Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 17 Ebrill 2018.
Ynglŷn â'r sylw olaf am y brechlyn HPV, byddwn yn parhau i gymryd cyngor gan y cydbwyllgor perthnasol am y sail dystiolaeth ar gyfer unrhyw weithredu pellach. Rydym ni eisoes wedi cyhoeddi yn ystod tymor y Llywodraeth hon—rwy’n credu mai Rebecca Evans yn ei swyddogaeth flaenorol a gyhoeddodd ehangu brechu i ddynion sy'n cael rhyw gyda dynion. Mae’r ddadl yn parhau. Rwy’n gwybod bod rhai aelodau gweithgar o’r proffesiwn meddygol sy’n ymwneud â gwaith iechyd rhywiol yn credu y dylid ehangu'r brechlyn, ond nid yw’r cydbwyllgor arbenigol perthnasol y mae pob Llywodraeth o fewn y DU yn cymryd cyngor ganddo yn ategu’r farn honno ar hyn o bryd. Os bydd y sefyllfa’n newid—ac rwyf wedi dweud yn rheolaidd yn y lle hwn y ceir adegau pan mae’n hollbwysig ichi gael eich arwain gan dystiolaeth, a’r dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau oll—os bydd y sefyllfa’n newid o ran y dystiolaeth a'r cyngor, bydd y Llywodraeth yn newid ei safbwynt. Felly, rwy’n hapus i roi'r sicrwydd hwnnw.
Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch am addysg ac atal, a chydnabod, a dweud y gwir, bod llawer o hyn yn dal i fod ynglŷn â sut y gallwn ni berswadio pobl i ailystyried y dewisiadau a wnânt. Nid dim ond pobl ifanc sy’n gwneud y dewisiadau hyn, mae oedolion o amrywiaeth o oedrannau'n gwneud dewisiadau, a rhan o'r her yw sut i ganfod dull effeithiol o addysgu ac atal gyda'r bobl hynny. Mae’n rhan o'r rheswm pam, wrth edrych ar yr astudiaeth PrEP, nad oedd mor syml â phenderfynu cyflenwi’r feddyginiaeth; roedd angen edrych hefyd ar sut y mae hynny'n cyd-fynd â gwasanaethau eraill, ar rai o’r sgyrsiau y mae angen eu cynnal ynglŷn â'r hyn sy’n ymddygiad peryglus a’r hyn nad yw, a sut i weld hynny'n rhan ohono.
Fe gofiwch ymosodiad eithaf atgas y Daily Mail a awgrymodd fod PrEP yn drwydded i foesau llac. Ac nid dyna beth ydoedd; a dweud y gwir, mae'n ffordd o ddeall sut i drin pobl yn llwyddiannus i atal haint pellach mewn termau ymarferol iawn. Rwy’n ffyddiog y byddai'n arbed arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol ac yn caniatáu i bobl wneud dewisiadau gwahanol ynglŷn â sut y maent yn gallu byw a mwynhau eu bywyd. Ond mae gwir angen edrych ar sut yr ydym ni'n perswadio ac yn cael y sgwrs honno gyda phobl am y dewisiadau o safbwynt ymddygiad.
Rwy’n cydnabod hyn yr ydych chi ac Andrew ill dau wedi’i ddweud am y galw ar y gwasanaeth, am lefelau ein canlyniadau, am ein gallu i gynnal canlyniadau ardderchog, ac na allwn ni ddibynnu ar y gweithlu i fod yn arbennig o ymroddedig ac i barhau i redeg yn bellach ac yn gyflymach. A dweud y gwir, roedd heriau ynghylch cysondeb a hygyrchedd gwasanaethau yn rhan fawr o’r hyn a berswadiodd y Llywodraeth i gynnal yr adolygiad. Felly, rydym yn sicr yn gwneud y gwaith hwnnw, ac os edrychwch chi ar yr argymhellion a’r sylwadau yn yr adolygiad, rydym ni'n gweld, nid dim ond yr her sefydliadol a gostyngiad yn y gwasanaethau, ond mwy o swyddogaeth i ofal sylfaenol, a’r elfen ynglŷn â sut y gellir darparu’r gwasanaethau hynny a defnyddio grŵp cyfan o weithwyr gofal sylfaenol proffesiynol yn well.
Rwy’n dychwelyd at yr hyn a ddywedodd Angela Burns yn gynharach—efallai na fydd ar bawb eisiau mynd i’w fferyllfa i gael rhan o'u gwasanaethau iechyd rhywiol ac atal cenhedlu, ond bydd ar rai pobl eisiau gwneud hynny, gan fod bron bob fferyllfa, yn enwedig pob un sydd â gwasanaeth mwy cynhwysfawr, yn caniatáu i bobl fynd i weld rhywun mewn ystafell breifat yn yr adeilad. Pan rwyf yn cael fy adolygiad meddyginiaeth mewn fferyllfa sydd bellter cerdded o'r adeilad hwn, rwy’n mynd i ystafell breifat, does neb yn gwybod beth yr ydym yno i siarad amdano, ac felly mae'n fan ymgynghori preifat. Bydd amrywiaeth o bobl, rwy’n credu, yn hyderus i fynd i wahanol leoliadau i gael rhan o'r gwasanaeth. Mae hynny'n gyson â'n hymgyrch ehangach i berswadio pobl i ddefnyddio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac nid dim ond mynd i weld y meddyg, boed hynny mewn ysbyty neu mewn meddygfa deulu.
Felly, rwy’n cydnabod yr heriau go iawn sy'n bodoli ac rwy’n ffyddiog y bydd gennym ni, wrth fwrw ymlaen â’r gwaith mewn ymateb i argymhellion yr adolygiad, gyfres o argymhellion sydd wedi’u profi’n rhesymegol ynglŷn â sut i wneud hyn, gyda chynllun gweithredu wedi'i gostio. A’r sicrwydd sydd gan yr Aelodau yw y bydd y bwrdd yn parhau i gael ei oruchwylio gan y prif swyddog meddygol; nid yw'n sefyllfa lle mae gwleidyddion yn penderfynu gwneud yr hyn yr ydym ni'n credu sydd orau heb sylfaen dystiolaeth briodol a heb y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf.