– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 21 Mawrth 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw'r grŵp sydd yn ymwneud â dyletswydd i adrodd ar gydsyniad Gweinidogion Cymru—adrannau 14 a 15. Gwelliant 3 yw'r prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig y gwelliant—Julie James.
Diolch, Lywydd. Yn ystod cyfnod 2, cyflwynodd Simon Thomas welliant yn gofyn i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar arfer eu swyddogaethau o dan adran 14(1) ac adran 15(1), hynny yw, darparu cydsyniad i wneud, cymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth gan Weinidogion y Goron neu eraill. Er nad oeddwn yn gallu cefnogi union fanylion y gwelliant a gynigiwyd, yn ystod y ddadl nodais yn glir fy mod yn cytuno â'r egwyddor a oedd yn sail iddo a chynigiais weithio gydag ef i baratoi gwelliant ar gyfer cyfnod 3 a fyddai'n dderbyniol i'r ddau ohonom.
Y prif bryder gyda'r gwelliant Cyfnod 2 a gynigiwyd oedd y byddai ei ofyniad i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad o fewn dwy wythnos ar bob achlysur y câi cydsyniad ei roi yn afresymol o feichus o ystyried y nifer fawr o gydsyniadau sy'n debygol o gael eu rhoi yng nghyd-destun Bil ymadael â'r UE. O ganlyniad, datblygwyd gwelliant 3 ar y cyd â Simon Thomas fel bod y gofyniad i gyflwyno adroddiad yn cael ei wneud o fewn cyfnod o 60 diwrnod, gan ddiystyru unrhyw amser y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod angen adroddiad unigol ar gyfer pob cydsyniad a roddir. Bydd yn bosibl cynnwys manylion am faterion lluosog mewn un adroddiad, ar yr amod y darperir manylion unrhyw gydsyniadau o fewn 60 diwrnod i roi'r cydsyniad. Byddai'r dull hwn o weithredu yn gwarantu'r atebolrwydd manwl y ceisiodd y gwelliant gwreiddiol ei ddarparu, ond mewn ffordd sy'n fwy cymesur ac yn llai beichus. Felly, rwy'n cymeradwyo'r gwelliant i'r Aelodau.
Diolch, Llywydd. Ar y mater yma rydym ni wedi dod i gytundeb, ac felly rwy'n falch o weld y gwelliant wedi’i osod gan y Llywodraeth. Fel y mae Julie James wedi ei amlinellu, ein prif bryder ni ddoe oedd i sicrhau bod adrodd yn ôl yn digwydd yn gyson i’r Cynulliad, ond bod yn rhaid i hynny ddigwydd mewn modd, wrth gwrs, a oedd yn rhesymol i’r Llywodraeth ac mewn modd a oedd yn gwneud sens i Aelodau'r Cynulliad hefyd. Felly, mae’r ffaith bod yr adrodd yn digwydd efallai'n cynnwys nifer o ddigwyddiadau yn dderbyniol iawn, achos mae yna sens lle'r ydych chi’n gweld yr holl bictiwr yn dod i'r fei. Felly, ar ôl trafodaethau gyda’r Llywodraeth, ac yn wyneb yr hyn y mae Julie James wedi’i ddweud, rydym ni’n falch iawn o weld y gwelliant yma a byddwn ni yn ei gefnogi fe.
Arweinydd y tŷ i ymateb i’r ddadl.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei gefnogaeth gyda gwelliant 3 ac am ei gyfraniad at ei ddatblygiad, a gofyn i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 51, un yn ymatal, un yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 3.