1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid yng Nghymru? OAQ51922
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner a'r cyhoedd i fynd i'r afael â bygythiadau rhywogaethau estron goresgynnol, sy'n parhau i gael effaith amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd sylweddol yng Nghymru. O ran clymog Japan, rydym wedi ariannu treialon arloesol gyda'i ysglyfaethwr naturiol, y llysleuen, ac ymchwil i driniaeth gemegol.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Mae gennym broblemau gyda nifer o rywogaethau estron, ond yn fy rhan i o'r byd, clymog Japan yw'r mwyaf trafferthus o bell ffordd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r treialon sy'n mynd rhagddynt gyda'r ysglyfaethwr naturiol—nodaf eich bod chithau wedi osgoi ceisio ynganu ei enw hefyd; rwyf innau am wneud yr un peth—ac unrhyw gynnydd gyda'r triniaethau cemegol, gan ei fod yn achosi cryn dipyn o ddifrod i dai, i ardaloedd, yn peri i dai fod yn anwerthadwy, ac yn gwneud rhai ohonynt yn beryglus?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Gwn eich bod wedi mynd ati'n ddiflino i gynrychioli eich etholwyr a'ch cymunedau wrth godi'r mater hwn, ac rydych yn llygad eich lle, mae'n achosi cryn ddifrod i'n hadeiladau a'n hamgylchedd lleol. Sylwaf fy mod yn cael y geiriau ffurfiol ar gyfer y rhain—mae'n cymryd peth amser i arfer ag ynganu rhai ohonynt. Rwy'n dysgu'n gyflym yn hynny o beth.
Gofynnoch am y data o ran y treial. Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe yn dadansoddi'r data o'u treial dwy flynedd cychwynnol ar reolaeth gemegol, gyda'r nod o gynhyrchu cyngor technegol i helpu i fynd i'r afael â chlymog Japan. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad terfynol, ac rwy'n siŵr fod yr Aelod yn edrych ymlaen at hynny hefyd. Gallaf gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i'r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Ryngwladol er mwyn parhau â'r prosiect llyslau ar gyfer 2017-18.
Mae'r clymog Japan bondigrybwyll yn ymestyn y tu hwnt i Ddwyrain Abertawe ac i rannau eraill o Orllewin De Cymru, gan gynnwys ardaloedd o amgylch rheilffyrdd ac ardaloedd a nodwyd ar gyfer datblygu go helaeth yn y cynllun datblygu lleol drafft. Tybed a allwch ymrwymo heddiw i siarad â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ar draws y portffolios perthnasol i geisio nodi beth fyddai'r gost, yn enwedig i gynlluniau metro bae Abertawe, fel ag y maent, ac i'r cynlluniau o dan y cynllun datblygu lleol, pe na bai malltod y clymog yn cael ei liniaru. Credaf fod yna gryn bryder ar hyn o bryd, yn arbennig o amgylch rheilffyrdd, yn ymwneud â chynlluniau posibl ar gyfer metro, oherwydd mae'n rhaid cael gwared ar y pla hwnnw'n gyntaf cyn y gallwn feddwl am ehangu'r rhwydwaith rheilffyrdd. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, cafwyd problemau eisoes mewn perthynas â rheilffyrdd a chlymog Japan, a chredaf eich bod yn nodi pwynt perthnasol a phwysig gyda'ch cwestiwn. Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i gysylltu ac i siarad â'm cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â sicrhau ein bod yn achub y blaen ar y broblem hon, gobeithio, o ran sut yr awn i'r afael â hyn yn y dyfodol.
Weinidog, mae goresgyniad rhywogaethau planhigion nad ydynt yn gynhenid, yn enwedig clymog Japan, wedi bod yn broblem wirioneddol yn fy rhanbarth i. Mae trigolion yng Ngorllewin De Cymru wedi gweld eu heiddo'n cael ei ddinistrio gan y clymog, a chroesawaf y gwaith a wneir gan Brifysgol Abertawe a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwared ar y rhywogaeth oresgynnol hon. Yr haf diwethaf, gwelsom gynnydd bygythiad arall, yr efwr enfawr, sy'n beryglus i iechyd y cyhoedd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i olrhain a chael gwared ar yr efwr enfawr a chodi ymwybyddiaeth o'r perygl y mae'n ei beri i iechyd pobl?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Fel yr Aelodau, perchnogion tir a pherchnogion tai, rwy'n bryderus ynglŷn â'r angen i reoli rhywogaethau goresgynnol estron, nid yn unig o ran eu twf, ond o ran eu hymlediad. Gwyddom eu bod yn un o'r rhesymau mwyaf dros golli bioamrywiaeth ledled y byd a'u bod yn achosi cryn ddifrod economaidd-gymdeithasol. Felly, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o ddifrif fel Llywodraeth a byddwn yn mynd i'r afael ag ef. Byddaf yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn llawn hefyd.