– Senedd Cymru am 6:12 pm ar 21 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf, felly, ar yr agenda yw Cyfnod 4 y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y cynnig—Julie James.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, yn ei absenoldeb, am y gwaith a gyflawnodd ar ddatblygu a chyflwyno'r Bil hwn? Gwn y bydd yn hynod o siomedig nad oedd yma ar gyfer cam terfynol y broses, ond fe fydd yn falch iawn os caiff y Bil ei basio oherwydd yr arwydd clir y bydd yn ei roi o'n hymrwymiad i ddiogelu'r setliad datganoli gan helpu i ddarparu parhad deddfwriaethol wrth i'r DU adael yr UE. Fodd bynnag, fy rôl i bellach yw helpu i lywio'r Bil drwy ei gyfnodau olaf, ac rwy'n ystyried hynny'n fraint fawr. Mae'r Bil yn gynnyrch cyfnod dwys o waith caled, i ddechrau ar ran swyddogion ac yn fwy diweddar ar ran Aelodau'r Cynulliad. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd, aelodau a staff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn arbennig am fynd ati mor gyflym i ystyried y Bil ac yna i lunio adroddiad yn nodi cyfres ddefnyddiol o argymhellion, sydd wedi gwneud y Bil yn fwy cadarn.
Hoffwn gofnodi fy niolch i Simon Thomas, am ei ymagwedd adeiladol tuag at y Bil hwn. Yn sicr mae ei her a'i gymorth yn ystod y camau craffu wedi gwella'r Bil. [Torri ar draws.] Rydych yn ei dweud hi fel y mae. Bu'n ddefnyddiol iawn, ac fel rwy'n dweud, mae ei her a'i gymorth yn ystod y cyfnodau craffu yn sicr wedi gwella'r Bil.
Rhaid i mi ddiolch yn arbennig hefyd i Steffan Lewis am fod y cyntaf i hyrwyddo, gydag angerdd mawr, yr angen am Fil parhad i Gymru, ac am y cyfraniad a wnaeth i'n cael ni i'r sefyllfa hon.
Mae eu cyfraniadau wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio'r Bil hwn.
Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir drwy gydol pob cam o'r broses hon fod y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd yn opsiwn wrth gefn, a dyna ydyw o hyd. Y canlyniad gorau inni o'r cychwyn yw bod Bil ymadael â'r UE Llywodraeth y DU yn cael ei ddiwygio fel ei fod yn darparu parhad cyfreithiol a sicrwydd ar gyfer y DU gyfan, tra'n parchu ein setliad datganoli yn briodol. Rydym yn parhau i weithio'n galed yn y trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i'r perwyl hwn, ac rydym yn parhau'n obeithiol y gellir cyrraedd cytundeb sy'n arwain at y gwelliannau angenrheidiol i'r Bil ymadael â'r UE.
Fodd bynnag, rwyf am fod yn glir nad yw'r ffaith ei fod, ac yn parhau i fod yn opsiwn wrth gefn yn lleihau pwysigrwydd y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd heddiw, os caiff ei basio heddiw, oherwydd bydd y Bil yn gwneud dau beth hanfodol. Yn gyntaf, bydd yn ein galluogi i baratoi'n rhesymol ac yn synhwyrol ar gyfer y posibilrwydd na chaiff y Bil ymadael â'r UE ei ddiwygio mewn ffordd sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru argymell i'r Cynulliad hwn y dylid pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Un prif reswm dros gyflwyno'r Bil hwn yw nad yw ein hymagwedd tuag at y Bil ymadael â'r UE mewn unrhyw ystyr yn ymwneud â cheisio rhwystro Brexit. Byddai gwrthod cydsyniad deddfwriaethol heb ddarparu ffordd arall o sicrhau parhad deddfwriaethol yn anghyson â'n ffocws clir ar ffurf nid ffaith Brexit, i ddyfynnu fy nghyfaill Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.
Pe na bai'r Cynulliad yn gallu rhoi cydsyniad, byddai'n rhaid inni sicrhau bod trefniadau amgen priodol yn eu lle i'w gwneud hi'n bosibl i gyfraith sy'n deillio o'r UE barhau yng Nghymru gyda chyn lleied o darfu â phosibl. Byddai methiant i wneud hynny'n gadael dinasyddion a busnesau Cymru yn agored i sefyllfa annioddefol o ansicrwydd cyfreithiol, gyda thyllau yn y llyfr statud ar adeg Brexit. Bydd y Bil hwn yn sicrhau na fydd hynny'n digwydd.
Yn ail, bydd pasio Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd yn dangos i Lywodraeth y DU fod y Cynulliad hwn o ddifrif ynglŷn â diogelu'r setliad datganoli a sicrhau y perchir canlyniadau dau refferenda ar ddatganoli yn briodol. Ni ddylid defnyddio Brexit fel esgus i danseilio awdurdod y Cynulliad hwn a chyfyngu ar ei bwerau. Ein cyfrifoldeb ni fel cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru yw sefyll dros ddatganoli ac amddiffyn buddiannau'r genedl. Fe'm calonogwyd gan y gefnogaeth glir ar draws y Cynulliad i'r safbwynt hwnnw. Cawn weld yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf a gyrhaeddir cytundeb ar y diwygio sy'n angenrheidiol i'r Bil ymadael â'r UE, a byddwn yn parhau i weithio i gyflawni hynny, gan mai dyna yw'r canlyniad a ffafriwn o hyd.
Fodd bynnag, os na cheir cytundeb, ni fydd gennym unrhyw ddewis ond bwrw ymlaen â gweithredu'r Bil hwn, sy'n ddarn cadarn a deallus o ddeddfwriaeth sy'n adlewyrchu'n dda ar y ddeddfwrfa ifanc ond penderfynol hon. Rwy'n cymeradwyo'r Bil i'r Cynulliad.
Rydym yn parhau i wrthwynebu'r Bil hwn mewn egwyddor am y rhesymau a nodais yng Nghyfnod 1. Nid wyf yn meddwl bod dim sydd wedi digwydd y prynhawn yma yn gallu sicrhau pobl fod hon wedi bod yn broses gadarn ar gyfer unrhyw fath o Fil, a dweud y gwir, heb sôn am Fil cyfansoddiadol. Ond yn y bôn, fel y dywedais yng Nghyfnod 1, proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw'r mecanwaith cyfansoddiadol priodol i ddiogelu'r setliad datganoli.
Rwyf am gloi gyda'r apêl hon: mae'n bryd i bob plaid ganolbwyntio ar y trefniadau rhynglywodraethol sydd eu hangen i sefydlu trefniadau cydlywodraethu dros fframweithiau'r DU. Os ydym am weld undeb gref ar ôl Brexit, mae angen i'r DU ganolbwyntio ar y materion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar lywodraethu'r DU ar ôl Brexit, sydd ei hun yn adleisio llawer o adroddiadau eraill a luniwyd mewn deddfwrfeydd eraill, yn San Steffan, ac yn yr Alban rwy'n credu. Dyna sydd ei angen arnom. Mae angen inni gael system sy'n mynd â ni allan o Ewrop ond nad yw'n gwanhau'r cyfansoddiadau datganoledig eraill yn ystod y broses honno. Ac ar y mater hanfodol hwnnw, byddwn yn ceisio rhoi pob cymorth priodol i Lywodraeth Cymru pan fo'n gweithredu er budd y genedl. Diolch.
Hoffwn innau ddiolch i bawb a fu yn paratoi'r Bil yma. Diolch i'r Llywodraeth a swyddogion y Llywodraeth am nifer o sgyrsiau adeiladol. Mae nifer o'r meysydd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth wedi bod yn gytûn, a mater o drafod sut i ddelio gyda nhw ar wyneb y Bil oedd hi. Mae yna un maes, wrth gwrs, lle nad oeddem ni'n cytuno, a dyna beth oedd ffrwyth ein dadl ni heddiw. Ond, bydd Plaid Cymru nawr yn cefnogi'r Bil yma yn ei gyfnod olaf.
Fel Julie James hithau, rwy'n sefyll fan hyn ar ysgwyddau rhywun arall sydd wedi gwneud llawer o waith ar y Bil yma, sef Steffan Lewis. Rwy'n gwybod y bydd e'n falch iawn o weld y Bil yn cael ei basio gan y Cynulliad heno. Bu Steffan yn dadlau dros y Bil yma ers yr haf diwethaf a dweud y gwir. Mae safbwynt Plaid Cymru bach yn wahanol i safbwynt y Llywodraeth. Rŷm ni'n credu bod y Bil yma yn ateb priodol i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac nid ydym ni'n gweld o reidrwydd fod rhaid aros i San Steffan gytuno â'r hyn sydd yn cael ei wneud. Rŷm ni wedi gweld ymdrech glir gan Llywodraeth San Steffan i gipio pwerau sydd yng nghymal 11 o'r Bil gadael yr Undeb Ewropeaidd ers y dyddiau cyntaf, ac yn wir wedi rhybuddio sawl gwaith—minnau a Steffan Lewis wedi rhybuddio sawl gwaith—mai dyna beth oedd yn digwydd. Nid ydym ni'n dal wedi gweld yn glir iawn a fydd hwn nawr yn cael ei ddatrys.
Mae'n Ddeddf bwysig, felly, rwy'n cytuno'n llwyr ar hynny. Wrth inni basio'r Ddeddf, rwy'n gobeithio y bydd hwn nawr yn grymuso Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â negodi gyda Llywodraeth San Steffan a gwneud yn siŵr nad oes modfedd o dir wedi'i ddatganoli yn cael ei ildio i Lywodraeth San Steffan. Mae'n hollbwysig ar gyfer trefn ac ar gyfer ffurf wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd fod yna fframweithiau dros y Deyrnas Gyfunol. Nid yw Plaid Cymru yn gwrthwynebu hynny. Er bod gyda ni weledigaeth wahanol ar gyfer dyfodol y Deyrnas Gyfunol, nid ydym yn gwrthwynebu hynny o gwbl, ond rydym ni heb weld eto unrhyw arwydd o gydweithio gan Lywodraeth San Steffan ar y materion hyn. Ac mae'n amlwg na fyddai angen cymal 11 yn Neddf San Steffan oni bai bod y pwerau hynny yn dychwelyd yn awtomatig ac yn llyfn i'r lle hwn, heb fod y cymal fel argae, yn dal y pwerau yn ôl. Felly, mae'n hollbwysig ein bod ni'n chwalu'r argae yna ac yn llifo'r pwerau i'w dychwelyd yn uniongyrchol i'r Senedd yma fel ein bod ni'n gallu defnyddio'r pwerau ar ran pobl Cymru, neu hyd yn oed ddatganoli pellach tu fewn i Gymru, wrth gwrs, gan ddibynnu beth yw'r rôl briodol.
Rwy'n nodi bod hwn yn fygythiad ymarferol go iawn. Nid rhyw fath o ddadl gyfansoddiadol yw hyn fel y mae rhai wedi awgrymu dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Mae'n ymwneud â bywydau bob dydd pobl: mae sut rydych yn ffermio, sut yr edrychwn ar ôl yr amgylchedd, sut yr edrychwn ar ôl ein diogelwch cymdeithasol, sut rydym yn byw gyda'n gilydd fel cymunedau, yn cysylltu'n agos â sut rydym yn cytuno i fyw gyda'n gilydd ar yr ynysoedd hyn. Felly, mae unrhyw ymgais i fynd â phwerau oddi wrth y Senedd hon yn effeithio ar fywydau pob dydd. Nid cwestiwn cyfansoddiadol diflas ydyw. Mae'n rhywbeth sy'n effeithio'n uniongyrchol arnom.
Gwelais heddiw fod DEFRA yn hysbysebu am gynghorwyr polisi ar gyfer fframwaith amaethyddol i'r DU. Credaf fod hynny'n dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am syniad DEFRA o sut y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn rhannu'r syniad hwnnw. Bydd y Bil hwn yn cryfhau llaw y Senedd, a dyna pam rydym yn cefnogi'r Bil hwn yn y pen draw.
Galwaf ar arweinydd y tŷ i gloi'r ddadl—Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi fy ngorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines i roi gwybod i'r Cynulliad, ar ôl cael ei hysbysu ynglŷn â pherwyl y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fod Ei Mawrhydi wedi rhoi cydsyniad i'r Bil hwn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu sylwadau, ac am gefnogaeth rhai ohonynt heddiw. Rwy'n ddiolchgar fod y Torïaid wedi cymryd rhan y ddadl yn y diwedd. Mae'n bwysig fod gennym oll lais o ran lle rydym. Lywydd, mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i ddatganoli yng Nghymru, ac mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i'r Cynulliad am gymeradwyaeth derfynol. Rwy'n annog yr Aelodau i ddangos eu cefnogaeth i'r darn hanfodol hwn o ddeddfwriaeth Cymru. Diolch yn fawr.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig i gymeradwyo y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, un yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.
Dyna ddod â'r trafodion am y dydd i ben. Diolch yn fawr i bawb.