1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Ionawr 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP—Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn ddymunol, er mwyn sicrhau gwerth am arian mewn contractau cyhoeddus, y dylai fod amrywiaeth resymol o ymgeiswyr credadwy. Nid oedd yn gwbl eglur i mi o'r ateb a roddodd yr Ysgrifennydd dros gyllid i Adam Price yn gynharach beth fydd effaith cyfreithiol methiant Carillion o ran cynnig Abellio. Dim ond tri o gynigwyr sydd yn yr ornest ar hyn o bryd. Os caiff Abellio ei dynnu ohoni, mae hynny'n golygu, wrth gwrs, mai dim ond dau gais sydd gennym. Beth yw goblygiadau hyn i'r egwyddor gyffredinol honno o sicrhau gwerth am arian trwy gael cystadleuaeth gredadwy am y contractau mawr hyn? Mae hwn yn gontract sy'n effeithio nid yn unig ar fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, ond hefyd ar drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn rhan o'r prosiect metro, a bydd y contract hwn yn cael ei osod am 15 mlynedd. Felly, mae iddo ganlyniadau hirdymor. Tybed a allai'r Prif Weinidog roi ychydig mwy o eglurhad i ni ar y pwynt hwn.
Nid yw'n gyfrinach mai'r sefyllfa ddelfrydol o'n safbwynt ni fyddai wedi bod gallu rhedeg rheilffyrdd Cymru trwy fusnes dielw, hyd braich a fyddai'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ond fe'n rhwystrwyd rhag gwneud hynny gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain. Maen nhw'n hapus i ganiatáu i'r Alban wneud hynny, ond cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, dydyn nhw ddim yn hapus i ganiatáu—[Torri ar draws.] Mae'n ochneidio yn ddi-baid, arweinydd yr wrthblaid, unwaith eto, ddim yn cefnogi hyn, wrth gwrs—ond y gwir yw ein bod ni wedi ein rhwystro rhag gwneud hynny. Ond, serch hynny, dyna oedd y dewis a ffafriwyd. Fe'n rhwystrwyd rhag gwneud hynny.
Gofynnodd y cwestiwn am Abellio. Mae gan Trafnidiaeth Cymru yr arbenigedd priodol ar gael i ymdrin â hyn. Rydym ni mewn trafodaethau gydag Abellio Rail Cymru am y sefyllfa gymhleth—ac mae'n gymhleth—sy'n deillio o'r cyhoeddiad. Er bod yr anawsterau a gafwyd gan ran o un o'r cynigwyr consortiwm yn siomedig, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar y gwerthusiad i gadw caffael ar y trywydd iawn. Gallaf ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i werthuso'r cynigion cystadleuol a dderbyniwyd a sicrhau triniaeth gyfartal i'r cynigwyr yn unol â chyfraith caffael.
Wel, gyda'r hyn sydd wedi digwydd yr wythnos hon, er na ellid bod wedi ei ragweld yn hyderus, roedd yn amlwg bod posibilrwydd uchel bod Carillion yn mynd i fynd i drafferthion na allai gael ei hun allan ohonynt. Wedi'r cyfan, cawsom ni'r rhybudd elw cyntaf ym mis Gorffennaf. Ym mis Medi, gostyngodd y cyfranddaliadau yn Carillion 60 y cant mewn dau ddiwrnod. Dair wythnos wedi hynny, roedd rhybudd elw arall. Ar 17 Tachwedd, rhybuddiodd Carillion ei fod yn mynd i fynd yn groes i'w gyfamodau bancio, ac mae'n rhaid bod hynny wedi mynd i galon hygrededd y rhan honno o gynnig Abellio, ac o ystyried mai nhw oedd y partner adeiladu a ffafriwyd, roedd hyn yn amlwg yn arwain at oblygiadau aruthrol i hygrededd y cynnig hwnnw.
A gymerwyd unrhyw gamau gan Trafnidiaeth Cymru, neu unrhyw gyfranogiad gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod ar ôl mis Gorffennaf i geisio diogelu'r broses ymgeisio rhag y posibilrwydd o fethiant cynnig Abellio? Oherwydd, pe byddai Abellio wedi gallu cael gafael ar ryw bartner adeiladu eraill, neu gadw un wrth gefn yn y cyfamser, efallai y byddai hynny wedi gallu achub yr elfen hon o'r broses ymgeisio.
Rwy'n credu bod peryglon o ran Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu yn y modd hwnnw gyda chynigiwr. Mae'n rhaid cael pellter rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r cynigwyr eu hunain. Mater i Abellio Rail Cymru yw rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n hyderus y gall eu cynnig symud ymlaen, a bydd y trafodaethau yn parhau ar y sail honno o ran sut y gellir gwneud hynny. Rydym ni'n gwybod bod rhybudd elw ym mis Gorffennaf. Mae'r gallu i edrych yn ôl yn beth gwych, ond nid wyf i'n credu y gallai neb, heb sôn am Lywodraeth y DU, fod wedi bod yn ymwybodol o faint y problemau o fewn Carillion. Yn amlwg, nid oeddent yn barod, ac rwy'n credu y byddai llawer wedi canfod eu hunain yn y sefyllfa honno. Rwy'n credu efallai mai'r teimlad oedd bod Carillion yn rhy fawr i fethu, ond, yn anffodus, rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n wir. Serch hynny, rydym ni'n sôn am ran o un o'r cynigwyr consortiwm. Mae'n fater nawr o weld a ellir llenwi'r rhan honno.
Wel, mae'n amlwg mai'r ateb i fy nghwestiwn yw bod y Llywodraeth a Thrafnidiaeth Cymru wedi eistedd ar eu dwylo yn ystod y cyfnod hwnnw, ond byddaf yn ei gadael hi yn y fan yna.
A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy nifyrrwch bod Philip Green, Cadeirydd Carillion ers 2014, yn gynghorydd ar gyfrifoldeb corfforaethol i David Cameron a Theresa May fel Prif Weinidog, ac y caniatawyd i Brif Weithredwr blaenorol Carillion, Richard Howson, adael y cwmni ychydig fisoedd yn ôl gyda chytundeb 12 mis o £660,000 mewn cyflog a £28,000 mewn budd-daliadau tra bod y cwmni wedi bod yn gwneud i gwmnïau bach aros hyd at 120 diwrnod am daliad ar eu contractau? Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi ar gyfrifoldeb cymdeithasol gyda'r cwmnïau sy'n contractio â hi. Does bosib bod talu'n brydlon yn un o'r elfennau hanfodol yn hynny. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi o dalu pob anfoneb yn brydlon, a phan fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn ceisiadau gan fusnesau ar gyfer contractau mawr y mae'n mynd i'w dyfarnu, neu asiantaethau fel Trafnidiaeth Cymru, pa ddiogelwch sy'n mynd i gael ei roi i gwmnïau bach sydd wedi eu gadael nawr, fel yn yr achos hwn, mae'n debyg, ar y clwt, a bydd llawer ohonyn nhw na fyddant yn cael eu talu? Gallai hynny fod yn hollbwysig o ran y cwestiwn o ba un a allai busnesau bach eu hunain, fel sgil-effaith o fethiant Carillion, fynd allan o fusnes hefyd.
Llif arian yw popeth i fusnes bach. Nid yw'n eglur eto beth fydd effaith methiant Carillion ar fusnesau bach yng Nghymru. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio cael gafael ar wybodaeth am hynny, ond yr hyn na allwn ei wneud, wrth gwrs, yw rheoli'r ffordd y mae busnesau mawr yn ariannu eu hunain. Ceir llawer o faterion yn y fan yna y mae arweinydd UKIP wedi eu hamlygu'n a hynny'n briodol—materion moesol. Mae'n ymddangos i mi yn aml iawn, mewn rhai busnesau—nid pob un, wrth gwrs, ac nid y mwyafrif hyd yn oed—bod taliadau bonws yn cael eu gwneud beth bynnag fo'r perfformiad, a hefyd bod pobl yn derbyn taliadau ymadael sy'n symiau sylweddol o arian er mwyn mynd i ffwrdd hyd yn oed pan fo perfformiad yn llawer is na'r safon a ddisgwylir. Mae problemau yn hynny o beth.
Ceir problemau o ran faint rym sydd gan cyfranddalwyr. Maen nhw'n dwyn y bwrdd i gyfrif, wrth gwrs, ond o ran gwybodaeth ac arbenigedd, nid yw mor hawdd â hynny. Rwy'n credu, o ganlyniad i'r hyn yr ydym ni wedi ei weld gan Carillion, bod gwersi i'w dysgu o ran edrych unwaith eto ar gyfraith cwmnïau a'r ffordd y mae cwmnïau yn llywodraethu eu hunain. A oes llywodraethu digonol mewn cwmnïau mawr i sicrhau nad yw'r math yma o sefyllfa yn digwydd? Rydym ni wedi gweld drwy Carillion mai'r ateb i hynny yw 'nac oes'.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae adroddiad annibynnol heddiw ar iechyd a gofal cymdeithasol yn amlygu pwysigrwydd llesiant staff ac yn dweud y dylai fod pwyslais pendant ar ymgysylltiad a llesiant staff. Nawr, mae pob plaid wleidyddol yn canmol staff y GIG yn rheolaidd, ac mae hynny'n gwbl briodol. Mae'n haeddiannol, oherwydd hebddyn nhw ni fyddai'r GIG yn ddim. A ydych chi'n meddwl bod digon yn cael ei wneud i gynorthwyo llesiant staff y GIG?
Materion i'r byrddau iechyd lleol yw'r rhain yn bennaf, ond, unwaith eto, ymunaf ag arweinydd Plaid Cymru i gynnig teyrnged i'r gwaith anhygoel o galed hwnnw a wneir gan aelodau staff. Gwn fod y cyfarwyddwr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod o gwmpas y gwahanol adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru, yn gwrando ar eu profiadau. Rydym ni'n gwybod bod y sefyllfa'n gwella o'i chymharu â sut yr oedd ychydig wythnosau yn ôl, ond, byddem, byddem ni'n annog byrddau iechyd lleol, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod y dulliau cywir ar waith i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo y tu hwnt i'r geiriau yr ydym ni'n eu mynegi fel gwleidyddion.
Prif Weinidog, gwnaed datgeliadau i mi yn ystod yr wythnosau diwethaf gan weithwyr yn ein GIG am broblemau difrifol o ran ysbryd a llesiant staff. Mae pobl sy'n gwasanaethu yn y rheng flaen yn honni eu bod ar ben eu tennyn o ganlyniad i rai o'r pwysau sy'n cael eu rhoi arnyn nhw. Nawr, dim ond at un o'r datgeliadau hyn yr wyf i wedi cael caniatâd i gyfeirio ato hyd yma, ond mae'r person wedi gofyn i mi yn benodol i'w godi gyda chi yn y Llywodraeth.
Prif Weinidog, mae honiad difrifol yn cael ei wneud bod blaenoriaethu'r gwasanaeth ambiwlans yn rhoi pobl mewn perygl ar adegau o alw uchel. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, honnir y bu'n rhaid i gleifion sydd wedi eu categoreiddio fel rhai sy'n addas ar gyfer ymateb 20 munud aros am hyd at chwe awr am ambiwlans. Dywedir wrthyf fod y rhain yn cynnwys cleifion sydd wedi cael strôc, trawiad ar y galon a phroblemau anadlu. Mae'r sawl a ddatgelodd y wybodaeth hon i mi yn absennol o'r gwaith oherwydd straen ar hyn o bryd ac ni all siarad am ei swydd heb fynd yn ddagreuol. Prif Weinidog, sut gellir amddiffyn y sefyllfa hon, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud am hyn?
Mae'n anodd rhoi ateb heddiw heb wybod y ffeithiau llawn, ond mae digon yno i mi ymchwilio, yn fy marn i, a byddaf yn ysgrifennu at arweinydd Plaid Cymru, gan gyfleu'r hyn y mae hi wedi ei ddweud heddiw i'r ymddiriedolaeth ambiwlans, a phan fyddaf yn cael ymateb ganddyn nhw, byddaf wrth gwrs yn ei rannu â hi.
Diolch i chi am hynna, Prif Weinidog. Byddwn yn eich annog chi hefyd i ofyn i'ch Ysgrifennydd dros iechyd asesu llesiant staff yn y GIG, gan fod y llythyr a dderbyniais i yn sôn y bu'n rhaid dod â chwnselwyr o elusen i mewn i siarad gyda staff rheoli ambiwlansys, cymaint yw lefel y straen hwnnw. Os yw hynny'n wir, mae hon yn sefyllfa wirioneddol syfrdanol ac mae'n argyfwng yn ein gwasanaethau cyhoeddus. A allwch chi gadarnhau bod cwnsela wedi cael ei gynnig i staff y GIG? Ac o ran adnoddau ambiwlans, a allwch chi ein sicrhau ni y bydd blaenoriaethu yn destun adolygiad ac nad yw ymateb i alwadau coch yn rhoi unrhyw un sydd wedi ei gategoreiddio fel galwad ambr mewn perygl o farwolaeth neu anaf pellach?
Unwaith eto, mae angen ymchwilio ymhellach i hynny. Gyda chaniatâd arweinydd Plaid Cymru, byddaf yn ymchwilio i'r materion ychwanegol hynny hefyd, a phan geir ymateb, byddaf wrth gwrs yn ei rannu â hi.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth, cyn y Nadolig, ei chynllun gweithredu economaidd newydd, 'Ffyniant i Bawb'. Dyma'r pedwerydd cynllun gweithredu y mae'r Blaid Lafur wedi ei gyhoeddi ers dechrau datganoli. 'Cymru'n Ennill' oedd y cyntaf ym 1999, 'Cymru: Economi yn Ffynnu' yn 2005, a 'Cyfeiriad newydd' yn 2009. Os edrychwch chi ar y ddogfen mewn gwirionedd, nid yw'n cynnig llawer o obaith o ran sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i gynyddu cyflogau yma yng Nghymru, sy'n sylweddol is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Yn yr 20 mlynedd yr ydych chi wedi bod mewn Llywodraeth yma yng Nghymru, neu'r bron i 20 mlynedd yr ydych chi wedi bod mewn Llywodraeth yng Nghymru, mae gwerth ychwanegol gros wedi cynyddu gan hanner o 1 y cant yn unig. Nid yw'n cynnig llawer o obaith o ran sut yn union yr ydych chi'n mynd i gael momentwm gwirioneddol y tu ôl i werth ychwanegol crynswth yma yng Nghymru. Sut gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd y ddogfen hon yn wahanol mewn unrhyw ffordd i'r tri rhagflaenydd oedd ganddi?
Yn gyntaf oll, os edrychwn ni ar ddiweithdra, mae diweithdra yn isel yng Nghymru, ac mae'n aml yn is na chyfartaledd y DU. Byddai wedi bod yn wamal honni hynny ym 1999. Roeddem ni'n uwch na chyfartaledd y DU yn barhaus, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n dangos llwyddiant yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i annog busnes a buddsoddiad.
Yn ail, ceir her o ran cynyddu gwerth ychwanegol gros y pen. Sut mae gwneud hynny? I mi, mae dwy ffordd. Yn gyntaf oll, rydych chi'n sicrhau, pan eich bod chi'n ceisio sicrhau buddsoddiad, ei fod yn fuddsoddiad sy'n talu'n uchel. Ddiwedd y 1980au a dechrau'r 1990au, y polisi a ddilynwyd gan ei blaid ef oedd disodli swyddi â chyflogau da ym meysydd glo a dur gyda swyddi heb sgiliau a oedd yn talu'n wael. Felly, er na wnaeth y gyfradd ddiweithdra gynyddu o reidrwydd, gostyngodd gwerth ychwanegol gros gan nad oedd y swyddi'n talu cymaint. Gwelsom, ar ddiwedd y 1990au a rhan gyntaf y degawd diwethaf, lawer o'r busnesau hynny yn gadael Cymru gan eu bod yn mynd i rywle lle'r oedd cyfraddau cyflog hyd yn oed yn is.
Nid ydym ni fel Llywodraeth yn fodlon gwerthu ein hunain i weddill y byd ar y sail ein bod ni'n economi cyflog rhad—sef yr hyn a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ddechrau'r 1990au, ar sail 'Dewch i Gymru gan ei bod yn rhad'—dim mwy. Rydym ni'n gweld ffrwyth hynny. Rydym ni'n gweld, wrth gwrs, y buddsoddiad gan gwmnïau fel Aston Martin, rydym ni'n gweld y buddsoddiad ychwanegol yn Airbus yn y gogledd, rydym ni wedi gweld buddsoddiadau'n cael eu hadennill yn Sir Benfro o gwmpas porthladd Aberdaugleddau, sydd i gyd yn talu'n well o lawer na swyddi a oedd yn dod yma ers talwm. Mae hynny'n un rhan o'r peth.
Hyfforddiant yw'r ail ran. Y cwestiwn a ofynnir i ni yn amlach nag unrhyw un arall pan fyddwn ni'n siarad â busnesau sydd eisiau buddsoddi yng Nghymru yw: 'A oes gennych chi'r bobl sydd â'r sgiliau y mae eu hangen arnom?' Nid oes diddordeb ganddyn nhw yn y gost, mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn sgiliau. Yn gynyddol, gallwn ateb y cwestiwn hwnnw'n gadarnhaol. Felly, mae'n golygu gweithio gyda cholegau addysg bellach, o ran prentisiaethau, ac mae gennym ni ein hymrwymiad i 100,000 o brentisiaethau pob oedran yn ystod y Cynulliad hwn. Trwy godi lefelau sgiliau pobl y gallwn ni wneud yn siŵr y gallant roi mwy o arian yn eu pocedi, a chynyddu gwerth ychwanegol gros trwy hynny.
Prif Weinidog, rydych chi'n codi'r mater am gyflogau. Os cymerwch chi'r Alban fel enghraifft, yn ôl ym 1999, roedd gweithiwr yng Nghymru a gweithiwr yn yr Alban yn mynd â'r un cyflog adref. Heddiw, mae gweithiwr yn yr Alban yn mynd â £49 yn fwy adref yn ei becyn cyflog bob wythnos nag y mae gweithiwr yng Nghymru. Mae hynny'n ffaith. Yn y ddogfen hon, dim ond dwywaith y cyfeirir at gyflogau. Cyfeirir at drethi, trethi busnes, unwaith yn unig mewn 17,000 o eiriau. Prin y sonnir am awtomeiddio, sef yr her enfawr yr ydym ni'n ei hwynebu, lle mae'n bosibl y gallai 35 y cant o'r gweithlu golli eu swyddi neu gael ailfodelu eu swyddi dros y 29 mlynedd nesaf, yn y ddogfen hon. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw atebion o ran yr heriau gwirioneddol yr ydym ni'n eu hwynebu yn y degawd neu ddau nesaf.
Y ddogfen hon, rwy'n tybio, yw'r sbardun ar gyfer polisi economaidd sy'n dod allan o'r Llywodraeth ar gyfer y pedair i bum mlynedd nesaf o leiaf, yn dibynnu ar y mandad, ac unwaith eto rwy'n dychwelyd at y pwynt yma—dyma'r bedwaredd ddogfen sydd wedi dod allan o Blaid Lafur Cymru mewn Llywodraeth yma yng Nghymru, ac amlygais y tlodi o ran cyflogau yma yng Nghymru o'i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac nid yw'r ddogfen hon yn cynnig yr ateb hwnnw. Rhowch rywfaint o ysbrydoliaeth i ni o ran yr hyn y gallwn ni edrych arno yn 2021 o ran cyflogau, o ran cyfoeth yma yng Nghymru, ac yn anad dim, o ran cwmnïau yn ailsefydlu eu hunain yma yng Nghymru.
Wel, mae eisoes yn wir ein bod ni'n gwybod bod heriau o ran awtomeiddio. Yn wir, mae gan fy nghyd-Aelod, Lee Waters, rwy'n credu, ddadl gryno ar hyn yfory, ar awtomeiddio. Mae e'n rhywun sydd wedi bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol, fel y'i disgrifir, a gwn ei fod yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn ohono.
Gobaith—y gobaith yw hyn: bod Cymru yn lle, yn gyrchfan lle y mae cwmnïau o bedwar ban byd eisiau dod; bod Cymru yn lle y gwelir bod pobl yn arloesol, yn entrepreneuraidd; lle y mae gan bobl y sgiliau sydd eu hangen i oroesi, nid yn unig yn ystod y pump neu 10 mlynedd nesaf, ond y tu hwnt, i ymateb i heriau awtomeiddio; man lle nad oes system addysg dameidiog, ond un sy'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn meddu ar y sgiliau hynny sydd eu hangen; gwlad lle ceir Llywodraeth sy'n gweithio'n agos â busnesau, sy'n mynd allan i wahanol wledydd ac yn annog busnesau i ddod i Gymru ac i fuddsoddi yng Nghymru—dyna pam mae gennym ni'r ffigur uchaf ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor ers 30 mlynedd—ond hefyd Llywodraeth sy'n deall nad yw'n gwestiwn o sicrhau buddsoddiad tramor, ond yn gwestiwn o sicrhau bod ein busnesau bach a chanolig yn parhau i gael eu sefydlu a thyfu.
Un o'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu yn economi Cymru yw bod gormod o'n BBaChau yn tyfu i lefel benodol ac yna'n gwerthu—mae'r perchnogion yn gwerthu i gwmni mwy. Bu'r broblem honno yno erioed o sut yr ydym ni'n annog y bobl hynny i dyfu'n fwy, i gael mwy o gwmnïau wedi eu rhestru ar gyfnewidfa stoc Llundain, wedi eu rhestru ar y farchnad fuddsoddi amgen, oherwydd rydym ni wedi ein tangynrychioli arnyn nhw ac rydym ni eisiau iddyn nhw dyfu yn hytrach na dweud, 'Wel, rwyf i wedi gwneud fy rhan i nawr. Rwy'n mynd i werthu'r busnes.' Mae'r entrepreneuriaid gennym ni, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Rwy'n ei weld gyda phobl iau: mae ganddyn nhw frwdfrydedd a hyder nad oedd gennym ni, oherwydd roeddem ni'n cael ein darbwyllo yn ei erbyn yn ymarferol pan roeddwn i yn yr ysgol. Harneisio'r bobl hynny, gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw fynediad at gymorth a chyngor busnes, gwneud yn siwr bod ganddyn nhw fynediad at gymorth drwy Cyllid Cymru, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn y dyfodol—dyna sy'n allweddol o ran y dyfodol economaidd i Gymru yr wyf i eisiau ei weld ac rwy'n credu y mae pobl Cymru eisiau ei weld.
Awgrymwyd i mi mai dyna'r gyfatebiaeth 'ladybook' o'r hyn yr ydych chi ei eisiau ar gyfer y dyfodol economaidd, Prif Weinidog, oherwydd, er tegwch, mae 17,000 o eiriau yn y ddogfen hon. Roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi rhoi rhywbeth cadarn i ni, map ffordd, a fyddai'n codi cyflogau Cymru. Fel yr wyf i wedi ei amlygu, dros yr 20 mlynedd, mae gweithiwr yn yr Alban yn mynd â £49 yn fwy adref yn ei becyn cyflog nag y mae gweithiwr yng Nghymru yn ei gael i fynd adref, ac mae gwerth ychwanegol gros wedi cynyddu hanner o 1 y cant dros yr 20 mlynedd. Prin bod hwnnw'n hanes i fod yn falch ohono. Rwyf i eisiau gweld Cymru yn ffynnu'n economaidd yn union fel y darlun yr ydych chi newydd ei gyflwyno, ond roeddwn i wedi gobeithio y byddech chi wedi tynnu rhywbeth allan o'r ddogfen hon a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd dyma'r glasbrint yr ydych chi'n seilio eich model economaidd arno, ac nid yw'n cynnig llawer o obaith pan sonnir am drethi unwaith, pan sonnir am gyflogau ddwywaith, ac y sonnir am awtomeiddio ddim ond chwe gwaith.
Ac os caf ofyn i chi am drethi yn benodol: a ydych chi'n credu y bydd yr amgylchedd trethi y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig yn gwneud Cymru yn amgylchedd trethi mwy cystadleuol i ddenu busnesau i Gymru? Gwnaed sylwadau i mi gan fusnesau ar y dreth trafodiadau tir sy'n dangos y bydd Cymru o dan anfantais yn y pen draw. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cyfarfod ag arweinyddion diwydiant ar y mater hwn—sy'n bryderus iawn am y dibrisiant y mae busnesau yn mynd i orfod ei roi yn eu mantolenni oherwydd yr amgylchedd trethi uwch y mae eich Llywodraeth yn ei gynnig. Felly, a ydych chi'n credu y bydd yr amgylchedd trethi y byddwch chi'n ei greu yma yng Nghymru yn rhoi Cymru o dan fantais o ran denu rhai o'r swyddi newydd a'r mentrau newydd hyn a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r genhedlaeth awtomeiddio sydd ar ei ffordd?
Wel, rwy'n credu ei fod yn e'n golygu llyfr 'Ladybird', yn hytrach na 'ladybook'. Hyderaf mai dyna mae'n ei feddwl.
Ond mae'n gofyn y cwestiwn: 'A ydw i'n hyderus yn y dreth trafodiadau tir a'r amgylchedd trethi y mae'n ei greu?' Yr ateb i hynny yw 'ydw'. A ydw i'n hyderus bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yn addasu—. Soniasoch am y ffaith fod pedwar gwahanol gynllun—wel, wrth gwrs bod yna. Pe byddai gennym ni'r un cynllun o 1999 yna byddem wedi ymgaregu yn y gorffennol. Ym 1999, rwy'n cofio Dr Phil Williams yn sefyll ar ei draed yn y Siambr flaenorol ac yn dweud popeth am fand eang wrthym, ac nid oedd yr un ohonom ni'n gwybod am beth yr oedd e'n sôn, a cydnabuwyd hynny ganddo, er tegwch iddo, ond roedd ar y blaen i ni. Roedd ar y blaen i ni. Nid oedd neb yn siarad am fand eang ym 1999. Nawr, wrth gwrs, mae'n un o ffeithiau bywyd.
Felly, mae'n rhaid i ni addasu, ac mae'r ffaith y bu gennym ni wahanol ddulliau gweithredu dros yr 20 mlynedd diwethaf yn arwydd ein bod ni wedi addasu i wneud yn siŵr ein bod ni'n ymdrin â'r gwahanol amgylchiadau y mae'r byd yn eu taflu atom ni, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n fwy na pharod i amddiffyn ein hanes fel Llywodraeth o ran yr economi, i amddiffyn ein syniadau, i amddiffyn y ffaith ein bod ni'n Llywodraeth ragweithiol. Rydym ni'n cymryd cyfranddaliadau mewn busnesau pan fyddwn ni'n credu bod busnesau yn mynd i fod yn llwyddiannus. Rydym ni'n rhoi ein harian ar ein gair. Ble mae ei syniadau ef? Ble mae syniadau'r Ceidwadwyr Cymreig? Nid oes gen i unrhyw syniad o gwbl beth yw eu polisi economaidd, ac o farnu ar sail y wynebau sydd draw yn y fan yna—mae eu pennau nhw i gyd i lawr—nid wyf i'n credu eu bod hwythau'n gwybod ychwaith. Ar bob cyfrif, gadewch i ni gael dadl ar syniadau economaidd, ond gadewch i ni glywed beth yw eich rhai chi yn gyntaf.