1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
8. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â darparu llaeth am ddim mewn ysgolion? OAQ51867
Diolch yn fawr iawn, Simon. Mae trafodaethau yn parhau gyda DEFRA ynghylch llaeth ysgol. Bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun llaeth ysgol presennol yr UE. Byddwn yn trafod opsiynau ar gyfer dyfodol y cynllun gyda DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill fel rhan o'n hystyriaethau ehangach mewn perthynas â gadael yr UE. Ac mae hon yn un o sawl enghraifft nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ohoni mewn perthynas ag effaith ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch am yr ateb ac rwy’n falch bod trafodaethau yn cymryd lle, ond ar hyn o bryd, mae llaeth am ddim yn y cyfnod sylfaen, yn benodol oherwydd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Mae llaeth wedi’i sybsideiddio yn yr ysgolion cynradd oherwydd rŷm yn rhan o gynllun yr Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae llaeth mewn ysgolion nid yn unig yn faeth—yn ychwanegu at faeth plant ysgol—ond mae hefyd yn dangos o ble mae bwyd yn dod. Mae’n ffordd inni ddysgu am rôl bwyd yn ein bywydau ni bob dydd.
Rwy’n deall bod yn rhaid ichi drafod hwn ar lefel Prydeinig, ond rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn bwysig bod y Llywodraeth bresennol, Llywodraeth Cymru, yn gwneud datganiad eich bod chi am barhau, beth bynnag a ddaw, gyda’r system llaeth presennol, achos rwy’n meddwl dyna’r sicrwydd mae rhieni, ysgolion a'r gymuned ehangach yn dymuno ei weld.
Wel, Simon, fel rydych wedi cydnabod, mae cynllun llaeth ysgol Llywodraeth Cymru yn unigryw ymysg gwledydd cartref y Deyrnas Unedig, gan mai hwnnw yw'r unig gynllun sy'n cynnig llaeth am ddim i'r cyfnod sylfaen cyfan. Mae dros 99 y cant o ysgolion cynradd a gynhelir yn rhan o'r cynllun, ac fel y dywedoch, mae'n darparu nifer o fanteision i'r plant.
Yn 2017-18, roedd y gyllideb llaeth ysgol am ddim yn £2.2 miliwn, a hyd yn oed yn y senarios anodd y buom yn sôn amdanynt mewn perthynas â chyllid addysg, rwyf wedi bod yn benderfynol o gadw'r buddsoddiad hwnnw gan fy mod yn sylweddoli ac yn cydnabod manteision y cynllun llaeth am ddim. Byddwn yn parhau i drafod hyn, ond mae'n fater byw, nid yw'n rhywbeth rydym wedi anghofio amdano ac rydym yn gweithio i weld sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn.
A gaf fi ddiolch i Simon Thomas am ofyn y cwestiwn hwn? Oherwydd rwy'n frwd iawn fy nghefnogaeth i roi llaeth am ddim i blant mewn ysgolion, ac os oes modd, hyd nes eu bod yn gadael yr ysgol, ond dyna ni.
A gaf fi ddiolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am ddweud eich bod yn ymrwymo i ddarparu hynny? Ond ar ôl Brexit, pa ystyriaeth y byddwch yn ei rhoi i annog partneriaethau uniongyrchol rhwng ein cynhyrchwyr llaeth lleol, ein ffermwyr a'n hysgolion, fel y gall mwy o bobl gael budd ychwanegol o laeth lleol am ddim mewn ysgolion?
Wel, Janet, yn bennaf, rydym yn darparu llaeth i'n plant ysgol oherwydd y manteision maethol y mae hynny'n ei roi i blant. Ond wrth gwrs, mae iddo fantais ychwanegol i'r sector llaeth, ac fel y dywed Simon Thomas, gall ddarparu cyfle addysgol defnyddiol inni siarad â phlant ynglŷn â chynhyrchu bwyd cynaliadwy, o ble y daw eu bwyd, ac yn wir, cyfraniad cymdeithasol a hanesyddol ein cymuned ffermio i'n cenedl ac i'n sector llaeth yn arbennig.
Rwy'n edrych yn barhaus ar ffyrdd y gallwn gynyddu faint o gynnyrch lleol sydd ar gael drwy ein gwasanaethau prydau ysgol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i blant Cymru ddeall mwy ynglŷn ag o ble y daw eu bwyd.