2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol swyddfeydd Llywodraeth Cymru sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd? OAQ51738
Mae strategaeth leoli'r Llywodraeth yn cynnal ein hymrwymiad i bresenoldeb Llywodraeth Cymru ledled Cymru, gan sicrhau ein bod yn optimeiddio effeithlonrwydd ein hystâd ac yn lleihau ein costau gweithredu a'n heffaith amgylcheddol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers ei chreu, mae swyddfeydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru yn fy etholaeth i, ac mae rhywfaint o bryder wedi bod yn y gorffennol fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd yn groes i'w hymrwymiad i leoli staff Llywodraeth Cymru yn y Drenewydd. Yn 2015, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Parhaol ar y pryd, Syr Derek Jones, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bresenoldeb hirdymor yn y Drenewydd, y tu hwnt i Mawrth 2020. Nawr, mae rhai datblygiadau wedi bod ers hynny, ac mae'r adeilad a oedd yn eiddo i Lywodraeth Cymru ar y pryd wedi'i werthu. A allwch roi sicrwydd i mi fod hyn yn wir o hyd?
Yr hyn sydd gennyf i'w ddweud wrth yr Aelod yw bod yn rhaid i ni, mewn cyfnod lle mae cyllidebau o dan bwysau sylweddol iawn, adolygu ystâd Llywodraeth Cymru yn barhaus. Roedd gennym 75 eiddo yn 2010, ac mae gennym 28 eiddo bellach, ac mae hynny wedi rhyddhau arbedion sylweddol, sy'n ein galluogi i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig, fodd bynnag, i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru bresenoldeb gwasgaredig, rhyng-gysylltiedig a hygyrch ledled Cymru.
Mae swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon ar werth, efo’r staff yn symud oddi yno cyn hir i swyddfeydd fydd ar les. Mae Caernarfon wedi gweld colli llawer mwy o staff Llywodraeth Cymru na’r cyfartaledd cenedlaethol dros y blynyddoedd. Beth nad ydw i’n ei ddeall ydy sut mae lleihau staff mewn ardal fel Caernarfon yn cyfrannu at nod cynllun gweithredu economaidd y Llywodraeth, sef model o ddatblygu economaidd, ac rydw i’n dyfynnu, 'sy’n canolbwyntio ar ranbarthau er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol o ran cyfoeth a chyfleoedd ledled Cymru.' Yr wythnos yma eto, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi tystiolaeth bod rhanbarth y de-ddwyrain yn cael tair gwaith cymaint o fuddsoddiad cyfalaf y pen gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â rhai rhanbarthau eraill—tystiolaeth yn seiliedig ar wybodaeth gan eich Llywodraeth chi.
Lywydd, mae'r Aelod yn gwbl iawn i barhau i ddadlau achos Caernarfon mewn perthynas â phresenoldeb Llywodraeth Cymru yno. Gallaf roi sicrwydd iddi nad yw'r newidiadau presennol o ran presenoldeb Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn gyfystyr â symud o Gaernarfon. Mae'n golygu symud i eiddo newydd arall yn y dref yn noc Caernarfon, ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau â'i hymrwymiad i'w phresenoldeb yn y dref.