Cynaliadwyedd Gwasanaethau Bysiau

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynaliadwyedd gwasanaethau bysiau presennol yng Nghymru? OAQ51635

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n gweithio gyda'r diwydiant ac eraill i ddatblygu cynaliadwyedd hirdymor trwy ddatblygu rhwydweithiau integredig fel y metro yn y gogledd a'r de. Byddwn yn edrych, pan gaiff y pwerau eu datganoli, ar strwythur gwell a mwy cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Mae fy etholwyr yn edrych ymlaen at y tramiau a systemau rheilffyrdd ysgafn a ddaw yn sgil y metro, ond yn y cyfamser mae pobl yn dibynnu ar fysiau i gael eu hunain i'r gwaith ac i'r ysgol. Bws Caerdydd yw'r gwasanaeth bws trefol ac mae'n nhw'n destun ymosodiadau bygythiol gan gwmnïau preifat sy'n dewis y llwybrau mwyaf proffidiol. Nid yw Deddf Trafnidiaeth 1985 yn caniatáu darparu croes-gymhorthdal i un llwybr o refeniw un arall, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth yw cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd rhwydwaith o wasanaethau cynaliadwy ar gyfer ein holl ddinasyddion, yn enwedig y rheini nad oes ganddynt gar, a pha fodel darparu sydd ei angen arnom a pha ddeddfwriaeth y gallai fod ei hangen arnom.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ni allwn barhau gyda system lle, oni bai fod cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau, y gellir eu newid neu gael gwared arnynt yn ddirybudd bron. Rwy'n cofio, nid mor hir yn ôl, yng Ngheredigion, pan roddodd Arriva y gorau i ddarparu gwasanaethau bws yno yn fyr-rybudd iawn, ac yna fe'i gadawyd i weithredwyr preifat eraill gamu i mewn a llenwi'r bwlch. Nid yw honno'n ffordd gynaliadwy o redeg gwasanaethau bysiau. Ac nid yw'n iawn chwaith, mewn sawl rhan o Gymru, bod un darparwr yn unig, a bod y darparwr hwnnw'n ddarparwr preifat sy'n gallu codi yr hyn y mae'n dymuno, i bob bwrpas. Mae hwn yn un arall o'r anwireddau hynny a hysbysebwyd gan y Toraid yn y 1980au a thu hwnt: y gellir cael cystadleuaeth ym maes trafnidiaeth. Wel, i lawer o bobl yng Nghymru nid oes unrhyw gystadleuaeth pan ddaw i fysiau. Yn sicr nid oes cystadleuaeth pan ddaw i drenau. Mae pobl yn talu mwy nag y dylent am fonopolïau preifat. Ni all y sefyllfa honno barhau, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau a'r Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o sicrhau, yn y dyfodol, bod gennym ni rwydwaith bysiau a gefnogir yn gyhoeddus, yn ariannol a chan bobl Cymru, ac nid un sy'n dameidiog lle mae'r prisiau'n rhy uchel.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:14, 23 Ionawr 2018

Brif Weinidog, rydw i wedi derbyn sylwadau gan weithredwr bysiau lleol yn sir Benfro sydd wedi ehangu ei weithrediadau yn dilyn cau cwmni bysus arall yn y sir, ond, yn anffodus, mae’n ei chael hi’n anodd i uwchraddio ei seilwaith. Wrth gwrs, rydw i’n derbyn bod cyllidebau awdurdodau lleol yn dynn, ond, o ystyried y gwasanaeth pwysig y mae mwy a mwy o gwmnïau bysiau yn eu cynnig ar draws Cymru, a’r ffaith eu bod yn darparu swyddi yn lleol hefyd, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gwmnïau bysiau fel hyn i ddiogelu eu hyfywedd yn y dyfodol ac, felly, sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 23 Ionawr 2018

Faint o gwmnïau ŷm ni wedi'u gweld dros y blynyddoedd sydd yn cwympo drosodd? Sawl un. Sawl un. Mae'n rhaid i ni ailystyried y strwythur o wasanaethau bysiau. Mae hynny'n meddwl, er enghraifft, a oes yna fodd i gael system o franchises—nid yw e'n gweithio ar lefel awdurdodau lleol; maen nhw'n rhy fach, yn fy marn i, i hynny ddigwydd—er mwyn sicrhau bod cwmni yn gorfod sicrhau gwasanaeth ar y pris sydd wedi cael ei gytuno, a sicrhau bod y gwasanaeth hwnnw yn parhau dros y blynyddoedd. Mae'n rhaid i ni symud bant o'r strwythur sydd gyda ni ar hyn o bryd, sef un lle, i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, mae un cwmni yn rhedeg gwasanaethau, ac mae hi lan iddyn nhw i redeg y gwasanaethau y maen nhw'n credu sy'n mynd i weithio, heb unrhyw fath o input na chaniatâd gan bobl leol. Mae'n rhaid i hynny newid. Mae'n rhaid i ni ystyried nad oes cystadleuaeth o gwbl yn y rhan fwyaf o Gymru ynglŷn â bysiau, a symud i system, felly, sy'n llawer mwy cynaliadwy, a system sy'n sicrhau nad ydym ni'n gweld gwasanaethau jest yn cwympo wrth ei gilydd, yn aml iawn, fel rydym ni wedi gweld dros y blynyddoedd diwethaf.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:16, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod yn dderbyniol nad oes unrhyw fysiau yn ystod yr oriau prysur, o ystad ddiwydiannol Wrecsam—un o'r ystadau diwydiannol mwyaf yn Ewrop—i ganol tref Wrecsam? Mae miloedd o weithwyr mewn sefyllfa lle nad oes ganddyn nhw unrhyw wasanaeth trafnidiaeth. Mae'n rhaid ichi naill ai gadael y gwaith yn gynnar, neu mae'n rhaid i chi aros am awr i ddal y bws adref. Nawr, gallwch chi sôn cymaint ag y mynnoch am eich uwchgynadleddau bysiau achlysurol. Gallwch chi ddangos mapiau ffansi i ni o system drafnidiaeth metro gogledd Cymru, fel y'i gelwir, neu, wrth gwrs, gallwch chi ddweud wrthym eich bod o ddifrif am hyn. A yw hyn yn dderbyniol? Oherwydd mae pobl yn dweud wrthyf i nad yw'n dderbyniol. Rwy'n siŵr y byddai pawb yma yn credu nad yw'n dderbyniol. Pam mae Wrecsam yn dioddef gwasanaethau sy'n is na'r safon yn hyn o beth? A pham nad oes gan yr ystad ddiwydiannol fwyaf, neu un o'r ystadau diwydiannol mwyaf yn Ewrop, yr hyn sy'n wasanaeth sylfaenol?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Pam nad yw e'n codi'r mater gyda'r cynghorau? Y cynghorau sy'n gyfrifol am roi cymorthdal i wasanaethau bysiau. Ac mae e'n iawn; a ydw i'n credu bod hyn yn dderbyniol? [Torri ar draws.] A ydw i'n credu bod hyn yn dderbyniol? Nac ydw, dydw i ddim; rwy'n credu ei fod ef yn iawn. Ond y gwir yw, fel y gŵyr ef yn iawn, nid oes gennym reolaeth dros y bysiau eto. Nawr, does dim diben esgus—[Torri ar draws.] Nid yw arweinydd yr wrthblaid hyd yn oed yn gwybod, mae'n debyg, ar sail y sylw y mae ef newydd ei roi—nad oes gennym gyfrifoldeb dros y bysiau eto. Rwyf i eisiau gweld, ar gyfer pobl Wrecsam a'r rhai hynny sy'n cymudo i ystad ddiwydiannol Wrecsam, wasanaeth trafnidiaeth priodol, integredig, cynaliadwy, drwy fetro y gogledd-ddwyrain, gan ddefnyddio trenau, gan ddefnyddio bysiau, i sicrhau na fydd y sefyllfa y mae ef wedi ei disgrifio—nad yw'n dderbyniol—yn parhau yn y dyfodol fel sydd wedi digwydd, ar ôl 30 mlynedd o gamreoli trafnidiaeth gan y Torïaid. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch i'r Prif Weinidog.