2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn y DU mewn perthynas â chadw siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn rhan o gyfraith y DU yn dilyn Brexit? OAQ51510
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir na ddylai'r ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd arwain mewn unrhyw ffordd at lastwreiddio amddiffyniadau hawliau dynol, neu yn wir, unrhyw amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol neu gyflogaeth. Rwy'n llwyr gefnogi'r safbwynt hwnnw ac yn dadlau drosto.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Ni fydd dull Llywodraeth y DU o drosglwyddo cyfraith yr UE i gyfraith y DU drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn darparu'r amddiffyniadau a ddylai fod gennym ar gyfer cynnal siarter hawliau sylfaenol yr UE ar ôl inni adael yr UE. Mae uwch-gyfreithwyr yn bryderus iawn y bydd i Lywodraeth y DU wrthod ymgorffori'r siarter yng nghyfraith y DU yn glastwreiddio amddiffyniadau hawliau dynol. Er enghraifft, maent wedi amlygu'r hawl annibynnol i gydraddoldeb o dan erthygl 21, nad oes unrhyw beth yn cyfateb iddi mewn cyfraith ddomestig. Yn wir, nid oes gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 statws cyfansoddiadol chwaith. Mae'n amlwg fod dadansoddiad cyfreithiol Llywodraeth y DU yn debyg i'w dadansoddiad sectorol—twyll pur. Wedi inni adael yr UE, mae Cymru yn awyddus i barhau i fod yn genedl sy'n parchu pawb ac sydd wedi cadw'r hawliau a gawsom yn yr UE mewn statud. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar yr hawliau y mae dinasyddion Cymru wedi eu cael fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, a sut y mae wedi defnyddio'r Bil parhad a baratowyd ganddi i gynnwys unrhyw amddiffyniad o'r hawliau hynny?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel yr eglura ei gwestiwn, mae'r siarter hawliau sylfaenol yn ymestyn y tu hwnt i'r confensiwn ar hawliau dynol ac yn cynnwys hawliau eraill; soniodd am hawliau cydraddoldeb—ceir eraill sy'n ymwneud â data personol ac ati. Fe'i gwnaed yn glir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gynhyrchwyd flwyddyn yn ôl gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fod angen inni fod yn wyliadwrus ac yn benderfynol wrth adael yr UE nad yw'r amddiffyniadau a'r safonau sydd o fudd i'n dinasyddion a llesiant y gymdeithas yn gyffredinol yn cael eu herydu. Am y rheswm hwnnw, a rhesymau eraill, rwyf eisoes wedi nodi ein pryderon nad yw Bil yr EU (Ymadael) yn cynnwys amddiffyniad ar gyfer y siarter ei hun.
Nawr, sonia yn ei gwestiwn fod peth trafodaeth neu anghydfod cyfreithiol ynghylch y siarter honno, ond mae'n amlwg y gellir ei defnyddio mewn modd ymarferol i warchod hawliau dynol pobl ledled y DU. Mewn penderfyniad gan y Goruchaf Lys cyn diwedd y llynedd, er enghraifft, defnyddiwyd y siarter i ddatgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol nad oedd yn unol â darpariaethau'r siarter. Felly, mae hawliau a rhwymedïau cyfreithiol cwbl eglur a diamwys ar gael i aelodau o'r cyhoedd o ganlyniad i ymgorffori'r siarter.
Fel y soniodd yr Aelod, ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU, yn ei geiriau ei hun, ddadansoddiad o'r gymhariaeth rhwng darpariaethau'r Ddeddf a'r gyfraith barhaus ar ôl Brexit, a pharheir, yn anffodus, na fydd siarter yr UE wedi'i chynnwys yn y Bil, sy'n destun cryn bryder.
Fe sonioch am y Bil parhad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir mai'r lle i gadw'r amddiffyniadau hynny rwyf newydd eu crybwyll yw Bil ymadael newydd y DU. Mae'r ddau ohonom yn ymwybodol o welliannau a fydd yn cael eu cynnig yn y Senedd mewn ymgais i sicrhau bod y Bil yn cynnwys y pethau hynny. Fodd bynnag, pe bai'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno ein Bil ein hunain, yn amlwg, byddem yn ceisio gwneud popeth y gallem i sicrhau na fyddai hawliau dinasyddion Cymru yn cael eu herydu.
Diolch yn fawr iawn i David Rees am godi'r pwnc pwysig yma. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi bod yn edrych ar hawliau dynol yn y misoedd diwethaf, yn benodol ar yr union fater rydych yn ei godi: y pryder a ddangoswyd gan nifer o sefydliadau ledled Cymru am effaith penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid deddfwriaeth ddomestig.
Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, fe glywsom ni gan nifer o arbenigwyr a oedd yn dadlau nid yn unig fod gan y Cynulliad y pŵer i gyflwyno Deddf hawliau dynol i Gymru, ond hefyd fod yna ddadl gref dros wneud hynny er mwyn amddiffyn Cymru rhag unrhyw wanhau yn nhermau hawliau dynol ein dinasyddion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Beth ydy'ch barn chi am gael Deddf hawliau dynol i Gymru?
Fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae setliad datganoli Cymru yn golygu bod y Senedd a Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n wastad o fewn cyd-destun Deddf Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig, a dyna mae Llywodraeth Cymru yn moyn gweld yn parhau: bod y fframwaith hynny sydd yn darparu'r hawliau yn fewnol i bobl yng Nghymru yn parhau tu hwnt i'r cyfnod y byddwn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yn unig trwy'r Human Rights Act, ond hefyd, fel y clywsoch chi foment yn ôl, drwy'r siarter sydd yn ehangu hawliau pobl yng Nghymru. A dyna hoffwn i ei weld—y Ddeddf yn San Steffan yn cael ei diwygio i sicrhau bod y rheini yn parhau yn rhan o ddeddfwriaeth Prydain i gyd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig—San Steffan, Caerdydd, Caeredin a Belfast—yn hollol abl i amddiffyn hawliau dynol gwladolion Prydain? Nid oes arnynt angen unrhyw gymorth gan farnwyr anetholedig yn Lwcsembwrg. Pan oedd y siarter hawliau sylfaenol yn cael ei thrafod, sicrhaodd y Llywodraeth Lafur ar y pryd drefniadau eithrio rhag ei darpariaethau drwy brotocol 30 cytuniad Lisbon, a dywedodd Llywodraeth Blair na fyddai'r DU yn rhwym i ddarpariaethau'r siarter. Ond er gwaethaf geiriad protocol 30, a oedd yn ddigon clir yn ôl pob golwg, mae Llys Ewrop, mewn enghraifft eithriadol o actifiaeth farnwrol, wedi diystyru dymuniadau'r Llywodraeth Lafur ar y pryd ac wedi cymhwyso darpariaethau'r siarter i ddeddfwriaeth Brydeinig mewn rhai meysydd pwysig iawn, fel diogelu data, er enghraifft. Mae'n bwysig iawn parchu cyfreithlondeb democrataidd, yn yr un modd ag y dylid parchu hawliau dynol, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE, nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd unrhyw un o hawliau pobl Prydain yn cael eu glastwreiddio mewn unrhyw ddull na modd.
Wel, mae'r ymosodiad hwn ar farnwyr a'r ymosodiad ar eu didueddrwydd yn rhinwedd y ffaith eu bod yn anetholedig yn camddeall cyfansoddiad Prydain yn gyfan gwbl, mewn gwirionedd. Maent yno i weithredu'n ddiduedd ac maent yn gwneud hynny, ac yn y lle hwn dylem wrthwynebu unrhyw ymgais i danseilio'r canfyddiad hwnnw drwy honiadau o fethu â bod yn ddiduedd oherwydd eu bod yn anetholedig.
Fe sonioch am brotocol 30: nid yw'n ymwneud â Llys Cyfiawnder Ewrop yn cymhwyso hynny yn wyneb gwrthwynebiad gan y DU. Fel yr atebais yn y cwestiwn yn gynharach, defnyddiodd Goruchaf Lys y DU y siarter honno mewn achos ychydig cyn y Nadolig i ddatgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i fethiant i gydymffurfio â hynny, ac mae'n rhy optimistaidd o lawer ynghylch lefel yr amddiffyniadau a fydd yn cael eu rhoi i hawliau dynol os na chedwir y darpariaethau hyn yng nghyfraith y DU. Unig nod Llywodraeth y DU wrth newid y darpariaethau hynny yw eu glastwreiddio, a chredaf y dylem geisio gwrthsefyll hynny ar bob cyfle yn y Siambr hon.