– Senedd Cymru am 2:48 pm ar 9 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar yr ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Huw Irranca-Davies, i wneud ei ddatganiad.
Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda hefyd.
Rwy’n falch iawn heddiw o lansio ymgynghoriad i lywio datblygiad ein cynigion deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' yn cydnabod bod rhianta hyderus, cadarnhaol a chydnerth yn hanfodol i baratoi plant ar gyfer bywyd, a’i bod yn bwysig darparu cymorth a chefnogaeth i rieni. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o’n hanes yng Nghymru o weithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac o hyrwyddo hawliau plant. Dyma pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Rydym ni eisiau ei gwneud yn glir nad yw cosbi plentyn yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru mwyach.
Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd â'r nod o newid agweddau tuag at sut i fagu a disgyblu plant a phobl ifanc, drwy wneud cosb gorfforol yn annerbyniol a hyrwyddo dewisiadau amgen cadarnhaol. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol mewn rhaglenni rhianta ledled Cymru, ac mewn ymgyrchoedd gwybodaeth fel ‘Magu plant: Rhowch amser iddo’ i gefnogi rhieni i fod y gorau y gallant. Hoffem i’r ddeddfwriaeth gyflymu newid ymddygiadol yn y ffordd y mae rhieni’n disgyblu eu plant, a hoffem hefyd roi cymorth i’r rhieni i deimlo'n hyderus wrth ddewis dulliau disgyblu cadarnhaol a mwy effeithiol.
Mae ein gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen ar blant i dyfu a ffynnu wedi datblygu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r ymadweithio rhwng rhieni a’u plant erbyn hyn hefyd wedi newid mewn ymateb i’r wybodaeth honno, ac mae agweddau'r cyhoedd tuag at arferion rhianta wedi newid hefyd. Rydym ni nawr yn gwybod bod cosbau corfforol yn gallu cael effeithiau negyddol hirdymor ar gyfleoedd bywyd plentyn ac rydym hefyd yn gwybod eu bod yn gosbau aneffeithiol. Er bod cenedlaethau blaenorol yn derbyn cosbi plant yn gorfforol fel arfer arferol, rydym yn gwybod bod mwy a mwy o bobl yn ei ystyried yn llai derbyniol a bod rhieni’n teimlo'n llai cyfforddus wrth ddefnyddio cosbau corfforol. Mae gennym hefyd ymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae'n rhaid inni gadw at yr ymrwymiad hwn.
Cyflwynwyd deddfwriaeth flynyddoedd lawer yn ôl i atal cosbi corfforol mewn ysgolion ac mewn lleoliadau gofal plant, ac nawr yw'r amser i sicrhau nad yw bellach yn dderbyniol yn unman. Rydym ni wedi ymrwymo i ddileu amddiffyniad cosb resymol a hoffem sicrhau ein bod yn datblygu cynigion deddfwriaethol sy'n addas at y diben, yn ogystal â sicrhau bod gennym becyn ehangach o fesurau ar waith i gefnogi rhieni.
Nawr, rwy’n gwybod bod gwahanol safbwyntiau am y ddeddfwriaeth hon. Er mwyn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’i heffaith bosibl, rydym eisoes wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyrff gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i ddatblygu ein cynigion ymhellach a rhoi cyfle i bawb ddweud eu dweud i’n helpu i geisio ymdrin ag unrhyw bryderon wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth. Ac rwy’n awyddus i sicrhau y gall y ddeddfwriaeth hon fynd rhagddi gyda chymaint â phosibl o gytundeb yn y Cynulliad hwn ac yng nghymdeithas Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae’n arbennig o bwysig imi y dylai rhieni fod yn ffyddiog mai bwriad y gyfraith hon a’n hymdrechion ehangach i hyrwyddo rhianta cadarnhaol yw helpu i roi'r dechrau gorau posibl i’w plant mewn bywyd. Dyna yw ein bwriad ac rwy’n croesawu syniadau, drwy'r broses ymgynghori, ynglŷn â’r ffordd orau o gyflawni hynny, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed gan Aelodau heddiw. Diolch.
Weinidog, hoffwn ddiolch yn fawr iawn ichi am eich datganiad heddiw, ac am y cwrteisi yr ydych wedi’i ddangos i mi ac i’m cyd-Aelod, Darren Millar, sydd yn anffodus yn methu â bod gyda ni heddiw, wrth fynd drwy eich cynlluniau a’ch rhesymeg y tu ôl i'r ymgynghoriad. Byddwch yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnwys amrywiaeth eang o bobl sy’n adlewyrchu barn a phryderon rhan helaeth o boblogaeth Cymru, a'r cwestiynau a ofynnwyd ganddynt, a bod amrywiaeth o farn yn ein plith, ac y byddwn felly’n mynd ar hyd y llwybr deddfwriaethol hwn â phleidlais rydd i bob un aelod o’n plaid.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y sgwrs honno’n gynharach. Mae un neu ddau o gwestiynau y teimlaf y byddai'n fuddiol imi eu gofyn a’u cofnodi, ac i roi cyfle ichi i’w hateb i mi ac i Aelodau eraill o'r Siambr hon, ac yn wir i'r cyhoedd yn ehangach. Rwy’n meddwl, yn gyntaf oll, yr hoffwn wir ddeall beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn cyrraedd pobl gyffredin—nid y trydydd sector, nid y gwleidyddion, nid y grwpiau lobïo, nid y rhai hynny ohonom sydd â barn neu sydd efallai eisoes wedi penderfynu, ond rhieni cyffredin a phlant cyffredin nad ydyn nhw'n rhan o unrhyw fath o grŵp neu gang, fel y gallwn gael eu barn, eu syniadau ynghylch beth maen nhw'n ei feddwl oherwydd, wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, beth bynnag yw eich barn, ein bod yn tueddu i fod yn amddiffynnol iawn ynglŷn â’n teuluoedd ein hunain. A hoffwn ichi, wrth wneud hynny, ei gwneud yn gwbl glir ein bod i gyd yn derbyn bod y mwyafrif o rieni yng Nghymru yn unigolion da, cariadus, rhesymol; hoffwn i’r neges honno fod yn uchel ac yn glir. Nid mater o gosbi, gorfodi na rhwystro’r unigolion hynny yw hyn.
Byddwn yn awyddus iawn pe gallech roi ychydig bach mwy o wybodaeth inni am sut y gwelwch yr ymgynghoriad hwn yn bwrw ymlaen ac yn egluro i bobl nid yn unig y cynigion yr ydych wedi’u cyflwyno, ond pa atebion eraill y gwnaethoch edrych arnynt a beth yr ydych chi wedi'i ddiystyru. Cawsoch chi a mi sgwrs am y ffaith ein bod, drwy gael gwared ar y gosb resymol, i bob diben, mewn theori, yn caniatáu i bawb fod ar unwaith yn euog o drosedd. A wnaethoch chi edrych ar ddulliau eraill lle y gallai fod yn bosibl inni fynd allan a helpu a chefnogi'r rhieni hynny sy'n defnyddio cosbau amhriodol, ble bynnag yr ydych ar y raddfa honno. Beth y gwnaeth eich Llywodraeth edrych arno? Beth yr ydych chi wedi'i ddiystyru? Ble arall y gwnaethoch chi edrych, o amgylch y byd, o ran sut y gellid gweithredu hyn mewn ffordd oddefgar a chymesur?
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech efallai yn esbonio ychydig—dyma’r peth olaf, Llywydd—am y prawf cymesur, pe byddai’r ddeddfwriaeth hon yn bwrw ymlaen. Hoffwn roi un enghraifft fer ichi, ac rwy’n credu efallai y rhowch chi un arall imi. Mae gen i athro, er enghraifft, yn sir Benfro, a aeth, ynghyd â nifer o athrawon eraill, â grŵp o blant i gêm rygbi. Ni allaf gofio ai Caerdydd ynteu Llundain oedd hyn, ond roedd yn un o'r dinasoedd hynny. Ac roedd un o'r plant yn llanc ifanc, yn llawn llawenydd neu beth bynnag, a rhedodd allan i’r ffordd. Gafaelodd yr athro ynddo’n rymus, i’w lusgo yn ôl. Gwnaeth y rhieni erlyn yr athro hwnnw am ymosodiad. Mae gan yr athro hwnnw farc du yn erbyn ei enw. I rywun sy’n edrych ar y sefyllfa honno, gallai edrych fel cosb annheg.
Yn bersonol, fel rhiant, byddwn i'n rhoi pryd o dafod i fy mhlentyn ac yn ddiolchgar iawn i'r athro am achub ei fywyd, ond nid dyna brofiad yr athro hwnnw. Ac wyddoch chi, rydym ni wedi gwneud hyn, a gwnaf gyfaddef: rwy’n cofio fy merch fach, pan oedd yn dair oed, yn rhedeg allan o flaen lori concrid yn dod o chwarel Carew. Gafaelodd fy ffrind ynddi, oherwydd roedd gen i gadair wthio â babi ynddi o'm blaen. Roedd Katie wedi gollwng fy llaw a mynd amdani, a gafaelodd fy ffrind ynddi. A gallaf ddweud wrthych, fe wnes i afael yn fy mhlentyn, a dechrau wylo, fe wnes i ei chofleidio hi, a’i tharo ar ei phen-ôl, oherwydd mae’r holl emosiynau cymysg hynny’n ysgubo drwoch chi. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, mewn unrhyw ddeddfwriaeth yr ydym yn edrych arni, ein bod yn gwahaniaethu rhwng moment fympwyol a rhiant sy'n gwylltio’n llwyr yn gyson ac yn curo ei blentyn, a byddai'n rhaid imi ddweud fy mod yn meddwl bod pethau effeithiol iawn yn y system cyfiawnder troseddol eisoes, fel ymosodiad a niwed corfforol difrifol, i ymdrin â hynny.
Ond rwy’n meddwl bod hwn yn faes mor sensitif, ac rwy’n mynd i ddod yn ôl at fy natganiad gwreiddiol: rwy’n credu bod y rhan fwyaf o rieni’n gweithredu o sylfaen dda o gariad, cyfrifoldeb a phersbectif dwfn, gofalgar ar eu teulu, a bod y rhan fwyaf o rieni’n amddiffynnol iawn tuag at eu teulu, a hoffwn wneud yn siŵr nad yw rhieni’n teimlo bod Llywodraeth Cymru, neu Gynulliad Cymru, yn eu cosbi i gyd am bethau nad ydynt efallai hyd yn oed wedi eu gwneud.
Diolch, Angela, ac efallai y gwnaf ddechrau, a dweud y gwir, drwy atgyfnerthu’r neges honno. Rwy’n meddwl y byddem i gyd, yn ôl pob tebyg, yn y Siambr hon, ac yn Llywodraeth Cymru ei hun, yn derbyn ac yn ategu'n llwyr y teimladau hynny sy’n dweud bod y mwyafrif helaeth o rieni yng Nghymru yn rhai sydd eisiau magu eu plant mewn amgylchedd cariadus, a gwneud hynny gyda llawer o ofal, gyda llawer o sylw, gyda llawer o anogaeth, gyda llawer o gymorth, a gan ddangos yr holl agweddau hynny ar rianta cadarnhaol yr wyf i mewn perygl o’u troi’n y slogan fwyaf erioed yma. Mae'n golygu cael eu magu mewn amgylchedd lle maent yn teimlo'n ddiogel a lle maent yn cael eu trysori a’u meithrin, a dyna’n union beth mae’r mwyafrif helaeth o rieni’n ei wneud. Ond, rwyf i’n rhiant i dri o blant. Dydyn nhw ddim yn dod gyda llyfrau rheolau, yn anffodus, oherwydd mae pob un yn wahanol. Mae fel rhai o'r dyfeisiau hynny rydych chi’n eu prynu ar y rhyngrwyd; mae gan bob un geblau gwahanol a phethau gwahanol sy’n eu cysylltu nhw ac ati. Ac rydym yn gwybod, weithiau, bod angen cymorth arnom. Felly, a dweud y gwir, mae rhan o'r ymgynghoriad hwn a rhan o fwrw ymlaen â hyn yn fater o ddarparu’r cymorth cywir i rieni a theuluoedd. A, gyda llaw, nid dim ond sôn am deuluoedd lle y ceir cymhlethdodau mawr o faterion a heriau yr ydym, ond am deuluoedd yn gyffredinol. Felly, mae hynny'n cynnwys, o'r ymwelwyr iechyd sy’n ymweld â theuluoedd i ddechrau, drwy'r ysgolion, drwy Teuluoedd yn Gyntaf, drwy Plant yn Gyntaf, yr holl bethau hynny, i helpu rhieni fel fi gymaint â neb arall. Ond, yn hollol gywir: mae’r mwyafrif helaeth o rieni’n gwneud gwaith gwych, ac yn gwneud hynny gyda'r bwriadau gorau yn y byd.
Y mater dan sylw yma yw: mae gennym yr hyn y byddem yn ei ystyried yn Llywodraeth—ac roedd yn sicr yn ein maniffesto ac mae wedi bod yn destun dadleuon ers cwpl o ddegawdau, gan gynnwys gan rai Aelodau yma pan oedden nhw'n Aelodau Seneddol hefyd, yn dadlau’r achos—cael gwared ar amddiffyniad nad yw, ar hyn o bryd, ond ar gael i rieni pan fyddan nhw'n defnyddio cosb gorfforol yn erbyn eu plant. Allech chi ddim defnyddio’r un amddiffyniad o gosb resymol pe byddech chi, er enghraifft, yn taro rhywun oedrannus â dementia, neu rywun 25 mlwydd oed ag anawsterau dysgu. Allwch chi ddim defnyddio’r un amddiffyniad, ond gallwch chi ddefnyddio’r amddiffyniad, yn llwyddiannus neu beidio, yn erbyn plant. Felly, mae'n fater o ddweud, yn sicr er mwyn cefnogi rhieni, darparu'r cymorth sydd ei angen, nid fel gwladwriaeth nani, ond, a dweud y gwir, mewn partneriaeth dda â rhieni, oherwydd rydym yn gwybod i ba gyfeiriad yr hoffem fynd, ac mae'n mynd i'r cyfeiriad hwn, ac, yn ail, i ddarparu eglurder, a chael gwared ar yr amddiffyniad hwn o gosb resymol.
Angela, gwnaethoch chi ofyn a oeddem wedi ystyried unrhyw opsiynau eraill. Rydym wedi gwneud hynny, ac rydym wedi bod yn ôl ac ymlaen o ran cyngor cyfreithiol, ac rydym wedi dysgu o dros 50 o enghreifftiau o wledydd eraill o wahanol fathau o awdurdodaeth gyfreithiol lle y maen nhw wedi gwneud fersiwn o gael gwared ar yr amddiffyniad hwn ac wedi nodi’n glir mai ymosodiad yw ymosodiad yw ymosodiad. Rydym wedi gallu dysgu oddi wrth hynny. Ond, mae gennym ein lleoliad cyfreithiol ein hunain o fewn y wlad hon a’r paramedrau yr ydym yn gweithio oddi mewn iddynt, a’r cyngor clir, cryf iawn yr ydym yn ei gael yw mai’r ffordd gliriaf o wneud hyn yw cael gwared ar amddiffyniad cosb resymol a’r hyn sydd ar ôl, mewn gwirionedd, yw’r hyn sydd yno ar hyn o bryd o fewn y gyfraith, sef trosedd ymosodiad.
Ar gyfer trosedd ymosodiad, mae angen clirio rhai rhwystrau. Nid yw mor syml â, 'rwyf wedi gweld rhywun a oedd yn gwneud rhywbeth â'u plant ac rwy’n meddwl ei fod yn ymosodiad, roedd yn ddrwg.' Ceir profion tystiolaethol er mwyn i Wasanaeth Erlyn y Goron ddweud, mewn llys barn, 'Rydym yn meddwl bod tystiolaeth yma bod ymosodiad wedi digwydd.' Yn ail, mae angen iddo fod er budd y cyhoedd. Rhan o’r rhesymeg budd y cyhoedd y tu ôl i fwrw ymlaen â chyhuddiad—fel y mae ar hyn o bryd, gyda llaw, ym mhob maes, ac eithrio o ran plant—fyddai nid yn unig a yw er budd y cyhoedd, ond a oes siawns resymol o erlyniad llwyddiannus.
Byddwn yn ei chyfeirio hi ac Aelodau eraill at adran 9 yr ymgynghoriad, oherwydd, o fewn honno, mae'n edrych ar dystiolaeth ryngwladol, ond hefyd y dystiolaeth o lle y defnyddiwyd hyn mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Seland Newydd, gyda model ychydig yn wahanol. Ydy, mae wedi arwain, yn y blynyddoedd cynnar, at gynnydd mewn riportio; mae wedi arwain at erlyniadau ar achlysur; mae hefyd wedi arwain at rybuddio a rhyddhau llawer o bobl, ac, wrth gwrs, yna mae’r niferoedd yn lleihau, oherwydd mae newid diwylliannol yn digwydd—fel gyda deddfau gwregysau diogelwch, fel gyda llawer o bethau eraill—lle mae pobl yn derbyn nad yw'n rhesymol mwyach i gosbi plentyn yn gorfforol, yn ddim gwahanol i unrhyw aelod arall o'r gymdeithas.
Diolch am y briff a roesoch imi ddoe, roedd yn ddefnyddiol. Rwyf wedi bod falch o gefnogi’r ymdrechion hyn yn y gorffennol, fel y mae Plaid Cymru, pan oeddem yn ymgyrchu am hyn—cyn-Aelodau Cynulliad fel Lindsay Whittle a llawer o Aelodau Cynulliad o bob plaid wleidyddol. Rwy’n meddwl ei bod yn hollbwysig datgan, o'r cychwyn cyntaf, nad wyf o blaid cosbi rhieni am ddisgyblu eu plant, ac nad dyna ddylai fod diben y newid hwn, fel yr amlinellwyd eisoes. Mae hyn, a dylai hyn, yn bennaf oll, fod yn fater o gael gwared ar amddiffyniad yn y llys ac o dan y gyfraith sy’n caniatáu i rywun sy’n curo neu’n cam-drin plentyn efallai ei gael yn ddieuog o dan gochl ei bod yn rhesymol i riant neu warcheidwad ddefnyddio grym, ac nid wyf yn meddwl bod hynny’n dderbyniol.
Rwy’n deall bod hon yn ddadl y mae rhai pobl yn teimlo’n angerddol amdani—yn wir, pan ofynnais i bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, cefais fwy o sylwadau nag a gefais erioed, ynglŷn â’r mater hwn—fel unrhyw gwestiwn sy'n mynd at wraidd y berthynas rhwng y bobl, y teulu a'r wladwriaeth, a pha mor bell sy’n rhy bell i’r wladwriaeth fynd. Ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig nodi, o'm safbwynt i, na ddylai ac na fydd unrhyw newid yn y gyfraith er mwyn erlid rhywun sy’n disgyblu eu plentyn mewn eiliad o rwystredigaeth neu banig. Rwy’n gwybod, pan fydd plentyn yn symud tuag at soced plwg neu’n profi amynedd a ffiniau i'r eithaf, pa mor anodd yw hi. Ni ddylai fod dim awydd i gosbi rhieni neu warcheidwaid da, ac rwy’n credu nad oes gan y mwyafrif helaeth o rieni a gwarcheidwaid ddim dymuniad i ddefnyddio cosb gorfforol.
Fodd bynnag, rwy’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hyn yn iawn, neu y perygl yw y bydd rhai elfennau adweithiol yn neidio ar y newid i’r gyfraith, er ei fwriadau da, er mwyn cyfleu polisi sydd, yn ei hanfod, yn bolisi o fwriadau da, ac yn un hir-ddisgwyliedig, dylwn ddweud, fel rhywbeth hyll ac ysgeler ar ran awdurdodau.
Fy nghwestiwn cyntaf, er fy mod yn falch gyda Llywodraeth Cymru, eich bod wedi gweld y goleuni yn hyn o beth, o’r diwedd, yw: beth sydd wedi newid rhwng y tro diwethaf inni drafod y mater hwn yn ystod tymor blaenorol y Cynulliad a nawr? Safbwynt blaenorol Llywodraeth Cymru oedd na fyddai newid y gyfraith ar gosb resymol yn ddichonadwy, gan y byddai’n cael ei herio nid yn unig am ei fod y tu hwnt i'n cyfrifoldebau fel Cynulliad, ond ei fod hefyd yn agored i her mewn llys. A allech chi egluro beth yw’r sefyllfa gyfreithiol nawr, ar gyfer y cofnod, ac a fu unrhyw ddatblygiad sylweddol a fyddai'n golygu nad yw Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried bod hyn yn rhwystr?
Mae'n bwysig gwybod beth y bydd hyn yn ei olygu’n ymarferol, hefyd. Nid ydym ni eisiau i gael gwared ar gosb resymol gael ei ddefnyddio ar gyfer dim mwy na dileu'r amddiffyniad hwnnw mewn achos o gam-drin neu ymosodiad ar blentyn, a rhaid inni wneud yn siŵr na fydd unrhyw lys nac elfen o gyfraith yn gorfodi defnyddio'r newid i’r gyfraith i sianelu erlyniad gorfrwdfrydig yn erbyn rhywbeth diniwed. Felly, soniasoch yn gynharach am brawf budd y cyhoedd. Mae’r rheol de minimis, yn ogystal, hefyd yn berthnasol. Sut byddwn yn siarad â'r llysoedd, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu ynghylch sut y byddent o bosibl yn defnyddio hyn, yn y dyfodol?
Yn y datganiad yn gynharach, gwnaethoch chi amlinellu rhesymau eraill dros y newid hwn i’r gyfraith, fel hyrwyddo—ac rwy’n dyfynnu’r hyn a ddywedasoch—'newid ymddygiad' mewn rhieni. A wnewch chi egluro pa newid ymddygiad sydd ei angen, ac a ydych chi'n gweld bod y newid ymddygiad hwnnw’n rhywbeth sydd yn uwch mewn cymdeithas yng Nghymru nag mewn mannau eraill, neu ei fod yn newid ymddygiad y dylem oll ei gydnabod ynom ein hunain? Oherwydd yr hyn yr hoffwn ei ddeall yw nad dim ond targedu rhai teuluoedd mewn rhai ardaloedd o Gymru yr ydym, ond dweud mai dyma ffordd gyffredinol o drin pobl eraill yn ein cymdeithas. Rwy’n meddwl y byddwn yn fwy cyfforddus o lawer gyda'r math hwnnw o fenter polisi nag y byddwn wrth ddweud y byddai rhai teuluoedd yn fwy euog o hyn nag eraill. Gwnaethoch chi sôn am wledydd eraill, ac rwyf finnau wedi gwneud rhywfaint o ymchwil gyda phobl yr wyf yn eu hadnabod yn Sweden. Cyn belled ag y deallaf, nid yw cyfraith Sweden yn dod gyda chosb. Gofynnais i un unigolyn sy'n gweithio yn y llywodraeth mewn bwrdeistref yn Sweden, ac mae ganddyn nhw 94,000 o drigolion, ond 200 o weithwyr ieuenctid, fel y gallant ddefnyddio gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid, i fynd i mewn i'r cartrefi er mwyn ceisio siarad am newid diwylliant ac ymddygiad. Os yw hyn yn fwriad i chi hefyd, wel, efallai y bydd yn rhaid inni ystyried adnoddau ariannol ar gyfer hyn. Felly, pa mor bell ydych chi wedi mynd gyda hyn, neu a ydych chi'n meddwl bod angen hynny o gwbl?
Un o'm cwestiynau olaf yw: a ydych chi'n fodlon, er mwyn cyfleu’n effeithiol i'r cyhoedd nad yw’r gyfraith bresennol yn ddigon, bod rheswm dilys a chyfiawn dros newid y gyfraith? Rwyf hefyd wedi siarad â rhai pobl i ddweud bod y dyfarniad penodol hwn yn cael ei ddefnyddio mor anaml mewn llysoedd nes nad oes gennych ddigon o ystadegau i gymharu, ac mae'n anodd iawn canfod tueddiadau ohono. Felly, byddai'n ddefnyddiol gwybod, os ydym yn mynd i newid y gyfraith, y bydd yn ystyrlon.
Fy mhwynt olaf am hyn, oherwydd gwrandewais ar y ddadl yn y Cynulliad diwethaf, er na wnes gymryd rhan ynddi, yw ein bod bob amser yn dweud, yn y dadleuon hyn, 'fel rhiant', ac rydych yn teimlo rywsut bod rhieni o bosibl yn fwy cymwys i ddeddfu yn y maes hwn. Ond, ar ôl darllen llawer am hyn, nid dim ond rhieni sy'n gyfrifol. Mae rhieni a gwarcheidwaid, a gofalwyr maeth, a phobl eraill mewn cymdeithas yn gyfrifol. Pan aned fy chwaer, roeddwn yn 17 mlwydd oed, yn troi’n oedolyn. Edrychais ar ei hôl hi gryn dipyn, a chefais i’r cyfrifoldeb rhiant hwnnw. Felly, hoffwn gael y ddadl hon, nid fel rhywbeth na all neb sydd ddim yn rhiant fod â barn amdani, ond fel y gall pawb yn y gymdeithas fod â barn am hyn a gwneud cyfraniad adeiladol. Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, efallai y byddwn mewn sefyllfaoedd lle caiff cyfrifoldebau gofalu eu rhoi inni y tu hwnt i'n rheolaeth, a bydd angen inni wybod sut i ymdrin â phlant yn y mathau hynny o sefyllfaoedd, ond mae angen inni wybod bod y wladwriaeth a phobl eraill mewn cymdeithas yn credu bod gennym y parch a’r gallu, dylwn ddweud, i edrych ar ôl plant, yn union fel rhieni.
Bethan, diolch yn fawr iawn am hynny yn wir. Rwy’n meddwl bod llawer o'r materion manwl yr ydym yn dechrau cyffwrdd arnyn nhw nawr yn rhai y gallwn roi mwy o sylw iddynt wrth i’r ymgynghoriad fwrw ymlaen, ond gwnaf geisio ateb rhai ohonyn nhw nawr hefyd, os yw o gymorth. Mae'n werth dweud hefyd, o ddifrif, yr hoffwn ymgysylltu â holl Aelodau'r Cynulliad o bob plaid ar hyn, fel ein bod yn cael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol, ac mae hwnnw'n gynnig diffuant. Os gallaf wneud unrhyw beth i helpu gyda'r trafodaethau hynny, fi neu fy swyddogion, rwy’n hapus i wneud y cynnig.
Gwnaethoch y pwynt ynghylch peidio â chosbi rhieni â bwriadau da. Gwnaeth Angela bwynt tebyg yn ogystal. Hollol gywir; cwbl gywir. Wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, mae'n rhaid inni daro’r cydbwysedd o gael gwared ar yr amddiffyniad hwn o gosb resymol, sydd, hyd eithaf fy ngwybodaeth, ond wedi bod yn bosibl ei ddyfynnu, mewn gwirionedd, wrth amddiffyn achosion dros y rhai blynyddoedd diwethaf, fwy na thebyg ddwsin o weithiau. Mewn gwirionedd, yn y pen draw dim ond mewn pedwar ohonynt y gellid wir ei ddefnyddio, ac yn y pedwar achos hynny, ar y cyfan, cafwyd yr unigolyn yn ddieuog neu gwrthodwyd yr achos. Felly, mae'n sefyllfa anarferol nad yw wir fel arfer yn arwain at ddim byd mewn llys, ond mae'n sefyllfa anarferol sy’n bodoli. Pan fyddwch yn siarad â gweithwyr proffesiynol rheng flaen sy'n gweithio mewn pethau fel Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, yn gwneud yr ymyriadau hynny—ymyriadau cynnar, doeth, da gyda rhieni—rwyf yn llythrennol wedi cael y sgwrs hon â nhw a dweud, 'Ydy’r eglurder y byddem yn ei roi gyda hyn yn broblem ichi, ynteu a fyddai'n helpu?' Ac mae pob un, pob menyw—oherwydd menywod yw pawb yr wyf wedi siarad â nhw sy'n gwneud yr ymyriadau rheng flaen hyn gyda theuluoedd—wedi dweud, 'Mae hyn yn rhoi’r eglurder y byddai ei angen inni.' Felly, yn ogystal â’r rhianta cadarnhaol, y cymorth a’r cyngor a’r gefnogaeth yr ydym yn eu rhoi i rieni, gallwn nawr ddweud, 'Edrychwch, gyda llaw, nid cosbi corfforol yw hyn; mae yna ffyrdd eraill, ac rydych chi'n gwybod y gallwn wneud hynny', ac rydym yn mynd ymlaen. Nid er mwyn cosbi rhieni â bwriadau da, ond i’w gwneud yn gwbl glir na fydd amddiffyniad o gosb resymol.
Does dim byd yn newid, gyda llaw, o ran pa gosbau sydd ar gael. Soniasoch am fater cosbau. Mae’r cosbau yn aros fel y maent ar gyfer ymosodiad, ac mae'r un profion tystiolaethol a phrofion lles y cyhoedd yn gymwys i ymosodiad. Y Cyngor Dedfrydu sy’n gosod canllawiau ar gyfer ymosodiad. Mae'r Cyngor Dedfrydu, a dweud y gwir, yn gosod canllawiau ar wahân sy'n ymwneud ag ymosodiad ar blant. Maent hefyd yn gosod canllawiau ar wahân sy'n ymwneud ag ymosodiad ar blant gan rieni sydd o dan 18 oed. Mae'r rheini i gyd yno. Does dim o hynny’n newid o gwbl, ond mae'n cael gwared ar ddefnyddio cosb resymol fel amddiffyniad am ymosodiadau yn erbyn plentyn.
Gwnaethoch chi ofyn, yn hollol ddealladwy, beth sydd wedi newid. Rwy’n meddwl ein bod wedi cael cyfnod o gasglu tystiolaeth i ddangos, un, y gallwn fwrw ymlaen mewn gwirionedd ac y gallwn wneud hynny ar sail gyfreithiol gadarn; ond, yn ail, casglu’r dystiolaeth fyd-eang honno sydd nawr yn dangos beth sy'n gweithio o ran rhianta cadarnhaol, yr effeithiau negyddol cyfanredol ar draws plant sy’n cael cosbau corfforol, a, hefyd, cyngor cyfreithiol hefyd—cyrraedd y pwynt lle gall cyngor cyfreithiol awgrymu—. Gyda llaw, rhaid imi fod yn hollol onest: nid wyf yn dweud na chaiff hyn ei herio’n gyfreithiol, oherwydd gallai hynny ddigwydd. Ond, yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yn iawn o ran cymesuredd yw bod hawliau plant, sydd yn hawliau cyffredinol a diamod o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, yn cael eu cydbwyso hefyd yn erbyn yr erthyglau hawliau Ewropeaidd hynny sy'n amddiffyn hawliau’r teulu a hawliau crefydd. Ond, mae ffordd o wneud hynny oherwydd mae’r ddwy gyfres hynny o hawliau—y ddwy olaf—yn hawliau amodol. Os gallwch chi ddangos bod y mesurau hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur, fel yr rydym wedi'i wneud cyn hyn mewn meysydd polisi eraill, gallwch wir effeithio ar yr hawliau amodol hynny, os yw hawliau plant o ran amddiffyn y plant hynny yno o fewn y prif ddiben.
A oes gennym dystiolaeth o newid agweddau a newid ymddygiad? Oes. Unwaith eto, ni wnaf adrodd yr hyn sydd yn y ddogfen, ond rwy’n gobeithio y bydd pob rhiant, a phob gwarcheidwad a phob gofalwr, yn ogystal â sefydliadau, yn edrych ar y ddogfen hon. Rydym wedi ceisio rhoi cryn dipyn o’r wybodaeth orau sydd ar gael inni ynddi. Ond, ydynt, mae agweddau yng Nghymru’n newid ac mae agweddau yn y DU yn newid. Yr hyn sy'n arwyddocaol yw, lle mae'r dull hwn wedi’i ddefnyddio mewn gwledydd eraill, i’w gwneud yn glir na chewch chi ymosod yn gorfforol ar blentyn, bod hynny ynddo ei hun wedi creu newid oherwydd arwyddocâd pur dweud, 'Dim amheuaeth, dim os nac oni bai.' Mae wedi creu newid ynddo ei hun; mae’r agweddau tuag at gosb gorfforol wedi newid o ganlyniad i gyflwyno'r gyfraith hon. Mae ychydig yn debyg i’r gyfraith gwregysau diogelwch neu gyfreithiau eraill tebyg.
Yn olaf, soniasoch am y pwynt yno o ddefnyddio’r adnoddau presennol yn effeithiol. Mae'n hanfodol, i wneud i hyn weithio, ein bod yn gweld beth yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd ar lawr gwlad. Unwaith eto, ni wnaf ei adrodd fesul pennod ac adnod, ond maent wedi'u gosod allan yma: popeth rhwng ymyriadau iechyd, ymyriadau addysg, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, ardaloedd Plant yn Gyntaf ac ati. A ydym yn gwneud yn siŵr, ar draws y sector, ein bod yn rhoi’r cymorth cywir i’r rhieni cywir a’r teuluoedd cywir o dan yr amgylchiadau cywir yn gynnar iawn, fel ein bod yn osgoi cyrraedd y sefyllfa lle mae plant yn cael eu cosbi’n gorfforol?
Diolch am y cwestiynau. Rwy’n gwybod y byddwn yn dychwelyd at fwy o'r rhain yn fanwl wrth fwrw ymlaen â hyn, ond hoffwn hefyd wahodd Aelodau i ymgysylltu â mi wrth i’r ymgynghoriad hwn fwrw ymlaen, fel y gallaf glywed mwy o safbwyntiau fel hwnnw.
A gaf i yn gyntaf oll ddweud cymaint yr wyf yn croesawu'r ymgynghoriad hwn a llongyfarch y Gweinidog am ei gyflwyno fel un o, bron, ei weithredoedd cyntaf ar ôl cymryd y swydd? Dywedodd y Gweinidog fy mod i wedi ymwneud â hyn ers amser maith fel AS. Mae gennym hefyd Simon Thomas, a fu hefyd yn ymwneud â hyn fel AS, ac roeddwn yn cofio pan aethom i Stockholm fel grŵp, a daeth Jane Hutt hefyd, yn ogystal â Christine Chapman, ac eraill efallai—ni allaf gofio nawr. Rwy’n meddwl, mewn gwleidyddiaeth, eich bod yn dysgu bod angen strategaeth hir arnoch chi. Mae'n debyg mai dyna yw fy nghasgliad ynglŷn â’r rhan fwyaf o faterion yr wyf erioed wedi ymwneud â nhw. Ond, eto, rwyf wir yn croesawu hyn.
Dim ond rhai cwestiynau byr sydd gennyf i’w gofyn, oherwydd rwy’n gwybod y cawn yr holl drafodaeth fanwl pan fyddwn mewn pwyllgor. Ond, yn amlwg, mae Llywodraeth yr Alban yn mynd drwy'r un broses bron ar yr un pryd â ni, felly tybed a ydych chi wedi cyfathrebu o gwbl â Llywodraeth yr Alban ac a ydych chi wedi dysgu o’r hyn y maen nhw wedi llwyddo i'w wneud hyd yn hyn. Y cwestiwn arall oedd: o ran amserlen, rwy’n gwybod mai ymgynghoriad 12 wythnos yw hwn—beth yw'r amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth ar ôl hynny?
Rwy’n meddwl eich bod wedi dweud y byddwn yn edrych eto ar y newid agwedd sydd wedi digwydd ymysg rhieni; rwy’n meddwl bod hynny yno yn y ddogfen ymgynghori. A ydych chi wedi cael unrhyw gyfle i edrych ar sut y mae plant yn gweld y mater hwn? Oherwydd rwy’n meddwl bod hwnnw’n beth eithaf pwysig i edrych arno. Rwy’n meddwl bod rhai astudiaethau wedi cael eu gwneud i ddangos barn plant, ond rwy’n meddwl bod hynny'n rhywbeth y dylem yn sicr ei wneud fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn enwedig o ystyried y ffaith nad yw plant yn cael eu hamddiffyn cystal ag oedolion o dan y gyfraith fel y mae ar hyn o bryd.
Y cwestiwn olaf, wedyn, yw gofyn i chi, gan—wyddoch chi, rydych chi'n amlwg yn gweld hyn fel rhan o becyn o hawliau plant, ac rwy’n gwybod bod CCUHP wedi annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wneud hyn ar sawl achlysur, felly rwy’n siŵr y byddech chi'n gweld hyn fel y cyfle i gydymffurfio'n llawn â CCUHP, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo’n llawn iddo.
Julie, a gaf i ddiolch yn fawr ichi am y cwestiynau hynny, ond hefyd ddiolch yn gwbl ddiffuant i chi ac eraill dros y blynyddoedd sydd wedi ymgyrchu ar hyn yn hir ac yn galed? Rwy’n gwybod bod y broses wedi bod fel Sisyphus yn gwthio’r graig yn barhaus i fyny’r rhiw ac yna’n ei gweld yn rholio’n ôl ar gyfer y bore wedyn. Ond rwy’n meddwl ein bod yn agos nawr, ac mae hynny'n dda i’w weld. Ac mae hynny’n dod â mi at—. Os caf i ymdrin yn gyntaf â’ch cwestiwn am y ddeddfwriaeth, os mai ewyllys y Cynulliad hwn yw pasio’r newid deddfwriaethol hwn a gwneud yn siŵr bod y pecyn cywir ar waith gennym a bod yr adnodd yn cael ei ddefnyddio’n dda, gallem symud ymlaen ar hyn yn gyflym, o bosibl o fewn trydydd tymor y Cynulliad. Nawr, mae hyn yn amodol ar i'r rheolwyr busnes ganiatáu hynny ac ati, a’i fod yn flaenoriaeth, ond nid wyf yn amau, pe bai'r Cynulliad yn cefnogi hyn yn gryf—ac mae'r Cabinet, rwy’n gwybod, yn awyddus i weld hyn yn symud ymlaen—gallem ei weld mor gynnar â’r trydydd tymor.
Soniasoch am cynnig Llywodraeth yr Alban—yn wir, ac mae pobl wedi gofyn imi, 'oni fyddai'n braf pe gallai Cymru gyrraedd yno yn gyntaf, cyn yr Alban?' Ond, edrychwch, un o fanteision—. Byddai'n braf cyrraedd yno cyn yr Alban, ond Bil Aelod preifat sy'n cael ei defnyddio fel cyfrwng yn yr Alban, ond y gwir yw ei bod, yn ôl pob tebyg, yn bwysicach cyrraedd yno yn y ffordd gywir a gwneud yn siŵr bod y darn cywir o ddeddfwriaeth ger ein bron. Gallai fod yn fantais, o bosibl, cyrraedd ychydig ar ôl yr Alban, oherwydd hi, o’r holl wledydd yr ydym wedi edrych arnyn nhw, yw’r debycaf o ran ei hawdurdodaeth droseddol a’i chorff o gyfraith achos. Yn wir, pe byddem yn edrych ar rai o'r pethau y maen nhw yn eu dysgu ar hyn o bryd, gallai ein helpu i lunio hyn a lleihau, rhaid imi ddweud hefyd, y siawns y gallai her gyfreithiol lwyddo yn ei erbyn. Fodd bynnag, rydym yn cydweithio'n agos â swyddogion ac rwy’n edrych ymlaen at siarad â'm cymheiriaid yn Senedd yr Alban hefyd a Llywodraeth yr Alban i drafod eu cynigion a'u hamserlen yn fanwl.
Julie, soniasoch am sut y mae plant yn gweld cosbau corfforol. Rydym yn cyfeirio at rywfaint o hynny, yn ddefnyddiol gobeithio, yn y ddogfen. Ceir cryn dipyn o dystiolaeth bellach bod y plant—nid yw'n anodd deall pam—yn eithaf clyfar ac yn gallu mynegi’n effeithiol—plant o wahanol oedrannau hefyd—y ffaith eu bod nid yn unig yn gweld cosbau corfforol yn ddiangen ac ati, ond yn wirioneddol niweidiol o ran sut y maent yn effeithio arnynt, nid yn unig yn gorfforol, ond yn emosiynol, ac ar y berthynas â gofalwyr, y berthynas â gwarcheidwaid, ac â rhieni, ond maent hefyd yn eithaf clir wrth ddweud eu bod yn cydnabod mai’r ffordd orau o ddisgyblu a sbarduno ymddygiad da yw’r dull gweithredu mwy cadarnhaol hwnnw o gydnabod ymddygiad da, gwobrwyo ac annog, a gosod ffiniau clir. Mae yna ffyrdd o ddisgyblu heb fod angen cosbi corfforol.
Ac, yn olaf, o ran CCUHP, rwy’n meddwl ein bod yn ddigon clir, o ran deddfwriaeth flaenorol yr ydym wedi’i chyflwyno drwy'r lle hwn sy’n berthnasol i CCUHP, y byddai hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth, ynghyd â phecyn ehangach, a fyddai’n rhoi Cymru ar flaen y gad, nid yn unig o ran bodloni gofynion y Confensiwn, ond ar flaen y gad unwaith eto o ran sut yr ydym yn ymdrin â hawliau plant ac yn amddiffyn yr hawliau plant hynny. Felly, rydym yn edrych ymlaen at yr ymgynghoriad a'r safbwyntiau a gyflwynir, ond rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â hyn.
Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am gymryd yr amser i gysylltu â mi ddoe, i drafod pethau â mi, ac i roi datganiad imi y bore yma. Rwy’n gwerthfawrogi, tra yr ydym yn y camau ymgynghori ar y pwnc hwn ac nad yw y ddeddfwriaeth ar waith eto, ei fod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth arfaethedig fel un sy’n dileu amddiffyniad cosb resymol. Mewn termau symlach, bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn gwybod y gelwir hyn yn waharddiad ar smacio, yn syml. Yn ystod ymgynghoriad, mae'n bwysig ein bod yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, oherwydd mae'r pwnc hwn yn un dadleuol, ac, yn amlwg, yn un sensitif. Mae llawer o faterion i'w hystyried yma cyn rhoi gwaharddiad ar waith. Rhaid inni ofyn i ni'n hunain: a yw’r wladwriaeth yn ymestyn ei chrafangau i fywyd y teulu—wyddoch chi, pa mor bell yr ydym ni'n barod i fynd â hyn? A pha mor effeithiol fyddai’r gwaharddiad?
Rydym i gyd yn cytuno bod rhaid inni annog rhianta cadarnhaol. Edrychais ar ôl dau o blant am flynyddoedd lawer ac ni wnes i eu smacio unwaith. Nid fy mhlant i oedden nhw. Roeddwn i'n gofalu amdanyn nhw yn barhaol am amser hir iawn, ond gweithiodd pethau’n iawn inni heb ddim smacio o gwbl. Mae hawliau plant yn bwysig, ond edrychais ar ddyfyniadau dwy fam ynghylch gwahardd smacio—roedd y ddwy ohonynt yn anghytuno ag ef—a dywedodd un: 'Mae gwahaniaeth rhwng disgyblu plant a’u cam-drin. Mae rhianta y dyddiau hyn yn llawer rhy feddal, a dyna pam mae gennym bobl yn rhedeg o amgylch y stryd heb ddim parch i awdurdod. Rwy’n teimlo dros athrawon. Y disgyblion sy’n rheoli’r athro nawr. Chaiff athrawon ddim gwneud dim byd i ddisgyblu’r plant, ac, yn y mwyafrif o achosion, dydy’r cymhellion ddim yn gweithio a dydy athrawon ddim yn cael gwneud pethau ac mae llawer o rieni’n meddwl nad yw hyn yn ddigon da.'
Felly, mae'n agored i ymgynghoriad, ac, wyddoch chi, dim ond dweud barn pobl eraill yr wyf fi. Mae gan bawb hawl i’w safbwyntiau gael eu clywed. Dyma'r hyn yr wyf i'n ei ddweud—dyfyniad gan rywun arall—ac mae ganddyn nhw bob hawl i gyflwyno’r dyfyniad hwnnw.
Wrth inni sôn am effeithiolrwydd gwaharddiad o'r fath, hoffwn ofyn sut y caiff ei roi ar waith, sut y caiff ei orfodi, sut y byddwn yn ysgwyddo’r gost—wyddoch chi, beth fydd yn ei gostio? A dywedodd ail riant hefyd ei bod yn meddwl bod pobl sydd o blaid y gwaharddiad eisiau inni drin plant fel oedolion bach, fel pobl y gallwch chi resymu â nhw, ond weithiau allwch chi ddim rhesymu â phlant. Dydy plant ddim bob amser yn deall eu meddyliau eu hunain ac maen nhw'n tueddu i wthio ffiniau. Ac maen nhw wedi gofyn, 'os ydyn nhw’n gwahardd smacio, a allwch chi roi datrysiadau inni? Mae eu cadw nhw yn y tŷ, neu gymryd breintiau oddi arnyn nhw, yn aneffeithiol ar y cyfan.' Yna aeth ymlaen i ddweud, 'Roedd pobl o fy nghenhedlaeth i’n cael eu smacio ac roeddwn i'n teimlo ein bod ni’n dipyn mwy cytbwys na rhai o'r genhedlaeth iau nawr.' A dywedodd hi, 'Roedd fy mhlentyn cyntaf yn cael ei smacio. Dydy smacio i ddisgyblu ddim yn golygu crasfa, ac, erbyn yr adeg pan oedd fy ail blentyn yn tyfu i fyny, roedd llawer o wrthwynebiad yn y cyfryngau i smacio, felly ni chafodd yr ail blentyn ei smacio. Cafodd hi ei rhoi ar y stepen ddrwg, ac ni chafodd hyn ddim effaith o gwbl; roedd ei chadw yn y tŷ yn union yr un fath. Felly, o ran y canlyniadau, roedd y cyntaf yn dangos llawer mwy o barch tuag at unrhyw fath o awdurdod na’r ail. Roedd dau o athrawon yr wyf yn eu hadnabod yn methu aros i symud i Dubai i addysgu oherwydd, yn eu geiriau eu hunain, "O ran disgyblaeth, does dim cymhariaeth. Yn Dubai, gallwn ni wneud yr hyn yr ydym ni'n cael ein talu i’w wneud, sef addysgu. Ychydig iawn o faterion disgyblu sydd yma, ond, yn anffodus, mae Cymru ar goll. Nid oes gennym ddim bwriad i ddychwelyd. Rydym yn addysgu, ac mae’r plant yn dysgu. Mae pawb yn ennill".'
Felly, ein gwaith ni fel gwleidyddion yw helpu rhieni i fod y rhieni gorau posibl. Rydym yn annog ac yn meithrin ffordd o fyw, efallai, yn hytrach na gwahardd, a rhaid ymdrin â cham-drin pan gaiff ei gydnabod a’i gosbi gan y gyfraith. Rhieni sy'n byw gyda'u plant 24/7 a rhaid inni ddeall a pharchu eu hawliau hefyd i geryddu, o fewn rheswm, y plant y maen nhw'n dod â nhw i'r byd. Diolch.
Caroline, diolch yn fawr iawn. Rwy’n meddwl bod hyn yn dangos pam, yn yr ymgynghoriad 12-wythnos, yr hoffem ni gael pob barn i mewn i hyn, ond heb fod dan unrhyw gamargraff mai’r bwriad yma yw cael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Nawr, unwaith eto, i gyfeirio at y ddogfen, yr ydym wedi treulio llawer o amser arni—yn y ddogfen ymgynghori, mae’n cyfeirio at yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill ac nid yw wedi arwain at giwiau o rieni a gwarcheidwaid y tu allan i lysoedd yn aros i gael eu herlyn; nid yw wedi arwain at fasgedi o erlyniadau. Mae wedi arwain, gyda llaw, at bethau fel cynnydd sydyn yn y cwpl o flynyddoedd cyntaf o fwy o riportio, ond nid yw hynny wedi arwain at erlyniadau diddiwedd. Yr asesiad yw bod gan hynny gymaint i'w wneud â’r ymwybyddiaeth o fewn cymdeithas mai effaith deddfwriaeth fel hyn, yn sydyn, yw nad dyna’r ffordd orau o ddisgyblu plentyn, mewn gwirionedd, defnyddio cosb gorfforol.
Ond bydd amrywiaeth eang o safbwyntiau’n cyfrannu at hyn. Byddwn yn tynnu, Caroline, eich sylw at dudalen 21 y ddogfen, sy’n edrych ar rai o'r astudiaethau ynghylch agweddau tuag at gosbi plant. Yn ôl yn 1998, gwnaeth yr Adran Iechyd astudiaeth o 2,000 o oedolion ym Mhrydain—ar yr adeg honno, dywedodd 88 y cant o rieni, 'Weithiau mae angen smacio plant drwg.' Tachwedd 2015, arolwg Llywodraeth Cymru: cytunodd 24 y cant o rieni fod angen smacio plant drwg weithiau. Mae pethau’n symud: rwy’n siarad â phobl sy'n dweud hyn wrthyf. Os ydych chi wedi gweld yr arolygon o farn rhieni dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, maen nhw'n dweud, 'Dydy’r hyn yr oedd fy rhieni’n meddwl ei fod yn normal ddim yr un fath â’r hyn yr oedd eu neiniau a’u teidiau’n nhw yn ei feddwl' ac ati. Nid yw hynny’n golygu, gyda llaw, eu bod yn rhieni gwael; doedden nhw ddim, o gwbl. Ond mae cymdeithas yn symud, rydyn ni’n symud gyda hi, ac weithiau mae angen i’n deddfwriaeth ddal i fyny â beth yn union sy'n digwydd a’i gwneud yn glir, hefyd, rhaid imi ddweud, i rywun mewn llys, beth yn union sy'n dderbyniol a beth sydd ddim.
Soniasoch chi am gostau. Rwy’n siŵr y bydd llawer o gyflwyniadau yn ystod yr ymgynghoriad hwn ar y pecyn ehangach hwnnw o gefnogaeth. Nid ydym ni'n rhagweld unrhyw gost ychwanegol yma o ran llysoedd neu erlyniadau ac ati, oherwydd dydy’r dystiolaeth ddim yn dangos bod hynny'n digwydd, ond efallai y caiff awgrymiadau eu cyflwyno o ran ble i ddefnyddio’r adnoddau o ran cymorth i rieni neu ofal cymdeithasol ac ati, ac ati, ac ati, a byddwn yn edrych ymlaen at gael y rheini.
Ac, yn olaf, gwnaethoch chi y pwynt, fel y gwnaeth eraill, am ledaenu hyn i gynulleidfa mor eang â phosibl. Anghofiais ddweud, Angela, ac eraill, wrth ymateb, bod yr ymgynghoriad, wrth inni siarad, wedi mynd yn fyw ar y wefan a’i fod yn ymgynghoriad da a hawdd i ymateb iddo, a byddwn yn annog Aelodau i hysbysebu hyn i'w hetholwyr yn eu cylchlythyrau rheolaidd ac ati i wneud yn siŵr bod pobl yn rhoi eu barn. P'un a ydynt yn rhiant neu beidio, bydd ganddyn nhw farn am hyn. Felly, gallan nhw roi eu barn. Diolch.
A gaf ddweud bod yr ymgynghoriad hwn a'r ddadl genedlaethol y bydd nawr yn ei hysgogi, gobeithio, i’w croesawu’n fawr? Fi yw’r unig Aelod Cynulliad Ceidwadol sydd wedi gwasanaethu pob Cynulliad hyd yma. Dyma'r pumed, ac, yn y cyntaf, cawsom ddadl am gosbi plant yn gorfforol ar gynnig yr wyf yn meddwl a gynigiwyd gan Christine Chapman ac roedd naw o Geidwadwyr yn y Cynulliad ar y pryd, a phleidleisiodd tri ohonom o blaid y cynnig hwnnw. Felly, bu cefnogaeth drawsbleidiol i hyn ac, yn amlwg, mae pobl o bob plaid sy'n teimlo y dylid cadw’r amddiffyniad. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy'n hanfodol yw ein bod yn cael y ddadl hon yng nghyd-destun hyrwyddo’r dulliau rhianta mwyaf cadarnhaol ac amgylchedd lle mae ein plant yn cael cyfle i ffynnu. Un o'r pryderon y mae angen inni eu cofio yw nad y smacio de minimis, fel y'i gelwir, sy’n digwydd mewn diwylliant sy'n caniatáu hynny sydd bwysicaf; mae hynny’n ymosodiad corfforol bach iawn. Y pryder yw bod hynny’n gwneud defnyddio grym corfforol yn dderbyniol i ryw raddau, ac y gellir colli rheolaeth ar hynny, ac y gallai fod yn haws atal y mathau hynny o gam-drin mewn diwylliant sy'n dweud, 'Mae'r gyfraith yma yn glir iawn, iawn'. Ac rwy’n meddwl bod angen inni gofio’r plant hynny sy'n agored i niwed corfforol gwirioneddol weithiau, er fy mod yn derbyn yn llwyr bod hynny'n bell y tu hwnt i unrhyw beth y byddai’r mwyafrif helaeth o rieni’n ei ystyried yn rhesymol o gwbl.
A gaf ddiweddu drwy ddweud bod rhaid inni, yn anffodus, wynebu y ddadl hon fel mater o gyfraith droseddol? Ac nid wyf yn meddwl bod hynny'n ddefnyddiol. Rwy’n meddwl ei bod yn llawer gwell sôn am gyfreithlondeb rhywbeth, ac, os ydym yn newid y gyfraith, ei bod yn well o lawer dweud nad yw cosb gorfforol yn gyfreithlon mwyach, ac os yw’n digwydd, y byddai disgwyl ymyriad, ond yn y mwyafrif helaeth o achosion, y byddai’n anffurfiol ac yn llawer llai nag unrhyw achos troseddol. Dyna fy nealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd yn rhyngwladol, a dyna beth y dylem fod yn ei annog. Rwy’n canmol Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â hyn nawr, ac rwy’n siŵr y cawn sgwrs helaeth iawn â phobl Cymru yr ydym yn eu gwasanaethu. Bydd llawer o safbwyntiau, ac mae’n ddigon teg i Caroline fynegi barn pobl sydd â barn wahanol, ond rwy’n meddwl bod angen dadl lawn a phriodol. Yn fy marn i, 20 mlynedd yn ôl, roeddwn yn teimlo ei bod yn bryd inni symud ymlaen, ond rwy’n sicr yn meddwl hynny nawr.
David, a gaf i ddiolch ichi am eich sylwadau? Efallai eich bod chi ac Aelodau eraill yma o flaen eu hamser, ond nawr mae’r cynnig hwn yn dal i fyny â chi. Unwaith eto, hoffwn bwysleisio y byddwn yn sicr yn ceisio bwrw ymlaen â hyn gyda chefnogaeth drawsbleidiol mor eang â phosibl, ac wrth yr Aelodau hynny sydd cyn hyn wedi mabwysiadu safbwyntiau gwahanol i'r cynnig presennol, byddwn wir yn dweud 'Ymgysylltwch â ni, byddwch yn agored o ran yr hyn yr ydym yn ei gynnig.' Rwy’n hapus i drafod hyn hyd syrffed gyda phobl, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, oherwydd rwy’n meddwl bod yr hyn sydd gennym ger ein bron yn gymesur, yn gytbwys, ac yn canolbwyntio'n gryf ar y mater o agwedd gadarnhaol at rianta, gan gydnabod bod rhieni eisiau gwneud y peth iawn i’w plant—weithiau, mae angen cymorth ar bob math o rieni i wneud hynny. Ond mae hefyd yn fater o roi, yn hollbwysig, yr eglurder hwnnw a nodwyd gennych, David, i bobl allan yna yn y gymdeithas ehangach, gan fy nghynnwys i, ond hefyd i lysoedd barn, fel y ceir symlrwydd ac eglurder a bod pobl yn gwybod lle maen nhw yn sefyll, ac fel bod y bobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen yn gwybod lle maent yn sefyll hefyd wrth roi cyngor i rieni a gwarcheidwaid. Felly, diolch ichi am eich cefnogaeth ac rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu â chi a llawer o bobl eraill ar hyn.
Yn olaf, Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a myfyrio hefyd ar y ffaith ein bod wedi cael cyngor ac ymatebion cadarnhaol iawn gan bobl fel yr Athro Sally Holland, y comisiynydd plant annibynnol. Cyn iddi ddod yn gomisiynydd plant, roedd hi’n athro polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf hefyd yn cydnabod y dystiolaeth a ddarparwyd dros y blynyddoedd, i fynd yn ôl at y ddadl y mae David Melding newydd gyfeirio ati yn y sesiwn gyntaf, gan y sector gwirfoddol plant hefyd. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn gallu edrych at, a throi at, y sector gwirfoddol plant sefydledig ac uchel ei barch—Barnado's, yr NSPCC, Plant yng Nghymru—sydd wedi bod yn glir iawn am hyn ers y dyddiau cynnar hynny o ran y drafodaeth.
Hoffwn hefyd ddiolch i Aelodau fel Julie Morgan am ei chefnogaeth barhaus i’r newid hwn yn y gyfraith ers iddi fod yn AS ac yn ei hamser fel AC. Yn wir, hoffwn ddweud fy mod wedi bod yn Weinidog ac y gallwn hyd yn oed fod wedi ymateb i’r ddadl honno a ysbrydolwyd gan Christine Chapman, a dweud bryd hynny, ‘Ydym, rydym ni eisiau symud ymlaen ar hyn.’ Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr agenda rhianta cadarnhaol, a bod hynny’n digwydd nid yn unig o ran aros am ymatebion, ond rwy’n cofio ein bod wedi ariannu canllawiau da iawn ar reoli ymddygiad. Roedd dwy ddogfen, ac rwy’n meddwl y cawsant eu cynhyrchu gan weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, pobl sy'n gweithio gyda'r plant. Roedd dogfen ar gyfer plant o dan bump, ac wedyn roedd yn ymwneud â rheoli ymddygiad, a rheoli ymddygiad plant dros 10 oed hefyd.
Dyma lle y mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cyfleu’r wybodaeth honno, felly rwy’n gobeithio y byddwch hefyd yn gwneud yn siŵr bod y canllawiau rhianta cadarnhaol a'r cyngor sydd ei angen arnom i gyd—. Ac rwy’n meddwl bod Bethan Jenkins wedi gwneud pwynt pwysig iawn: bod hyn yn berthnasol i bob oedolyn—ac, yn wir, Caroline hefyd. Mae’n ymwneud ag oedolion sy'n gofalu am blant, a’r cyngor y gallwn ei roi. Ond rwy’n credu bod y ffordd yr ydych chi fel Gweinidog wedi bwrw ymlaen â hyn yn rhagorol, gan ystyried y materion mor fanwl, a’ch ymrwymiad personol eich hun i archwilio’r mater hwn.
Jane, diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth hirdymor yn hyn o beth. Yn gwbl briodol, rydych yn cydnabod swyddogaeth y comisiynydd plant wrth ddadlau dros hyn ers cryn amser. Rwy'n deall iddi fod yn gefnogol i'r cynigion yr ydym yn eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac mae hi wedi dweud hynny—ond mae'r amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector gwirfoddol hefyd wedi ymgyrchu ers amser hir dros hyn. Ac rwy'n sicr y bydden nhw i gyd—fel y bydd eraill sydd o farn wrthgyferbyniol hefyd—yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwn wrth iddo fynd rhagddo. Rydych, yn gwbl gywir felly, yn pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio unwaith eto ar yr agwedd rhianta cadarnhaol, ac fe wyddom ni—ac rydym yn cyfeirio at hynny yn y ddogfen ymgynghori—lle gallwn weld y manteision. Ceir manteision gwirioneddol, gydag enghreifftiau rhyngwladol, o'r effaith fuddiol a hirdymor ar y plant a'r bobl ifanc hynny wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion, drwy'r dulliau cadarnhaol o rianta, yn hytrach na chosb gorfforol.
Ond gwyddom hefyd mai adeiladu y mae hyn ar y gwaith yr ydym eisoes wedi gwneud cymaint ohono yng Nghymru. Eto, nid wyf yn mynd i'w darllen nhw nawr ar gyfer y cofnod, ond maen nhw yno yn y ddogfen ymgynghori. Y cwestiwn yw: ai'r rhain yw'r ymyriadau cywir, wrth fynd ymlaen, a oes angen eu mireinio a'u haddasu, a oes gennym yr adnoddau digonol, a oes angen inni adleoli'r adnodd? Ond gwyddom na fydd hyn yn digwydd ar hap; bydd yn digwydd o'r llwybr a osodwyd gan y Cynulliad hwn, a Llywodraethau olynol, ynghylch y ffordd yr ydym yn ymdrin â rhianta, teuluoedd a phlant yng Nghymru. Credaf mai agenda gadarnhaol a blaengar iawn fu hon erioed, a dyma'r cam diweddaraf. Ond mae'n mynd â ni ymlaen at gam sy'n diffinio, lle byddwn ni mewn gwirionedd yn dweud bod gennym ni, ar gyfer plant a rhieni Cymru, ddull lle mae eglurder yn y gyfraith, ac mae eglurder pwrpas hefyd o ran rhianta cadarnhaol. Ac rydym yn gwybod bod gennym ni fel Llywodraeth, ac fel Cynulliad, swyddogaeth allweddol wrth symud hyn yn ei flaen. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog.