Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 17 Ebrill 2018.
Rydw i'n ofni y bydd yn rhaid i fi hefyd ddechrau drwy adleisio sylwadau'r llefarydd blaenorol ynglŷn ag amseru'r datganiad yma. Rydw i yn teimlo ei fod e'n dangos ychydig o sarhad tuag at waith y pwyllgor, oherwydd rŷm ni fater o wythnosau o gyhoeddi adroddiad ar y grantiau cefnogi ysgolion, a fydd, wrth gwrs, â ffocws cryf ar y PDG, a dyma ni yn cael datganiad gan y Llywodraeth sydd, felly, yn awgrymu nad ŷch chi'n barod i aros i weld beth fydd gan yr adroddiad i'w ddweud ar rai o'r materion yma. Felly, mae hynny yn destun siom, a hefyd, ocê, fe gewch chi ei gyhoeddi fe i'ch cynhadledd plaid os ŷch chi eisiau, ond y Senedd yma sy'n gosod eich cyllideb chi, ac i'r Senedd yma y dylech chi fod yn atebol ac yn gwneud datganiadau yn y lle cyntaf.
Nawr, wrth gwrs, mae rhywun yn croesawu unrhyw arian ychwanegol, yn enwedig i'r PDG blynyddoedd cynnar. Rŷm ni wastad wedi dweud bod angen y buddsoddiad yna rhag blaen, yn y blynyddoedd cynnar, oherwydd dyna pryd maen nhw'n mynd i gael yr effaith cryfaf, ac felly mae hynny yn gam positif, yn ogystal, wrth gwrs, â symud i gylch ariannu dwy flynedd. Nawr, mae yna gwestiynau yn dal i fod, rydw i'n ofni, ynglŷn ag ai dyma'r defnydd gorau o'r arian yna. Mae'n hen ddadl sydd wedi rhygnu ymlaen ers blynyddoedd, rydw i'n gwybod, ynglŷn â pha fath o return byddai rhywun yn gallu ei gael am bron i £400 miliwn drwy ei ddefnyddio fe mewn ffyrdd eraill. Ac mae'n rhaid cofio, roedd y trend o gau'r bwlch yma rhwng cyrhaeddiad y rhai sydd yn gymwys i ginio ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim wedi cychwyn cyn cyflwyno'r PDG, felly mae yna fwy o waith i'w wneud, ac rydw i'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod bod yna wastad mwy o waith i'w wneud, i brofi bod y buddsoddiad yma yn uchafu gwerth o safbwynt cyflawni polisi'r Llywodraeth yma.
Nawr, nid oes cwestiynu'r gwerth y mae ysgolion yn rhoi ar y buddsoddiad yma, wrth gwrs. Ni fyddwn i'n dadlau hynny am funud, ond, yn y dystiolaeth rŷm ni wedi'i chael fel pwyllgor, a hefyd yn yr ymweliadau rydw i wedi'u gwneud â nifer o ysgolion, nid yw e wastad yn gwerthfawrogi'r arian er mwyn cyflawni'r pwrpas y mae e'n cael ei roi, ond yn fwy i sybsideiddio toriadau mewn ariannu craidd ysgolion. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei wneud mewn gwahanol ffyrdd, sydd yn ticio bocsys y Llywodraeth ond sydd hefyd, efallai, i ddefnyddio term sydd wedi cael ei ddefnyddio i fi gan rywun o'r sector, 'yn papuro dros lawer o'r craciau'. Felly, mae yna gwestiynau ynglŷn ag a ydy'r Llywodraeth yn hyderus bod y pres yn cael ei ddefnyddio, bob tro, i'r pwrpas y'i fwriadwyd e.
Ac a oes yna ystyriaeth wedi'i rhoi—? Efallai bod angen i ni gael trafodaeth ynglŷn â symud y pres yma i ariannu craidd ysgolion drwy'r grant cynnal refeniw, oherwydd rŷch chi'n sôn mwy a mwy am roi hyblygrwydd i ysgolion i'w ddefnyddio fe mewn modd y maen nhw'n teimlo sy'n addas o safbwynt cyflawni'r pwrpas yr ŷch chi'n ei roi e iddyn nhw, ond rydw i jest yn gweld anghysondeb fan hyn o ran polisi, oherwydd rydw i'n siŵr y byddech chi—ac rydw i'n gweld wrth eich wyneb chi y byddech chi—yn dadlau ei bod hi'n bwysig amddiffyn hwn fel grant penodol sydd â chriteria arbennig y byddech chi'n disgwyl i ysgolion i'w cyflawni, ond wrth gwrs rŷch chi'n cael gwared ar grantiau eraill ac yn eu rhoi nhw i mewn i'r RSG, a phan fyddem ni'n mynegi consérn wedyn efallai fod yna golli ffocws yn mynd i fod, 'O, na, na, na—rŷm ni'n mynd i roi pwyslais newydd ar allbynnau a chanlyniadau a sicrhau ein bod ni'n gallu tracio defnydd yr arian.'
Felly, mae yna anghysondeb, rydw i'n meddwl, yn y modd y mae'r Llywodraeth yn dynesu at wahanol ddulliau o ddarparu arian i ysgolion. Rydw i yn meddwl, efallai, bod angen trafodaeth. Nid wyf yn siŵr fy hun beth yw’r ateb, ond rydw i jest yn gweld yr anghysondeb yna, heb sôn wedyn, wrth gwrs, fod peth o’r arian yn mynd i ysgolion, peth yn mynd i awdurdodau lleol a pheth grantiau’n dod drwy’r consortia. Mae’r adborth rydw i’n ei gael oddi wrth ysgolion yn awgrymu efallai bod yna drafodaeth a darn o waith angen ei wneud o gwmpas hynny.
A gaf i ofyn hefyd—? Yn sgil y pwynt yr oeddwn i’n ei wneud ynglŷn â’r angen i fonitro effaith y PDG, roeddech chi’n sôn am roi ffocws cynyddol ar gynnydd, neu progress, ac ychwanegu gwerth yn y datganiad. A allwch chi, efallai, sôn ychydig ynglŷn â pha fesuryddion rydych chi’n eu hystyried, neu beth rydych chi’n edrych i’w fesur? Mae’n beth anodd iawn i fesur yn y cyd-destun yna, a byddai ychydig o eglurder ar hynny yn dderbyniol iawn.
A gaf i groesawu’r ffaith eich bod chi yn symud i gylchdro dwy flynedd o ariannu'r PDG? Oherwydd mae’r adborth ynglŷn â pha mor anodd yw hi i fynd o flwyddyn i flwyddyn yn un sydd wedi dod drwyddo’n glir o sawl cyfeiriad. A gaf i ddweud, hefyd, bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn gwarantu arian i’w hysgolion nhw dros dymor hirach na dim ond blwyddyn yn barod? Felly, mae’n amlwg bod angen gwneud hynny ar lawr gwlad, ac mae’n dda bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn eich penderfyniad chi, er, wrth gwrs, roeddech chi’n ei fframio yng nghyd-destun universal credit, ac mae hynny’n ddigon rhesymol, ond byddwn i’n dadlau mai nid dim ond oherwydd universal credit—buaswn i’n gobeithio ei fod yn benderfyniad sydd yn rhywbeth y tu hwnt i hynny. Rydym ni yn fyr o’r sefyllfa yn Lloegr, wrth gwrs, fel yr oeddem ni’n clywed am yr Ever 6, ond mae’n sicr yn gam i’r cyfeiriad iawn, ac rydw i'n croesawu hynny.
Rydym ni wedi cyfeirio at sylwadau Estyn ynglŷn â’r PDG. Wrth gwrs, mae Estyn hefyd yn dweud mai dim ond dwy ran o dair o ysgolion sy’n defnyddio’r PDG yn effeithiol, felly mae hynny’n gadael un rhan o dair sydd ddim. Byddwn i’n licio clywed pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod potensial yr incwm yma yn cael ei facsimeiddio ym mhob ysgol, yn enwedig yn y traean yna lle mae Estyn yn teimlo nad ydyn nhw’n gwneud y defnydd gorau neu ddefnydd effeithiol o’r PDG.
Yn olaf gen i, mi gawsom ni ambell gwestiwn yn gynharach ynglŷn â diddymu’r grant gwisg ysgol. Yn ei ateb, mi wnaeth y Prif Weinidog ddweud y byddai’n cael ei droi i mewn i gronfa mwy hyblyg—rhywbeth fyddai’n gallu rhoi cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, a rhywbeth, efallai, fyddai’n talu am dripiau ysgol neu brofiadau penodol iddyn nhw. Mae’n swnio’n debyg iawn i’r PDG. Efallai y gallech chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â sut y bydd yn wahanol. Diolch.