3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
6. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhanbarth Gogledd Cymru? OAQ51616
Mae'r Comisiwn yn cyflawni nifer o fentrau gyda'r nod o ymgysylltu â phobl y gogledd. Mae pobl o bob oed yn cymryd rhan mewn digwyddiadau, ymgynghoriadau pwyllgor a gweithdai. Rydym hefyd yn falch o'r ffaith bod gennym swyddfa Mae Colwyn, sy'n fan cyhoeddus i aelodau o staff y Comisiwn gyflawni eu gwaith yn y rhanbarth. Rydw i ar ddeall eich bod chi wedi cymryd eich llw yn swyddfa yna wrth gymryd eich sedd yn y Senedd yma.
Diolch, Gomisiynydd. Gomisiynydd, cefais fy nyfynnu yn y wasg pan ddychwelais fel Aelod Cynulliad yn dweud bod pobl yng ngogledd Cymru yn credu'n gyffredinol na ddylai Cynulliad Cymru fodoli. [Torri ar draws.] Peidiwch â chynhyrfu. Mynegir y farn hon gan lawer o etholwyr ar sawl llwybr ymgyrchu. A minnau yma bellach, gallaf weld effaith y Cynulliad ar fywydau pobl sy'n byw yn fy rhanbarth drosof fy hun. Gomisiynydd, pa gamau ychwanegol y bydd Comisiwn y Cynulliad yn eu cymryd i ddangos i bobl gogledd Cymru beth y mae'r Cynulliad yn ei wneud, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, sut y gallant gymryd rhan, ac annog canran fwy na 43.5 y cant i bleidleisio yn etholiadau nesaf y Cynulliad?
Diolch am y cwestiwn atodol. Mae'r Comisiwn, ac rwy'n siŵr pob Aelod yn y Siambr yma, yn ymwybodol iawn fod yna her barhaol i sicrhau bod pobl ym mhob rhanbarth yng Nghymru yn deall yn iawn yr hyn sydd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad yma nawr a'r hyn sydd yn bwerau sydd yn gweithredu mewn mannau eraill. Felly, yn ymateb i'r her yna, fe wnaeth y Comisiwn benderfynu comisiynu darn o waith a gafodd ei arwain gan Leighton Andrews a phanel i edrych ar sut y gall y Comisiwn, ar ran y Cynulliad yma, fod yn cyfathrebu ein gwaith ni yn well gyda phob cymuned yng Nghymru. Mae yna gyfleon wrth gwrs i gyfathrebu yn ddigidol nawr i bob man o Gymru—gan obeithio bod y band llydan yn cyrraedd pob man yng Nghymru, wrth gwrs. Mae yna argymhellion diddorol, arloesol o bosib hefyd, yn yr adroddiad yna o'r comisiwn yna, ac fe fyddwn ni fel Comisiwn yn edrych i wireddu rhai o'r camau yna nawr wrth inni sicrhau ein bod ni'n cynyddu drwy'r amser y ddealltwriaeth sydd gan y bobl yng Nghymru—ac mae hyn yn wir am bob cymuned, nid dim ond y gogledd—y ddealltwriaeth hynny o'r gwaith dydd i ddydd rŷm ni'n ei wneud yn y Senedd yma ar ran pobl Cymru.
A gaf i gytuno fod cyfathrebu yn gwbl allweddol? Ond nid oes curo mynd mas ac ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl. Rwy'n canmol y fenter Senedd Casnewydd fel roedd hi yn 2016, a Senedd Delyn, a gafodd ei ohirio oherwydd amgylchiadau trist. Mae'r model yna o gyfnod dwys o ymgysylltu'n uniongyrchol mewn gwahanol rannau o Gymru yn un rwy'n meddwl y dylem ni fod yn edrych i wneud mwy ohono fe. Felly, a gaf i ofyn a fyddai'r Comisiwn yn barod i ystyried dim jest cynnal un bob blwyddyn, ond mynd ati yn fwy bwriadol i gael yr ymgysylltiad dwys yna yn gyson, o fis i fis, gan dargedu ardaloedd penodol? Oherwydd dyna'r ffordd orau, yn fy marn i, i addysgu pobl am yr hyn rŷm ni'n ei wneud.
Rwy'n gwerthfawrogi'r pwyntiau mae'r Aelod wedi'u gwneud. Yn sicr, mae ein profiad ni o fod wedi gwneud Senedd@ mewn gwahanol gymunedau—ac rwy'n meddwl am yr un wnes i ymweld â'n fwyaf diweddar, Senedd@Casnewydd—yn dangos fod gwirioneddol werth i waith pwyllgorau, gwaith Aelodau, a gwaith y Senedd gyfan i fod yn ymgysylltu ag ardaloedd penodol, a gwella dealltwriaeth Aelodau o bob rhan o Gymru o'r union ardal yna, yn ogystal â gwella dealltwriaeth yr ardal yna o'r gwaith mae'r Cynulliad yma yn ei wneud. Felly, rydym ni yn edrych nawr, yn dilyn y ffaith ein bod ni wedi yn anffodus gorfod gohirio Senedd@Delyn, i weld sut gallwn ni fod yn cynllunio'r rhaglen yma nawr o weithgaredd dwys mewn cymunedau penodol ar hyd a lled Cymru dros weddill tymor y Cynulliad yma.
Efallai eich bod yn cofio, pan oedd gennym y pwyllgorau rhanbarthol gynt, eu bod yn hynod boblogaidd a llawer yn eu mynychu, yn enwedig yng ngogledd Cymru—hyd yn oed pan nad oedd hynny'n wir o reidrwydd ledled Cymru gyfan. Ers iddynt ddod i ben, mae'r grwpiau trawsbleidiol a gadeirir gennyf fel arfer yn cwrdd bob blwyddyn yng ngogledd Cymru, a phan fyddant yn gwneud hynny, ceir cryn dipyn o ymgysylltiad cyhoeddus â hwy, ymhlith sefydliadau a phobl sydd â diddordeb yn y meysydd allweddol ac sy'n ystyried y grwpiau hyn yn wyneb i'r Cynulliad yn absenoldeb unrhyw ryngweithio uniongyrchol arall y gallant gymryd rhan ynddo. Sut y gallech chi a'r Comisiwn ystyried felly sut y gallech weithio gyda'r grwpiau trawsbleidiol ar yr agenda honno o leiaf, er gwaethaf y ffaith na ellir, yn gyffredinol, eu diffinio fel un o gyrff ffurfiol y Cynulliad?
Rwyf wedi sylwi eich bod wedi bod yn arbennig o ragweithiol fel arweinydd eich grwpiau trawsbleidiol o ran sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal y tu allan i Fae Caerdydd, ac yn arbennig yn y gogledd ar gyfer eich grwpiau trawsbleidiol. Credaf fod hwnnw'n fodel y buaswn yn awyddus i'w annog a'i hwyluso a hoffwn weld y Comisiwn yn ei gefnogi. Rwy'n awyddus hefyd i ddarparu cymorth i bwyllgorau, wrth iddynt gyfarfod y tu allan i Fae Caerdydd. Gall hynny fod yn her logistaidd i'r pwyllgorau hynny, gan fod llawer o'r Aelodau yn aelodau o bwyllgorau eraill hefyd, ac mae hynny'n ei gwneud yn eithaf anodd cyfarfod mewn gwahanol rannau o Gymru. Ond mae'r egwyddor o annog y gwaith a wnawn i fynd rhagddo mewn ardaloedd eraill o Gymru yn un rwy'n ei chefnogi'n gryf, a hoffwn weld y comisiwn yn ei hwyluso ar draws y pleidiau a'r pwyllgorau hefyd.
Diolch, Llywydd.