3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn TVR? 103
Mae hynny'n helpu; nawr mae pob un ohonom yn gwybod am beth rydych yn sôn.
Yn wir, rwy'n rhannu cynnwrf yr Aelod ynglŷn â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn TVR, sy'n dilyn proses o ddiwydrwydd dyladwy trylwyr, a darparwyd benthyciad masnachol ad-daladwy o £2 filiwn gennym yn gynnar yn 2016. Gwnaed hyn ochr yn ochr â benthyciwr o'r sector preifat. Rydym hefyd wedi buddsoddi £500,000 mewn ecwiti ar yr un telerau â buddsoddwyr eraill, gan roi cyfran leiafrifol o 3 y cant i Lywodraeth Cymru yn TVR, er mwyn sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn elwa o lwyddiant y cwmni.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—roeddwn wedi cynhyrfu gormod wrth ofyn fy nghwestiwn.
Wrth gwrs, mae'r bri sydd i fathodyn TVR yn un peth, ond wrth gwrs, nid hynny yw'r unig beth y dylid ei ystyried. Mae £2.5 miliwn yn fuddsoddiad sylweddol, ac mae'r cyhoedd, wrth gwrs, yn awyddus i weld tystiolaeth fod arian trethdalwyr yn cael ei ddiogelu'n briodol. Nawr, mae papurau a ffeiliwyd gyda Thŷ'r Cwmnïau yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y cwmni na fydd £2 filiwn o'r benthyciad yn ad-daladwy, cyhyd â bod y cwmni yn sicrhau buddsoddiad o'r sector preifat sy'n gyfwerth neu'n fwy na £5.5 miliwn. A gaf fi ofyn i chi gadarnhau bod hynny'n gywir?
Yn ystod y pwyllgor y bore yma, nid oeddech yn gallu cadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru sylwedydd ar fwrdd TVR. Tybed a allwch egluro'r sefyllfa honno hefyd. A hyd yma, chwe swydd yn unig sydd ynghlwm wrth y ddau gwmni rhestredig sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad hwn. Nawr, mae synnwyr cyffredin masnachol a pharch am arian trethdalwyr yn golygu bod yn rhaid sicrhau budd economaidd i'r gwariant hwn. Felly, a gaf fi ofyn pa amodau y mae'r Llywodraeth wedi eu gosod ar TVR yn gyfnewid am fuddsoddiad, ac erbyn pa ddyddiad y bydd y 150 o swyddi a addawyd yn dod i fodolaeth? Ac yn olaf, a ydych yn cytuno bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd foesol ac economaidd i bobl Blaenau Gwent i sicrhau nad yw'r prosiect cyffrous hwn yn troi yn siom arall i'r ardal honno?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud bod y car wedi bod yn llwyddiant, yn fasnachol ac o safbwynt beirniadol, sy'n bwysig iawn? Roedd yr ymateb yn eithaf rhyfeddol yn Goodwood yn yr hydref pan gafodd ei ddadorchuddio. Mae'n beiriant hynod. Mae'r dyluniad yn cynnwys elfennau unigryw ac arloesol o ddylunio modurol gan Gordon Murray, sy'n adnabyddus i arbenigwyr modurol fel un o ddylunwyr gorau'r byd. Credaf fod ei gyfraniad ef i'r cerbyd wedi sicrhau ei fod yn llwyddiant o'r cychwyn cyntaf o ran archebion. Mae'r llyfr archebion yn iach iawn. Buaswn yn annog yr Aelodau i fanteisio ar y cyfle i weld y car pan fydd yn cael ei lansio yng Nghymru.
O ran yr amodau a atodwyd wrth y benthyciad a'r gyfran ecwiti, credaf fod yr Aelod wedi codi pwynt pwysig ynglŷn ag elfen ad-daladwy'r cyllid rydym wedi'i gynnig. Nid yw'n gywir fod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'r £2 filiwn yn ad-daladwy. Mae'r £2 filiwn yn gwbl ad-daladwy. Bydd y benthyciad yn para am gyfnod o bum mlynedd. Daeth yn weithredol ym mis Mawrth 2016. Fodd bynnag, os nad ydynt yn dod â—. Credaf fod rhywfaint o'r dryswch yn deillio o amod yn y cymorth a ddywedai, os nad oeddent yn sicrhau bod y gwaith gweithgynhyrchu yn dod i Gymru, y gallem fynnu bod y benthyciad hwnnw'n cael ei ad-dalu ar unwaith. O ganlyniad i'r ffaith nad ydym wedi mynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu ar unwaith, credaf fod rhai wedi camddehongli hynny gan gredu bod Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes angen ad-dalu'r benthyciad. Y ffaith amdani yw: bydd yn cael ei ad-dalu.
O ran y gyfran ecwiti a gymerwyd gennym yn y cwmni, unwaith eto, mae honno wedi'i diogelu gan y gallwn fynnu bod y cwmni'n prynu'r ecwiti a gymerwyd gennym yn y cwmni yn ôl, naill ai am bris y farchnad neu am y gost wreiddiol, pa un bynnag sydd fwyaf. Ond fel y dywedais yn gynharach, cafodd y car ymateb anhygoel yn y lansiad, mae'r llyfr archebion yn iach iawn, mae'r farchnad ar gyfer y math hwn o gerbyd yn fywiog ledled y byd, a chredaf y bydd y car yn llwyddiant enfawr. Mae'n atgyfodi un o'r brandiau modurol mwyaf poblogaidd yn hanes Prydain, a dangosodd yr archebion a gymerwyd yn Goodwood yn enwedig, pan fo pobl yn gweld y cerbyd o flaen eu llygaid, maent yn ymateb drwy ysgrifennu sieciau.
Nawr, o ran manteision y cynllun a'r amserlen wrth fwrw ymlaen, nododd TVR mai adeilad sy'n eiddo preifat ar ystâd ddiwydiannol Rasa yw'r opsiwn gorau ar gyfer eu gweithgynhyrchu, ac o ganlyniad, treuliodd swyddogion Llywodraeth Cymru fisoedd lawer yn negodi gyda'r perchenogion preifat i sicrhau'r adeilad hwnnw. Ar ôl cwblhau'r cytundeb hwnnw, mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru a TVR wrthi'n cwblhau cytundeb prydlesu. Yn y cyfamser, rydym yn falch fod TVR yn negodi i gymryd les tymor byr ar ffatri fach gerllaw er mwyn cwblhau'r gwaith datblygu peirianegol, ond mae ganddynt swyddfa ar y safle hefyd, lle mae nifer fechan o bobl yn gweithio ar y prosiect ar hyn o bryd. Yn y tymor hirach, erbyn chwarter 2 yn 2019, rydym yn anelu i sicrhau bod TVR yn gweithgynhyrchu'r cerbyd ar gyfer ei werthu y flwyddyn nesaf. Erbyn hynny, rydym hefyd yn disgwyl bod nifer sylweddol o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle—dros 100 o bobl. Bydd hyn yn hynod o bwysig i Flaenau Gwent, nid yn unig o ran y cynnig cyflogaeth, ond hefyd o ran ail-lunio canfyddiadau a rhoi cryn dipyn o hyder i'r ardal honno.
A atebodd Ysgrifennydd y Cabinet y cwestiwn mewn perthynas ag aelodaeth y bwrdd, oherwydd roedd yn ansicr, pan ofynnwyd iddo y bore yma, pa un a yw'r Llywodraeth wedi enwebu, nid cyfarwyddwr mae'n debyg, yn ôl cyfrifon y cwmni, ond sylwedydd enwebedig, o leiaf? Ai polisi'r Llywodraeth yw sicrhau bod ganddynt sylwedyddion enwebedig mewn sefyllfaoedd fel hyn lle mae'r Llywodraeth wedi cymryd cyfran ecwiti? Dywedodd y bore yma mai'r rheswm y cymerodd y Llywodraeth gyfran uniongyrchol yn yr achos hwn, yn hytrach na mynd drwy'r banc datblygu, gan nad oedd y banc datblygu wedi'i sefydlu—. Ond ai'r polisi o hyn ymlaen fydd cymryd y cyfrannau ecwiti hynny drwy'r banc datblygu, sy'n ymdrin â buddsoddiadau ar sail reolaidd, ac a fyddai'n ymddangos felly'n ffordd fwy synhwyrol o fynd ati?
A gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth bob tro ar gyfran ecwiti—? Hynny yw, 'does bosib nad yw hyn yn wahanol i grant neu fenthyciad. Os yw'r Llywodraeth yn ymgymryd â rhan-berchnogaeth mewn cwmni, 'does bosib nad cyfrifoldeb y BBC yw adrodd ar hynny—dylid darparu'r wybodaeth honno naill ai mewn datganiad ysgrifenedig neu ddatganiad ar lawr y Cynulliad.
Rwy'n fwy na pharod i gyhoeddi datganiadau ysgrifenedig i roi cadarnhad pan fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfran ecwiti mewn cwmni. Gofynnodd yr Aelod ynglŷn â rôl Cyllid Cymru fel yr arferai fod, a'r banc datblygu fel y mae bellach. Mae'r banc datblygu yn monitro cynnydd y busnes, ond y rheswm na allai Cyllid Cymru wneud buddsoddiad ased yn TVR, yn rhannol, oedd am na allent wneud buddsoddiad yn TVR, am fod y cwmni, ar y pryd, wedi eu lleoli y tu allan i Gymru. Roedd modd i ni wneud, ar yr amod fod gweithgynhyrchu'n dod i Gymru.
O ran cynrychiolaeth ar y bwrdd, fel cyfranddaliwr lleiafrifol, gyda 3 y cant yn unig, ni fyddai disgwyl inni allu cyflwyno aelod o'r bwrdd. Fodd bynnag, fel y dywedais y bore yma, mae un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu cyfarfodydd y bwrdd fel sylwedydd, ac wrth gwrs, rwy'n craffu'n ofalus ar weithgarwch a chynnydd o ran y cerbyd arbennig hwn, ond ar y cwmni yn ei gyfanrwydd hefyd.
Dechreuodd Hewlett-Packard, wrth gwrs, gyda dau o bobl, a Facebook gydag un, felly ni chredaf fod nifer y bobl sydd gennych ar y dechrau yn bwysig iawn; y nifer o bobl sydd gennych ar y diwedd sy'n bwysig.
Mae tair ffordd o ariannu: grantiau neu fenthyciadau nad ydynt yn ad-daladwy, fel roeddent yn arfer cael eu disgrifio, benthyciadau ac ecwiti. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam y mae wedi dewis ecwiti yn yr achos hwn?
Fe ddewisom ni gymysgedd o fenthyciad ac ecwiti: ecwiti, yn rhannol, i sicrhau bod modd inni elwa o lwyddiant y cwmni, fel rwyf eisoes wedi dweud, a'r benthyciad er mwyn sicrhau bod y gwaith gweithgynhyrchu yn dod i Gymru. Ceir risg a budd gydag unrhyw fuddsoddiad, ond gyda'r buddsoddiad penodol hwn, mae'r brand yn hynod o gryf ac felly mae cryn botensial ar gyfer budd. Mae'r potensial ar gyfer budd i Flaenau Gwent, unwaith eto, yn enfawr o bosibl, ac felly credaf fod y cydbwysedd rhwng risg a budd yn gwyro i raddau helaeth tuag at fudd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n codi heddiw, nid yn gymaint i ofyn cwestiwn, ond er mwyn dweud bod UKIP yn croesawu ac yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y buddsoddiad hwn, yn enwedig gan ei fod yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac rwy'n gwbl sicr y bydd etholwyr Glyn Ebwy yn croesawu'r cyhoeddiad hwn yn llwyr. Mae TVR yn ticio'r holl flychau o ran dymunoldeb: brand uwch-dechnoleg eiconig a delwedd fyd-eang o ragoriaeth ym maes dylunio, gyda sylfaen gwsmeriaid brofedig a ffyddlon. Mae cryn botensial i allforio cerbydau dyluniedig o'r fath i economïau cyfoethog sy'n dod i'r amlwg. Os ydym yn awyddus i ehangu ein sylfaen weithgynhyrchu yng Nghymru, ni allaf feddwl am neb gwell na'r math hwn o gwmni i dderbyn cyllid. Unwaith eto, rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y cyhoeddiad hwn. Efallai fod gennyf gwestiwn: pryd y gallwn gael mwy o'r un peth?
Diolch. Fe achuboch eich hun gyda'ch datganiad olaf.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am groesawu ein penderfyniad i fuddsoddi yn TVR? Rwy'n rhannu ei ffydd yn y cwmni. Maent yn un o'r gweithgynhyrchwyr modurol ym Mhrydain sydd â'r nifer fwyaf o selogion brand, a chredaf fod enwi'r car penodol hwn yn Chimaera hefyd yn cydnabod treftadaeth gref y brand. Yn y gorffennol, bu dau Chimaera; hwn yw'r trydydd. Ar hyn o bryd, os ydych yn bwriadu buddsoddi mewn hen gar, dywedir bod y Cerbera a'r Chimaera gwreiddiol ymhlith yr hen geir sy'n cynyddu gyflymaf o ran gwerth ar hyn o bryd. Rwy'n sicr y bydd y Chimaera newydd, a fydd yn cael ei gynhyrchu o'r flwyddyn nesaf ymlaen, yr un mor boblogaidd, nid yn unig ymysg selogion presennol TVR, ond hefyd ymhlith prynwyr newydd ledled y byd.
Diolch i'r Gweinidog am ei atebion hyd yn hyn. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn llwyr gefnogi cymorth y Llywodraeth i gwmnïau, yn enwedig pan fônt yn gynigion cyffrous a dynamig. Yr hyn sy'n peri pryder inni yw pan fo busnesau eraill yn nodi bod cymorth yn cael ei roi i gwmnïau, a gwrthodir cymorth iddynt hwy. Yn benodol, maent yn tynnu sylw at y set ddiwethaf o gyfrifon a gyhoeddwyd gan TVR sy'n nodi'n glir, ac rwy'n darllen o'r cyfrifon, fod y benthyciad o £2 miliwn wedi'i roi gan Lywodraeth Cymru, ac aiff ymlaen i ddweud bod y benthyciwr—sef chi— wedi nodi nad oes ganddynt unrhyw fwriad i fynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu
Credaf fod angen egluro hynny, gan nad yw'n mynd ymlaen i ddweud y byddai'r arian hwnnw yn ad-daladwy ymhen pum mlynedd, fel y nododd y Gweinidog, neu ei fod ar delerau masnachol. Mae'r datganiad hwnnw, o safbwynt arsylwadol, yn eithaf camarweiniol.
Dywed hefyd fod yn rhaid i'r cwmni godi £5.5 miliwn yn ychwanegol o ecwiti. Mae'r Gweinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £500,000 fel cyfran ecwiti. A all roi gwybod inni hefyd faint o'r £5.5 miliwn hwnnw o ecwiti a godwyd, ar wahân i'r £0.5 miliwn a gyfrannwyd gan Lywodraeth Cymru, i roi arwydd inni o faint o hyder sydd gan fuddsoddwyr eraill yn yr hyn a allai fod, o bosibl, os caiff ei gyflawni fel yr addawyd, yn ddatblygiad cyffrous i Flaenau Gwent?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac awgrymu, er mwyn dangos ei gefnogaeth i TVR yn glir, ei fod yn archebu Chimaera newydd heddiw? Mae'n wir fod y set ddiwethaf o gyfrifon yn datgan hynny, ond mae'n anghywir rhagdybio nad yw'r benthyciad yn ad-daladwy. Nid oeddem yn gyfrifol am gyflwyno'r nodiadau hynny, ond mae'r dyfyniad ynglŷn â diffyg 'unrhyw fwriad i fynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu', fel y dywedais wrth Russell George, yn ymwneud â'r cymal roeddem wedi'i gynnwys yn y gefnogaeth a fyddai wedi ein galluogi i fynnu bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu ar unwaith pe bai'r cwmni yn penderfynu peidio â dod â gwaith gweithgynhyrchu'r Chimaera i Gymru. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir, oherwydd y buddsoddiad a wnaed eisoes yn y gweithfeydd a'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt i gaffael y ffatri fechan, ac yn wir, y gwaith y mae ein swyddogion yn ei wneud i sicrhau bod y cyfleuster llawn yn barod ar gyfer dechrau'r broses gynhyrchu. Felly, bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu'n llawn.
O ran ecwiti, wrth gwrs, roedd ein hecwiti yn sylweddol. Fodd bynnag, mae'r cwmni wedi llwyddo i ddenu'r ecwiti gofynnol i gynhyrchu'r cerbyd hwn. Yn ychwanegol at y gwaith craffu a wnaed gan KPMG ar y cynllun busnes cyn y penderfyniad ym mis Mawrth 2016, rwy'n falch o ddweud bod Deloitte wedi bod yn gweithredu ar ein rhan fwy yn ddiweddar a'u bod wedi rhoi hyder inni yng ngallu'r cwmni i fwrw ymlaen â'r prosiect, i fwrw ymlaen â'r car ac i gyflawni, nid yn unig ar gyfer y buddsoddwyr, ond hefyd ar gyfer y cwsmeriaid.
Diolch yn fawr iawn.