1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 9 Ionawr 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. A gaf innau hefyd groesawu'r Aelod newydd yma heddiw, ac ategu sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch pa mor braf yw gweld Steffan yn ôl yn y Siambr hon, a dymuno'n dda iddo yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod? Ac rwyf hefyd yn cynnig fy llongyfarchiadau i David Melding, a gydnabuwyd yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd—cyfraniad teilwng iawn i ddemocratiaeth Cymru sydd wedi cael ei gydnabod gan y rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd a gyhoeddwyd eleni.
Prif Weinidog, rydym ni i gyd wedi gweld y pwysau sydd wedi taro GIG Cymru dros y pythefnos diwethaf, a'r pwysau gaeaf penodol hwnnw yn arbennig. A oedd modd eu rhagweld ac a oedd modd eu hatal?
Wel, yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged i'n holl staff ym mhob lleoliad—y meddygon teulu, y parafeddygon, yr ysbytai a gofal cymdeithasol—am eu hymdrechion anhygoel wrth ymateb i'r pwysau hwn. Mae'r gaeaf yn gyfnod anodd iawn bob amser. Bydd adegau bob amser pan fo'r galw yn rhoi ein gwasanaethau o dan bwysau mawr, sy'n golygu bod angen dwysau lleol. Roedd paratoadau trylwyr wedi eu gwneud, ond mae'r NHS yng Nghymru wedi bod o dan gryn bwysau yn gyson â'r hyn sy'n cael ei adrodd mewn rhannau eraill o'r DU. Cafwyd ymateb proffesiynol, rhoddwyd mwy o adnoddau ar gael ac mae'r sefyllfa yn sefydlogi erbyn hyn.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwyf yn cydnabod bod pwysau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan fel yr ydym ni i gyd wedi ei weld ar y newyddion. Fy nghwestiwn cyntaf oedd a oedd modd eu rhagweld ac a oedd modd eu hatal, rhai o'r pwysau hynny a oedd yn unigryw i Gymru, fel dim gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau, fel yr wyf yn cael fy arwain i gredu, yma yng Nghaerdydd dros gyfnod yr ŵyl. Roedd amseroedd aros cronig yn fwy na'r hyn a welsom mewn rhannau eraill o'r GIG yn y Deyrnas Unedig. Yn Ysbyty Glan Clwyd, er enghraifft, gwelwyd llai na 50 y cant o gleifion a aeth i adrannau damweiniau ac achosion brys o fewn amser aros y Llywodraeth ei hun o bedair awr, ac roeddem ni eisoes yn gwybod bod amseroedd aros yn ormodol yma yng Nghymru o'u cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gallwch chi a minnau gael dadl wleidyddol am hyn ac ni fydd wir yn datblygu fawr mwy ar y ddadl. Yr hyn y mae pobl eisiau ei glywed yw pa atebion y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i atal rhai o'r digwyddiadau unigryw hyn sydd wedi bod yn digwydd yng Nghymru—sydd yn benodol i Gymru—fel dim darpariaeth y tu allan i oriau o gwbl yma ym mhrifddinas Caerdydd ac, yn anad dim, y cyfnodau aros gwirioneddol hir hynny mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, fel yr amlygais i chi? Beth ydych chi'n ei wneud?
Wel, yn gyntaf oll, o ran adrannau damweiniau ac achosion brys, ac nid yw'n wir mai pedair awr yw'r targed cyn i rywun gael ei weld mewn adran damweiniau ac achosion brys. Pedair awr tan i rywun gael ei ryddhau neu ei dderbyn o adran damweiniau ac achosion brys, dim ond i wneud hynny'n eglur. Mae'n gofyn y cwestiwn yn deg: A oedd modd rhagweld hyn? Yr ateb yn fy nhyb i yw 'nac oedd' a byddaf yn esbonio pam. Er enghraifft, o ran galwadau ambiwlans coch, roedd y ffigur ar gyfer nos galan 54 y cant yn uwch na nos galan y llynedd. Adroddwyd ffigurau tebyg, ond llai, ar gyfer dydd calan ac ar gyfer cyfnod y Nadolig hefyd. Nawr, a oes modd rhagweld hynny? Byddwn i'n dadlau nad oes. Serch hynny, gwnaed llawer iawn o gynllunio i sicrhau bod y GIG yn gallu ymdopi. Roedd pwysau mawr. Talaf deyrnged i'r staff ac, wrth gwrs, fel y dywedaf, mae'r sefyllfa yn sefydlogi erbyn hyn. Ond byddwn yn ystyried pam y bu cynnydd mor sydyn nos galan, dim ond i roi un enghraifft, o'i gymharu â'r llynedd. Er gwaethaf y pwysau mawr a roddwyd ar y gwasanaeth iechyd, roedd y staff yn dal i allu gweithio'n galed i gyrraedd y targedau a osodwyd gennym, yn enwedig y staff parafeddygol. Pam y bu cynnydd sydyn o'r fath o'i gymharu â'r llynedd, mae'n rhywbeth y bydd rhaid i ni edrych arno.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf innau hefyd yn talu teyrnged i'r holl staff a oedd allan dros gyfnod yr ŵyl tra bod llawer ohonom ni'n mwynhau'r ŵyl, ac, heb y staff hynny, ni fyddai ein GIG yn gweithio ym mha bynnag ran o'r gwasanaeth y maen nhw'n gweithio ynddi.
Ond y pwynt a wneuthum yn fy ail gyfraniad y prynhawn yma, yw os nad oes unrhyw ddarpariaeth y tu allan i oriau o gwbl, yna mae'n amlwg bod y gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft, yn mynd i weld cynnydd sydyn i'r galw am ei wasanaethau. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn amdano yn fy nhrydydd cwestiwn i chi yw: a fyddwn ni yn yr un sefyllfa yr adeg hon y flwyddyn nesaf, neu pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd yn benodol i fynd i'r afael â'r pwysau hyn sy'n digwydd flwyddyn ar ôl y blwyddyn? Rwy'n derbyn y pwynt eich bod chi wedi cyfeirio at gynnydd sydyn penodol i'r galwadau ambiwlans a wnaed nos galan, ond rydym ni'n gweld mai ychydig iawn neu ddim o gwbl sydd ar gael o ran darpariaeth y tu allan i oriau mewn rhai ardaloedd, rydym ni'n gweld galw parhaus am ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys ac yn amlwg rydym ni'n gweld diffyg gwelyau yn ein hysbytai. Collwyd tri deg y cant o welyau ers 1997 yma yng Nghymru. Felly, mae angen cynnal adolygiad o sut y mae'r Llywodraeth a'r byrddau iechyd yn ymateb i'r argyfwng hwn, a'r hyn y mae angen i ni ei glywed yw pryd y bydd yr adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal ac a allwn ni ddisgwyl mewn gwirionedd na fydd y sefyllfa hon yn cael ei hailadrodd y flwyddyn nesaf.
Wel, wrth gwrs, mae'r adolygiad wedi cael ei gynnal, yn yr ystyr y disgwylir i'r adolygiad seneddol, rwy'n deall, gyhoeddi ei ganfyddiadau yn fuan iawn, a bydd hwnnw'n ystyried yn drawsbleidiol ar y ffyrdd y gellir cryfhau'r gwasanaeth iechyd. O ran meddygon teulu, mae'n iawn i ddweud, mewn un rhan o Gymru, y bu problemau ar ddau ddyddiad, rwy'n deall—nid mewn rhannau eraill o Gymru, ond roedd pwysau difrifol yn y fan honno'n benodol. Mae'n gofyn y cwestiwn: a oes angen i ni ystyried y rheswm pam y bu achosion penodol o gynnydd sydyn eleni, o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol? Yr ateb yw, 'Ydy, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau edrych arno', gan y bydd hynny'n rhan o barodrwydd y BILlau ar gyfer y gaeaf nesaf. Felly, o ran a oes modd ei atal, wel, mae pwysau ar y GIG ar yr adeg hon o'r flwyddyn bob amser, ac mae cynllunio bob amser i geisio ymdrin â phwysau o'r fath. Rhagweladwy? Na, dwi ddim yn credu, o ystyried y ffigurau yr ydym ni wedi eu gweld ar fwy nag un dyddiad dros gyfnod y gwyliau, pan fu cynnydd sylweddol i alw am alwadau ambiwlans, yn enwedig o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch. Rwy'n mynd i barhau gydag iechyd, Prif Weinidog. Dywedasoch y disgwylir pwysau'r gaeaf bob blwyddyn ac rydych chi'n iawn, a dylech chi fod yn cynllunio ar gyfer cynnydd sydyn i alw bob blwyddyn hefyd. A allwch chi ddweud o ddifrif eich bod chi'n credu bod y gwasanaeth iechyd wedi perfformio'n dda dros y gaeaf o ran ymdrin â'r pwysau a'r cynnydd sydyn i alw hynny a welsom?
Gallaf, mi allaf. Rwy'n credu bod staff y GIG wedi perfformio'n arwrol ac yn rhagorol yn ystod y gaeaf. Meddygon teulu, wrth gwrs, yw'r rheng flaen yn aml. Maen nhw wedi gweithio'n galed iawn. Parafeddygon, rhyfeddol, o ystyried y ffaith eu bod nhw wedi ymateb mor dda i alwadau brys, er gwaethaf y cynnydd enfawr i'r galwadau hynny ac, wrth gwrs, ysbytai a'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Maen nhw'n parhau i gynnal GIG o faint aruthrol sy'n derbyn degau o filoedd o gysylltiadau a galwadau bob blwyddyn. Roedd uchafbwynt amlwg, wrth gwrs, o bwysau yn y flwyddyn newydd ac roedd heriau gwirioneddol, ond mae'n braf gweld sefyllfa lawer gwell a sefydlog erbyn hyn, a adroddwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf.
Prif Weinidog, mae'r stori yr ydych chi'n ei hadrodd yn un o wasanaeth sydd o dan bwysau ond yn ymdopi'n dda, ond ceir stori arall hefyd sy'n cael ei hadrodd gan y cyfryngau, o ysbytai sydd 'fel maes brwydr' i staff y GIG. Ni all y ddwy stori hynny fod yn wir, ac rwy'n credu eich bod chi'n gwybod nad yw paratoadau'r gaeaf wedi bod yn ddigon da. Onid dyna pam y cawsom ni ymddiheuriad gan Vaughan Gething am lawdriniaethau a ganslwyd? Onid dyna pam yr ydym ni'n clywed yr honiad gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu'n feunyddiol, ac mai mwy o gapasiti yw'r ateb? Mae GIG Cymru angen mwy o welyau, mae angen mwy o nyrsys ac mae angen mwy o feddygon. Daeth y £10 miliwn o bunnoedd a gyhoeddwyd dros y penwythnos gyda chyfaddefiad bod pwysau ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy na'r hyn a ragwelwyd. Pam nad ydych chi'n amcangyfrif y pwysau hwn yn ddigonol bob blwyddyn? A ydych chi'n derbyn bellach fod Ysgrifennydd y Cabinet yn anghywir i wneud yr honiad ym mis Tachwedd bod y gwasanaeth yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi â'r gaeaf, ac a ydych chi'n derbyn eich bod chi'n anghywir o ran gostwng nifer y gwelyau ysbyty?
Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir. Ni allai neb fod wedi rhagweld y math o ffigurau a welsom yn ystod y gwyliau; nid wyf yn credu bod unrhyw siawns y gallai unrhyw Aelod yn y Siambr hon fod wedi rhagweld hynny. Mae'n sôn am welyau, ond mae mae'n fwy cymhleth na hynny, yn fy marn i. Mae'n hynod bwysig nid o ran edrych ar welyau, ond o ran cael pobl allan o'r ysbyty pan fyddan nhw'n barod a dyna pam, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, yr ydym ni wedi ei wneud, o'i gymharu â Lloegr lle mae cyllid gofal cymdeithasol wedi ei dorri. Mae'n bwysig bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny a bod y cymorth cywir ganddyn nhw i wneud hynny. Felly, nid yw'n fater syml o nifer y gwelyau; mae'n fater o wneud yn siŵr bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan eu bod yn abl i wneud hynny.
Mae gennych chi darged o 85 y cant ar gyfer gwelyau ysbyty ac rydych chi'n methu â chyrraedd hwnnw fel mater o drefn, sy'n golygu bod diogelwch cleifion yn cael ei beryglu. Rydych chi'n methu â bodloni'r mesur hwnnw o ddiogelwch cleifion, ac mae hynny'n annerbyniol. A, Prif Weinidog, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu eich bod yn hunanfodlon. Nid ni yn unig sy'n dweud hynny; mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys hefyd yn dweud bod angen cynyddu staffio yn y GIG, ac mae gennych chi'r grym i wneud hynny. Heb nyrsys, heb feddygon a heb arbenigwyr, ni fyddai GIG o gwbl.
Rydym wedi clywed llawer o eiriau gwresog dros gyfnod y Nadolig gan wleidyddion yn cefnogi staff rheng flaen y GIG, ac rydych chi newydd dalu teyrnged eich hun. Os ydych chi wir eisiau cefnogi staff rheng flaen y GIG, yna, Prif Weinidog, dylech eu talu'n briodol. Mae'r cap cyflog yn golygu nad yw nyrsys yn cael eu talu'n ddigonol o hyd, ac mae'r grym gennych chi i ddiddymu'r cap cyflog hwnnw. Mae cynllunio'r gweithlu yn un o'r arfau pwysicaf sydd ar gael i chi, ac eto nid ydych chi'n fodlon derbyn yr angen am ysgol hyfforddiant meddygol newydd yn y gogledd. Ni fydd unrhyw Lywodraeth yn San Steffan yn gwneud hyn i ni; cyfrifoldeb eich Llywodraeth Lafur chi yw hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet Llafur bellach wedi cyfaddef cyfrifoldeb am y diffyg cynllunio cyn pwysau'r gaeaf. Mae'n bryd, Prif Weinidog, i chithau wneud yr un peth nawr. O ystyried yr ymddiheuriad hwnnw gan yr ysgrifennydd dros Iechyd, a wnewch chi dderbyn cyfrifoldeb nawr am fethu â hyfforddi digon o feddygon ar gyfer GIG Cymru?
Dim o gwbl. Rydym ni'n gweld bod yr ymgyrch recriwtio yr ydym ni wedi ei rhoi ar waith wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran recriwtio meddygon. Ni allwch chi recriwtio meddygon ar unwaith, yn enwedig arbenigwyr damweiniau ac achosion brys, ac mae'n hynod bwysig—. Mae gennym ni gyfleusterau hyfforddi ar waith, ond mae'n bwysig dros ben bod yr awyrgylch proffesiynol cywir ar waith i gadw meddygon a'u denu yn y lle cyntaf. Nid yw'n ymwneud yn unig â hyfforddi pobl yng Nghymru—nid ydym ni'n awtarciaeth feddygol.
Yn ail, mae'n hynod bwysig deall ac rwy'n credu fod Ysgrifennydd y Cabinet a'r byrddau iechyd lleol wedi gwneud eu gwaith cynllunio. Os edrychwn ni ar y cynnydd sydyn i alw a welsom, ni allai neb fod wedi rhagweld y cynnydd sydyn hwnnw i'r galw. Ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthi: nid wyf i'n derbyn y dylem ni gymryd cyfrifoldeb oddi wrth Llywodraeth y DU o ran y cap cyflog. Pam ar y ddaear ddylai fod rhaid i bobl Cymru ariannu methiant Llywodraeth y DU i ddiddymu'r cap cyflog? Sut gallwn ni gyfiawnhau i bobl sy'n pleidleisio drosom ni y dylem ni dalu am rywbeth y dylai Llywodraeth y DU fod yn talu amdano? Rwy'n cytuno â hi, rwy'n credu y dylai'r cap cyflog gael ei ddiddymu, ond pam ddylai fod rhaid i bobl Cymru dalu amdano pan fo gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i wneud hynny? Mae cynnydd i gyflogau yn y gwasanaeth iechyd yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd: o ble mae'r arian yn dod? Os ydym ni'n mynd i wneud hynny, yna mae'n golygu arian yn dod allan o'r gyllideb yn rhywle arall.
Nid wyf yn anghytuno â hi. Rwy'n cytuno â hi am y cap cyflog. Mae hi a minnau o'r un safbwynt, ond ni allaf gytuno â hi y dylem ni, rywsut, lenwi'r bwlch y mae Llywodraeth y DU ei hun wedi ei greu. Gadewch i'r Torïaid dalu i sicrhau bod pobl Cymru yn gallu talu staff y GIG yn briodol.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddechrau ar nodyn o gyfeillgarwch—na fydd yn parhau, yn sicr—ar gychwyn cyntaf y trafodion, o leiaf, a dymuno blwyddyn newydd dda i'r Prif Weinidog, a'i holl Weinidogion yn wir? Ac rwyf wirioneddol yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw, er fy mod i'n credu ei fod yn annhebygol o gael ei wireddu. Ac a gaf i ddychwelyd at y pwynt a godwyd gan Steffan Lewis gynharach? Rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno â hyn hefyd, a dweud ei fod wir yn ysbrydoliaeth i ni gyd ei fod yma heddiw, ac os nad yw'n rhagolwg rhy frawychus, rwy'n ei gefnogi'n llwyr yn ei frwydr yn erbyn ei glefyd ofnadwy.
Croesawaf y gronfa bontio y mae'r Prif Weinidog wedi ei chyhoeddi, ond onid yw'n cytuno â mi y byddai honno'n llawer mwy effeithiol pe na byddai Llywodraeth Cymru mor benderfynol o besimistaidd am y cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit? Ac a gaf i ofyn iddo, yn 2018, am newid agwedd tuag at y cyfle hwn i Brydain gyfan? Ac os yw'n fwy cadarnhaol a brwdfrydig am y dyfodol, yna bydd gan fusnesau Cymru eu hunain fwy o hyder yn y dyfodol, a bydd buddsoddiad yn cynyddu, a byddwn i gyd yn well ein byd.
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ddymuno'n dda iddo yntau hefyd, a dweud wrtho fy mod i'n ei longyfarch ar ehangiad dros dro ei grŵp? Rwy'n gwybod na wnaeth bara'n hir iawn, ond dyna ni, yn ôl i'r pum enwog.
O ran cronfa'r UE, mae busnesau yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n poeni am Brexit. Maen nhw'n poeni am natur y berthynas fasnachu gydag Ewrop; dyna eu prif farchnad, a pham na ddylai fod? Mae mwy na 60 y cant o'n hallforion yn mynd yno, mwy na 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd yno. Ffantasi yw awgrymu y bydd marchnad neu farchnadoedd newydd yn ymddangos o rywle erbyn y flwyddyn nesaf i gymryd lle yr holl allforion hyn. Os na allwn ni gael ein perthynas gyda'n marchnad agosaf a mwyaf yn iawn, pa obaith sydd gennym ni o gynnal unrhyw fath o gytundeb gydag unrhyw farchnad neu wlad arall?
Mae'n rhaid gwneud hynny'n gyntaf, ac nid ydym ni'n gwybod sut y bydd Brexit yn edrych. Mae'n braf iawn gweld bod Llywodraeth y DU yn symud tuag at ein tir ni, o'i gymharu â lle'r oedden nhw y llynedd. Y llynedd, nid oedden nhw'n mynd i dalu am unrhyw fath o gytundeb ariannol, nid oedd ganddyn nhw ddim diddordeb yn ninasyddion yr UE, nid oedd sôn am gyfnod pontio: maen nhw wedi gwneud hynny i gyd. Rydym ni'n croesawu'r ffaith eu bod nhw wedi symud tuag at y golau yn yr ystyr hwnnw, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod: mae'n bwysig bod yn realistig a pheidio â bod yn freuddwydiwr pan ddaw i Brexit. Yn y refferendwm, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro gan aelodau ei blaid ei hun, 'Bydd cytundeb masnach; gallwn ni fod fel Norwy.' Nawr rydym ni'n clywed, 'Wel, peidiwch â phoeni am gytundeb masnach.' Wel, mae busnesau yn poeni am y diffyg cytundeb masnach.
Wel, a gaf i ymateb i ffraetheb y Prif Weinidog am ehangiad dros dro ein grŵp? Mae UKIP wedi gwneud llawer iawn ers dechrau'r flwyddyn i ddiddanu'r wlad a chodi calonnau pob un ohonom ni. Ond, rydym ni yma i ymladd dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo a byddwn yn parhau y ymladd fel yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda grŵp o bump.
Ond un o'r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i ni os nad ydym yn rhan o'r farchnad sengl yw ein bod ni'n sicrhau rheolaeth ar reoleiddio wedyn. Bydd wedi gweld, yr wythnos diwethaf, bod y gyfarwyddeb marchnadoedd mewn offerynnau ariannol wedi dod i rym drwy'r UE gyfan. Mae hon yn 7,000 o dudalennau o hyd, mae'n cynnwys 1.4 miliwn o baragraffau, mae chwe gwaith maint y Beibl, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ariannol sy'n delio mewn cyfranddaliadau, bondiau, deilliadau—pob offeryn ariannol yn wir—gaffael màs enfawr o ddogfennau, y bydd yn rhaid iddyn nhw eu cyhoeddi a'u cadw am bum mlynedd wedyn, gan orfodi costau aruthrol ar gwmnïau gwasanaethau ariannol. Os ydym ni y tu allan i'r farchnad sengl, gallwn gwtogi'r baich rheoleiddio hwnnw heb unrhyw berygl i'r cyhoedd o gwbl. Mae Dulyn wedi gwneud llwyddiant mawr o ehangu ei busnesau gwasanaethau ariannol trwy gael mantais dreth trwy leihau treth gorfforaeth. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y gallai Caerdydd, fel canolfan ariannol sy'n datblygu, elwa'n fawr ar system rheoleiddio ariannol symlach gan wasanaethu budd y cyhoedd yn briodol? Mae deg y cant o'r bobl sy'n gweithio yng Nghaerdydd yn y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, maen nhw'n cyfrannu £1.2 biliwn y flwyddyn o werth ychwanegol gros ac, yn wir, mae'n £3 biliwn yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y byddai'n beth da pe byddai'n ceisio cael rheoleiddio cymesur yn y sector gwasanaethau ariannol fel ffordd o roi hwb i'r diwydiant gwasanaethau ariannol yma yng Nghymru?
Yn gyntaf oll, nid wyf yn gwarafun gallu ei blaid i ddarparu adloniant i ni, fel y dywedodd yn briodol. Ond, gan droi at y pwyntiau a wna, yn gyntaf oll, nid yw'r mater wedi ei ddatganoli, fel y mae'n gwybod, ond, o ran ei egwyddor, nid wyf yn cytuno ag ef mai dadreoleiddio helaeth yw diben Brexit. Bydd yn rhaid i'n sector gwasanaethau ariannol weithredu yn y farchnad Ewropeaidd o hyd. Os nad yw'n dilyn rheolau'r farchnad Ewropeaidd, ni fydd yn gallu gweithredu yno, a bydd hynny'n arwain at oblygiadau enfawr i swyddi, nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yng ngweddill y DU, yn enwedig yn y Ddinas. Mae'r Ddinas wedi bod yn fan lle mae llawer iawn o weithrediadau Ewropeaidd wedi eu cynnal. Os bydd y rheoliadau yn y DU yn sylweddol wahanol, ni fydd pobl yn dod i'r DU, gan eu bod nhw eisiau gweithredu mewn marchnad fwy.
Yn ail, mae'n rhaid i ni gofio bod argyfwng ariannol 2007 wedi cael ei achosi, i raddau helaeth o leiaf, gan ddadreoleiddio gwasanaethau ariannol, a'r ffaith y rhoddwyd cyfle i arianwyr anghyfrifol chwarae o gwmpas gydag arian pobl, benthyg i bobl nad oedd ganddynt unrhyw obaith o'u had-dalu, a chwalodd y system ariannol o ganlyniad i hynny. Felly, o'm safbwynt i, oes, mae'n rhaid i reoleiddio fod yn gymesur, ond mae'n rhaid iddo fod yno oherwydd, yn blwmp ac yn blaen, o ystyried yr hyn a welsom yn 2007-08, ceir rhai sy'n gweithio mewn canolfannau ariannol mawr yn y byd hwn na ellir ymddiried arian pobl eraill iddynt.
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod nad oedd gan MiFID ddim i'w wneud â'r math o ymddygiad a achosodd yr argyfwng neu ei wneud yn waeth o lawer yn 2008, ac rwy'n atgoffa'r Prif Weinidog, wrth gwrs, bod gennym ni Lywodraeth Lafur, Canghellor y Trysorlys Llafur, a Phrif Weinidog Llafur a oedd ei hun eisiau system reoleiddio ysgafn bryf hynny. Wrth gwrs, dysgwyd gwersi mawr o hynny gan bob un ohonom ni. Ond, mae rheoliad fel MiFID II, sy'n gofyn am storio ac adalw llawer iawn o wybodaeth yn rhy fawr o lawer i unrhyw gorff rheoleiddio allu ei ddefnyddio'n effeithiol. Felly, mae'n gorfodi cost lethol ar gwmnïau ac, felly, ar y cyhoedd yn gyffredinol, sy'n cymryd cyfrifoldeb am bob treth fusnes yn y pen draw, heb unrhyw fudd ymarferol i unrhyw un o gwbl. Canlyniad hynny yw gyrru busnes gwasanaethau ariannol i ffwrdd o Ewrop yn gyfan gwbl i leoedd fel Efrog Newydd, Hong Kong, Singapore ac yn y blaen.
Felly, i Brydain, ceir cyfle gwych ar ôl Brexit, os na allwn ddod i gytundeb gyda'r UE. A ni sicrhaodd neb unrhyw fath o gytundeb masnach gyda'r UE erioed; nid oedd neb yn gallu gwneud hynny. Nid yw yn ein rhodd i orfodi'r UE i ddod i gytundeb gyda ni, y cwbl a ddywedasom ni oedd ei fod o fudd iddyn nhw eu hunain, fel y mae i ninnau, i ddod i gytundeb, ond ni all neb eu gorfodi nhw i wneud hynny. Ond os nad oes cytundeb o'r fath ar gael, yna mae'r byd y tu allan yna yn llawer mwy nag Ewrop: mae 85 y cant o'r economi fyd-eang y tu allan i Ewrop. Oni ddylem ni fod yn gadarnhaol am y cyfleoedd hynny, yn hytrach na bod yn benderfynol o negyddol a dweud fod y dyfodol yn dibynnu ar yr hyn sy'n rhan o economi'r byd sy'n lleihau?
Wel, y peth yw, mae'n gwrth-ddweud ei hun nawr, oherwydd mae'n cwyno am gyfarwyddeb, ond yn y dyfodol, ni fydd gan y DU unrhyw ran o gwbl mewn dylanwadu ar y cyfarwyddebau hynny. Bydd yn rhaid i'r DU eu derbyn nhw neu beidio â chael mynediad at y farchnad Ewropeaidd. Mae llais y DU yn llawer llai nawr o'i gymharu â'r hyn yr oedd yn y gorffennol.
Yn ail, mae'n ymddangos ei fod yn meddwl bod y byd allan yna yn agored i fasnachu gyda'r DU. Mae marchnadoedd eraill yr un mor gaeedig. Os edrychwch chi ar yr Unol Daleithiau, mae honno'n farchnad nad yw'n masnachu'n rhydd gyda gweddill y byd, ac nid yw Tsieina'n gwneud hynny ychwaith, nac India. Mae'n ymddangos bod y syniad hwn ymhlith rhai yn ei blaid, rywsut, bod y byd ddim ond yn disgwyl i ddod i gytundebau masnach rydd gyda'r DU. Nid dyna mae'r gwledydd eraill yn ei ddweud yn sicr, ac yn sicr nid dyna fu'r profiad yn y gorffennol. Chwe neu saith mlynedd yw'r amserlen gyfartalog ar gyfer cytuno cytundeb masnach rydd. Mae gennym ni yn yr Unol Daleithiau Arlywydd sy'n rhoi America yn gyntaf. A yw ef wir yn credu y bydd gennym ni gytundeb masnach rydd teg gyda'r Unol Daleithiau gydag arlywydd sy'n agored ei farn ar ddiogelu diwydiant America? A fydd gennym ni, er enghraifft, TTIP drws cefn o ganlyniad i'r Bil Masnach, sy'n ein gorfodi i breifateiddio rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus—rhywbeth y byddwn yn ei wrthwynebu â'n holl nerth?
Ond, yn y pen draw, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, rydym ni yn y farchnad sengl ar hyn o bryd. Hoffwn i ni aros yn y farchnad sengl neu gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Mae gennym ni lawer iawn o gydgyfeirio â hi eisoes. Os na allwn ni ddod i gytundeb gyda marchnad lle mae gennym ni gymaint yn gyffredin i gychwyn, nid oes gennym ni unrhyw obaith o ddod i gytundeb â marchnadoedd eraill sy'n wahanol iawn, iawn, sydd â gwahanol reoliadau y byddai'n rhaid i ni geisio eu cysoni wedyn. Y farchnad Ewropeaidd yw ein marchnad fwyaf, mae ar garreg ein drws, mae gennym ni ffin dirol â hi, rydym ni'n allforio 60 y cant o'n hallforion iddi. Ni allwn ganiatáu i'n polisi ar y farchnad sengl Ewropeaidd gael ei ddallu gan lol cenedlaetholgar, gwirion.