1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
1. Will the Cabinet Secretary make a statement on the Welsh Government's allocation of capital funding? OAQ51619
Diolch, Lywydd. Er gwaethaf y pwysau ar ein cyllidebau cyfalaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gwario bron i £5 biliwn i gefnogi blaenoriaethau seilwaith ledled Cymru, gan gynnwys, er enghraifft, adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, darparu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain a diogelu dyfodol ein hamgylchedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Coleg Gwent yn bwriadu adleoli eu campws yng Nghasnewydd i leoliad ar lannau'r afon yng nghanol y ddinas, a allai fod yn drawsnewidiol ar gyfer addysg bellach yng Nghasnewydd, byddai'n golygu cydweithio â Phrifysgol De Cymru a'u campws hwy yng nghanol dinas Casnewydd, ac fe'i cefnogir gan Gyngor Dinas Casnewydd o ran cynlluniau adfywio ehangach. Yn gyffredinol, tybed a allech ddweud wrthyf pa fath o cyllid cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y math hwnnw o brosiect, o ran cyllid cyfalaf uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a hefyd, efallai, o ran modelau amgen, dielw o ddarparu cyllid angenrheidiol.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n gyfarwydd iawn â phresenoldeb Prifysgol De Cymru ar lannau'r afon ar y campws yng nghanol dinas Casnewydd, sy'n hynod lwyddiannus, ac rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau eraill y cyfeiriodd yr Aelod atynt. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o fuddsoddi mewn addysg yng Nghasnewydd, ochr yn ochr â chyngor y ddinas. Rydym yn buddsoddi dros £50 miliwn yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ardal Casnewydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu £25.5 miliwn o hwnnw. A hynny i gyd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn erbyn cefndir lle mae ein cyllidebau cyfalaf £400 miliwn yn llai yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod nag yr oeddent yn 2009-10, gyda'r holl effaith y mae hynny'n ei gael ar ein gallu i ariannu cynlluniau pwysig. Rydym yn bwrw ymlaen â'r model buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Bydd hynny'n gwneud cyfraniad at fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac nid oes gennyf amheuaeth, wrth i'r cynllun y mae'r Aelod yn cyfeirio ato symud ymlaen, y byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud, drwy gyfalaf confensiynol neu drwy ffyrdd arloesol o ariannu, pe bai'r cynllun hwnnw'n dod i'n sylw.
Byddwch wedi fy nghlywed yn gofyn i'r Prif Weinidog ddoe am ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, yn ymchwiliad y pwyllgor yr wythnos diwethaf, roedd arwydd bod cynnydd sylweddol yng nghostau'r prosiect penodol hwn. Fel Ysgrifennydd Cyllid, sydd a chyfrifoldeb am gyllidebau cyfalaf, ymhle y credwch y mae'r pwynt tyngedfennol ar gyfer y cynllun hwn, gyda'r costau ychwanegol a ragwelir ar hyn o bryd? Oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd wedi dynodi, pan gafodd ei holi gan yr Aelod dros Lanelli, fod yna bwynt tyngedfennol. Felly, pa asesiad a wnaethoch o'r cynllun hwn a'r gallu i fwrw ymlaen ag ef mewn gwirionedd?
Wel, Lywydd, byddai penderfyniad o'r fath yn benderfyniad polisi; fy nghyd-Aelod, Ken Skates fyddai'n cymryd y cyfrifoldeb dros hynny. Fel y Gweinidog cyllid, fy ymagwedd i tuag at ffordd liniaru'r M4 erioed yw parchu annibyniaeth yr ymchwiliad cyhoeddus lleol, nid gwneud dyraniadau uniongyrchol i'r adran ar gyfer ffordd liniaru'r M4 hyd nes y byddwn yn gwybod beth yw canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus lleol hwnnw. Mae arian wedi'i gadw mewn cronfeydd canolog, digon i fwrw ymlaen â'r prosiect, ond hyd nes y byddwn yn gwybod beth fydd yr ymchwiliad cyhoeddus lleol yn ei ddweud, credaf ei bod yn fwy synhwyrol i ni gadw'r arian hwnnw'n ganolog a gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu yng ngoleuni adroddiad yr ymchwiliad.
Wrth gwrs, mae'r cynnydd yn y costau yn deillio'n bennaf o'r ffaith bod £136 miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i ateb pryderon ynglŷn â'r porthladd yng Nghasnewydd, ac mae hynny, mae'n debyg, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhywbeth rydych wedi'i gymeradwyo, neu wedi cytuno iddo o leiaf. Nawr, rydych wedi sôn am yr arian sydd gennych yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Fel rwy'n deall, mae gennych £150 miliwn mewn cronfeydd cyfalaf a'r gallu i fenthyca £125 miliwn arall, felly mae hynny'n gwneud cyfanswm o £275 miliwn y gellid ei ddefnyddio y flwyddyn nesaf fel arian cyfalaf tuag at yr M4 newydd, fel y dylem ei galw. A allwch chi gadarnhau nad ydych yn gallu, ac na fyddwch yn ceisio, gwario'r arian hwnnw hyd nes y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus wedi adrodd, ie, ond hefyd hyd nes y bydd pleidlais wedi bod ar gyllideb atodol yn y Cynulliad hwn?
Wel, Lywydd, fel y mae'r Aelod wedi fy nghlywed yn dweud, rwy'n bwriadu caniatáu i'r ymchwiliad cyhoeddus adrodd cyn i mi wneud penderfyniadau dyrannu. Byddai'n rhaid i'r penderfyniadau dyrannu hynny gael eu hadrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y ffordd arferol, a lle byddant yn galw am gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, byddai'n rhaid ceisio'r gymeradwyaeth honno.