Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 17 Ebrill 2018.
Rydw i'n meddwl, gymaint ag mewn unrhyw drafodaeth rydym ni wedi'i chael yma, fod Angela Burns a finnau wedi meddwl ar hyd yr union un llinellau fwy neu lai o ran y cwestiynau sy'n codi allan o'r datganiad heddiw, ond rydw i'n siŵr bod yna un neu ddau o bethau ar ôl y byddwn ni'n dymuno eu gofyn. Mi hoffwn innau ddiolch i'r tîm, wedi'i gadeirio gan y prif swyddog meddygol, a wnaeth y gwaith pwysig yma, achos mae o'n faes pwysig ac rydym ni wedi gweld, drwy'r ffigwr rhyfeddol yma am y gostyngiad ym meichiogrwydd merched yn eu harddegau, fod yna lwyddiant go iawn yn gallu dod lle mae'r polisi'n targedu'r bobl iawn, yn dweud y pethau iawn ac yn cymryd y camau iawn. Felly, mi fyddwn i'n sicr yn llongyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o gyrraedd at y canlyniad yna.
O ran y bobl sydd yn chwilio am gyngor a chymorth efo heintiau wedi'u trosglwyddo'n rhywiol, beth rydym ni'n ei ddarllen, serch hynny, ydy bod y ffigyrau wedi dyblu o fewn y pum mlynedd ddiwethaf, ac mae'r adolygiad hefyd yn adnabod rhwystrau sydd yna o hyd i bobl yn mynychu canolfannau lle maen nhw'n chwilio am gymorth. Felly, mae'n bosib bod yna danamcangyfrif o faint o bobl sydd angen cymorth mewn difrif. Beth mae hynny'n ei awgrymu wrthyf i ydy bod addysg, a'r agenda ataliol, yn atal pobl rhag cael STIs yn y lle cyntaf yn methu, ac yn methu'n eithaf sylweddol, mewn difrif. Nid ydym ni'n sôn yn fan hyn am waith addysg mewn ysgolion yn unig, achos mae'n amlwg bod yna waith addysgu yn y boblogaeth oedolion hefyd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf, ac mae'n bosib ei fod o'n ymwneud â gostyngiad mewn cyllidebau, fel y dywedodd Angela Burns: pam mae yna fethiant wedi bod ar yr agenda ataliol, achos mae'n amlwg bod hynny'n gwbl allweddol wrth i ni symud ymlaen?
Un o'r rhwystrau y gwnes i eu crybwyll yn fanna i bobl sydd yn chwilio am gymorth a thriniaeth ydy bod yna ddiffyg cysondeb ar draws Cymru, fel mae’r adroddiad ac fel mae eich datganiad chi heddiw wedi’i gadarnhau. Mi glywsom ni Angela Burns yn sôn am y diffyg cysondeb sydd yna ar draws Cymru pan mae’n dod at y gwasanaeth sydd ar gael o ran erthylu a therfynu beichiogrwydd. Diffyg cysondeb mewn rheolau ydy hynny, mewn difri. Beth sydd gennym ni o ran triniaeth heintiau wedi’u trosglwyddo’n rhywiol yn gyffredinol ydy diffyg cysondeb o ran darpariaeth, hynny ydy y loteri postcode yma fel rydym ni'n sôn amdano fo. Rydw i'n falch eich bod chi’n cydnabod bod yna’r gwahaniaeth yna mewn darpariaeth mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mi fyddwn i’n licio clywed mwy ynglŷn â beth yn union rydych chi a’ch Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i chwilio am y cysondeb yna i bobl, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru.
Mae yna sôn am drop-in clinics. Mae’r rheini’n bwysig, ond mae oriau agor yn golygu bod mynediad, eto—hygyrchedd—yn gallu bod yn anodd. A ydy hwn yn rhywbeth yr ydych chi’n dymuno ei weld yn cael ymateb iddo fo? Roeddwn innau hefyd yn sylwi ar y gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg mewn rhai ardaloedd ym Mhowys, yn benodol, gan feddygon teulu. Mae hynny’n rhwystr, rydw i'n cytuno, mewn ardaloedd gwledig, ac yn enwedig os caf i dynnu sylw at arolwg gan Stonewall sydd yn dangos bod yna'n dal i fod llawer—er yn lleiafrif—o staff yr NHS sydd â rhagfarn yn erbyn pobl LGBT, ac oherwydd hynny, o bosib, nid ydynt yn hyderus wrth gwrdd â gofynion pobl LGBT. Mi rydym ni'n sôn am bobl LGBT pan fyddwn ni’n sôn am y bobl sydd angen triniaeth, felly rydw i'n meddwl bod yna ddadl gref dros gadw gwasanaethau ar wahân i feddygfeydd teulu.
Ac un cwestiwn terfynol: gan fod y cyfle yma, oherwydd ei fod o'n cael ei drosglwyddo’n rhywiol, a allwn ni gael diweddariad hefyd ar le rydym ni arni o ran y brechiad HPV?