2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 24 Ionawr 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, faint o aelwydydd a oedd gynt yn gymwys ar gyfer uwchraddio o dan raglen Cyflymu Cymru, ac a oedd yn disgwyl cael eu huwchraddio erbyn diwedd mis Rhagfyr sydd wedi cael eu siomi?
Wel, nid dyna fel y buaswn i'n ei roi. Fel y dywedais, mae gennym darged ar gyfer cynnwys 690,000 o safleoedd yn y prosiect cyntaf. Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cynharach, nid wyf eto mewn sefyllfa i allu dweud yn bendant ein bod wedi cyrraedd y targed hwnnw. Gobeithiaf y gallwn wneud hynny o fewn yr ychydig fisoedd nesaf. Yn amlwg rydym yn monitro hyn yn ofalus. Nid fydd BT Openreach yn cael eu talu hyd nes y byddant wedi cwblhau'r broses brofi drwyadl ac yna byddwn yn gwybod a ydynt wedi cyrraedd y targed. Rydym yn gwybod faint o safleoedd a geir yng Nghymru. Felly, drwy broses ddileu, fe wyddom felly faint sydd heb gael eu cynnwys, a hwy yw'r bobl y byddwn yn edrych arnynt ar gyfer y prosiectau olynol. Ond nid yw'r wybodaeth gennyf yn y ffordd rydych yn awgrymu.
Wel, fe ateboch gwestiwn, ond nid yr un a ofynnais, iawn. Gofynnais faint—
Nid yw'r wybodaeth gennyf yn y ffordd honno, mae'n ddrwg gennyf.
Gofynnais faint o bobl a oedd wedi cael eu siomi a dylech wybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, oherwydd fe fyddwch yn gwybod bod llawer o bobl yn gofyn y llynedd, a chawsant wybod y byddai eu heiddo'n cael eu cynnwys erbyn 31 Rhagfyr. Nawr, ar ôl gofyn, cânt neges wahanol yn dweud eu bod yn archwilio atebion. Felly, ni ddylai fod mor anodd â hynny i ganfod faint o bobl sydd wedi cael eu siomi a chyfrif beth yw'r nifer.
Mae'n rhaid i mi ddweud, o safbwynt cyfathrebu, mae prosiect Cyflymu Cymru wedi bod yn drychineb llwyr. Mae'n rhaid i mi ddweud bod digon o enghreifftiau ohonoch yn ysgrifennu llythyrau at bobl, neu bobl yn ysgrifennu atoch chi, yn gofyn, 'Pa bryd y caf fy nghynnwys?' Yna, rydych yn ysgrifennu nôl gyda dyddiad penodol. Nid ydynt yn ei gael, maent yn ysgrifennu atoch eto, ac rydych yn ysgrifennu'n ôl yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennym am hynny, dyma fydd y dyddiad yn awr.' Nid ydynt yn ei gael erbyn y dyddiad hwnnw, maent yn ysgrifennu atoch, ac rydych yn ysgrifennu nôl eto yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennym am hynny, 31 Rhagfyr 2017 yw'r dyddiad yn awr.' Ym mis Ionawr, nid ydynt yn ei gael, maent yn ysgrifennu atoch eto, ac yna rydych yn ysgrifennu nôl a dweud, 'Mae'n ddrwg gennym, daeth y prosiect i ben.' Wel, nid yw hynny'n ddigon da a dyna beth sydd wedi bod yn digwydd. Felly, a gaf fi ofyn i chi, pa wersi rydych wedi'u dysgu o'r cytundeb hwn ar gyfer cynllunio'r nesaf, yn enwedig mewn perthynas â chyfathrebu?
Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod, fel y mae'n gwybod. Rwyf wedi bod ar daith o amgylch Cymru ac rwyf wedi clywed llawer gan aelodau o'r cyhoedd sy'n rhwystredig iawn oherwydd y llythyrau y maent yn eu cael mewn perthynas â'r amserlen. Nid wyf eisiau ymroi i semanteg, oherwydd mae hynny'n codi gwrychyn pobl, ond yn amlwg nid ydym yn gwneud addewidion. Rydym yn sôn am waith sydd wedi'i drefnu ac mae nifer o resymau peirianyddol cymhleth pam nad yw'n gweithio bob amser.
Y rheswm pam nad wyf yn gwybod am bawb a oedd ar yr amserlen honno ac na lwyddodd i gael y gwaith wedi ei wneud erbyn y dyddiad terfynol yw mai'r unig bobl y gwn amdanynt yw'r bobl sydd wedi ysgrifennu ataf ac mae'n dra phosibl fod rhai eraill nad wyf yn ymwybodol ohonynt. Felly, gallwn roi is-adran i chi, ond nid ydym yn cadw'r niferoedd yn y ffordd honno. Nid wyf yn ceisio osgoi gwneud hynny; ond nid ydym yn cadw'r niferoedd yn y ffordd honno. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw faint o bobl a gafodd eu cynnwys ac felly, faint o bobl sydd ar ôl. Y bobl sydd ar ôl yw'r rhai rydym eisiau canolbwyntio arnynt fwyaf. Fel y dywedais mewn ymateb i Angela Burns yn gynharach, nid yw hyn yn ymwneud â'r arian, ond yn amlwg nid ydym eisiau talu am rhywbeth nad ydym wedi'i gael; mae hyn yn ymwneud â defnyddio'r arian i gysylltu pobl.
Rwy'n derbyn y broblem ynglŷn â chyfathrebu yn llwyr. Roedd rhesymau cymhleth dros hynny, sy'n ymwneud â'r ffaith ein bod wedi gwneud hyn ar sail codau post, ac nid yw pob cod post a phob person yn cael eu cysylltu ar yr un pryd, ac mae rhesymau cymhleth dros hynny, ac nid wyf am eu trafod yn awr, ond maent wedi arwain at y sefyllfa hynod rwystredig hon.
Pan fyddaf yn gwneud y cyhoeddiadau am y cyfnod nesaf, fe welwch ein bod yn targedu safleoedd unigol mewn gwirionedd. Ni fydd gennym y broblem hon o gael carfan o bobl, gyda rhai ohonynt yn cael eu cysylltu ac eraill nad ydynt yn cael eu cysylltu. Bydd gennym ystod o ymatebion i hynny i wneud yn siŵr ein bod yn weddol hyderus ynglŷn â lle y gallwn gysylltu, a'n bod yn cael sgyrsiau da gyda phobl lle rydym yn credu y gallai fod anawsterau mwy technegol.
Rwy'n ddiolchgar i chi am gydnabod y problemau cyfathrebu sydd wedi bod. Mae'r adolygiad marchnad agored, a gynhaliwyd gennych wrth gwrs, yn nodi'r safleoedd ar gyfer y cynllun nesaf. Ni fyddai'r safleoedd hynny a oedd yn rhan o gynllun Cyflymu Cymru ac a gafodd eu siomi yn cael eu cynnwys yn rhan o'r dadansoddiad hwnnw oherwydd, wrth gwrs, dywedwyd wrthynt y byddent yn cael eu huwchraddio erbyn diwedd y llynedd. Felly, dyna ddatganiad ffeithiol; dywedwch wrthyf a yw hynny'n gywir, yn eich barn chi. Ond a gaf fi ofyn, ac rwyf wedi gofyn hyn nifer o weithiau, ac rwyf am ofyn eto: a ydych yn gallu rhoi sicrwydd pendant i mi heddiw y bydd y safleoedd hynny'n cael eu trosglwyddo i'r cynllun newydd yn awtomatig ac yn cael blaenoriaeth?
Na, ni allaf wneud hynny, oherwydd hyd nes y byddaf yn gwybod beth oedd yr anhawster peirianyddol neu anhawster arall a oedd yn eu hatal rhag cael eu cynnwys, ni allaf roi sicrwydd pendant i chi y byddwn yn gallu goresgyn yr anawsterau hynny. Gallaf ddweud wrthych eu bod yn brif flaenoriaeth i ni—pobl sydd wedi bod yn y sefyllfa honno—ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu goresgyn yr anawsterau hynny, ond mae yna nifer fawr o resymau pam. Felly, er enghraifft, gwyddom fod gennym nifer fawr o safleoedd lle na ellir symud ymlaen oherwydd anawsterau fforddfraint. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i allu dweud ein bod yn gallu datrys anawsterau fforddfraint mewn pryd i sicrhau ein bod yn gallu cysylltu pobl, ond gallaf ddweud wrthych ein bod yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny.
Mae mater yn codi mewn perthynas â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â rhywfaint o hyn, a bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o hyn, ac mae'n ymwneud â sut rydym yn ystyried y band eang. Ac mae arnaf ofn ei fod yn cael ei ystyried yn foethusrwydd o hyd, er gwaethaf y sgyrsiau am y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Oherwydd nid yw'n gyfleustod, nid oes gennym hawl i groesi tir pobl ac nid oes gennym hawl i fynnu eu bod yn caniatáu fforddfreintiau ac ati, ac mae hynny'n achosi anawsterau mewn nifer fawr o ardaloedd. Dyna un o'r rhesymau—nid yr unig un—pam na allaf roi'r sicrwydd pendant hwnnw i chi. Pe bawn yn gallu, buaswn yn gwneud hynny, ond nid oes gennym bwerau i fy ngalluogi i wneud hynny. Fodd bynnag, gallaf ddweud ein bod yn ymwybodol iawn o'r problemau y mae'r Aelod yn eu crybwyll, ac y mae pawb arall yn eu crybwyll, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd cynifer o'r bobl hynny ag y gallwn.
Llefarydd UKIP—David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Yn dilyn y thema a archwiliwyd gan ambell i Aelod Cynulliad yn gynharach yn eu cwestiynau hwy, a yw arweinydd y tŷ yn credu bod yr asiantaethau ymyrraeth sy'n ymdrin â cham-drin domestig yng Nghymru yn ddigon cadarn i fynd i'r afael â'r drosedd enbyd hon?
Fel y dywedais mewn ymateb i nifer o Aelodau eraill, ceir nifer o fentrau gwirioneddol ddiddorol ledled Cymru. Maent i gyd yn gysylltiedig â nifer o fentrau cymhleth yn ymwneud â phrotocolau a rhannu data, ond bûm yn ymweld â'r ganolfan ddiogelu amlasiantaethol yng ngorsaf heddlu canol Caerdydd yn ddiweddar iawn, ac roeddwn yn edmygu'r modd roedd yr asiantaethau yno wedi dod at ei gilydd i oresgyn rhai o'r anawsterau technegol, yn ogystal â sicrhau bod gweithiwr cymdeithasol yn eistedd ochr yn ochr â swyddogion yr heddlu, lle roedd ganddynt systemau ar wahân ar ddwy sgrin wahanol fel y gallent wneud penderfyniadau ar unwaith, ac yn y blaen. Mae'n drefniant trawiadol iawn, ac os nad yw'r Aelod wedi ymweld â'r ganolfan, buaswn yn sicr yn argymell ymweliad fel y gall weld y gwaith da y gellir ei wneud.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ond mae ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion o droseddau domestig yn ardaloedd Heddlu Dyfed-Powys, Gwent a Gogledd Cymru wedi cynyddu 23 y cant, ac gwelwyd cynnydd enfawr o 48 y cant yn ardal Heddlu De Cymru. Er y gellid priodoli llawer o'r cynnydd hwn i gydnabyddiaeth gan yr heddlu a hyder cynyddol i adrodd am droseddau o'r fath, onid yw arweinydd y tŷ yn teimlo bod y rhain yn gyfres o ystadegau sy'n peri gofid?
Ydw, wrth gwrs, mae'r holl ystadegau ar drais domestig yn peri gofid, ac mae'n felltith yn ein cymdeithas, ac mae gennym ystod o opsiynau ar gyfer atal hyn ac ymdrin â dioddefwyr a'u troseddwyr a'r materion amrywiol sy'n codi. Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae gennym safonau i awdurdodau perthnasol eu gosod ar hyfforddiant sy'n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol yn codi proffil y materion hyn, ac yn gwella sgiliau gwasanaethau cyhoeddus i ymateb yn fwy effeithiol i'r rheini sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dros 70,000 o bobl yng Nghymru wedi cael yr hyfforddiant o dan y fframwaith hyfforddi cenedlaethol, felly dyna 70,000 yn fwy o weithwyr proffesiynol sy'n fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus wrth ymateb i'r rheini sy'n profi'r math hwn o drais. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn codi safonau ar gyfer gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi sôn am rai o'r pethau eraill rydym yn eu gwneud mewn perthynas â gwaith amlasiantaethol ac ati, ond mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr fod pob agwedd ar yr agenda honno yn gywir yma yng Nghymru.
Unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am yr ateb cynhwysfawr hwnnw, ond mae Cymorth i Fenywod Cymru, un o'r asiantaethau rhagorol—rwy'n siŵr eich bod wedi cyfeirio atynt yn gynharach—sy'n ymdrin â throseddu domestig, a rhan o'u cylch gwaith yw darparu llochesau ar gyfer dioddefwyr, yn hynod bryderus am y toriadau i'w cyllid, a chyfeiriant at y ffaith nad oeddent wedi gallu darparu lloches i 388 o oroeswyr cam-drin domestig yn 2016. Mae'r llochesau hyn yn aml yn elfen hanfodol ar gyfer rhoi dewrder i ddioddefwyr cam-drin domestig adael y partner sy'n eu cam-drin. Felly, sut yn y byd y gellir cyfiawnhau torri cyllid i'r asiantaethau hyn a darparu lloches? Mae'r ffigurau uchod yn dangos awydd cynyddol ymhlith dioddefwyr i geisio ymyrraeth. Yn sicr, arweinydd y tŷ, dylem fod yn cynyddu'r cyllid ar gyfer darparu lloches, nid ei dorri.
Ac rwy'n cytuno'n llwyr. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw edrych i weld sut y gallwn reoli ein cyllideb ein hunain yn y maes hwn, sy'n mynd yn llai ac yn llai—o ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth bresennol y DU—er mwyn gwneud y gorau o hynny. Rydym yn gwneud hynny drwy gynyddu hyblygrwydd ein partneriaid gwasanaethau lleol i ddefnyddio eu grant mewn ffyrdd mwy creadigol ac i gydweithio'n well ar raddfa ranbarthol. Rydym yn ariannu'r cydgysylltwyr rhanbarthol yn benodol er mwyn eu galluogi i wneud hynny. Rwy'n deall pryderon y sefydliadau yn iawn, gan gynnwys Cymorth i Fenywod Cymru, sy'n darparu'r llochesau. Byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid lleol i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r arian sydd ar gael inni.
Diolch. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Gan eich bod chi'n gyfrifol am faterion cydraddoldeb, a allwch chi egluro sut yr ydych chi'n sicrhau bod holl adrannau Llywodraeth Cymru a'r cyrff yr ydych chi'n eu hariannu yn cymryd materion cydraddoldeb o ddifrif?
Rwy'n cael cyfres o gyfarfodydd dwyochrog ar draws yr holl gyd-Aelodau yn y Llywodraeth, a ddechreuodd pan ymgymerais â'r swydd hon ychydig wythnosau yn ôl yn unig, er ei bod yn teimlo ychydig yn hirach. Dyna ddiben y cyfarfodydd dwyochrog: sicrhau bod yr agenda gydraddoldeb, sy'n amlwg yn cysylltu â phob rhan o Lywodraeth Cymru—Llywodraeth Cymru fel cyflogwr, Llywodraeth Cymru fel sefydliad a Llywodraeth Cymru fel llywodraeth—yn cael ei hymgorffori yn briodol yn yr holl waith a wnawn.
Mi fyddwch chi wedi gweld dros y penwythnos fod Cymdeithas Feddygol Prydain, BMA Cymru, wedi mynegi pryderon am ymddygiad swyddogion a byrddau iechyd sy'n ymwneud â datblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i Gymru, mater a oedd yn rhan o'r fargen gyllideb gyntaf rhyngoch chi a ni, wrth gwrs. Mae adroddiad diweddar gan Stonewall wedi darganfod nad ydy 36 y cant o bobl drawsryweddol yng Nghymru wedi gallu cael mynediad at y gofal iechyd y maen nhw ei angen—ffigur uwch nag yn Lloegr a'r Alban—a bod hanner y cleifion traws yn dweud nad ydy staff iechyd yn deall eu hanghenion iechyd penodol. Felly, pa mor bryderus ydych chi am ymddygiad honedig ac agweddau fel hyn o fewn y byrddau iechyd, a pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd, ar y cyd â'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, er mwyn cael gwared ar wahaniaethu yn erbyn pobl draws o fewn y byrddau iechyd?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fel y dywedais, mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau i fod i gael ein cyfarfod dwyochrog ar y materion hyn. Hoffwn ddweud y byddaf—ac rwyf am achub y blaen arnaf fi fy hun yma i raddau—yn lansio'r ymgyrch Dyma Fi yr wythnos nesaf, ymgyrch a gynlluniwyd i drafod stereoteipio ar sail rhywedd a thrin unigolion fel unigolion. Mae'n ymgyrch rymus iawn i wneud i bobl weld yr unigolyn o dan y croen a welant ar y tu allan mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys materion trawsryweddol. Pan fydd yr Aelod yn gweld yr ymgyrch, credaf y bydd yn deall yr hyn rydym yn ceisio'i wneud.
Mae hyn oll, fel y dywedais o'r blaen, yn ymwneud â stereoteipio ar sail rhywedd. Dyna sydd wrth wraidd nifer fawr o'r materion a godwyd gan yr Aelodau heddiw ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef o'r pwynt cynharaf ym mywydau pobl. Mae gennyf focs sebon mawr, ac mae'r Dirprwy Lywydd yn fy ngwylio yn ei dynnu allan yn awr ac fe ŵyr y gallaf siarad am oddeutu awr a hanner ar y pwnc—er enghraifft, ar agenda Let Toys be Toys a'r ffordd y caiff pobl eu llunio o ran eu rhywedd yn gynnar iawn am ddim rheswm o gwbl. Bydd yr ymgyrch gyfan yn cael ei chynllunio o amgylch gadael i bobl fod yn bobl, gadael i bobl fod yn pwy ydynt a beth y maent yn dymuno bod heb ofni gwahaniaethu na chamdriniaeth. Felly, byddaf yn cael y cyfarfodydd dwyochrog hynny ar draws y Llywodraeth a byddwn yn lansio ymgyrch gyhoeddus rymus yr wythnos nesaf.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch o glywed hynny i gyd. Wrth gwrs, rydym ni'n sôn rŵan am sut mae penderfyniadau gan fyrddau cyhoeddus yn gallu cael effaith ar wasanaethau ar gyfer pobl draws, ond hefyd mae yna enghreifftiau o benderfyniadau yn effeithio'n wael ar grwpiau eraill na fyddent, efallai, wedi digwydd petai gennym ni fwy o amrywiaeth ymhlith rheolwyr uwch y sector gyhoeddus. Byddwch chi’n gwybod bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi nodi hyn yn glir, ac wedi gweld nad oedd yna welliant cyffredinol mewn cynrychiolaeth mewn rolau uwch, a bod merched a phobl o leiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn llai tebygol o fod mewn rolau uwch. Er bod cyfran y menywod mewn rolau uwch wedi gwella mewn rhai sectorau, fel addysg, mae hi wedi gwaethygu mewn rhai eraill, fel y gwasanaeth iechyd a’r heddlu. Felly, beth ydych chi am ei wneud er mwyn gwella amrywiaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac yn benodol yn y gwasanaeth iechyd, er mwyn sicrhau na fyddwn ni’n cael sefyllfaoedd lle mae swyddogion a rheolwyr yn rhwystro datblygiad gwasanaethau i grwpiau lleiafrifol? Ac yn fwy cyffredinol, a ydych chi’n cefnogi cynrychiolaeth gyfartal o ran rhywedd ar fyrddau cyhoeddus yng Nghymru?
Felly, yr ateb syml iawn i'r cwestiwn diwethaf hwnnw yw 'ydw'. Mewn gwirionedd, rwyf newydd gomisiynu darn o waith ar y cyd gyda fy swyddogion yn Chwarae Teg i weld sut y gallwn sicrhau bod cynrychiolaeth dda o ran rhywedd—hanner a hanner, nid 40 y cant—ar yr holl fyrddau cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Gobeithiaf allu adrodd yn ôl wedi iddynt gwblhau'r darn bach hwnnw o waith i roi'r agenda honno ar waith. Y rheswm y mae hynny'n bwysig yw mai hwy yw cyrff llywodraethu llawer o'r sefydliadau rydych newydd sôn amdanynt, a gwyddom fod sicrhau bod y byrddau hynny'n cynnwys gwell cydraddoldeb rhywiol, gwell amrywiaeth, yn annog peth o'r ymddygiad rydym yn awyddus i'w weld.
Roedd yr Aelod yn llygad ei lle wrth nodi'r agenda honno. Bydd yn rhan o'r cyfarfodydd dwyochrog rwy'n eu cael gyda fy holl gyd-Aelodau, gan gynnwys y Gweinidog iechyd, ond mae problem fawr yn hyn o beth sy'n ymwneud â sicrhau bod arweinyddiaeth sefydliadau yn adlewyrchu'r boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu, gan gynnwys materion rhywedd ond materion amrywiaeth eraill hefyd, a bod hynny'n llywio ymddygiad y sefydliad. Felly, rwy'n rhannu'r nod hwnnw gyda nifer fawr iawn o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, a byddwn yn rhoi cryn bwyslais ar yr agenda honno yn y dyfodol.