Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 17 Ebrill 2018.
Rwy’n croesawu’n fawr iawn eich ymrwymiad i ganiatáu rhoi misoprostol yn y cartref. Mae hynny'n newyddion rhagorol. Tybed a allech chi ymhelaethu ynglŷn â pha waith y bydd angen i’ch swyddogion ei wneud a’r amserlen ar gyfer ei gyflawni, oherwydd nid ydym yn sôn am adolygu'r Ddeddf Erthylu, rydym yn sôn am gynyddu'r lleoliadau lle gellir rhoi erthyliad meddygol, sef yn y cartref. Gan fod hyn eisoes wedi'i wneud yn llwyddiannus yn yr Alban a’i fod eisoes ar gael i fenywod sy’n cael camesgoriad anghyflawn yma yng Nghymru, nid yw'n teimlo'n broses gymhleth iawn, ond rwy’n cytuno bod angen ymrwymiad gwleidyddol ar gyfer hynny, ac rwy'n diolch ichi am hynny.
Mae'n wych gweld bod nifer yr achosion o feichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau wedi haneru, ond roedd dros 1,000 o hyd yn 2016, ac mae'n amlwg yn codi'r cwestiwn ynghylch ansawdd yr addysg rhyw a pherthynas sydd ar gael mewn ysgolion, rhywbeth, yn amlwg, y mae eich adroddiad yn nodi nad yw’n rhan o'r adolygiad, ond mae'n amlwg yn fater y mae angen inni ei drafod gyda'r Ysgrifennydd addysg, oherwydd mae’n hanfodol bod dynion ifanc a menywod ifanc yn deall pryd y maent yn gwneud penderfyniadau gwybodus am berthynas ac o ble y gallant gael dulliau atal cenhedlu pan fo angen. Gallaf weld bod hynny'n broblem benodol mewn ardal wledig, os nad yw person ifanc yn gyrru neu os nad oes ganddo gar—byddai’n anodd iawn cael mynediad at y gwasanaethau cywir.
Rwy’n cynrychioli etholaeth ifanc iawn ei phoblogaeth. Mae gen i dair prifysgol yng Nghanol Caerdydd, felly mae gennyf, rwy’n meddwl, yr etholaeth sydd â’r nifer mwyaf o fyfyrwyr ledled y DU. Rwy’n arbennig o bryderus, ac rwyf eisoes wedi sôn am hyn wrth gadeirydd y bwrdd iechyd, am feddygfeydd teulu sy'n awyddus iawn i recriwtio myfyrwyr yn gleifion iddynt, ond nad ydynt o reidrwydd yn darparu’r gwasanaethau y bydd eu hangen ar gleifion. Mae'n amlwg y bydd angen gwasanaethau iechyd rhywiol ar bobl ifanc sy'n cyrraedd prifysgol, ac mae hyn yn cynnwys mynediad cyflym i glinig ar gyfer clefydau a drosglwyddir yn rhywiol, oherwydd gall pethau fel clamydia yn amlwg achosi anffrwythlondeb os na chaiff ei drin. Felly, mae argymhelliad 5 yn fy nrysu, o ran pam na fyddai’n safonol mewn meddygfa â llawer o bobl ifanc ynddi, sef y rhai lle ceir croniad o bobl ifanc, pam na fyddent yn darparu’r mathau hynny o glinigau yn safonol. Oherwydd mae myfyrwyr wedi sôn wrthyf am anhawster gwirioneddol i gael y cyngor meddygol sydd ei angen arnynt, am eu bod yn gwybod bod ganddynt glefyd a drosglwyddir yn rhywiol, ac felly mae oedi cyn cael y driniaeth gywir, yn amlwg, yn gallu ei wneud yn waeth yn y cyfamser.
O ran cael cyngor am feichiogrwydd, os aiff rhywun yn feichiog, (a) a yw’r bilsen drannoeth ar gael ym mhob fferyllfa? Oherwydd yn amlwg bod pobl yn gwneud camgymeriadau ac yn sylweddoli’n gyflym iawn eu bod efallai wedi mynd yn feichiog drwy gamgymeriad. Ond hefyd, hoffwn ddeall pam mae angen mynd at eich meddyg teulu os ydych chi'n meddwl bod arnoch chi eisiau pledio'ch achos dros gael erthyliad. Pam nad oes modd mynd yn syth at y gwasanaeth cyngor a therfynu beichiogrwydd? Mae hynny'n rhywbeth arall a godais gyda'r Bwrdd Iechyd.
Un o'r materion sy’n peri pryder yw'r sylw y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad ynglŷn â chasglu data am glefydau iechyd rhywiol ar sail Cymru gyfan, oherwydd mae'n ymddangos i mi ei bod yn hanfodol bod yr wybodaeth hon gennym. Fel arall, sut arall y gall iechyd cyhoeddus ymateb i achosion o glamydia neu'r hadlif oni bai bod ganddynt wybodaeth gywir ynglŷn â phwy sy'n cael triniaeth am y clefydau hyn?
Ac o ran yr wybodaeth sydd i'w chroesawu'n fawr iawn na chanfuwyd dim achosion newydd o HIV ymysg pobl sydd wedi cael PrEP, tybed, felly, pa gyfiawnhad sydd i barhau ag arbrawf cenedlaethol yn hytrach na darparu PrEP i unrhyw un sydd mewn perygl o HIV? Os yw wir cystal â hynny, pam yr ydym yn dal i gynnal arbrawf?