1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
2. How is the Welsh Government helping people in fuel poverty in Wales? OAQ51539
Diolch. Ein rhaglen allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yw Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau Nyth ac Arbed. Ar gyfer y cyfnod 2017-21, rydym yn buddsoddi £104 miliwn er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni hyd at 25,000 o gartrefi pobl sydd ar incwm isel neu sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
Diolch. Mae lleihau allyriadau o'n stoc tai yn allweddol i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd a'n targedau ynni ehangach. O gofio y bydd 90 y cant o gartrefi heddiw yn parhau i gael eu defnyddio yn 2050, a wnewch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, ymrwymo i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni i ystyried cyflwyno cynllun gweithredu a strategaeth ddiwygiedig ar gyfer tlodi tanwydd i amlinellu targedau newydd er mwyn sicrhau bod cartrefi'n cyrraedd safon effeithlonrwydd ynni gofynnol peirianneg, caffael, adeiladu a chomisiynu, gan gydnabod y manteision y mae rhai cynlluniau, fel Arbed, wedi'u cyflwyno, a chydnabod bod llawer o waith i'w wneud, o ystyried na fydd y targedau gwreiddiol a osodwyd ar gyfer 2018 yn mynd i gael eu bodloni bellach?
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, a dydd Llun fe gawsom gyfarfod o grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio, a buom yn siarad am hyn, oherwydd, yn amlwg, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni fel ein ffordd o fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ond mae angen i ni hefyd edrych ar ôl-osod mewn perthynas â datgarboneiddio a sut y byddwn, yn amlwg, yn cyrraedd y targedau hynny yn ogystal.
Byddwn yn cael data tlodi tanwydd newydd ar ddiwedd 2018 a bydd hwnnw'n sicr o lywio'r trafodaethau rydym yn eu cael, gyda'n rhanddeiliaid yn enwedig. Buaswn yn hapus iawn i fynychu grŵp trawsbleidiol, os ydych yn dymuno i mi wneud hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar cyfarfûm â Chyngor ar Bopeth yn fy ardal leol i drafod eu gwaith yn ymgyrchu ynglŷn â mesuryddion talu ymlaen llaw. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwbl ymwybodol mai pobl sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yw rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, ac maent yn aml gannoedd o bunnoedd y flwyddyn ar eu colled. Mewn gwirionedd, Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o aelwydydd sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yng Nghymru. Rwy'n deall nad yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ond pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, neu pa ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater allweddol hwn?
Unwaith eto, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru, ond wrth gwrs, mae'n rhywbeth y mae gennym ddiddordeb mawr ynddo. Gwn fod fy swyddogion wedi cael trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y DU ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud i gynorthwyo, fel y dywedwch, rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn ein hetholaethau.
Yn y dyfodol, yn ogystal â gwasanaethau cyngor a chymorth, dylem edrych yn gyntaf ar gartrefi mwy clyfar a mwy effeithlon. Rwy'n deall bod safon ansawdd tai Cymru wedi mynnu effeithlonrwydd gwell mewn tai cymdeithasol, ond mae angen i ni edrych ar ddull gweithredu ehangach. Mae'r Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi creu cynllun ar gyfer cartrefi fel gorsafoedd pŵer bach, ac fe gafodd cynlluniau eu cymeradwyo ar gyfer 16 o gartrefi newydd o'r fath yng Nghastell-nedd ym mis Awst y llynedd. Gallai'r cynllun ei hun ostwng biliau cyfleustodau aelwydydd 60 y cant. Tybed pa gynlluniau sydd gennych i amlinellu rhagor o gymorth yn y maes hwn fel y gallwn edrych ar dai mwy arloesol i ostwng y gost ar gyfer y bobl na allant ei fforddio, o bosibl.
Crybwyllais yn fy ateb gwreiddiol i Mark Isherwood ein bod wedi cael cyfarfod o grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio, ac mae Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn aelod ohono, oherwydd mae angen i ni edrych y tu hwnt i 2020 yn awr, pan fydd pob un o'n cartrefi wedi cyrraedd SATC, a meddwl beth a wnawn wedyn gyda'r arian hwnnw sydd wedi bod ar gael ar gyfer hynny. Credaf fod angen i ni edrych ar lawer mwy o arloesedd yn ein cartrefi, ac yn sicr bydd y trafodaethau hynny'n parhau rhyngof fi a'r Gweinidog Tai ac Adfywio.