Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 27 Chwefror 2018.
A gaf innau ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Yn sicr, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r agenda yma. Efallai na fyddai'n taro nodyn cweit mor negyddol â llefarydd y Ceidwadwyr, ond, yn sicr, rwy'n cytuno ag ambell bwynt y mae e wedi'i wneud—un ohonyn nhw, wrth gwrs, yw'r ffaith bod yna adroddiad ar ôl adroddiad wedi amlygu'r gwendid yn y maes yma, ac, o'r diwedd, rŷm ni'n cyrraedd pwynt lle mae yna weithredu mwy penodol.
Mewn perthynas ag addysg bellach, wrth gwrs, rwy'n credu bod y pwynt a oedd yn cael ei wneud yn ddilys. Oes, mae yna raglen yn ei lle, ond rŷm ni'n sôn fan hyn am raglen sydd yn mynd i'r ysgol i hyrwyddo'r cyfleoedd, ac o flaen oed TGAU hefyd, felly, rwy'n meddwl bod yn rhaid inni sicrhau bod y parity of esteem yma yn estyn reit lawr y blynyddoedd o fewn ysgol uwchradd hefyd, ac nid dim ond unwaith y mae rhywun yn cyrraedd addysg bellach ac wedi gwneud y penderfyniadau. Efallai y gallwch chi ymateb ymhellach i hynny wrth ymateb i fi.
Mae'r datganiad yr ydych chi wedi'i roi inni heddiw yn pwysleisio, wrth gwrs, fod angen hwyluso adnabod disgyblion mwy abl a thalentog yn fwy cynnar. Mi allwn i ofyn, 'Wel, pa mor gynnar ŷm ni'n mynd i fynd?', oherwydd po gynharaf, po orau am wn i. Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ysgolion—mi af i mor bell yn ôl ag ysgolion cynradd fan hyn—yw gwahaniaethu o fewn yr ystafell ddosbarth, yn enwedig mewn ysgolion gwledig lle mae yna nifer bychan o athrawon, efallai, a lle mae gennych chi ddosbarthiadau sydd nid yn unig ag ystod o alluoedd ond ystod o oedrannau, yn mynd, efallai, o wyth i 11 oed. Felly, mae'r mwy abl yn 11 yn yr un amgylchfyd dysgu â'r rhai llai abl, efallai, sydd yn wyth oed. Mae hynny yn ei hun yn cyflwyno her eithriadol i'r gweithlu ac i'r gyfundrefn addysg.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf i yw: sut ŷch chi, fel Llywodraeth, yn teimlo y gallwn ni arfogi athrawon yn well gyda'r sgiliau, y technegau a'r strategaethau gwahaniaethu effeithiol yna sydd eu hangen er mwyn cychwyn ar adnabod y sgiliau yma a manteisio ar hynny mor gynnar ag sy'n bosibl, oherwydd mae yn her eithriadol? Nid wyf yn dweud mai rôl uniongyrchol Llywodraeth yw gwneud hynny—yn sicr, mae consortia yn mynd i fod yn ganolog i hynny—ond rwyf eisiau clywed beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i annog a hyrwyddo hyn, hyd yn oed ar y lefel cynradd, os ydym ni am fynd yn ôl i adnabod, annog a manteisio ar gyfleoedd i ddisgyblion mwy abl a thalentog cyn gynted ag sy'n bosibl.
Rydych chi'n cyfeirio hefyd yn eich datganiad at y grant datblygu disgyblion—y pupil development grant.