1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 20 Mawrth 2018.
Tybed beth mae'r plant yn yr oriel yn ei feddwl am sylwadau Neil Hamilton.
3. What further support can the Welsh Government give to higher education in Wales? OAQ51965
Wel, bydd y cymorth yr ydym ni'n ei roi i'r sector, ynghyd â'r diwygiadau yr ydym ni wedi eu cyflwyno mewn ymateb i adolygiad Diamond, yn creu sector addysg uwch mwy cynaliadwy yng Nghymru ac yn cynnig y pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn y DU.
Prif Weinidog, roeddwn i eisiau codi mater streic yr Undeb Prifysgolion a Cholegau. Gwn fod trafodaethau yn mynd rhagddynt ynghylch dilysrwydd y ffigur a roddwyd ar gyfer y diffyg o ran pensiynau o £6.1 biliwn, ac mae Universities UK wedi cytuno i banel arbenigol annibynnol ei adolygu. Fodd bynnag, mae mwy o streiciau yn dal i gael eu cynnig, sy'n golygu tarfu posibl i arholiadau, ond, serch hynny, mae'r myfyrwyr, rhai o'r is-gangellorion, a llawer ohonom ni wleidyddion yn cefnogi'r streicwyr. Felly, hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog: pa gymorth gallai Llywodraeth Cymru ei roi i ddod â'u streic i ben yn foddhaol?
Wel, mae hon yn streic mewn sector datganoledig, ond dros fater nad yw wedi ei ddatganoli. Mae dau beth, fodd bynnag, y mae'n bwysig i ni ei ddweud. Credaf yn gyntaf oll ei bod hi'n bwysig y ceir prisiad annibynnol, fel y gellir cael hyder yn y prisiad hwnnw, ac, yn ail, fel Llywodraeth, ein bod ni'n sefyll yn barod i hwyluso unrhyw drafodaethau er mwyn dod â'r streic i ben.
Prif Weinidog, un grŵp o bobl ifanc sy'n aml yn methu â chael addysg prifysgol yw'r rheini o gefndiroedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr. A byddwch yn gwybod mai rhan o'r rheswm am hynny yw eu perfformiad gwael mewn arholiadau TGAU o'u cymharu â'u cyfoedion. Maen nhw'n cael 30 y cant yn is o ran unigolion sy'n llwyddo i gael graddau A* i C mewn pump neu fwy o bynciau TGAU. Nawr, un o'r pethau y mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn ddiweddar, sy'n mynd i'w gwneud yn fwy anodd i blant sy'n Sipsiwn, yn Roma ac yn Deithwyr allu cael mynediad at addysg brifysgol, yw diddymu'r grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig. Defnyddiwyd llawer o hwnnw, wrth gwrs, i gynorthwyo addysg plant sy'n Sipsiwn, yn Roma ac yn Deithwyr. A wnewch chi ystyried gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw, a pha gymorth ychwanegol ydych chi'n mynd i'w ddarparu yn ogystal â hynny, fel y gallwn ni fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn?
Os cofiaf yn iawn, roedd tri awdurdod lleol yr effeithiwyd yn arbennig arnynt gan y grant. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod arian wedi roi ar gael iddyn nhw fel eu bod yn gallu darparu'r gwasanaethau y mae angen iddyn nhw eu darparu. Fodd bynnag, mae angen i ni edrych yn y dyfodol ar ba un a yw'r grant wedi ei dargedu'n ddigonol. Rydym ni'n gwybod bod tangyflawni ymhlith y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, ond, wrth gwrs, mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill, mae cyflawniad yn uwch na'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd mewn gwirionedd. Felly, y cwestiwn i ni fyddai: sut ydym ni'n ceisio targedu adnoddau yn fwy penodol at y grwpiau hynny sydd eu hangen fwyaf?
Mae angen i'ch Llywodraeth chi, wrth gwrs, fod yn fwy rhagweithiol yn y mater yma. Rŷch chi'n iawn fod yr union bwynt o dan sylw ddim wedi'i ddatganoli, ond mae e yn, fel yr ŷch chi'n cydnabod, yn cael effaith sylweddol iawn ar agweddau helaeth o'r sector sydd wedi'u datganoli. Felly, a gaf ofyn i chi, wrth fod yn fwy rhagweithiol, a wnewch chi gynnull cyfarfod o is-gangellorion Cymru er mwyn dweud wrthyn nhw yn union beth yw barn eich Llywodraeth chi am yr hyn sydd wedi digwydd? A fyddech chi'n cytuno â Phlaid Cymru bod y modd y mae prifysgolion wedi trin ein darlithwyr ni yn gwbl warthus ac yn gwbl annerbyniol?
Wel, beth a ddywedais i'n gynharach yw beth yn gwmws mae'r undeb wedi dweud wrthym ni, sef eu bod nhw'n moyn i ni eu cefnogi nhw er mwyn cael ystyriaeth unwaith eto o beth yw gwerth y cynllun pensiwn ar hyn o bryd, ac, yn ail, i ni i helpu i ddod â phobl at ei gilydd er mwyn gweld a oes ffordd ymlaen ynglŷn â hwn. Beth sydd yn ffaelu digwydd yn y pen draw—. Byddai'n beth gwael i ni yng Nghymru petai'r streic yn parhau, felly mae'n hollbwysig i sicrhau ein bod ni'n dod i gasgliad, bod y sefydliadau yn dod i gasgliad gyda'r undebau, dod i setliad gyda'r undebau, sydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cario ymlaen gyda'u hastudiaethau.