1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2018.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i bobl Powys gan Shropdoc? OAQ51594
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn comisiynu Shropdoc ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau i bobl Powys.
Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, sy'n ei gwneud yn bwysicach fyth i'm hetholwyr bod gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau rhagorol. Caiff y gwasanaeth y tu allan i oriau presennol ei redeg gan Shropdoc, ac mae'r bwrdd iechyd wedi dweud ei fod eisiau rhoi terfyn ar y gwasanaeth hwnnw a'r contract gyda Shropdoc a'i ddisodli gyda'r gwasanaeth y tu allan i oriau 111 erbyn y gwanwyn hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth yn fy meddwl fy hun na all y bwrdd iechyd nac unrhyw sefydliad arall ddarparu'r un lefel o gymorth y mae Shropdoc yn ei darparu ar hyn o bryd. Mae Shropdoc hefyd yn darparu gwasanaethau i feddygfeydd teulu, ac rwy'n credu bod risg sylweddol gwirioneddol yma y gallai rhai meddygfeydd teulu fynd i'r wal os nad yw'r gwasanaethau hynny ar gael mwyach. Mae'n ymddangos nad yw'r bwrdd iechyd wedi ymgynghori'n briodol ar y cynigion hyn nac wedi ymgynghori â meddygon teulu yn briodol.
Felly, a gaf i ofyn: a yw Llywodraeth Cymru wedi arfer unrhyw ddylanwad dros y bwrdd iechyd i newid i fodel 111? A allwch chi roi unrhyw sicrwydd i'm hetholwyr na fyddai unrhyw newid yn niweidiol iddyn nhw? Ac, os na allwch chi roi'r sicrwydd hwnnw, a wnewch chi ymchwilio i'r sefyllfa hon ym Mhowys?
Wel, mae'r sefyllfa wedi codi gan fod Shropdoc ei hun wedi wynebu heriau ariannol yn ystod 2017. Mae'r heriau hynny yn parhau. O ganlyniad, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio gyda Shropdoc a grwpiau comisiynu clinigol Lloegr i'w cynorthwyo tra eu bod yn mynd i'r afael â'r heriau hynny. Rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi sefydlu tasglu i asesu a darparu atebion amgen posibl ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau y tu allan i oriau ym Mhowys. Mae'r tasglu hwnnw wedi datblygu cynlluniau tymor byr a chanolig. Mae'r contract presennol gyda Shropdoc yn dod i ben, rwy'n deall, yn y gwanwyn, felly ceir cyfle nawr i weithio ar fodelau newydd a gweithio gyda Shropdoc ei hun. Mae hon yn sefyllfa na ddewisiwyd gan y bwrdd iechyd, ond bu heriau a roddwyd o'u blaenau o ganlyniad i sefyllfa ariannol Shropdoc ei hun, yr ydym yn gobeithio y gellir eu datrys.
Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae llawer o drigolion Powys yn ddibynnol ar wasanaethau sydd naill ai’n cael eu darparu o Loegr neu sydd wedi’u lleoli yn Lloegr. Gyda’r newyddion rwy’n clywed bod gohirio ynglŷn â phenderfyniad ar leoliad a newydd-deb yr ysbyty cyffredinol ar gyfer gorllewin swydd Shropshire, lle bynnag y mae honno'n mynd i fod ac i gael ei lleoli—mae'r ddadl rhwng Telford a'r Amwythig ei hun, wrth gwrs, yn parhau ac nid oes arian gan Lywodraeth San Steffan eto i fuddsoddi yn hynny—pa drafodaethau a ydych chi yn eu cael fel Llywodraeth—achos mae e tu hwnt i'r bwrdd iechyd, i fod yn onest—gyda'r Llywodraeth yn Lloegr i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hynny'n parhau ac nad oes bwlch yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu ym Mhowys?
Wel, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn siarad gyda sir Amwythig a hefyd Telford a Wrekin er mwyn gweithio gyda nhw i ddatblygu gwasanaethau newydd, os taw hynny sydd yn gorfod digwydd, ac i weithio gyda nhw i weld ym mha ffordd y gallan nhw gefnogi Shropdoc i fod yn gynaliadwy yn y pendraw. So, mae'r trafodaethau hynny wedi cymryd lle rhwng y bwrdd iechyd a hefyd y cyrff yn Lloegr.
Prif Weinidog, mae Shropdoc wedi darparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau i Bowys ers 22 mlynedd, ond, fel pob rhan o'r GIG, maen nhw hefyd wedi wynebu pwysau ariannol. Mae'r penderfyniad i beidio ag adnewyddu'r contract yn hynod siomedig, gan fod Shropdoc wedi darparu un o'r gwasanaethau y tu allan i oriau gorau yn y wlad gan ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl Powys. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau'r Siambr hon nad oedd cymhelliad ariannol yn sail i'r penderfyniad i roi terfyn ar gontract Shropdoc ac a allwch chi sicrhau pobl Powys y bydd y gwasanaeth newydd gystal, os nad yn well, na'r gwasanaeth y tu allan i oriau a ddarparwyd gan Shropdoc?
Dyna rydym ni eisiau ei wneud, ond mae gan Shropdoc, cofiwch, ei broblemau ariannol ei hun, a dyna'r rheswm pam mae'r sefyllfa hon wedi codi. Un o'r pryderon hefyd yw y bydd y ddau grŵp comisiynu clinigol o Loegr sy'n comisiynu Shropdoc ar hyn o bryd yn aildendro yn ystod 2018 ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod y ddwy ochr i'r ffin yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn comisiynu gwasanaethau newydd. Ond nid yw hon yn sefyllfa lle mae'r bwrdd iechyd wedi dewis bod mewn sefyllfa lle maen nhw eisiau cael gwared ar Shropdoc, os gallaf ei roi felly. Oherwydd heriau ariannol Shropdoc y mae'r sefyllfa wedi codi. Ond mae pawb eisiau bod mewn sefyllfa lle mae'r gwasanaeth o leiaf gystal â'r gwasanaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd.