– Senedd Cymru am 6:43 pm ar 7 Mawrth 2018.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Rydym yn symud yn awr at y ddadl fer. A wnaiff yr Aelodau sy'n gadael y Siambr wneud hynny neu fynd yn ôl i'ch seddau? Diolch. Galwaf am y ddadl fer yn awr, a galwaf ar Julie Morgan i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Julie.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Teitl fy nadl fer yw 'Cartrefi diogel—teuluoedd sefydlog. Pam mae angen diddymu adran 21 i roi mwy o sicrwydd i deuluoedd yn y sector rhentu preifat yng Nghymru.' Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Shelter Cymru am eu gwaith ac am eu cymorth ar y pwnc hwn, ac i ddatgan buddiant am fod fy merch yn gweithio i Shelter Cymru. Rwyf wedi cytuno y dylai Dawn Bowden, Joyce Watson, Mike Hedges a Jenny Rathbone siarad ar ôl i mi orffen fy sylwadau. Felly, diolch yn fawr iawn am eich diddordeb.
Felly, beth yw adran 21? Roedd Deddf Tai 1988 yn atal tenantiaethau gwarchodedig dan Ddeddf Rhenti 1977 y Blaid Lafur. Ar 15 Ionawr 1989, daeth y denantiaeth fyrddaliol sicr i rym. Ochr yn ochr â hi, daeth y weithdrefn i gyflymu'r broses o adennill meddiant, sef adran 21 o Ddeddf 1988, sef troi allan 'dim bai' i'r lleygwr. Yn ymarferol, mae'n golygu y gall landlordiaid droi pobl sy'n byw mewn cartrefi rhent preifat allan o'u tai heb unrhyw reswm o gwbl.
Mae yna 460,000 o bobl yn byw yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, a chredaf na ddylent fod mewn ofn cyson o gael eu troi allan heb reswm da. Mae angen iddynt allu cysgu'n dawel yn eu cartrefi. Pan fyddwn yn sôn am bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat, nid siarad yn unig a wnawn am bobl ifanc sydd am gael y rhyddid i godi pac a symud ar fyr rybudd. Rydym yn sôn yn awr am deuluoedd sydd angen sylfaen solet i allu cael eu plant i ysgolion a rhieni sengl sydd angen dod o hyd i waith yn lleol. Mae'r sector rhentu preifat wedi newid yn aruthrol, ac erbyn hyn mae'n gyffredin ac mae llawer o deuluoedd ei angen. Dychmygwch y tarfu a'r gost o orfod symud ar fympwy'r landlord. Dychmygwch mai newydd beintio ystafell wely'r plant rydych chi a'u bod yn mwynhau eu hysgol newydd, dychmygwch eich bod newydd ddod o hyd i swydd ran-amser dda o'r diwedd sy'n cyd-fynd ag oriau ysgol, ac yna mae'r landlord yn penderfynu eich troi allan, a gallant wneud hynny heb roi rheswm.
Gall contractau byrddaliol sicr fod yn gontractau am gyfnodau sefydlog neu gyfnodau treigl cyfnodol o fis i fis. Ni all landlord ddwyn achos adennill meddiant dan adran 21 yn ystod chwe mis cyntaf y denantiaeth neu yn ystod cyfnod contract sefydlog. Pan fo'r cyfnod sefydlog ar fin dod i ben neu fod y denantiaeth yn gyfnodol, mae adran 21 yn caniatáu i landlord gyflwyno rhybudd o ddau fis i adael. Os nad yw'r tenant yn gadael, cyhyd â bod yr hysbysiad yn gywir, mae'n rhaid i lys orchymyn meddiant. Nid oes rhaid rhoi unrhyw reswm dros fynnu meddiant. Ni archwilir i weld a yw'r tenant ar fai, ac ni chaiff angen y tenant ei fesur yn erbyn angen y landlord. A rhag inni anghofio, rydym yn siarad am gartrefi pobl, fel y'u disgrifir yn achos Uratemp Ventures Limited yn erbyn Collins fel y lle mae'r unigolyn yn byw a lle y mae'n dychwelyd iddo ac sy'n ffurfio canolbwynt ei fodolaeth.
Mae anghydraddoldeb pŵer bargeinio wedi arwain at gam-drin sylweddol a chaledi difrifol. Mae landlordiaid wedi gallu cyflwyno hysbysiadau'n fympwyol a heb eu hatal gan y llys, gyda thenantiaid yn cael eu gwneud yn ddigartref ar fyr rybudd gyda'r holl gostau a gofid y mae hyn yn eu hachosi. Mewn arolwg diweddar gan Shelter Cymru, dywedodd 22 y cant fod gorfod symud wedi eu gwthio i ddyled—cerdyn credyd, gorddrafft, benthyciadau diwrnod cyflog, benthyciad banc—ac roedd cost gyfartalog symud yn £1,100 a mwy.
Yn wreiddiol, efallai bod y sector rhentu preifat yn cael ei weld fel cyfrwng i weithwyr proffesiynol ifanc sengl neu barau heb blant, ond yn gynyddol, yn ogystal â bod yn dai i deuluoedd â phlant, pobl hŷn a phobl agored i niwed sydd yn y sector rhentu preifat. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd ddigartrefedd drwy gyfrwng byrddaliad sicr, ond gall y sicrwydd deiliadaeth lleiaf hwn arwain at symud o un tŷ i'r llall, gyda phlant a'u haddysg neu oedolion sy'n agored i niwed ac sydd angen rhwydwaith cymorth agos yn dod yn ddioddefwyr. I rieni a gyflogir mewn swyddi rhan-amser, daw'n hunllef, ac nid yn unig oherwydd logisteg cludo plant i'r ysgol a'u casglu oddi yno. Mae hyn yn peri straen ar berthynas pobl â'i gilydd ac yn cyfrannu at chwalu teuluoedd. Mae tai sefydlog yn hanfodol i wella lles ac yn hanfodol i berthynas pobl â'i gilydd a hunanddatblygiad. Mae'n greiddiol i fywyd teuluol, gan alluogi pobl i integreiddio a dod yn rhan o gymuned, adeiladu cysylltiadau cymdeithasol, adeiladu ymdeimlad o hunaniaeth a chynllunio a rhagweld eu dyfodol. Ac wrth gwrs, ceir tystiolaeth fod adran 21 yn cael effaith anghymesur ar fenywod, sy'n fwy tebygol o fod â phlant dibynnol, o ddibynnu ar fudd-daliadau prawf modd, o fod ar gontractau treigl misol, o ddioddef tai mewn cyflwr gwael ac o fod ofn cael eu troi allan yn ddialgar os ydynt yn cwyno.
Nawr, a oes rhaid iddi fod fel hyn? Yn syml iawn, nac oes. Am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif, roedd tenantiaid y sector preifat yn mwynhau mwy o sicrwydd deiliadaeth. A fydd rhoi diwedd ar adran 21 yn golygu y bydd landlordiaid yn methu adennill meddiant ar eu eiddo'n hawdd? Unwaith eto, na fydd. Gall landlordiaid adennill meddiant drwy adran 8 o Ddeddf 1988, boed o fewn cyfnod sefydlog neu beidio, ar yr amod y gallant sefydlu sail, er enghraifft lle y ceir honiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ôl-ddyledion rhent neu ddifrod i eiddo. A hyd yn oed dan y Ddeddf rhenti, mae landlordiaid wedi gallu adennill meddiant ar safle i'w ddefnyddio eu hunain neu i'w meibion a'u merched cyhyd â bod hynny'n wir, ac nid yn esgus. Yn yr Alban, lle y diddymwyd yr hyn sy'n cyfateb i adran 21, mae landlordiaid sydd angen gwerthu yn gallu adennill meddiant i hwyluso gwerthiant. O ran cyfiawnder a thegwch, onid yw'n llawer gwell fod yn rhaid i'r landlord sefydlu sail, fod y tenant yn cael cyfle i amddiffyn ei hun rhag honiadau, a bod y llys yn rhoi ei ddyfarniad annibynnol?
Nawr, a fydd landlordiaid yn ymwrthod rhag newid ac yn buddsoddi mewn mannau eraill? Dyna oedd y rhybudd a roddwyd pan gyflwynwyd cynlluniau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru, ond ni wnaeth hynny ddigwydd. Rhwng 2013 a 2014, tan 2015-16, daeth bron 7,000 o anheddau i mewn i'r sector mewn gwirionedd. Nid yw mwy o sicrwydd deiliadaeth yn cyfyngu ar allu landlord i ennill elw rhesymol. At hynny, fel y dywedodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, nid yw landlordiaid eu hunain am weld diwedd ar y denantiaeth gan fod eiddo gwag yn golygu colli rhent a chostau uwch iddynt eu hunain. Yn arolwg diweddar Shelter Cymru, dywedodd 64 y cant o denantiaid y byddent yn fwy tebygol o wneud gwelliannau i'r cartref eu hunain o gael tenantiaeth am bum mlynedd. Byddai mwy o sicrwydd i denantiaid yn hyrwyddo dull mwy proffesiynol o weithredu.
Yng Nghymru, bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gosod contract safonol yn lle tenantiaethau byrddaliol sicr cyn bo hir. Yn lle adran 21, bydd gennym adran 173, ond yn gyffredinol, gyda chyfyngiadau ar landlordiaid sy'n methu rhoi gwybodaeth am denantiaethau neu ofynion diogelwch neu ofynion blaendal, ailadroddir trefn adran 21 uchod yn Neddf 2016, ac eithrio amddiffyniad newydd o ddial o dan adran 217. Mae hwn yn rhoi disgresiwn i'r llys wrthod gorchymyn lle y gall y tenant ddangos bod y landlord wedi cyflwyno'r rhybudd i adael er mwyn osgoi atgyweirio neu rwymedigaethau addasrwydd i bobl fyw ynddo, ond amddiffyniad cul iawn yw hwn i'w roi pan fydd achos ar y gweill, gyda'r baich prawf ar y tenant.
Felly, i gloi, mae angen mwy o ddiogelwch ar denantiaid. Yn y pen draw, maent yn gorfod symud pan nad ydynt eisiau gwneud hynny. Mae symud cartref yn gostus. Mae diffyg sicrwydd deiliadaeth yn tanseilio bywyd teuluol, addysg plant a rhwydweithiau cymorth. Mae diffyg sicrwydd deiliadaeth yn golygu nad yw tenantiaid yn cael gwrandawiad teg yn y llys. Nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd newid yn arwain at grebachu'r sector rhentu preifat.
Yn y 12 mis diwethaf, mae galwadau tenantiaid wedi tyfu'n fwyfwy croch. Mae'r Alban wedi gwneud y newid, ac yn Lloegr, mae Llafur wedi cydnabod bod y chwe mis gofynnol o sicrwydd deiliadaeth a roddir gan adran 21 yn gwbl annigonol, ac mae wedi gwneud ymrwymiad yn yr etholiad cyffredinol diwethaf i godi hyn i dair blynedd, ac nid wyf yn gweld pethau'n gorffen yno. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i'r Cynulliad fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb, ac rwy'n mawr obeithio y bydd Cymru yn bwrw ymlaen i gael gwared ar adran 21, oherwydd mae gennym bŵer i wneud hyn mewn gwirionedd. Os gadewir tenantiaid yn yr ansicrwydd hwn a bod gennym y pŵer, yn sicr mae'n ddyletswydd arnom i symud ymlaen a rhoi'r camau hyn ar waith. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am wrando ar fy achos. Rwy'n trosglwyddo'r awenau i fy nghyd-Aelodau yn awr.
Wel, ni wnaethoch ddweud wrthyf i bwy rydych wedi rhoi munud, felly, rwy'n credu y byddai o gymorth pe baech yn gwneud hynny.
Fe wneuthum ar y dechrau, ond—
O, mae'n ddrwg gennyf, collais hynny. Roeddwn yn—
Dawn Bowden, Joyce Watson, Mike Hedges a Jenny Rathbone.
Iawn. O'r gorau. Diolch yn fawr iawn. Collais hynny. Mae'n ddrwg gennyf. Dawn Bowden.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Julie am roi munud o'i hamser i mi yn y ddadl hon ar fater pwysig iawn. Nawr, bydd cyd-Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol ers cryn amser fy mod wedi bod yn codi proffil y broblem 'rhyw am rent' fel y'i gelwir a all wynebu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n ceisio dod o hyd i gartref. Yn wir, dangosodd y darllediad diweddar gan y gohebwyr ar raglen Ein Byd realiti ffiaidd y broblem arbennig hon, a gwnaeth i mi feddwl faint o bobl sydd wedi wynebu troi allan 'dim bai' oherwydd hyn. Mewn gwirionedd, os nad oes yn rhaid i landlordiaid brofi rheswm dros droi allan, yna efallai na chawn ni byth wybod.
Clywn hefyd am achosion o droi allan dan adran 21 yn cael eu defnyddio pan na fydd tenant wedi gwneud dim mwy na cheisio gofyn am atgyweiriadau i eiddo. Oherwydd, o ystyried y galw uchel am lety yn ein cymunedau, mae landlordiaid yn gwybod y gellir dod o hyd i denant parod arall sy'n barod i ddygymod ag amodau gwael yn rhwydd. Yn y ddau amgylchiad a amlinellais, gellir defnyddio adran 21 gan landlordiaid diegwyddor i gael gwared ar denantiaid nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion anghyfreithlon neu sydd ond yn ceisio arfer eu hawliau.
Felly, yn ogystal â'r holl resymau a amlinellwyd gan Julie yn ei chyflwyniad, dyma ddau reswm arall pam rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Bydd gwella sefydlogrwydd deiliadaeth yn ddarn arall o'r jig-so rwy'n awyddus inni ei roi at ei gilydd, oherwydd mae'n rhaid i dai a chartrefi fod yn flaenoriaeth uwch byth yn ein gwaith.
Diolch i Julie am gyflwyno'r ddadl hon. Ymhell o ofyn i landlordiaid fodloni gofynion penodol gan leihau argaeledd cartrefi mewn gwirionedd, yr hyn y bydd yn ei wneud mewn gwirionedd, yn fy marn i, yw cael gwared ar landlordiaid gwael, oherwydd bydd landlordiaid da am anrhydeddu eu hymrwymiad i'w tenantiaid. Byddant eisiau edrych ar ôl eu buddsoddiad, ac rwy'n adnabod llawer iawn o landlordiaid da. Yn yr un modd rwy'n adnabod tenantiaid nad ydynt wedi bod yn ddiolchgar am hynny ac sydd wedi dinistrio'r cartrefi hynny, felly yr hyn rydym yn sôn amdano yma mewn gwirionedd yw cydbwysedd. Rwyf hefyd yn gwybod am lawer iawn o landlordiaid gwael a thai gwael iawn. Felly, drwy ddiddymu hyn, drwy roi rhywfaint o gydbwysedd yn ôl yn y system nad yw yno ar hyn o bryd mae'n amlwg, dyma'r ffordd iawn ymlaen, a'r hyn a welwn, rwy'n eithaf hyderus, yw landlordiaid da iawn gyda phobl yn cael yr hawl i gartref diogel a thenantiaeth sicr sy'n cael ei gynnal yn dda, ac na fyddant, pan fyddant yn gofyn am i waith gael ei wneud, yn cael eu troi allan i'r stryd er niwed iddynt hwy, i'w teulu a hefyd i gymdeithas, oherwydd, yn y pen draw, mae'n rhaid i'r teuluoedd hynny gael cartrefi. Mae ganddynt hawl i gartref, a'r awdurdod lleol sy'n talu'r gost honno.
Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am gyflwyno'r ddadl hon. Nid wyf yn meddwl ein bod yn sôn agos digon am dai yn y lle hwn. Pe baem yn siarad hanner cymaint am dai ag y gwnawn am iechyd, efallai y byddai gennym le iachach.
Rydym wedi gweld cynnydd mewn cartrefi rhent preifat a phrinder cartrefi. Mae'r pwysau ar bobl sy'n rhentu'n breifat. A ydym yn dweud wrth bobl o ddifrif, 'Peidiwch â chwyno, peidiwch â gwrthwynebu', ni waeth beth y mae'r landlord yn ei wneud neu pa mor wael yw'r llety, neu faint o waith atgyweirio sy'n dal i'w wneud, oherwydd gall y landlord ddefnyddio adran 21 i'ch troi chi a'ch plant allan? Ac er y gallwch geisio amddiffyn hynny yn y llys, mae'r tebygolrwydd o ennill yn eithaf isel yn ôl pob tebyg.
Mae adran 21 yn rhoi siarter i landlordiaid gwael barhau i gynnal eu heiddo mewn ffordd wael, oherwydd rwyf wedi cael sawl achos o denantiaid yn cael eu troi allan yn syml oherwydd eu bod wedi gofyn am i'r to sy'n gollwng gael ei atgyweirio, neu drwsio'r clo diffygiol, ac nid dyma'r ffordd i drin pobl sydd fel arall yn ymddwyn yn gwbl briodol. Ond hefyd—os ydynt yn credu efallai y gallent gael eu symud ar fympwy'r landlord, nid yw'n rhoi unrhyw gymhelliant i'r tenant ymgartrefu'n iawn yn yr eiddo ac yn y gymuned a mynd ati mewn gwirionedd i roi paent ar waliau'r plant neu beth bynnag. Felly, rwy'n credu y dylid dileu adran 21 am y rhesymau y mae Julie wedi awgrymu.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl? Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Julie Morgan am ddewis hysbysiadau 'dim bai' adran 21 yn bwnc ar gyfer y ddadl hon heddiw, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i Julie am y cyfarfod defnyddiol iawn a drefnodd yr wythnos diwethaf i mi a fy swyddogion gael cyfle i archwilio'r materion yn fanylach gyda Julie, Dawn Bowden a Shelter. Cefais y pleser mawr o gael trafodaethau pellach ar y mater hwn gyda Crisis yn gynharach heddiw.
Er fy mod yn ymrwymedig i weithio gyda landlordiaid i adeiladu sector rhentu preifat bywiog, ni all hyn fod ar draul tenantiaid. Mae'r modd y mae rhai landlordiaid yn defnyddio hysbysiadau adran 21 yn peri pryder i lawer o bobl, a hynny'n gwbl briodol, fel rydym wedi clywed yn ystod y ddadl hon, ac mae'n destun pryder i mi hefyd. Fel y clywsom, mae gorfod dod o hyd i gartref newydd, sy'n cynnwys y gost o symud, dod o hyd i flaendal ar gyfer tenantiaeth newydd cyn cael ad-daliad am yr un presennol, a dioddef straen a gofid emosiynol posibl o ganlyniad i symud oll yn bryderon go iawn. A hynny cyn i chi ystyried materion fel dod o hyd i ysgol newydd ar gyfer y plant, symud oddi wrth deuluoedd a rhwydweithiau cymorth cymdeithasol.
Mae hysbysiadau adran 21 yn golygu y gall teulu wynebu newid anferthol mewn cyfnod byr iawn, a'r cyfan heb i'r landlord orfod cyfiawnhau mater yr hysbysiad yn y lle cyntaf. Felly, credaf fod yr amser yn iawn i gael trafodaeth ehangach ar y defnydd o hysbysiadau 'dim bai'. Mae sawl agwedd i'w hystyried, ac mae'r ddadl heddiw yn sicr wedi tynnu sylw at rai ohonynt. Gyda dychymyg a phartneriaeth, credaf y gellir cael sector rhentu preifat sy'n gweithio i landlordiaid a thenantiaid.
Rwy'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol inni edrych yn ôl i weld sut y daethom i lle rydym heddiw. Cyflwynwyd y gallu i landlord roi rhybudd 'dim bai' o ddau fis fan lleiaf i orffen tenantiaeth o dan Ddeddf Tai 1988. Daeth Deddf 1988 ar ddechrau twf hir yn y sector rhentu preifat, a rhoddwyd hwb pellach i hynny gan argaeledd morgeisi prynu i osod.
Yn ogystal â thwf yn y sector rhentu preifat ers Deddf 1988, mae ansawdd cyffredinol eiddo wedi gwella. Mae rhai wedi priodoli hyn i ddiddymu prosesau rheoli rhent a chyflwyno adran 21, a roddai fwy o sicrwydd i landlordiaid dros adennill meddiant. Roedd y twf yn y sector rhentu preifat yn dilyn degawdau o ddirywiad. Er bod y system flaenorol o denantiaethau'r Ddeddf rhenti yn darparu llawer mwy o sicrwydd deiliadaeth, arweiniodd diffyg buddsoddiad landlordiaid oherwydd prosesau rheoli rhent cysylltiedig at dai o ansawdd gwael iawn. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod, wrth newid trefniadau hysbysiadau 'dim bai' yn osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Dyna pam rwyf wedi gofyn i fy swyddogion agor trafodaethau gyda'r sector rhentu preifat ar y mater hwn ac rwy'n falch o ddweud, yn dilyn y cyfarfod a gawsom gyda Julie, fod y trafodaethau hynny eisoes wedi dechrau.
Felly, oes, mae yna landlordiaid gwael o hyd ac nid yw pob tenant yn berffaith chwaith, ond rydym yn cymryd camau cadarnhaol. Mae Rhentu Doeth Cymru, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, yn ei gwneud hi'n ofynnol i landlord basio prawf person addas a phriodol cyn cael trwydded ac i gael hyfforddiant gorfodol. Mae'r hyfforddiant wedi cael derbyniad da iawn gyda 96 y cant o'r bobl a'i cafodd yn dweud eu bod yn teimlo y byddai'r hyfforddiant yn eu gwneud yn landlord gwell. Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gwneud gwelliannau pellach. Bydd yn helpu i osgoi anghydfodau drwy sicrhau eglurder ynghylch hawliau a chyfrifoldebau, a bydd hefyd yn cyflwyno amddiffyniadau newydd sylweddol ar gyfer tenantiaid. Er enghraifft, bydd landlordiaid yn gorfod sicrhau bod cartrefi'n addas i bobl fyw ynddynt. Mae rhai hawliau cyfraith gyffredin nad ydynt yn amlwg ar unwaith i'r holl denantiaid ar hyn o bryd wedi cael eu gwneud yn statudol a byddant yn cael eu cynnwys ym mhob contract meddiannaeth. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i feddiannu'r annedd heb ymyrraeth gan y landlord.
Er bod y Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu ar gyfer hysbysiad 'dim bai' sy'n debyg i adran 21, ceir gwahaniaethau pwysig. Er enghraifft, o dan y Ddeddf rhentu cartrefi, nid yw hysbysiad 'dim bai' ond yn ddilys am bedwar mis yn unig. Bydd hyn yn rhoi diwedd ar yr arfer presennol lle mae rhai landlordiaid yn cyhoeddi hysbysiad adran 21 ar ddechrau'r denantiaeth, fel eu bod yn gallu hawlio meddiant ar ôl dau fis ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Mae'r Ddeddf rhentu cartrefi hefyd yn darparu amddiffyniad rhag troi allan dialgar lle mae landlord yn ymateb i gais atgyweirio drwy gyhoeddi hysbysiad meddiant 'dim bai'. O dan y Ddeddf 2016, gall y llys wrthod hawliad meddiant os yw'n fodlon fod y landlord yn ceisio osgoi gwaith atgyweirio. Felly, bydd gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu amddiffyniad ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod ei bod yn dal i ganiatáu i landlord gael meddiant ar ôl rhoi dau fis o rybudd. Felly, bydd y pryderon a glywsom yn ystod y ddadl hon heddiw yn dal i fod yn berthnasol iawn. Wrth geisio ymdrin â hwy, mae angen inni ystyried y perygl y bydd y canlyniadau anfwriadol hynny a grybwyllais yn gynharach yn codi.
Er enghraifft, lle y gall hysbysiadau adran 21 yn aml arwain at ddigartrefedd, mae'n bwysig nodi bod tua hanner yr holl aelwydydd digartref ar hyn o bryd yn cael eu hailgartrefu yn y sector preifat. Byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus felly effaith bosibl diddymu hysbysiadau 'dim bai' ar barodrwydd landlordiaid i letya teuluoedd digartref a'r effaith negyddol ddilynol bosibl ar argaeledd llety. Dyna pam y mae'r trafodaethau gyda landlordiaid mor bwysig. Hefyd, yn ôl y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, cyhoeddir 52 y cant o hysbysiadau adran 21 oherwydd ôl-ddyledion rhent a 12 y cant oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pe bai diddymu adran 21 yn arwain at fwy o hawliadau'n cael eu cyflwyno yn benodol ar sail ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallai hyn achosi problemau eraill megis mwy o drafferth dod o hyd i gartref newydd neu fethu cael credyd oherwydd dyfarniad llys sirol. Unwaith eto, mae'r rhain yn faterion y buaswn yn awyddus i fynd ar eu trywydd ymhellach gyda Shelter a Crisis ac eraill.
Tu hwnt i'r effaith bosibl ar ein gallu i fynd i'r afael â digartrefedd, byddwn yn dal i fod angen bod yn effro i'r effeithiau posibl ehangach eraill ar y sector rhentu preifat, gan gynnwys ar unrhyw barodrwydd i fuddsoddi a materion trawsffiniol posibl. Mae'r rhain oll yn faterion rwy'n edrych arnynt ar hyn o bryd a pham y mae'r trafodaethau gyda'r sector yn gyffredinol mor bwysig. Rwyf hefyd yn gwylio'r datblygiadau yn yr Alban, lle maent wedi diddymu hysbysiadau 'dim bai' yn ddiweddar, yn agos iawn. Yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, cytunodd Julie, Dawn, Shelter a minnau i wneud gwaith pellach gyda'n gilydd i archwilio'r materion ac i ehangu'r sylfaen dystiolaeth er mwyn sefydlu sut i symud ymlaen yn y ffordd orau. Yn y cyfamser, rydym yn gallu gwneud, ac rydym yn gwneud llawer i liniaru effeithiau adran 21. Mae'r gwasanaeth Early Doors sy'n cael ei dreialu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn enghraifft dda. Mae'r gwasanaeth yn galluogi landlordiaid i gysylltu â darparwr cymorth os yw tenantiaid ar ôl gyda'u rhent ac yn rhoi cymorth dwys i denantiaid i helpu i'w hatal rhag cael eu troi allan.
Felly, mae'r ddadl heddiw wedi bod yn gymorth i godi proffil y materion sy'n ymwneud â throi allan 'dim bai' ymhellach, ac mae'n gyfraniad defnyddiol iawn i ysgogi'r hyn rwy'n gobeithio y bydd yn drafodaeth ehangach ar beth y gellir ei gyflawni drwy fesurau lliniaru ac o bosibl drwy newid deddfwriaethol i sicrhau bod ein sector rhentu preifat yn llewyrchus, o ansawdd uchel, ac yn deg i bawb.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.