3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Bil Ymadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru o ystyried na chyflwynwyd gwelliannau yn ymwneud â datganoli i'r Bil gan Lywodraeth y DU? 97
Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi nifer o welliannau i'r Bil heddiw, ond nid ydynt yn ymateb i'n gwrthwynebiad sylfaenol ni i'r Bil, yn enwedig y ffaith nad yw'n parchu'r setliad datganoli. Rydym yn dal i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda'r bwriad o gytuno gwelliannau i'w cyflwyno yn Senedd San Steffan, ond nawr, wrth gwrs, yng nghyfnod Tŷ'r Arglwyddi.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y cadarnhad nad yw'r gwelliannau a addawyd a oedd yn ymwneud â'r setliad datganoli, a chymal 11 yn arbennig wrth gwrs, wedi'u cyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, fel yr addawodd Ysgrifennydd Gwladol, dros yr Alban, ond ar ran Llywodraeth y DU gyfan? Credaf fod hynny'n siomedig dros ben. Mae'n ddwbl y siom oherwydd mae'n golygu bod gennym lai o amser fel Cynulliad i ystyried y gwelliannau hynny, ac mae'n siomedig o safbwynt y rheini yn San Steffan, oherwydd, wrth gwrs, nid ASau wedi'u hethol a fydd yn craffu ar y gwelliannau hyn bellach, ond Tŷ’r Arglwyddi, a dylai Tŷ’r Arglwyddi fod yn ail Siambr ac yn ben draw'r daith ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol, nid y man cychwyn ar gyfer trafodaethau ynglŷn â datganoli a'r berthynas rhwng rhannau cyfansoddol yr ynysoedd hyn. Felly, mae'n fethiant dwfn ac enbyd ar ran Llywodraeth San Steffan mewn gwirionedd ac mae'n uniongyrchol gysylltiedig ag ad-drefnu'r Cabinet yn ddiweddar, oherwydd mae'n uniongyrchol gysylltiedig â Damian Green yn gadael a'r ffaith na chafwyd unrhyw arweinyddiaeth dros gyfnod y Nadolig i bwyso am ystyried y gwelliannau hyn yn San Steffan.
Ond y cwestiwn y mae'n rhaid ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru yn awr yw: pam parhau i ymddiried yn y Torïaid? Pam rhoi dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn nwylo Llywodraeth Geidwadol sy'n methu â chyflawni ei haddewidion—ar yr achlysur hwn, ond sawl gwaith yn y gorffennol yn ogystal? Pam na wnewch chi gyflwyno eich Bil parhad eich hunain yn awr, fel y nodwyd yn flaenorol gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Bil yr ydych wedi'i baratoi ac sy'n barod gennych, ac y gallwch bellach ei ddefnyddio fel dull gofalus o sicrhau nad ydym ar ein colled yn sgil y trefniadau yn y dyfodol wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Mae'n hanfodol fod parch yn cael ei ddangos i'r Senedd hon, fel y bydd, ac i'r setliad datganoli. Nid yw cyflwyno prif welliannau munud olaf na ellir eu trafod na'u dadansoddi'n briodol i ganfod eu perthnasedd i'n dyfodol cyfansoddiadol yn ffordd ymlaen. Rwy'n ymbil arnoch: peidiwch ag ymddiried yn y Torïaid mwyach; cyflwynwch eich Bil parhad eich hun.
Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ar ddechrau ei sylwadau? Mae'n hynod siomedig fod Llywodraeth y DU, ar ôl rhoi ymrwymiad pendant i gyflwyno gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd, wedi methu gwneud hynny. Eu naratif drwy gydol Cyfnod Pwyllgor y Bil oedd eu bod am wrando ar yr hyn a ddywedwyd ac y byddent yn myfyrio ar hynny. A dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn hollol glir, yn ystod rhan o'r ddadl honno, mai canlyniad yr ystyriaeth honno fyddai gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd. Felly, wrth gwrs, rydym yr un mor siomedig nad felly y mae.
Gadewch i mi roi sicrwydd i'r Aelod nad wyf erioed wedi ymddiried yn y Torïaid ar y mater hwn nac unrhyw fater arall—[Torri ar draws.] Wel, pe bawn, buaswn wedi bod yn siomedig iawn yn yr achos hwn, oni fuaswn? Ond yr hyn sy'n rhaid i'r Llywodraeth gyfrifol ei wneud yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr ymrwymiad a wnaeth, ac felly byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, David Lidington, heddiw gan ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl y sicrwydd a roddwyd i'r Alban ac i Gymru yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion y byddai swyddogion yn cyfarfod ar frys fel y gallem weithio tuag at yr hyn y gobeithiwn y byddai'n gyfres o welliannau wedi'u cytuno i'r Bil ymadael—fod angen i'r trafodaethau hynny ddigwydd ar frys. Maent wedi cael eu gohirio, yn union fel y dywed Simon Thomas, oherwydd cyfyngderau'r blaid Geidwadol. Oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu, bu'n rhaid i weddill y Deyrnas Unedig oedi cyn cael y trafodaethau hanfodol bwysig hyn.
Safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw y byddem yn hoffi gweld y Bil ymadael yn llwyddo. Byddem yn hoffi bod mewn sefyllfa lle gallem gytuno ar welliant i gymal 11 gyda'r Llywodraeth Geidwadol a chyda Llywodraeth yr Alban, a gallem gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad hwn y gallem ei argymell i'w gymeradwyo. Ond rwy'n dweud eto wrth y Siambr hon ac wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig, os nad ydynt yn y sefyllfa honno, os ydynt yn parhau i lusgo traed, os ydynt yn parhau i fethu cael y trafodaethau angenrheidiol, mae gennym Fil parhad. Mae gennym Fil parhad rydym wedi'i baratoi, sydd mewn cyflwr sy'n barod i'w gyflwyno, ac os na allwn gael ateb drwy ddilyn y llwybr rydym yn ei ffafrio, sef drwy roi trefn briodol ar y Bil ymadael, bydd yn rhaid i ni gyflwyno'r Bil y mae Simon Thomas wedi cyfeirio ato.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cytuno â llawer o'r sylwadau rydych wedi'u gwneud, ond wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae pethau mor anobeithiol o fewn y Llywodraeth Dorïaidd fel bod ganddynt bellach Weinidog Brexit, Suella Fernandes, sy'n dweud yn agored y byddai'n wych peidio â chael bargen—y canlyniad economaidd gwaethaf posibl bron i Gymru, ond mae hi o'r farn y byddai'n wych peidio â chael unrhyw fargen o gwbl. Mae gennych Lywodraeth Dorïaidd sydd mor anobeithiol o ran ei safbwynt economaidd a'i methiant i ddenu unrhyw hygrededd go iawn yn ei thrafodaethau â'r UE fel ei bod, mewn gwirionedd, yn sôn am ein harwain i gytundeb masnach i ymuno â bloc masnachu'r Môr Tawel, rhywbeth a allai achosi cryn bryder, rwy'n siŵr, o ran yr hyn y gallai ei effaith bosibl fod ar economi Cymru. Craidd y broblem mewn gwirionedd yw bod gennym Lywodraeth sy'n analluog i ddatrys y materion hyn.
Fy mhryder i yw ble y bydd y llif hwnnw'n mynd â ni, oherwydd mae bellach yn symud nid yn unig at y cwestiwn a allwn gael trefn iawn ar y Bil ymadael, ond os na allwn wneud hynny, yna daw rôl Tŷ’r Arglwyddi i mewn iddi, bron fel bloc seneddol cyfansoddiadol, o ran cynnal confensiwn Sewel, a gwrthod cynnig cydsyniad deddfwriaethol gan Gymru a chan yr Alban, a fydd felly'n golygu argyfwng cyfansoddiadol yn ogystal ag argyfwng democrataidd ac argyfwng economaidd. Mae hefyd yn gwestiwn ynglŷn â'r ffaith bod y Llywodraeth, drwy'r drws cefn, yn dilyn deddfwriaethau eraill sy'n gysylltiedig â Brexit hefyd fel y Bil Masnachu, sydd yr un mor ddrwg, os nad, mewn gwirionedd, yn waeth bron, oherwydd y ffordd y mae'n argymell defnyddio uchelfraint frenhinol, a'r ffaith nad yw'n gallu rhoi unrhyw ymrwymiad ar y llinellau coch ariannol a fyddai hefyd yn hanfodol o ran y sefyllfa ar ôl Brexit. Felly, yn yr amgylchedd hwnnw, ble mae'r sail dros ymddiriedaeth? Mae'n ymddangos i mi fod hanner y Llywodraeth Dorïaidd yn ddi-glem ac yn analluog, a'r hanner arall yn dweud celwydd. Felly, i ble'r awn ni o'r fan hon?
Wel, Lywydd, byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw fargen yn drychinebus i economi Cymru ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid wyf yn credu y gallwn ddweud hynny'n rhy aml nac yn rhy uchel. Mae unrhyw leisiau ar ben arall yr M4 sy'n parhau i ddadlau y bydd Brexit heb fargen yn beth da i'r Deyrnas Unedig yn gaeth i'w golwg ideolegol ar y byd ac nid ydynt yn ystyried yr holl dystiolaeth a ddarperir i Lywodraeth y DU ddydd ar ôl dydd, nid gan Lywodraeth Cymru yn unig, ond gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, gan gydffederasiwn y cyflogwyr, gan gymdeithas y cyfarwyddwyr. Mae tystiolaeth o'r angen i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus, a hynny mewn ffordd rydym yn credu sy'n ein cadw mor agos ag y gallwn at y farchnad sengl mewn undeb tollau, gan ganiatáu i fusnesau yng Nghymru a swyddi yng Nghymru gael eu hamddiffyn—dyna'r math o Brexit rydym yn annog Llywodraeth y DU i fynd ar ei drywydd.
Yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae'n dasg anodd iawn, yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi'i hamlinellu—rydym yn ceisio alinio ein hunain gyda, ac yn ceisio cryfhau'r lleisiau hynny yn Llywodraeth y DU sy'n barod i ddadlau dros ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd sy'n rhoi anghenion ein heconomi yn gyntaf. Weithiau, mae'n anodd clywed y lleisiau hynny yn stŵr y safbwyntiau eraill sy'n gwrthdaro o fewn y Llywodraeth ei hun, ond mae'n hanfodol mai ein gwaith ni yw cyflwyno'r achos, y gwyddom ei fod yn un cadarn a diogel, dros y math o Brexit sydd ei angen ar Gymru, a cheisio sicrhau bod yr achos hwnnw'n cael ei glywed gan y rhai yn Llywodraeth y DU sydd ag ymagwedd fwy ystyriol tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd.
A gaf fi gytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda phopeth a ddywedodd Mick Antoniw, yn enwedig ar y Bil Masnachu, ac rwy'n credu bod hwnnw'n peri pryder mawr oherwydd mae'n adlewyrchu parhad o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â hyn, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywed Simon Thomas—er efallai y buaswn yn herio'r ffaith mai'r unig reswm y cafwyd ad-drefnu oedd oherwydd bod Damian Green wedi gadael ychydig cyn y Nadolig—? Cawsant fis cyn hynny, pan gafodd gwelliannau eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, i ddod i drafod a sefydlu gwelliannau posibl ar gyfer y Cyfnod Adrodd, ac nid ydynt wedi gwneud hynny o hyd. Felly, mae'n peri pryder i mi, oherwydd mae'n dangos nad ydynt eisiau trafod gyda chi mewn gwirionedd, a byddant yn ceisio gwthio hwn drwy Dŷ'r Arglwyddi. Felly, yn yr ystyr hwnnw, a ydych yn cynnal trafodaethau gyda'r Arglwyddi i edrych i weld a allwch ailsefydlu gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn methu cynnig rhywbeth synhwyrol? A hefyd, a fyddwch yn edrych ar y Bil parhad i edrych ar yr amserlenni y mae angen i ni fynd i'r afael â hwy? Oherwydd mae'r amserlen yn dynn iawn yn awr. Os oes angen i ni sicrhau bod y Bil parhad ar waith a'i fod wedi cael ei gymeradwyo, mae'n rhaid i ni wneud hynny cyn i'r broses seneddol ddod i ben, ac mae amser yn mynd yn fwyfwy prin, po fwyaf o amser y mae hyn yn ei gymryd. Rwy'n siŵr fod Llywodraeth y DU yn hollol ymwybodol o hynny ac yn ei wthio i'r pen cymaint â phosibl, felly mae'n rhaid i ni ddechrau bwrw ymlaen â hyn.
Nid wyf yn ymddiried yn y Torïaid yn Llundain, ac yn wir, gwrandewais ar ddadl Torïaid yr Alban, fel y dywedais wrthych ddydd Llun yn ein sesiwn graffu. Os gwrandewch ar y ddadl honno, nid oes gennyf unrhyw hyder y byddant yn bwrw ymlaen â hyn mewn gwirionedd. Ymddengys eu bod yn derbyn beth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud, ac nad ydynt, mewn gwirionedd, yn ymdrin â'r materion datganoledig sy'n rhaid i ni fynd i'r afael â hwy—materion datganoledig y mae Ceidwadwyr yr Alban yn Senedd yr Alban yn cytuno â ni yn eu cylch. Felly, mae angen i ni ddatrys hynny, ac nid oes ffydd yn Llywodraeth y DU.
Wel, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod Llywodraeth Cymru yn effro iawn i faterion yr amserlen mewn perthynas â Bil parhad, ac ni fyddwn yn peidio â chyflwyno Bil parhad oherwydd ein bod wedi methu'r terfynau amser angenrheidiol—rwy'n eich sicrhau o hynny.
Rwyf eisiau diolch i David Rees am dynnu fy sylw at adroddiad gan bwyllgor yn Senedd yr Alban ddoe, a lofnodwyd gan holl Aelodau Ceidwadol y pwyllgor hwnnw, sy'n ei gwneud yn glir na fyddant yn cefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil ymadael fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, ac mae hynny'n rhan o'r siom y maent yn ei wynebu, ar ôl negodi fel roedden yn credu—gan mai mewn ymateb i Dori Ceidwadol, Aelod Ceidwadol o'r Alban yn Nhŷ’r Cyffredin, y rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ei sicrwydd yn yr hyn a oedd yn amlwg yn weithgaredd a oedd wedi'i drefnu ymlaen llaw yn Nhŷ'r Cyffredin. Ar ôl negodi hynny, fel y'i gwelent, cawsant eu siomi gan y cyhoeddiad ddoe, a chredaf y gallwch weld hynny yn yr adroddiad hwnnw yn ogystal.
O ran y Bil Masnachu, rhannaf y pryderon y mae Mick Antoniw a David Rees wedi eu mynegi y prynhawn yma. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi cyflwyno ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil hwnnw, ac mae'r Alban bellach wedi cyflwyno eu hun hwythau hefyd. Rydym yn ailadrodd y pryderon sydd gennym am y Bil ymadael wrth iddynt ailymddangos yn y Bil Masnachu. Os na allwn gael y Bil ymadael yn iawn, a gallu argymell memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, felly, ar lawr y Cynulliad hwn, mae'n anodd gweld sut y gallwn fod mewn unrhyw sefyllfa wahanol mewn perthynas â'r Bil Masnachu.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf hefyd i'w ateb gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid, a'r cwestiwn gan Suzy Davies.