn wedi ei ddisgwyl yn bersonol.
Rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i ddatblygu ffyrdd gwell o gynnwys pobl yn ein democratiaeth gynrychioliadol—yn bendant. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried cynnwys dinasyddion yn y broses o ddatblygu a chyflawni ein hamcanion fel rhan o'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac yn darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cyrff cyhoeddus ar draws Cymru, gan ddarparu ar gyfer cofnodi ac archwilio'n rheolaidd. Tybed a ellid rhoi system o'r fath ar waith pe baem yn edrych ar gyfranogiad mewn democratiaeth.
Rydym yn awyddus iawn i gynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y rhan sy'n ymwneud â llunio polisi o'r hyn a wnawn yma yn y ddeddfwrfa hon. Rydym yn croesawu syniadau ar y ffordd orau o fynd ati i hyrwyddo mwy o gyfranogiad a chraffu adeiladol ar y cynnydd a wnawn wrth wneud hynny. Credaf y bydd gan Gomisiwn y Cynulliad lawer i'w ystyried yng nghynnig deddfwriaethol yr Aelod. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar David Melding i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am gymryd rhan a chodi cwestiynau mor ystyriol a chymryd cymaint o ran yn y ddadl hon? A gaf fi ddechrau gyda Jenny? Mewn gwirionedd, fe sonioch fod y GIG angen gofal iechyd darbodus ac i'r cleifion hefyd fod yn ddigon cyfrifol i ofalu amdanynt eu hunain cyn belled ag y bo modd. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fodel cyffredinol, wyddoch chi, ar gyfer yr hyn sydd angen inni ei wneud gyda democratiaeth. Ni all democratiaeth ffynnu os nad oes cyfranogiad gweithgar gan ddinasyddion. Mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ei ddweud yw nad oes digon ar hyn o bryd iddo allu ffynnu'n llawn yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid yw ar ei liniau, ond mae angen inni gael y math o uchelgais a oedd gan ein hynafiaid mewn gwirionedd pan oeddent yn gwneud y newidiadau rhyfeddol hyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae'r anhawster i gofrestru pleidleiswyr yn fy mhryderu'n fawr. Credaf fod angen inni gael y safonau uchaf wrth graffu ar unrhyw system gofrestru, ac os oes problemau gyda'r trefniadau presennol, credaf fod angen ymchwilio iddynt yn llawn. Mae arnom angen system sy'n ddiogel, ond cyn gynted ag y gallwn sefydlu bod person yn ddinesydd a chanddo hawl i bleidleisio, dylai fod cyn lleied â phosibl o ffwdan wedyn ynglŷn â'u cofrestru, a dylai fod llawer o ddulliau o wneud hynny. A phleidleisio dros y penwythnos ac mewn archfarchnadoedd lleol—efallai y bydd hyn oll yn bosibl.
Dywedodd Suzy y byddai llawer o'r hyn y siaradais amdano yn ddewis arall yn lle refferenda. Nid wyf yn gwahardd refferenda yn gyfan gwbl o'r model hwn, ond rwy'n cytuno mai'r hyn rydym ei eisiau yw cael pobl i drafod. Beth yw'r heriau? Sut rydych yn eu trin ac yn blaenoriaethu arnynt? Mae hyn yn bwysig iawn. O ran gwasanaeth dinasyddion, mae'n fwy na thebyg y byddwn yn gweld yr angen am ddiwygio radical, rhywbeth tebyg i incwm cyffredinol efallai hyd yn oed, gyda mwy o rannu gwaith hefyd yn y dyfodol. Un peth y gallem ei wneud yn y model hwnnw yw pwysleisio'r ymrwymiad sydd gennym tuag at wasanaeth dinasyddion. Gallai honno fod yn ffordd o agor y ffordd i rai o'r materion hyn.
Soniodd Gareth am ymarferoldeb. Wel, wyddoch chi, caiff ei ddefnyddio yn y system gyfreithiol. Mae'n gwbl ganolog iddi. Yn amlwg, byddai'n rhaid cefnogi pobl. Byddai ein staff ein hunain yn cymryd rhan yn hynny, y cyfleusterau ymchwil, er enghraifft, y timau clercio—byddai'n rhan o'r model. A fyddai diddordeb gan bobl? Wel, os edrychwch o gwmpas y byd lle mae wedi llwyddo, a chyfeiriodd y Gweinidog at hyn, yng Ngwlad yr Iâ, yn Iwerddon, rwy'n credu ei fod wedi bod yn drawsnewidiol wrth drafod rhai o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol. Ac edrychwch ar y democratiaethau newydd sydd wedi defnyddio hyn mewn llu o ffyrdd, gan gynnwys comisiynau gwirionedd—maent wedi mynd at wraidd rhai o'r pethau hyn o ddifrif drwy ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar y dinesydd.
Felly, rwy'n optimistaidd iawn. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn agored i'r syniadau hyn ac rwy'n credu bod hynny wedi'i adlewyrchu yn ei chyfraniad. Mae angen inni gau'r bwlch rhwng dinasyddion a gwleidyddion. Mae yna bethau hanfodol sydd angen i sefydliadau eu gwneud, ac sydd angen i wleidyddion amser llawn eu gwneud, ond gallwn wella'r posibiliadau digidol a gweld cyfle go iawn i gael math newydd o ddemocratiaeth, democratiaeth gyfranogol, a gyflawnir ar sail lawer llawnach a mwy cyfartal. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch.